Rhagor o absenoldeb o’r ysgol – sut yr effeithiodd y pandemig ar bresenoldeb yn yr ysgol

Cyhoeddwyd 06/02/2023   |   Amser darllen munudau

Caeodd ysgolion i fwyafrif y disgyblion am ddau brif gyfnod yn ystod y pandemig Covid-19. Yn gyntaf, rhwng mis Mawrth a mis Medi 2020 ac yna, yn fras, rhwng y Nadolig 2020 a’r Pasg 2021. Er bod llawer o ysgolion wedi aros ar agor i blant gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed, i'r rhan fwyaf o ddisgyblion roedd newid enfawr i'r ffordd yr oedd yn rhaid iddynt ddysgu. Hyd yn oed pan oedd ysgolion ar agor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb, roedd tarfu parhaus ar addysg drwy gydol cyfnod mwyaf dwys y pandemig.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Meilyr Rowlands, cyn Brif Arolygydd Estyn, i adolygu goblygiadau’r pandemig COVID-19 i bresenoldeb mewn ysgolion. Roedd ei adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022, yn dadansoddi data ar bresenoldeb mewn ysgolion, ac absenoldeb, wedi casglu gwybodaeth a thystiolaeth ac wedi gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Newidiodd y modd y mae Llywodraeth Cymru yn casglu, yn dadansoddi ac yn cyhoeddi data presenoldeb mewn ysgolion a gynhelir yn ystod y pandemig, ac felly mae'n anodd nodi tueddiadau'n fanwl, neu ddod i gasgliadau manwl am bresenoldeb mewn ysgolion ar hyn o bryd o gymharu â chyn COVID-19. Mae'n amlwg, fodd bynnag, bod presenoldeb wedi bod yn is na phresenoldeb yn y blynyddoedd blaenorol. Dengys data Llywodraeth Cymru bod yr absenoldeb cyffredinol hwnnw rhwng 3.5 a 5 pwynt canran yn uwch, a bron ddwywaith y lefel cyn y pandemig.

Roedd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd eisiau deall pam mae tarfu ar addysg arferol oherwydd COVID-19 wedi gwaethygu presenoldeb yn yr ysgol, a beth yw goblygiadau hynny i ddysgwyr, yn enwedig i grwpiau penodol o ddysgwyr, fel y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Codwyd materion yn ymwneud ag absenoldeb disgyblion a’i effaith ar ddysgu a llesiant gyda’r Pwyllgor yn ystod y gwaith craffu blynyddol ar Estyn ym mis Rhagfyr 2021, a chynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad byr â ffocws rhwng mis Mai a mis Mehefin 2022. Yn ystod ei ymchwiliad, bu’r Pwyllgor hefyd yn ystyried y cymorth a gafodd rhieni, a pha mor effeithiol oedd polisïau Llywodraeth Cymru o ran absenoldeb disgyblion yn gyffredinol.

Pam nad yw disgyblion yn mynychu'r ysgol?

Mae amrywiaeth eang o ffactorau wedi bod erioed sy'n effeithio'n negyddol ar bresenoldeb disgyblion yn yr ysgol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Tlodi, anfantais, a dysgwyr cymwys am brydau ysgol am ddim;
  • disgyblion ag anghenion dysgu arbennig ac ychwanegol;
  • Dylanwad rhieni a theuluoedd ag anghenion cymhleth a lluosog; a
  • Gorbryder, a phroblemau iechyd meddwl a llesiant, a phroblemau ymddieithrio.

Gwaethygodd y pandemig y rhain i gyd.

Hefyd, nododd gwaith ymchwil Llywodraeth Cymru resymau newydd a oedd yn ymwneud â COVID-19:

  • COVID-19 fel salwch, hunanynysu ac absenoldeb dan gyfarwyddyd ysgol;
  • gorbryder, problemau iechyd meddwl a llesiant yn ymwneud â phryderon am iechyd ac addysg;
  • ymddieithrio ac agweddau mwy hamddenol at ddysgu a phresenoldeb.

Clywodd y Pwyllgor lawer o dystiolaeth ynghylch sut yr effeithiodd COVID-19 a’r cyfyngiadau yn ei sgil ar iechyd meddwl disgyblion, a bod hyn yn ffactor allweddol o ran diffyg presenoldeb yn yr ysgol. Roedd y rhain yn cynnwys pryder ynghylch dychwelyd i drefn arferol yr ysgol, a phwysau arholiadau. Adroddodd Meilyr Rowlands:

Pwysleisiodd y dysgwyr y sioc aruthrol a gawsant wrth ailintegreiddio'n gyflym yn ôl i'r ysgol ar ôl cyfnod hir o gyfyngiadau symud ac aflonyddwch. [... ]Dywedodd dysgwyr fod llawer o ddysgwyr wedi colli rhai o'u sgiliau cymdeithasol ac astudio sylfaenol, gan gynnwys y gallu i ganolbwyntio ar astudio am amser estynedig. Ychwanegodd hyn oll at y straen a’r pwysau a deimlent wrth ddychwelyd i’r ysgol ac ymdopi â gwaith academaidd ac amgylchedd cymdeithasol anghyfarwydd yn sydyn.

Yn ogystal, clywodd y Pwyllgor fod cau ysgolion wedi rhoi agwedd fwy derbyniol o ran diffyg presenoldeb i rai rhieni a disgyblion.

Cost darparu addysg yn yr ysgol

Amlygwyd costau byw a thlodi hefyd gan rai a roddodd dystiolaeth i’r Pwyllgor fel rhwystr i fynd i’r ysgol, yn enwedig cost cludiant i’r ysgol. Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru fod y ffigurau presenoldeb yn “sylweddol is” i blant mewn grwpiau blwyddyn nad oes ganddynt hawl i gludiant am ddim, hynny yw, plant sydd dros oed ysgol gorfodol neu sy’n iau na’r oed ysgol gorfodol.

Er bod tystiolaeth anecdotaidd bod costau byw a chost y diwrnod ysgol yn gyffredinol yn rhwystr i rai fynychu, roedd y Comisiynydd Plant yn glir bod angen ystyried absenoldeb cyson yng nghyd-destun tlodi. Dywedodd fod angen i drechu tlodi plant fod yn sbardun allweddol wrth leihau absenoldeb o’r ysgol.

Beth yw goblygiadau colli ysgol i ddisgybl?

Ymddengys mai canlyniad amlycaf absenoldeb o’r ysgol yw'r effaith ar gyrhaeddiad academaidd dysgwr. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod “presenoldeb yn cael effaith gref ar ddeilliannau, safonau a dilyniant dysgwyr a bod canlyniadau arholiadau yn cyfateb yn gryf i gyfraddau presenoldeb”. Mae hyn yn y pen draw yn effeithio ar addysg, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth tymor hwy person ifanc.

Gall colli ysgol hefyd gael effaith ar lesiant disgyblion. Mae hyn yn cynnwys cymysgu â grwpiau o gyfeillion, meithrin gwytnwch a chael mynediad at y cymorth iechyd meddwl y gall ysgolion ei gynnig i’w dysgwyr.

Sut effeithiodd y pandemig ar addysg yn y cartref?

Clywodd y Pwyllgor gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon mai’r “lle gorau i addysgu a chefnogi dysgwyr yw yn yr ysgol”. Fodd bynnag, bu cynnydd sylweddol yn nifer y teuluoedd sy’n tynnu eu plant oddi ar gofrestr yr ysgol ac yn dewis addysg yn y cartref o gymharu â’r sefyllfa cyn y pandemig. Mae 2,626 o ddisgyblion y gwyddys a oedd yn cael eu haddysgu gartref yn 2018/19, o gymharu â 4,681 yn 2021/22.

Nid ystyriodd y Pwyllgor fanteision ac anfanteision addysg ddewisol yn y cartref, ond roedd am edrych yn fanwl pam fod cynnydd o'r fath. I rai rhieni, roedd hwn wedi bod yn ddewis cadarnhaol, yn dilyn yr angen am addysg yn y cartref pan oedd yr ysgolion ar gau. Ond dywedodd rhai rhieni eu bod wedi teimlo eu bod yn cael eu “gorfodi i addysgu gartref”. Roedd hyn am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys diffyg lleoliad ysgol priodol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, neu oherwydd y cosbau sy'n deillio o absenoldeb parhaus o'r ysgol. Yn ystod cyfnod anterth y pandemig, dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai’n briodol rhoi hysbysiadau cosb benodedig am ddiffyg presenoldeb yn yr ysgol.

Costau byw a mynd i'r ysgol

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth frys i edrych sut mae’r cynnydd mewn costau byw yn effeithio ar allu disgyblion i fynychu’r ysgol, ac y dylid cael cynllun gweithredu i’w ategu sy’n nodi’r hyn a fydd yn cael ei wneud i ymdrin â’r problemau y mae’r astudiaeth yn tynnu sylw atynt. Wrth dderbyn yr argymhelliad hwn, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod mewn trafodaethau anffurfiol ag awdurdod lleol ynghylch cynnig ymchwil i edrych yn fanwl ar bresenoldeb mewn lleoliadau addysg uwchradd. Byddai’r gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ba ddulliau gweithredu ac ymyriadau sydd o’r budd mwyaf i deuluoedd ar incwm is a’u hymgysylltiad ag addysg.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 8 Chwefror 2023 a gallwch ddilyn y ddadl ar Senedd TV a darllen y trawsgrifiad ar ôl hynny.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru