Diwygio addysg: Cenhadaeth Llywodraeth Cymru i wella safonau a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Cyhoeddwyd 20/09/2023   |   Amser darllen munud

Dyma chweched erthygl ein cyfres ddeg rhan sy’n edrych ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ei Rhaglen Lywodraethu. Yma rydym yn archwilio’r amcan llesiant i “Barhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi”.

Mae 10 o ymrwymiadau penodol o dan yr amcan eang hwn ar gyfer y Cabinet cyfan, y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch yn ei Hadroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Mae yna hefyd ymrwymiadau gweinidogol perthnasol.

Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn, a gyhoeddwyd hyd yma.

Fe wnaeth pandemig COVID-19 darfu ar sector addysg a oedd eisoes yn gyfrifol am weithredu diwygiadau sylweddol. Yn ogystal â’r heriau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cynnal ei ffocws hirsefydlog ar godi safonau a chau bylchau cyrhaeddiad.

Codi safonau ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru wedi meddu ar 'genhadaeth genedlaethol' i wella safonau addysg ers ymhell dros ddegawd, byth ers yr “ysgytwad i system hunanfodlon” yn dilyn canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn 2009.

Cafodd y 'genhadaeth genedlaethol' hon ei tharo gan y pandemig. Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles AS, fersiwn newydd o’r fframwaith gwella ysgolion yn haf 2022, a 'map ffordd' ym mis Mawrth 2023 yn rhoi trosolwg wedi'i ddiweddaru o flaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru.

Mae hunanarfarnu bellach yn fan cychwyn gweithgareddau gwella ysgolion, gyda’r consortia rhanbarthol (y mae ei rôl o dan adolygiad ar hyn o bryd) yn chwaraewyr allweddol. Mae’r arolygiaeth addysg, Estyn, wedi newid ei ddull arolygu ac nid yw bellach yn cyhoeddi prif raddau, ond yn hytrach yn canolbwyntio ar gryfderau ysgolion a meysydd i'w datblygu.

Yn 2018/19, sef y flwyddyn olaf pan ddefnyddiodd Estyn brif raddau a chyn i arolygiadau gael eu gohirio oherwydd y pandemig, roedd gan bedair (14%) o’r 29 ysgol uwchradd a arolygwyd safonau ‘anfoddhaol’, tra bod 12 (41%) arall yn ‘ddigonol’ yn unig.

Mae Estyn yn parhau i nodi ysgolion sy’n peri pryder. Mae'r ffigurau y gofynnwyd amdanynt gan Ymchwil y Senedd yn dangos bod 22 o ysgolion cynradd (2% o'r cyfanswm), 10 ysgol uwchradd (6%) ac un ysgol pob oed (4%), mewn categori statudol. Mae hyn yn golygu naill ai bod angen 'gwelliant sylweddol' arnynt neu eu bod o dan 'fesurau arbennig'.

Er nad yw canlyniadau PISA yn dweud popeth wrthym, bydd cylch 2022 yn taflu goleuni pellach ar gynnydd pan gyhoeddir y canlyniadau fis Rhagfyr hwn. Gwnaeth sgoriau PISA Cymru wella ychydig y tro diwethaf yn 2018, ond yn dal i fod yr isaf o blith gwledydd y DU. Nododd y Gweinidog ym mis Hydref 2022 bod Llywodraeth Cymru wedi gollwng targed blaenorol o 500 pwynt ym mhob un o'r parthau Darllen, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Cyd-destun y pandemig

Un o’r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu yw “ariannu hyd at 1,800 o staff tiwtora ychwanegol yn ein hysgolion” drwy’r ymateb “Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau” i'r aflonyddwch a berodd y pandemig i fyd addysg.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £37m yn 2023-24 a £29m yn 2024-25 i barhau â Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, yn dilyn £166m sydd eisoes wedi'i wario ers 2020-21. Adroddodd y Sefydliad Polisi Addysg yn 2021 bod gan Gymru’r gwariant adfer addysg COVID uchaf yn y DU, sef £400 y disgybl.

Yn ôl amcangyfrif gwerthusiad annibynnol, mae 2,452 o staff Cyfwerth ag Amser Llawn mewn ysgolion wedi'u hariannu gan Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau. Mae 62% o'r rhain yn staff cymorth a 30% yn athrawon. Canfu hefyd fod yr ymyriadau mwyaf cyffredin a gyflwynir i ddysgwyr mewn ysgolion wedi canolbwyntio ar lythrennedd (mewn 91% o ysgolion) a llesiant (mewn 86% o ysgolion).

Nid yw presenoldeb disgyblion wedi dychwelyd, hyd yn hyn, i lefelau cyn y pandemig, yn enwedig ymhlith disgyblion difreintiedig. Mae'r Gweinidog wedi ymateb, gan gynnwys rhoi gwybod i deuluoedd am bwysigrwydd mynychu'r ysgol.

Yn ogystal â’r cyngor diweddaraf i ysgolion ynghylch iechyd cyhoeddus a COVID (a ddiweddarwyd y tro diwethaf ym mis Mehefin 2022), mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau parhad dysgu yn ystod cyfnodau o darfu ar addysg. At ei gilydd, gwnaeth Estyn adrodd ym mis Ionawr, fod ysgolion wedi ymdopi’n dda, ond nid yw pethau yn ôl i’r arfer eto. Mae’r Gweinidog wedi ymrwymo i roi diweddariadau chwe mis i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, ar adferiad plant a phobl ifanc yn dilyn y pandemig.

Rhoi diwygiadau mawr ar waith

Mae Cwricwlwm newydd i Gymru wedi cael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd, ac yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd mewn ysgolion uwchradd, yn ôl grŵp blwyddyn.

Mae cryn dipyn o bwys yn cael ei roi ar y cwricwlwm newydd i wella safonau, yn sgil mwy o ryddid y mae'n ei roi i ysgolion i addysgu’r 'hyn sy'n bwysig'. Fodd bynnag, mae rhai rhanddeiliaid (megis y darparwr hyfforddiant addysg, 'Impact School Improvement', a Phrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant) wedi rhybuddio y gallai ostwng safonau a gwaethygu – yn hytrach na chyfyngu – anghydraddoldebau. Rhybuddiodd y Pwyllgor a fu’n craffu ar y deddfwriaeth yn 2020, er nad yw’r Cwricwlwm i Gymru efallai’n unffurf ar draws pob ysgol, rhaid iddo fod yn ddigon cyson fel bod disgyblion yn cael cyfleoedd a phrofiadau cyfartal.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar weithrediad y cwricwlwm gyda fersiwn yr haf hwn yn sôn am “gynnydd cadarnhaol iawn”.

At hynny, mae ysgolion yn cael y dasg o gyflwyno a system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd, gan ddisodli un Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), y dywedir “nad yw bellach yn addas at ei ddiben”. Fodd bynnag, daeth i’r amlwg nad ar chwarae bach mae cyflawni hyn oherwydd niferoedd y disgyblion dan sylw, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod oedi’r broses o roi ar waith.

At hynny, gwelwyd symud i gyfeiriad darpariaeth gyffredinol ar gyfer dysgwyr y nodwyd bod ganddynt lefelau isel o AAA yn flaenorol, sy'n golygu nad ydynt yn cael eu cydnabod fel rhai ag ADY nac yn cael Cynllun Datblygu Unigol. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn ystod hynt y deddfwriaeth y byddai'r garfan a gwmpesir yn aros yr un fath, yn fras, a rhagamcanu nifer o Gynlluniau Datblygu Unigol sy’n cyfateb I gyfanswm y garfan AAA ar y pryd.

Yn ôl y Gweinidog mae’r dirwedd wedi newid cryn dipyn ers llunio’r diwygiadau ADY gael yn y lle cyntaf, gan gyfeirio at ymagwedd fwy cynhwysol y Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wedi amlygu fod niferoedd ADY yn gostwng, yn ei waith craffu ar ddiwygiadau addysg.

At hynny, mae Llywodraeth Cymru  yn trawsnewid cyllid, llywodraethiant a phroses reoleiddio addysg, hyfforddiant ac ymchwil ôl-16. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac yn sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER).

Bydd CTER yn gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil sy'n cynnwys addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau, chweched dosbarth a dysgu oedolion yn y gymuned. Mae ein herthygl ddiweddar yn esbonio mwy am gam nesaf sefydlu CTER.

Bydd CTER hefyd yn gyfrifol am roi Strategaeth Arloesedd, Llywodraeth Cymru ar waith, sef ymrwymiad arall yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae'r Strategaeth yn weledigaeth draws-lywodraethol gyda phedair cenhadaeth benodol: Addysg, yr economi, iechyd a llesiant, a hinsawdd a natur. Mae’n dweud y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun gweithredu a fydd yn cynnwys “nifer gyfyngedig o nodau penodol a mesuradwy ar gyfer y genhadaeth”. Dywedodd Gweinidog yr Economi ym mis Mehefin fod y Llywodraeth yn edrych i gyhoeddi’r cynllun gweithredu dros yr hydref hwn.

Mae anghydraddoldebau a bylchau cyrhaeddiad wedi cynyddu.

Mae’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg wedi addo blaenoriaethu “safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb”, a dilyn pob polisi addysg ar sail mynd i'r afael ag effaith negyddol tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i wario dros £130m bob blwyddyn ar y Grant Datblygu Disgyblion (PDG), sy'n ategu incwm ysgolion ar sail nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Cyn y pandemig, adroddodd Estyn nad oedd y 'bwlch tlodi' rhwng disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad disgyblion nad ydynt yn gymwys am brydau ysgol am ddim wedi lleihau dros y degawd blaenorol a'i fod, yn nodweddiadol, yn ehangu wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn. Ers hynny mae Estyn wedi adrodd (yn 2022 a 2023 fel ei gilydd) bod y pandemig wedi peri i fylchau cyrhaeddiad fynd yn waeth, ac wedi effeithio’n anghymesur ar ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig.

Canfu ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg fwlch anfantais ehangach yng Nghymru nag yn Lloegr, gyda’r ddwy wlad yn gwneud cynnydd cymedrol yn unig yn ystod y degawd diwethaf. Yng Nghymru, mae bylchau cyrhaeddiad TGAU rhwng disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, a’u cyfoedion, wedi cynyddu rhwng 2015/16 a 2021/22:

  • O 15 i 19 pwynt canran ar raddau A* – A;
  • o 25 i 28 pwynt canran ar raddau A* – C; ac
  • o 3 i 6 pwynt canran ar raddau A* – G.

Roedd cynnydd hefyd rhwng 2015/16 ac ychydig cyn y pandemig (2018/19) ar bob cyfnod gradd, a rhwng 2018/19 a 2021/22 ar raddau A* – A ac A* – G. Nid yw data cyrhaeddiad yn ôl statws prydau ysgol am ddim ar gael eto ar gyfer canlyniadau 2023.

At hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu cyfleoedd i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig i gymryd rhan yn Rhwydwaith Seren. Nod Rhwydwaith Seren yw "helpu myfyrwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial academaidd llawn a chefnogi eu llwybr addysg i brifysgolion blaenllaw".

Dywedodd y Gweinidog wrth y Senedd ym mis Mawrth 2022 y byddai ffocws Seren yn symud i gynyddu cyfranogiad yn y rhwydwaith o ddysgwyr o gartrefi incwm isel. Nid yw’n glir sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu targedu’r dysgwyr hyn na pha gynnydd y mae wedi’i wneud hyd yn hyn.

Mae’r Gweinidog hefyd wedi dweud fod y Llywodraeth yn edrych ar yr hyn y gall ei wneud er mwyn i Seren annog y dysgwyr mwyaf disglair i gymryd opsiynau galwedigaethol ar lefelau uwch, yn ogystal.

Rhagolygon llwyddiant

Bydd cyhoeddi canlyniadau PISA y mis Rhagfyr hwn yn rhoi un syniad o ran a yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i godi safonau. Mae angen gwneud mwy o gynnydd, hefyd, nag yn y degawd diwethaf ar leihau bylchau cyrhaeddiad os oes tolc gwirioneddol i’w wneud ar leihau anghydraddoldebau addysgol, gan y Senedd hon. Bydd camu o gysgod y pandemig a llwyddiant neu fethiant diwygiadau addysg mawr, hefyd yn benderfynyddion allweddol o ragolygon hirdymor plant a phobl ifanc Cymru.

Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwymiadau

Erthygl gan Michael Dauncey a Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru