Adfywio’r agenda gwella ysgolion

Cyhoeddwyd 21/03/2022   |   Amser darllen munudau

Fel llawer o heriau polisi mawr eraill o ddydd i ddydd, gellir dadlau bod cenhadaeth genedlaethol Cymru i godi safonau addysgol wedi gorfod cael ei rhoi i’r neilltu am y tro yn ystod y pandemig. Yn y bôn, mae ysgolion wedi bod yn nofio yn eu hunfan dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ymdrechu’n bennaf i gynnal darpariaeth yn hytrach na’i gwella.

Erbyn hyn rydyn ni’n gobeithio ein bod ni’n dod allan o gyfnod argyfwng COVID-19 a’r amharu enfawr ar addysg, ac mae sylw yn troi yn ôl at faterion polisi mwy cyffredin, er eu bod yn bwysig iawn.

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn yfory (22 Mawrth) o dan y teitl “Safonau ac Uchelgeisiau Uchel i Bawb”, pan y disgwylir iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella addysg. Mae’r erthygl hon yn darparu gwybodaeth gefndirol cyn y datganiad.

Dros ddegawd ers yr “ysgytwad i system hunanfodlon”

Fel yr eglurodd ein herthyglau ym mis Hydref 2020 a mis Tachwedd 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ceisio gwella safonau addysgol ers ymhell dros ddegawd. Y trobwynt oedd canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2009, a arweiniodd at “ysgytwad i system hunanfodlon”.

Er mwyn ymdrin â’r gostyngiad yng nghanlyniadau 2009, gofynnodd Llywodraeth Cymru am gyngor gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) – yn 2014, 2017 a 2020. Roedd ffocws polisi o’r newydd ar lythrennedd a rhifedd (ac yn fwy diweddar cymhwysedd digidol) yn ogystal ag ymyrraeth wedi’i thargedu a chymorth ar gyfer ysgolion sy’n tanberfformio. Symudwyd hefyd i ddull rhanbarthol lle cafodd awdurdodau lleol eu cymell i gydweithio drwy gonsortia i gyfuno eu gwasanaethau gwella ysgolion.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru bwyslais sylweddol hefyd ar gau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion difreintiedig (y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a Phlant sy’n Derbyn Gofal) a’u cyfoedion. Gwnaed hyn yn bennaf drwy’r Grant Datblygu Disgyblion (PDG) sy’n ychwanegu at gyllidebau ysgol yn seiliedig ar niferoedd y disgyblion hynny ar eu cofrestr. Fodd bynnag, nododd Estyn ym mis Chwefror 2020, “nid yw’r ‘bwlch tlodi’ wedi lleihau” ac “mae’r bylchau hyn yn mynd yn fwy wrth i ddysgwyr fynd yn hŷn”. Mae canlyniadau TGAU a Safon Uwch/UG yn ystod y pandemig yn awgrymu y gallai'r bwlch cyrhaeddiad fod wedi gwaethygu.

Gwnaeth sgoriau PISA Cymru wella i raddau yn y canlyniadau diweddaraf (2018), er eu bod yn dal i fod yr isaf o blith gwledydd y DU fel y dengys y ffeithlun hwn:

Sgoriau PISA Cymru yn 2018 a chylchoedd blaenorol

Mae’r graffig hwn yn dangos perfformiad Cymru ym mhob un o barthau Darllen, Mathemateg a Gwyddoniaeth PISA 2018. Mae’n dangos bod sgoriau Cymru yn is na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â chyfartaledd yr OECD. Mae Cymru ymhellach ar ei hôl hi mewn Darllen o gymharu â Mathemateg a Gwyddoniaeth. Mae’r graffig hefyd yn dangos sgoriau Cymru ym mhob un o’r tri pharth yn 2006, 2009, 2012, 2015 a 2018. O ran Darllen, mae sgôr Cymru wedi codi a gostwng rhwng pob cylch, fel ei fod ychydig yn uwch yn 2018 o gymharu â 2006. Gostyngodd sgôr Cymru mewn Mathemateg rhwng 2006 a 2009 ac yna hefyd rhwng 2009 a 2012, cyn codi yn 2015 a 2018. Gostyngodd sgôr Cymru mewn Gwyddoniaeth rhwng 2006 a 2009 a gostyngodd ymhellach yn 2012, a 2015 cyn codi fymryn yn 2018.

Bryd hynny, ar drothwy’r pandemig, aeth y dull lleol/rhanbarthol o wella ysgolion i gyflwr ansicr iawn yn un o'r pedwar rhanbarth – De Orllewin a Chanolbarth Cymru. Gadawodd Castell-nedd Port Talbot y consortiwm gwella ysgolion rhanbarthol, ERW, a rhoddodd tri o’r pum awdurdod arall rybudd o’u bwriad i adael ddiwedd mis Mawrth 2021. Roedd hyn yn her fawr i uchelgais gymharol ddiweddar Llywodraeth Cymru i ysgogi gwelliannau mewn ysgolion drwy ddull rhanbarthol.   

“Heb os” mae’r “pandemig wedi arafu cynnydd”

Gorfodwyd ysgolion i ganolbwyntio ar heriau addysgu o bell yn ystod y cyfnodau clo ac yna addysgu wyneb yn wyneb yn ysbeidiol pan oedd y rheoliadau’n caniatáu. Ataliodd Llywodraeth Cymru y gwaith o gategoreiddio ysgolion (system goleuadau traffig yn dynodi lle mae ysgolion o ran gwelliant) a’r mesurau perfformiad ysgolion.

Adroddodd Estyn ym mis Ionawr 2021 “heb os, mae’r baich gwaith sy’n gysylltiedig ag ymateb i’r pandemig wedi arafu cynnydd” o ran cyflawni blaenoriaethau parhaus, fel gwella ysgolion. Aeth cynllun adferiad addysgol COVID-19 Llywodraeth Cymru, “Adnewyddu a Diwygio”, ym mis Mehefin 2021 (diweddarwyd Medi 2021) ymlaen i ganolbwyntio ar lesiant a chynnydd dysgwyr yng nghyd-destun y pandemig.

Cafodd arholiadau eu canslo yn 2020 a 2021, a rhoddwyd trefniadau eithriadol ar waith a oedd yn ceisio sicrhau tegwch i’r carfannau presennol o ddisgyblion, tra’n cynnal hyder y cyhoedd ar yr un pryd yn y system gymwysterau a hygrededd y system honno. Bydd arholiadau yn dychwelyd eleni, er bod problemau cymaroldeb oherwydd bod yr amgylchiadau unigryw eleni a’r ddwy flynedd ddiwethaf yn golygu y bydd yn anodd dod i unrhyw gasgliadau am gynnydd diweddar ac yn y dyfodol ynghylch codi safonau.

Uchelgeisiau newydd ar gyfer safonau ysgolion

Ailddatganodd Llywodraeth Cymru ei huchelgais hirdymor i wella safonau ysgolion yn ei Rhaglen Lywodraethu 2021-26. Un o’i deg amcan llesiant yw “parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn culhau a bod safonau’n codi”. Hefyd, amlinellodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ei gynlluniau i wella sgiliau llafaredd a darllen plant, yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Tachwedd 2021.

Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi parhau â rhywfaint o’r gwaith a gychwynnwyd cyn y pandemig ynghylch gwella ysgolion. Mae wedi treialu adnodd cenedlaethol i gefnogi ysgolion gydag hunanarfarnu a gwelliant a chomisiynodd ymchwil i lywio mesurau perfformiad newydd y bwriedir iddynt alinio â'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mewn blynyddoedd blaenorol, roedd gan Lywodraeth Cymru linell gyllideb benodol ar gyfer “Codi Safonau Ysgolion” y gellid ei holrhain i ddangos yr ymrwymiad i wario £100 miliwn ychwanegol ar godi safonau ysgolion yn ystod y Senedd ddiwethaf. Er bod y llinell gyllideb hon wedi dod i ben yng nghyllideb 2022-23, sicrhaodd y Gweinidog y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Ionawr (paragraffau 78-84) bod y newid yn ‘gyflwyniadol’ ac y byddai Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn gwario mwy o arian nag o’r blaen ar safonau ysgolion.

O ran gweithio’n rhanbarthol, mae sawl partneriaeth newydd bellach wedi’u sefydlu yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru i gymryd lle’r consortiwm ERW blaenorol. Dywedodd Estyn y llynedd fod y “diffyg cynllun clir” wedi bod yn “bryder sylweddol” a hefyd dywedodd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Rhagfyr 2021 fod yr egni sydd wedi mynd i’r trafodaethau a’r ailstrwythuro a’r ad-drefnu yn amlwg wedi cymryd amser ac adnoddau i ffwrdd o ddarparu cefnogaeth uniongyrchol i ysgolion. Dywedodd Estyn y byddai’n monitro effaith y trefniadau newydd ar safonau yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cryn bwys y ar y cyfraniad y gallai’r Cwricwlwm newydd i Gymru ei wneud i godi safonau. Fodd bynnag, gallai’r union ffaith fod Cymru yn cychwyn ar ddiwygiadau mor fawr i'r cwricwlwm (ac Anghenion Dysgu Ychwanegol)  olygu mai dyma’r her fwyaf i’r agenda safonau ysgolion eto o ran maint yr uchelgeisiau ar gyfer newid. Ar ben hynny mae cyd-destun lle mae cyllidebau ysgolion wedi dod o dan bwysau sylweddol ac mae’r ffordd y cânt eu hariannu wedi bod yn destun gwaith craffu.

Bydd llawer o randdeiliaid yn awyddus i glywed sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adfywio’r agenda gwella ysgolion a pharhau â’i chenhadaeth genedlaethol i godi safonau. Mae hyn hyd yn oed yn fwy perthnasol gan fod system addysg Cymru, fel pob gwasanaeth cyhoeddus arall, yn gobeithio dod allan o’r diwedd o’r sioc o ddwy flynedd yn sgil y pandemig.

Gallwch wylio datganiad y Gweinidog (a ddarlledir tua 3.30pm ymlaen ddydd Mawrth 22 Mawrth) ar Senedd TV a gallwch ddarllen y trawsgrifiad tua 24 awr yn ddiweddarach.

Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru