Beth mae Bil Gogledd Iwerddon yn ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 15/06/2022   |   Amser darllen munudau

Cafodd Bil Gogledd Iwerddon ei gyflwyno yn Senedd y Deyrnas Unedig ar 13 Mehefin. Pe bai’n cael ei basio, byddai'n newid effaith Protocol Gogledd Iwerddon a deddfwriaeth gysylltiedig mewn cyfraith ddomestig.

Mae Senedd y DU wedi bod yn yr un sefyllfa o’r blaen. Pan gyflwynwyd Bil y Farchnad Fewnol, byddai’r Bil hwnnw hefyd wedi gwneud newidiadau a fyddai’n effeithio ar y Protocol. Yn y diwedd, cafodd y darpariaethau hynny eu dileu gan Lywodraeth y DU, a gyfaddefodd y byddent wedi torri cyfraith ryngwladol mewn ffordd gyfyngedig a phenodol (“a very limited and specific way”)..

Mae Bil Gogledd Iwerddon yn wahanol oherwydd nid yw’n ‘gyfyngedig’ nac yn ‘benodol’. Mae’n cynnwys darpariaethau eang y gallai Gweinidogion y DU eu defnyddio i newid rhannau allweddol o’r Protocol a gwneud newidiadau eraill yn awr ac yn y dyfodol.

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaethau sy’n ymdrin â materion datganoledig, gan alw am gydsyniad y Senedd. Mae’r erthygl hon yn egluro beth y mae hyn yn ei olygu i Gymru ac i Lywodraeth Cymru.

Beth fydd y Bil yn ei wneud?

Ar ei ffurf bresennol, byddai’r Bil yn:

  1. Rhoi terfyn ar effeithiau rhannau penodol o’r Protocol mewn cyfraith ddomestig, yn galluogi Gweinidogion i ddatgymhwyso agweddau cysylltiedig ac yn rhoi trefniadau domestig ‘addas’ ar waith yn eu lle;
  2. Newid y rheolau ar gyfer masnachu nwyddau, yn benodol o ran symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ac ar gyfer rheoleiddio nwyddau, gan roi pwerau i Weinidogion wneud trefniadau eraill;
  3. Newid rheolau eraill y cytunwyd arnynt gyda’r UE, gan gynnwys rheolau ar reoli cymorthdaliadau, TAW a thollau, gan roi pwerau i’r Gweinidog wneud trefniadau eraill;
  4. Rhoi pwerau eang i Weinidogion wneud rheoliadau i weithredu newidiadau i’r Protocol a gytunwyd gyda’r UE, neu unrhyw gytundeb newydd a allai gymryd ei le; ac yn
  5. Lleihau rôl Llys Cyfiawnder Ewrop yn sylweddol.

Byddai’r Bil yn rhoi’r pŵer i Weinidogion y DU roi pwerau i Weinidogion datganoledig wneud rheoliadau i gymryd y camau a restrir uchod o fewn eu cymhwysedd. Mae hyn yn cynnwys atal neu ddiddymu cyfraith ddomestig sy’n gysylltiedig â'r Protocol. Byddai’r Bil hefyd yn rhoi pwerau i awdurdodau datganoledig wario arian wrth baratoi ar gyfer cymryd y camau hyn.

Byddai’r Bil yn rhoi pwerau eang i Weinidogion a chyrff eraill, fel Cyllid a Thollau EM, y gellid eu defnyddio ar ôl bodloni’r lefel isaf o feini prawf. Er enghraifft, gwneir sawl cyfeiriad at Weinidogion yn defnyddio pwerau i wneud unrhyw ddarpariaeth y maent yn ei hystyried yn briodol. Mae Cymdeithas Hansard wedi awgrymu y gellid mireinio’r ieithwedd hon wrth i’r Bil fynd drwy Senedd y DU.

Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol

Mae’r Bil yn codi cwestiynau ynghylch a allai Llywodraeth y DU ymddwyn yn groes i’w rhwymedigaethau o dan y gyfraith ryngwladol.

Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU, gan gynnwys y Cytundeb Ymadael. Mae’r Prif Weinidog yn esbonio:

Gan ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried rhwymedigaethau rhyngwladol wrth wneud penderfyniadau, gallent wynebu Adolygiad Barnwrol neu gamau gan yr Ysgrifennydd Gwladol am fethu â gwneud hynny.

Mae nifer o fecanweithiau yn bodoli i sicrhau bod y camau a gymerir gan Weinidogion Cymru yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau rhyngwladol hyn, fel y disgrifir yn ein herthygl o fis Chwefror. Mae hyn yn cynnwys galluogi Llywodraeth y DU i ymyrryd i sicrhau cydymffurfiaeth neu i atal camau a fyddai’n anghydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol.

Fodd bynnag, nid yw’r setliad datganoli yn trafod safbwynt Gweinidogion Cymru pe bai camau gweithredu arfaethedig yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael eu hystyried yn anghydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol.

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu dewisiadau anodd

Yn ddiweddar, rhoddodd y Gweinidog Materion Gwledig wybod i Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd ei bod wedi cydsynio i reoliadau Llywodraeth y DU a oedd yn ‘codi cwestiynau’ ynghylch cysondeb â rheolau Sefydliad Masnach y Byd a’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE.

Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch i ba raddau y mae’r rheoliadau hyn yn cydymffurfio â chyfraith ryngwladol. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog fod y rheoliadau’n “angenrheidiol er mwyn caniatáu i nwyddau barhau i lifo ar draws Môr Iwerddon”. Aeth y Gweinidog ymlaen i gadarnhau mai “deddfwriaeth dros dro yw hon ac rwyf o’r farn ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur”.

Yn awr, rhaid i Lywodraeth Cymru ddychwelyd at y materion hyn wrth ddod i’w chasgliadau ar y Bil.

Pa rôl sydd gan y Senedd?

Bydd angen i’r Senedd gydsynio i’r Bil, y byddai’n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ar gyfer y dyfodol. Os caiff y pwerau hyn eu defnyddio, byddai’r Senedd yn gyfrifol am graffu ar y rheoliadau hynny a’u pasio.

Mae adran 114(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Lywodraeth y DU ymyrryd i atal y Senedd rhag deddfu mewn ffordd sy’n groes i rwymedigaethau rhyngwladol, ond dim ond i Filiau y mae hyn yn berthnasol.

Nid yw’r setliad datganoli yn ymhelaethu ar safbwynt y Senedd pe bai Llywodraeth y DU yn cynnig deddfwriaeth mewn maes datganoledig yr ystyrir iddi fod yn anghydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol.

Yn y pen draw, Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gydymffurfiaeth y DU â rhwymedigaethau rhyngwladol.

Goblygiadau ehangach a beth sydd nesaf

Gallai cyflwyno’r Bil effeithio ar faterion eraill o fewn cylch gwaith y Senedd, gan gynnwys y Cytundeb Ymadael a’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu; fframweithiau cyffredin; y broses o weithredu Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020; a deddfwriaeth arall ar ôl Brexit.

Gallai’r Bil hefyd effeithio ar gysylltiadau rhyngwladol Cymru, yn enwedig y cynllun gweithredu ar y cyd rhwng Iwerddon a Chymru a gytunwyd gan Lywodraeth Cymru y llynedd.

Mae’r UE wedi cyhoeddi ymateb cychwynnol i’r Bil, gan ddatgan: “unilateral action is damaging to mutual trust”. Bydd yr UE yn asesu’r ddeddfwriaeth ac yn ystyried ei hymateb, sy’n cynnwys dechrau achos o dor rheolau yn erbyn y DU.

Yr wythnos nesaf, bydd y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol ill dau yn ymddangos gerbron Pwyllgorau’r Senedd sy’n debygol o drafod y Bil. Gellir gwylio eu sesiynau tystiolaeth yn fyw neu ar ôl iddynt ddigwydd ar Senedd.TV, ac mae’r manylion perthnasol wedi’u nodi isod:


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru