Llywodraeth Cymru yn penderfynu bod angen rhagor o amser i roi’r newidiadau i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith

Cyhoeddwyd 06/04/2023   |   Amser darllen munudau

Y llynedd, fe wnaethom ysgrifennu am y dasg anodd sy’n wynebu’r sector addysg wrth gyflwyno’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd a sefydlwyd gan ddeddfwriaeth a basiwyd yn y Senedd ddiweddaf.

Y mis diwethaf, newidiodd Llywodraeth Cymru yr amserlen ar gyfer rhoi’r newidiadau hyn ar waith a bydd hynny’n awr yn digwydd dros gyfnod o bedair blynedd (rhwng Medi 2021 ac Awst 2025) yn hytrach na thair (rhwng Medi 2021 ac Awst 2024).

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg fod y pwysau o ymateb i effaith barhaus y pandemig, ynghyd â’r dasg o symud dysgwyr o’r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) bresennol i’r system ADY newydd, yn golygu “bod angen mwy o amser i wreiddio newid effeithiol”. Yn ein herthygl yn hydref 2022, trafodwyd nifer y plant y nodwyd bod ganddynt AAA neu ADY ac ‘a yw’r bar wedi’i godi’ o ran y modd y cânt eu hasesu.

Mae’r system ADY newydd yn cael ei chyflwyno gan ddilyn amserlenni gwahanol ar gyfer:

  • dysgwyr y nodwyd o’r newydd fod ganddynt ADY ac sy’n cael cymorth o dan y system newydd ers mis Medi 2021; a
  • dysgwyr presennol ag AAA sy'n symud i'r system ADY fesul cam, gan ddibynnu ar eu grŵp blwyddyn a'r math o ddarpariaeth sydd ei hangen arnynt.

Nid fydd rhai pethau’n newid

Bydd yr holl ddysgwyr y nodwyd or newydd fod ganddynt ADY yn cael cymorth o dan y system newydd, fel sy’n digwydd ers mis Medi 2021. Bydd y trefniadau i ddysgwyr mewn grwpiau blwyddyn penodol symud i'r system newydd erbyn mis Awst 2023 yn parhau. Ni fydd newidiadau ychwaith i’r dull ‘sianelu’ ar gyfer dysgwyr ôl-16 sy’n symud i’r chweched dosbarth neu addysg bellach o fis Medi 2023 ymlaen, a fydd eisoes wedi symud i’r system ADY.

Beth sy'n newid?

Bydd y grwpiau blwyddyn a oedd i fod i symud rywdro rhwng Medi 2023 ac Awst 2024 yn awr yn symud rhwng Medi 2023 ac Awst 2025, gan roi blwyddyn ychwanegol i roi’r system newydd ar waith.

Yr amserlen ar gyfer symud dysgwyr sy’n cael cymorth ar hyn o bryd drwy raglen Gweithredu gan yr Ysgol neu raglen Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy i’r system ADY

Mae disgwyl i ddysgwyr presennol Blwyddyn Meithrin 1, Blwyddyn Meithrin 2, Blwyddyn Derbyn a Blynyddoedd 2, 4, 6, 8, 10 ac 11 yn 2022/23 symud i’r system newydd erbyn mis Awst 2023. Bydd grwpiau blwyddyn eraill yn symud erbyn Awst 2025.

Yr amserlen ar gyfer symud dysgwyr sydd â datganiad o AAA i’r system ADY

Mae disgwyl i ddysgwyr presenenol Blwyddyn Meithrin 1, Blwyddyn Meithrin 2, Blwyddyn Derbyn a Blynyddoedd 6, 10 ac 11 symud i’r system newydd erbyn mis Awst 2023. Bydd grwpiau blwyddyn eraill yn symud erbyn Awst 2025.

Craffu ar y broses o roi’r system ar waith

Mae’r pwysau sy’n wynebu ysgolion wrth roi’r system ADY newydd ar waith wedi’u hamlygu yng ngwaith craffu’r Senedd, gan gynnwys yn ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i weithredu diwygiadau addysg. Mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn ceisio barn pobl erbyn 24 Ebrill, cyn ei drafodaeth nesaf ynghylch hynt y broses.

Bydd yn ddiddorol gweld a gaiff y newidiadau hyn eu hystyried yn ffordd o oedi’r broses o roi’r newidiadau ar waith ynteu’n flwyddyn ychwanegol i gael pethau’n iawn.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru