Ar 2 Chwefror, gwnaeth Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon dyngu llw am y tro cyntaf ers dwy flynedd.
Roedd hyn ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi Papur Gorchymyn Safeguarding the Union ar 31 Ionawr, a rheoliadau newydd gael eu pasio ar 1 Chwefror. Mae'r rhain yn gwneud newidiadau sy’n mynd i’r afael â phryderon Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) ynglŷn â Fframwaith Windsor.
Croesawodd Aelodau o’r Senedd o bob plaid benderfyniad y DUP i ddychwelyd i’r trefniadau rhannu pŵer yn Stormont, a’r cam o adfer datganoli yng Ngogledd Iwerddon.
Bydd y newidiadau yn effeithio ar Gymru. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, wrth y Senedd y bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried y manylion yn ofalus er mwyn asesu’r goblygiadau.
Mae ein herthyglau ar Fframwaith Windsor a Phrotocol Gogledd Iwerddon yn amlinellu arwyddocâd y cytundebau hyn i Gymru. Mae'r erthygl hon yn crynhoi'r ystyriaethau ar gyfer Cymru sy'n codi o'r Papur Gorchymyn.
Strwythurau llywodraethu newydd
Mae'r Papur Gorchymyn yn sefydlu strwythurau llywodraethu newydd i reoli'r berthynas economaidd a rheoleiddiol rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr.
Nid oes llawer ynddo ynghylch rôl y llywodraethau datganoledig yng Nghymru a'r Alban o fewn y strwythurau hyn. Nid yw’n glir sut y byddant yn rhyngweithio â’r mecanweithiau presennol a sefydlwyd i reoli marchnad fewnol y DU a chysylltiadau rhynglywodraethol ar ôl Brexit, megis Fframweithiau Cyffredin a strwythurau rhynglywodraethol diwygiedig.
Mae'n aneglur hefyd i ba raddau y bydd rhai o'r newidiadau rheoleiddio a gynigir gan y Papur Gorchymyn yn gymwys ar gyfer pwerau, llywodraethau a chyrff cyhoeddus datganoledig.
Mae’r Papur Gorchymyn yn cynnig sefydlu’r strwythurau a ganlyn, sy’n berthnasol i Gymru:
- Cyngor Dwyrain-Gorllewin sy’n cynnwys gweinidogion ac arbenigwyr o bob rhan o’r DU, gan gynnwys busnesau, diwydiant a sefydliadau masnach. Bydd gwaith y Cyngor yn cael ei arwain gan bedair ‘cenhadaeth economaidd’ sydd â’r nod o fynd i'r afael â rhai o broblemau mwyaf heriol Gogledd Iwerddon.
- Fel rhan o'r Cyngor, bydd corff newydd o’r enw Intertrade UK yn cael ei sefydlu gyda chylch gwaith i hybu masnach o fewn y DU.
- Bydd Panel Monitro Annibynnol yn darparu ‘goruchwyliaeth annibynnol’ o ran gweithredu ac adolygu Fframwaith Windsor. Bydd y Panel yn dwyn Llywodraeth y DU ac ‘awdurdodau cyhoeddus eraill’ i gyfrif am gyflawni’r Fframwaith heb ychwanegu gwaith ychwanegol diangen.
- Gweithgor rhwng Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i ystyried gweithrediad Fframwaith Windsor.
- Strwythurau gweinidogol y DU i fonitro’r trefniadau newydd a sicrhau eu bod yn gweithredu’n bragmatig, ac i nodi ac ystyried meysydd lle gallai gwahaniaethau godi. Nid yw'n glir sut y bydd cyfrifoldebau datganoledig yn cael eu hystyried.
- Rôl newydd i Swyddfa'r Farchnad Fewnol o ran monitro effeithiau ar Ogledd Iwerddon sy'n deillio o newidiadau rheoleiddio perthnasol yn y dyfodol, sy'n debygol o gynnwys deddfwriaeth Cymru.
- Bydd yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gynnwys Asesiadau Marchnad Fewnol fel rhan o unrhyw Asesiad Effaith Rheoleiddiol, i ystyried a fyddai mesurau’n cael effaith andwyol ar farchnad fewnol y DU.
Deddfwriaeth
Pasiodd Senedd y DU ddeddfwriaeth ar 1 Chwefror i weithredu nifer o'r ymrwymiadau a wnaed yn y Papur Gorchymyn. Bydd gan rai o'r newidiadau hyn oblygiadau i Gymru.
Bydd angen deddfwriaeth bellach i weithredu cynigion eraill yn y Papur Gorchymyn yn llawn.
Rheoliad sy'n cadarnhau statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon
Mae’r rheoliad hwn yn cadarnhau nad yw Fframwaith Windsor yn newid statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon a phŵer Senedd y DU i ddeddfu ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae hefyd yn cynnwys pŵer i atal Llywodraeth y DU rhag dod i gytundebau rhwng y DU a’r UE sy’n ei gwneud yn ofynnol i Ogledd Iwerddon gydymffurfio â newidiadau i gyfraith yr UE sy’n arwain at rwystrau rheoleiddiol rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU asesu a yw Bil yn effeithio ar fasnach rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ond nid yw hyn yn cwmpasu Biliau a gyflwynir i’r deddfwrfeydd datganoledig.
Rheoliad ar roi i Ogledd Iwerddon fynediad dirwystr at farchnad fewnol y DU
Mae'r rheoliad hwn yn ymestyn egwyddorion mynediad i'r farchnad yn Neddf Marchnad Fewnol y DU 2020 i nwyddau o Ogledd Iwerddon. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU gyhoeddi canllawiau ar sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 46 o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 i roi sylw arbennig i le Gogledd Iwerddon ym marchnad fewnol a thiriogaeth dollau'r DU. Rhaid i weinidogion datganoledig yn awr ystyried y canllawiau hyn wrth ymgymryd â swyddogaethau perthnasol.
Mae hefyd yn tynhau’r diffiniad o nwyddau o Ogledd Iwerddon sydd â mynediad dirwystr at y DU er mwyn atal masnachwyr o Iwerddon y mae eu nwyddau ond yn teithio drwy Ogledd Iwerddon rhag elwa o’r darpariaethau hyn.
Masnach
Bwriad y newidiadau arfaethedig yw cymell a hybu masnach rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr. Gallai hyn fod â goblygiadau pwysig i borthladdoedd Cymru sy'n cysylltu ag Iwerddon. Mae porthladdoedd yr Alban a Lloegr yn cysylltu â Gogledd Iwerddon a bydd y cynlluniau yn hybu cysylltiadau rhyngddynt, heb unrhyw gefnogaeth gyfatebol i borthladdoedd Cymru.
Mae dargyfeiriadau masnach wedi bod yn destun pryder i Lywodraeth Cymru. Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi siarad yn gadarnhaol am waith i gydlynu dull cyffredin ar gyfer arfordir gorllewinol Prydain Fawr i liniaru hyn. Mae Model Gweithredu Targed y Ffin a deddfwriaeth y Papur Gorchymyn yn mynd rhywfaint o’r ffordd i’w gwneud yn haws symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i Gymru drwy Iwerddon.
Fodd bynnag, mae'r cynlluniau newydd yn cadarnhau na fydd unrhyw Safle Rheolaethau’r Ffin yn Cairnryan, yr Alban. Mae hyn yn lleihau ymhellach y rhwystrau masnach ar hyd y llwybrau rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, tra bod masnach drwy borthladdoedd Cymru yn wynebu gwiriadau mewn dau Safle Rheolaethau’r Ffin newydd.
Mae hyn yn codi ystyriaeth allweddol arall yn sgil Brexit - mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod ceisiadau Llywodraeth Cymru i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael pan drafodir materion sy’n effeithio ar borthladdoedd Cymru.
Mae’r Papur Gorchymyn yn nodi y bydd yn diogelu llwybrau masnach hanesyddol drwy Warant Marchnad Fewnol y DU, heb enwi pa lwybrau. I wneud hyn, mae Llywodraeth y DU yn ymrwymo i sicrhau y bydd dros 80 y cant o’r holl symudiadau nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon yn digwydd o dan system marchnad fewnol y DU.
Mae'r papur hefyd yn gwneud labelu bwyd 'Nid ar gyfer yr UE' yn ofyniad ar gyfer Prydain Fawr gyfan. Yn flaenorol roedd hyn yn gymwys ar gyfer bwyd a oedd yn mynd i Ogledd Iwerddon yn unig. Nid yw costau amcangyfrifedig hyn i fusnesau Cymru yn glir, ac nid yw’n glir ychwaith a fydd y cymorth ariannol presennol yn cael ei ymestyn. Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar reoliadau drafft a fydd yn rhoi’r newid hwn ar waith. Mae hwn yn fater datganoledig y mae angen cydsyniad Gweinidogion Cymru ar ei gyfer.
Mae’r papur yn pwysleisio’r gwahaniaeth rhwng safonau’r DU ac Iwerddon (UE), i ddangos sut mae Gogledd Iwerddon wedi’i halinio’n well â Phrydain Fawr nag y mae â’r UE. Mae hyn yn codi cwestiynau ar gyfer yr UE, a all ddefnyddio mesurau ailgydbwyso/ad-daliadol mewn ymateb i wahaniaethau o dan Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU a'r UE.
Cyllid
Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i ddarparu dros £3 biliwn ychwanegol i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd y cyllid yn mynd i'r afael â phwysau ar gyflogau sector cyhoeddus ac yn darparu fformiwla Barnett diwygiedig ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, Chris Heaton-Harris, yn dweud y bydd manylion y pecyn yn cael eu trafod gyda Gweithrediaeth newydd Gogledd Iwerddon. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw oblygiadau ariannol i Gymru.
Y camau nesaf
Mae'r Papur Gorchymyn yn ymrwymo Llywodraeth y DU i roi newidiadau ar waith yn gyflym. Bydd angen iddi ymgysylltu ac ymgynghori’n gyflym â Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, llywodraethau datganoledig eraill, rhanddeiliaid yn y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd.
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi dweud y bydd yn dadansoddi’r testunau a gyhoeddir gan Lywodraeth y DU yn ofalus. Bydd angen i’r UE gytuno i unrhyw newidiadau i Fframwaith Windsor.
Ddydd Mercher 7 Chwefror, bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd yn cymryd tystiolaeth ar Safleoedd Rheoli Ffiniau newydd Cymru a Model gweithredu Masnach y Ffin gan y Farwnes Lucy Neville-Rolfe o Lywodraeth y DU.
Erthygl gan Nia Moss, Josh Hayman a Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru