Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon – 17/11/2026

Cyhoeddwyd 17/11/2026   |   Amser darllen munud

Cwestiynau’r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi’r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a’u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

Isod ceir canllaw cyflym i’r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi’i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau ar gael yma.

Gallwch wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 13:30 ar Senedd.tv.


Cwestiwn: Mae James Evans AS yn gofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella sut mae byrddau iechyd yn ymgysylltu â dinasyddion wrth gynllunio newidiadau mawr i wasanaethau.

Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i sefydliadau'r GIG ar sut i wneud newidiadau i wasanaethau iechyd a beth i'w wneud os oes anghytundeb.


Cwestiwn: Mae Andrew RT Davies AS yn gofyn am ddatganiad ynghylch cyflawni'r Adolygiad Covid-19 sydd wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Gwybodaeth: Gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r adolygiad yn gynharach y mis hwn, gan gadarnhau y bydd yn anstatudol.

Mae erthygl gennym yn edrych ar yr hyn mae canfyddiadau Ymchwiliad Covid-19 y DU yn ei olygu i GIG Cymru.


Cwestiwn: Mae Niamh Salkeld AS yn gofyn ynghylch su mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith adfywio a diogelwch tomenni glo mewn cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan orffennol diwydiannol Cymru.

Gwybodaeth: Mae erthygl gennym yn edrych ar beth sydd wedi newid ers i Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 gael ei phasio, ac yn ystyried beth sy'n dod nesaf.


Cwestiwn: Mae Claire Johnson-Wood AS yn holi ynghylch diwygio rôl cynghorau tref a chymuned wrth ddyrannu stoc tai awdurdodau lleol.


Cwestiwn: Mae Sarah Cooper-Lesadd AS yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn y cyhoedd rhag camwybodaeth cyn etholiadau yng Nghymru.

Gwybodaeth: Pasiodd y Senedd flaenorol Ddeddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026, sy'n rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â datganiadau ffug neu gamarweiniol a wneir yn ystod ymgyrchoedd etholiadol. Ceir rhagor o wybodaeth am y Ddeddf yma.


Cwestiwn: Mae David Hughes AS yn gofyn sut mae’r setliad cyllido presennol gan Lywodraeth y DU yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i ariannu'r sectorau iechyd a llywodraeth leol.

Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau ymateb i Gyllideb Hydref 2026 Llywodraeth y DU, y naill ar 28 Hydref 2026 a’r llall ar 5 Tachwedd 2026.


Cwestiwn: Mae Laura Anne Jones AS yn holi ynghylch camau gweithredu i hyrwyddo rhyddid i lefaru.


Cwestiwn: Mae Kiera Marshall AS yn gofyn am asesiad o anghenion Cymru am gapasiti canolfannau data.

Gwybodaeth: Mae papur briffio gennym yn trafod y cyfleoedd economaidd sy'n dod i'r amlwg o ran codi canolfannau data, heriau cynaliadwyedd, y broses gynllunio, ac effeithiau posibl ar gymunedau.


Cwestiwn: Mae Carmelo Colasanto AS yn holi ynghylch cefnogaeth i'r sector logisteg yn Sir Gaerfyrddin.


Cwestiwn: Mae Beca Brown AS yn holi ynghylch cydnabod Diwrnod Ewropeaidd Diogelu Plant rhag Camfanteisio Rhywiol a Cham-drin Rhywiol.

Gwybodaeth: Y thema eleni yw gohebu moesegol yn y cyfryngau ynghylch trais rhywiol yn erbyn plant. Mae rhagor o wybodaeth am y Diwrnod (18 Tachwedd) ar gael ar wefan Cyngor Ewrop.


Cwestiwn: Mae Janet Finch-Sauders AS yn holi ynghylch camau gweithredu i fynd i'r afael â gofal mewn coridorau yng ngogledd Cymru.

Gwybodaeth: Mae erthygl gennym yn gofyn beth ydym yn ei wybod am gyffredinrwydd gofal mewn coridorau mewn adrannau brys, ac a all cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru a chynllunio gweithredol gan fyrddau iechyd lleol helpu i roi terfyn arno.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun heddiw sydd â’r nod o ddileu “gofal mewn coridorau ac mewn mannau anaddas eraill".


Cwestiwn: Mae Lyn Ackerman AS yn holi ynghylch sylwadau Llywodraeth Cymru iLywodraeth y DU ynglŷn â rhyddhau cronfa'r gwarantwr ar gyfer aelodau o gynllun pensiwn y glowyr.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru