Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon – 24/11/2026

Cyhoeddwyd 24/11/2026   |   Amser darllen munud

Cwestiynau’r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi’r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a’u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

Isod ceir canllaw cyflym i'r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi'i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau ar gael yma.

Gallwch wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 13:30 ar Senedd.tv.


Cwestiwn: Mae Janet Finch-Saunders AS yn gofyn pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sefydlogrwydd arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn penderfyniad y Prif Weithredwr i gamu o'r neilltu?

Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’n rheolaidd wybodaeth am oruchwyliaeth, uwchgyfeirio ac ymyrryd o ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn yn cynnwys y fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio diweddaraf a hefyd yr adroddiad cynnydd blwyddyn 3.


Cwestiwn: Mae Andrew RT Davies AS yn gofyn pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ei hasedau rhag tresmaswyr?

Gwybodaeth: Ymdriniodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni â thresmasu mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig yn ddiweddar. Dywedodd y Gweinidog fod tresmasu yn cael ei reoli yn unol â Chanllawiau Rheoli Gwersylloedd Diawdurdod Llywodraeth Cymru.


Cwestiwn: Mae Lynne Neagle AS yn gofyn pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi pobl yr effeithiodd y tanau gwyllt yr haf hwn arnynt?

Gwybodaeth: Yn ddiweddar, cynhaliodd y Prif Weinidog Uwchgynhadledd Tanau Gwyllt a Gwydnwch o ran yr Hinsawdd ym Merthyr Tudful. Yn dilyn yr uwchgynhadledd, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ar Danau Gwyllt a’r Gallu i Wrthsefyll Newid Hinsawdd.

Mae ein herthygl yn edrych yn ôl ar danau gwyllt yr haf a'r opsiynau ar gyfer gwell’r gallu i’w gwrthsefyll yn y dyfodol. Mae ein herthyglau diweddar eraill yn trafod gwres eithafol yng Nghymru,, gan gynnwys ei achosion, ei effeithiau ac addasiadau yn ei sgil, a thywydd poeth ac iechyd..

Ochr yn ochr â hyn, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i wydnwch yn erbyn tanau gwyllt yng Nghymru..


Cwestiwn: Mae Carrie Harper AS yn gofyn pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella trafnidiaeth yn Fflint Wrecsam yn ystod oriau brig?

Gwybodaeth: Mae Prosiectau Rhwydwaith Gogledd Cymru Trafnidiaeth Cymru, sef “gweledigaeth lle mae gwerth biliynau o bunnoedd yn cael ei fuddsoddi ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth integredig, gyda theithiau rheolaidd ar gyfer y rhanbarth”, yn cynnwys nifer o gynigion ar gyfer Fflint a Wrecsam.


Cwestiwn: Mae Anna Nicholl AS yn gofyn pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch y budd economaidd y byddai datganoli Ystad y Goron yn ei roi i Geredigion Penfro.

Gwybodaeth: Roedd ein herthygl yn 2025 yn nodi gwybodaeth gefndir berthnasol am Ystad y Goron, a'r ddadl ynghylch ei datganoli.


Cwestiwn: Mae Zaynub Akbar AS yn gofyn pa fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn seilwaith Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd Ffynnon Taf?


Cwestiwn: Mae Francesca O'Brien AS yn gofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Ngŵyr Abertawe?

Gwybodaeth: Mae ein herthygl yn 2022 yn rhoi trosolwg o'r gefnogaeth sydd ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.


Cwestiwn: Mae Adrian Mason AS yn gofyn pa drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn ymddiswyddiad ei Brif Weithredwr?

Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’n rheolaidd wybodaeth am oruchwyliaeth, uwchgyfeirio ac ymyrryd o ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn yn cynnwys y fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio diweddaraf ac hefyd yr adroddiad cynnydd blwyddyn 3.


Cwestiwn: Mae Laura Anne Jones AS yn gofyn pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant ffermio?

Gwybodaeth: Prif gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ffermio yw'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Mae disgrifiad y Llywodraeth o’r cynllun  yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gynnwys gofynion y cynllun a'r gyfradd dalu arfaethedig.


Cwestiwn: Mae Jayne Bryant AS yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant dur.

Gwybodaeth: Dywedodd y Prif Weinidog ym mis Medi y byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a’r Gronfa Gyfoeth Wladol i wneud y defnydd gorau posibl o’r gefnogaeth i’r diwydiant dur yng Nghymru a’r cymunedau dur.


Cwestiwn: Mae Llŷr Powell AS yn gofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chostau byw?

Gwybodaeth: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar becyn cymorth costau byw i aelwydydd y gaeaf hwn. Mae ein herthygl fis Medi yn edrych ar effaith costau cynyddol ar aelwydydd Cymru a'r gefnogaeth sydd ar gael.


Cwestiwn: Mae Becca Martin AS yn gofyn pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddatblygu fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid?

Gwybodaeth: Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mehefin: "Gan adeiladu ar hanes gref Cymru o ran lles anifeiliaid sydd eisoes yn bodoli, byddwn hefyd yn cyflwyno cynllun iechyd a lles anifeiliaid newydd, gan gynnwys rheoliadau newydd ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid."


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru