Estyn: Rhaid i les dysgwyr barhau i fod yn flaenoriaeth

Cyhoeddwyd 22/04/2022   |   Amser darllen munudau

Dyna brif neges yr arolygiaeth addysg, Estyn, yn seiliedig ar yr hyn a arsylwyd ganddo y llynedd. Gyda'r Senedd yn trafod adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2020/21 ddydd Mawrth, mae'r erthygl hon yn edrych ar y canfyddiadau allweddol a’r cyd-destun ehangach.

2020/21: blwyddyn eithriadol

Roedd y pandemig wedi dominyddu’r ddarpariaeth addysg yn 2020/21.

  • ailddechreuodd y sector addysgu wyneb yn wyneb ym mis Medi 2020 ar ôl y cyfyngiadau symud cyntaf;
  • wynebodd y sector aflonyddwch parhaus ac absenoldeb disgyblion oherwydd rheolau hunanynysu yn ystod yr hydref, y gwanwyn a'r haf; a
  • darparodd y sector addysgu o bell i’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ystod yr ail gyfnod o gyfyngiadau symud yn y gaeaf, tra’n parhau â darpariaeth ar y safle i ddisgyblion a oedd yn agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol.

Felly mae’r adroddiad blynyddol diweddaraf yn wahanol i flynyddoedd blaenorol. Mae’n canolbwyntio ar ba mor dda y llwyddodd ysgolion a darparwyr eraill i gadw addysgu a dysgu i fynd mewn amgylchiadau eithriadol, yn hytrach na chanlyniadau arolygiadau arferol.

Gwahaniaeth arall yw’r ffaith yr oedd Estyn yn bwriadu oedi ei arolygiadau arferol beth bynnag yn 2020/21 i ganolbwyntio yn lle hynny ar gefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru. Cafodd y gweithgarwch hwn ei addasu i raddau helaeth tuag at ymateb ysgolion i'r pandemig, er ei fod yn ymwneud â diwygio'r cwricwlwm o hyd.

Parhaodd Estyn i fonitro “ysgolion sy’n peri pryder”, h.y. y rhai sydd eisoes ar ei radar oherwydd tanberfformiad. Ym mis Rhagfyr 2021, rhoddodd restr o ysgolion yn y ddau gategori ymyrraeth statudol i’r Senedd – mae’r rhain yn gofyn am welliant sylweddol ac mae angen mesurau arbennig arnynt.

Cyhoeddodd Estyn sawl adroddiad o alwadau ffôn ac ymweliadau yn ystod 2020/21 i drafod sut roedd lleoliadau yn ymdrin â’r pandemig. Parhaodd Estyn hefyd â'i “adroddiadau thematig” y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn iddo eu cynhyrchu, ar ben ei weithgarwch arolygu craidd.

Prif negeseuon Estyn

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Estyn ddarparu adroddiad blynyddol i’r Senedd. Lluniwyd adroddiad blynyddol 2020/21 yn ystod cyfnod trosiannol yn arweinyddiaeth Estyn. Ymddeolodd y Prif Arolygydd blaenorol, Meilyr Rowlands, ym mis Awst 2021, gyda’r Cyfarwyddwr Strategol presennol, Claire Morgan, yn gwasanaethu yn y cyfamser cyn i’r Arolygydd newydd, Owen Evans, ddechrau ym mis Ionawr 2022.

I grynhoi, mae prif negeseuon y Prif Arolygydd dros dro o 2020/21 fel a ganlyn:

  • Mae lles dysgwyr wedi bod yn brif flaenoriaeth ar gyfer ysgolion a darparwyr eraill yn ystod y pandemig. Rhaid parhau i roi blaenoriaeth i hyn gan ei fod yn hanfodol i gynnydd addysgol.
  • Mae athrawon, penaethiaid ac ymarferwyr eraill wedi dangos gwytnwch a dyfalbarhad mawr er mwyn ymateb i heriau’r Mae hyn wedi creu pwysau digynsail ar staff ac wedi cael effaith fawr ar arweinwyr ysgolion yn benodol.
  • Mae’r aflonyddwch i addysg wedi bod yn arbennig o heriol i ddysgwyr sy’n agored i niwed a dysgwyr difreintiedig, gan gynnwys y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a disgyblion o gartrefi difreintiedig.
  • Mae’r ystwythder yr oedd angen i ysgolion ei ddangos wedi arwain at rai buddion – gwella addysgu a dysgu digidol, cysylltiadau cryfach â chymunedau a rhieni, a gwerthuso cynnydd dysgwyr dros amser. Gallai’r persbectif newydd hwn roi ysgolion mewn sefyllfa dda i gyflawni’r Cwricwlwm newydd i Gymru, os byddant yn cymhwyso eu profiadau o’r pandemig yn effeithiol.
  • Fodd bynnag, er bod cymhwysedd digidol disgyblion wedi gwella, mae sgiliau llythrennedd a rhifedd llawer ohonynt wedi dirywio. Effeithiodd y pandemig hefyd ar annibyniaeth, cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol dysgwyr.
  • Mae sgiliau Cymraeg dysgwyr lle mai ychydig o Gymraeg sy’n cael ei siarad yn y cartref, os o gwbl, wedi dirywio yn ystod y cyfnodau clo. Roedd hyn yn broblem benodol i ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg pan wnaethant ddychwelyd i’r safle.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn y crynodeb o’r adroddiad blynyddol o bob sector a arolygwyd.

child appearing disengaged in front of a laptop.Effaith COVID-19

Disgrifiodd y Prif Arolygydd dros dro, Claire Morgan, effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ym mis Rhagfyr 2021:

It is clear that many pupils have gaps in their learning …. We've picked up social skills, those early speech and language skills, physical fitness, which you mentioned, and all of these areas, along with well-being, must continue to be a priority as we move forward.

Schools tell us that you can visibly see the impact on learners' levels of anxiety, higher rates of absence and pupils appearing to be more passive in lessons than they were before the pandemic. There's quite a lot of work to build up the resilience and confidence of learners.

Dywedodd hefyd fod ysgolion wedi defnyddio cyllid “Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau” Llywodraeth Cymru i benodi llawer mwy o gynorthwywyr dosbarth a rhai athrawon ychwanegol.

Roedd y cyllid hwn yn rhan o'r cynllun adfer addysg yn dilyn COVID-19, sef “Adnewyddu a Diwygio”. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario cyfanswm o tua £190 miliwn yn 2021-22 ar yr ymateb addysg i COVID-19.

Cyd-destun ehangach safonau ysgolion

Roedd ein herthygl ddiweddar yn trafod “cenhadaeth genedlaethol” hirsefydlog Llywodraeth Cymru i godi safonau ysgolion.

Fis diwethaf, nododd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ei ddull diweddaraf o gyflawni “safonau ac uchelgeisiau uchel i bawb”. Mae hyn yn cynnwys:

  • “ystyried pob polisi addysg o safbwynt a ydyn nhw'n helpu i daclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol”;
  • hyfforddiant cychwynnol o ansawdd uchel a dysgu proffesiynol parhaus i athrawon;
  • gwell defnydd o'r Grant Datblygu Disgyblion, sy'n ychwanegu at gyllidebau ysgolion yn seiliedig ar nifer y disgyblion difreintiedig;
  • ysgolion bro gyda swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn ceisio gwella presenoldeb a rheolwyr ysgol yn gwneud ysgolion yn fwy agored a hygyrch;
  • mynediad gwell at gyngor gyrfaoedd annibynnol ar gyfer pobl ifanc o gartrefi incwm isel; ac
  • arweinyddiaeth gryfach mewn ysgolion.

Dywedodd y Gweinidog y bydd gan Estyn rôl “allweddol o ran cefnogi a monitro ein cynlluniau” drwy ei weithgarwch arolygu, adrodd ar gynnydd, ac ymgysylltu ag ysgolion a’u cefnogi.

Sut i ddilyn y ddadl

Bydd Aelodau o'r Senedd yn trafod adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2020/21 o gwmpas 18:45 ddydd Mawrth 26 Ebrill 2022. Gallwch ei wylio ar Senedd TV a darllen y trawsgrifiad tua 24 awr yn ddiweddarach.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru