Y prif lun yw delwedd lloeren o aelod-wladwriaethau’r UE wedi’u goleuo yn y nos.

Y prif lun yw delwedd lloeren o aelod-wladwriaethau’r UE wedi’u goleuo yn y nos.

Cymru a Chytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a’r UE

Cyhoeddwyd 24/05/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn gosod y telerau ar gyfer y berthynas rhwng y DU a’r UE yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

Mae’r gyfres hon yn crynhoi rhannau allweddol o’r cytundeb a’r hyn y maent yn ei olygu i Gymru.

Am mwy o wybodaeth, ymwelwch ar ein tudalennau Brexit, a tansgrifiwch i ddiweddariadau erthyglau newydd trwy e-bost.  

Hanes

Ymadawodd y DU â’r UE yn ffurfiol ar 31 Rhagfyr 2019 a dechreuwyd ar gyfnod pontio tra bod telerau ei pherthynas yn y dyfodol yn cael eu trafod.

Ar 24 Rhagfyr 2020, cyhoeddodd y DU a’r UE eu bod wedi dod i gytundeb yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ochr yn ochr â nifer o gytundebau a datganiadau ar y cyd eraill.

Daeth y cytundeb i rym dros dro o 1 Ionawr 2021, wrth aros am gadarnhad y DU a’r UE. Daeth i rym yn llawn ar 1 Mai 2021.

Mae’r Cytundeb yn dilyn y Cytundeb Ymadael, a oedd yn pennu’r telerau ar gyfer ymadawiad y DU â’r UE. Mae’r ddau gytundeb yn parhau mewn grym.

Mae’r DU a’r UE wedi cytuno y bydd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn llywodraethu cytundebau yn y dyfodol rhwng:

  • y DU a’r UE;
  • y DU a’r UE a 27 o Aelod-wladwriaethau’r UE; a
  • chytundebau dwyochrog rhwng y DU ac Euratom

oni ddarperir fel arall yn y cytundebau eu hunain. Gelwir y cytundebau hyn yn ‘gytundebau atodol’ yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, ac maent yn rhan o’r fframwaith cyffredinol fel rhan annatod o’r cysylltiadau dwyochrog rhwng y DU a’r UE.

Fframwaith Sefydliadol

Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu 24 o bwyllgorau a gweithgorau newydd i oruchwylio’r gwaith o weithredu a chymhwyso’r Cytundeb. Darperir hefyd ar gyfer cyfranogiad cymdeithas sifil, yn ogystal ag ar gyfer cydweithredu seneddol rhwng Senedd y DU a Senedd Ewrop.

Mae’r canllaw fframwaith sefydliadol yn egluro’r fframwaith sefydliadol rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit

Tegwch yn y Farchnad

Mae’r canllaw tegwch yn y farchnad yn egluro’r tegwch yn y farchnad, sy’n anelu at gynnal cystadleuaeth agored a theg o ran masnach a buddsoddi rhwng y DU a’r UE mewn modd sy’n gydnaws â datblygu cynaliadwy.

Pysgodfeydd

Mae’r canllaw pysgodfeydd yn egluro’r trefniadau pysgodfeydd newydd rhwng y DU a’r UE.

Yr Amgylchedd, yr Hinsawdd ac Ynni

Mae’r canllaw yr amgylchedd, yr hinsawdd ac ynni yn egluro’r darpariaethau yn y Cytundeb sy’n ymwneud â’r amgylchedd, yr hinsawdd ac ynni.

Hawliau dynol

Mae’r canllaw hawliau dynol yn esbonio darpariaethau hawliau dynol y cytundeb.

Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru