A all y GIG yng Nghymru roi terfyn ar ofal mewn coridorau?

Cyhoeddwyd 28/08/2026   |   Amser darllen munud

Mae gofalu am gleifion mewn coridorau ysbytai yn symptom o system iechyd dan bwysau. Mae defnyddio mannau clinigol amhriodol, fel coridorau ac ystafelloedd storio, wedi'i gondemnio'n eang. Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (RCN) yn ei ddisgrifio fel rhywbeth nad yw’n ddiogel nac yn urddasol i gleifion, ac sy’n peri gofid i staff. Mae adrannau Gofal Brys gorlawn, a chleifion yn wynebu arosiadau hir ar drolïau a chadeiriau, wedi dod yn symbol o'r heriau sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru.

Ym mis Rhagfyr 2025, bu’r Senedd yn trafod deiseb, a gyflwynwyd gan y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain Cymru (BMA), yn galw am “roi diwedd ar” ofal mewn coridorau gan Lywodraeth Cymru ar y pryd. Denodd y ddeiseb dros 10,000 o lofnodion a oedd yn ei chefnogi.

Yn y datganiad cyntaf ar ei flaenoriaethau fel y dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal newydd - “mae adrannau brys yn gwegian o dan bwysau galw di-baid a diffyg capasiti, tra bod arferion anniogel, fel gofal mewn coridorau, yn cael eu normaleiddio.”

Mae'r erthygl hon yn gofyn beth rydyn ni'n ei wybod ynghylch pa mor gyffredin yw gofal mewn coridorau mewn adrannau gofal brys, ac a all cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru a chynllunio gweithredol gan fyrddau iechyd lleol leihau'r gofynion ar y system iechyd, a helpu i roi terfyn ar ofal mewn coridorau.

Pa mor gyffredin yw gofal mewn coridorau yng Nghymru?

Mae diffyg tystiolaeth ynghylch pa mor gyffredin yw gofal mewn coridorau yng Nghymru.

Canfu arolwg ciplun gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM) ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025 fod pob un o'r 12 adran achosion brys mawr yng Nghymru yn trin cleifion mewn coridorau. Ar adeg yr arolwg, roedd cyfartaledd o 13.5% o gleifion mewn adrannau gofal brys mawr yn cael eu trin ar drolïau mewn coridorau neu fannau amhriodol eraill. Cynhaliwyd yr arolwg dros dridiau, felly ni all ddangos pa mor gyffredin yw gofal mewn coridorau drwy gydol y flwyddyn.

Roedd y ddeiseb i roi diwedd ar ofal mewn coridorau yn galw ar Lywodraeth flaenorol Cymru i gofnodi ac adrodd ar ei achosion. Mewn ymateb, dywedodd dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y pryd, mai byrddau iechyd lleol sy’n gyfrifol am gasglu data gweithredol ar gapasiti ysbytai a nifer y bobl sy'n cael gofal mewn amgylcheddau anghlinigol. Dywedodd y dylid defnyddio’r data hwn “i gymryd camau ar unwaith…i leihau’r risg o niwed”. Nid yw'n cael ei gynnal yn genedlaethol.

Yn y cyfamser yn Lloegr, y mae'r GIG bellach yn cyhoeddi data ar amlder gofal mewn coridorau mewn adrannau gofal brys ac mewn wardiau cyffredinol ac acíwt. Amcangyfrifir bod tua 4.8% o’r achosion sy’n dod i adrannau damweiniau ac achosion brys a 18.1% o dderbyniadau brys yn Lloegr ym mis Mai a mis Mehefin 2026 wedi cael gofal mewn coridorau.

A ddylai'r GIG yng Nghymru gynhyrchu data tebyg? Mae Ymddiriedolaeth Nuffield yn rhybuddio bod y sail dystiolaeth ar gyfer diffiniad y GIG yn Lloegr yn ‘aneglur’, ac y gallai fod yn agored i’w wyrdroi er mwyn lleihau nifer yr achosion o ofal mewn coridorau, er enghraifft, drwy gadw cleifion yn aros mewn ambiwlansys, ble gallai fod perygl i’w diogelwch. Byddai gwneud hynny, fodd bynnag, yn darparu rhagor o dryloywder ynghylch perfformiad y GIG.

Adrannau gofal brys dan bwysau

Mae'r galw ar adrannau gofal brys wedi cynyddu, ac ar gyfradd uwch na'r cynnydd cyfatebol ym mhoblogaeth Cymru. Yn 2024-25 roedd bron i 1.1 miliwn o bobl wedi dod i adrannau gofal brys yng Nghymru, sef y nifer mwyaf erioed.

Mae gan Lywodraeth Cymru ddau darged allweddol ar gyfer adrannau gofal brys, gan gynnwys adrannau gofal brys mawr ac unedau mân anafiadau/adrannau gofal brys eraill:

  • Dylai 95% o gleifion newydd dreulio llai na 4 awr o gyrraedd nes iddynt gael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau
  • Ni ddylai unrhyw glaf aros mwy na 12 awr o gyrraedd nes ei dderbyn, ei drosglwyddo neu ei ryddhau

Ar hyn o bryd, nid yw adrannau gofal brys yn cyrraedd y targedau hyn. Ym mis Mehefin 2026, roedd 49% o gleifion yn treulio llai na 4 awr mewn adrannau gofal brys mawr. Ni lwyddodd unrhyw adran gofal brys yng Nghymru i gyrraedd y targedau 4 awr neu 12 awr.

Ffigur 1: Canran y cleifion mewn adrannau gofal brys mawr sy'n treulio llai na'r amser targed mewn adran gofal brys fawr

Graff llinell sy'n dangos tuedd ar i lawr yng nghanran y cleifion sy'n treulio llai na'r amseroedd targed o 4 awr a 12 awr mewn adrannau gofal brys mawr.

FfynhonnellAdrannau gofal brys: perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros o fis Hydref 2009 ymlaen, Ystadegau Cymru

Ledled Cymru, mae unedau mân anafiadau/adrannau gofal brys eraill yn llwyddo i gyrraedd y targedau. Ym mis Gorffennaf 2026, treuliodd 96.1% o gleifion lai na 4 awr a 100% lai na 12 awr o amser yn aros mewn unedau mân anafiadau/adrannau gofal brys eraill, er bod ffigurau’n amrywio rhwng ysbytai unigol.

Mae arosiadau hir mewn adrannau gofal brys yn effeithio'n anghymesur ar bobl hŷn, sydd yn fwy tebygol o fod yn dioddef eiddilwch a chyflyrau iechyd lluosog. Gwelir yr amseroedd aros canolrifol hiraf o’u derbyn i adran frys, eu trosglwyddo neu’u rhyddhau yn gyson ar gyfer pobl 85 mlwydd oed a throsodd. 

Canfuwyd bod aros am amser hir mewn adrannau gofal brys yn cynyddu risg cleifion o niwed, gan gynnwys cyfradd uwch o farwolaethau ac arosiadau hirach yn yr ysbyty. Mae’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn amcangyfrif bod cyfartaledd o 18 o farwolaethau bob wythnos yn 2025 yn gysylltiedig ag arosiadau o 12 awr neu ragor mewn adrannau gofal brys yng Nghymru.

Deall ac ymdrin â pham mae gofal mewn coridorau yn digwydd

Mae achosion aros hir, gorlenwi, a gofal mewn coridorau mewn adrannau gofal brys yn gymhleth ac yn ymestyn ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn ystod y Chweched Senedd, edrychodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar lif cleifion drwy ysbytai. Canfu'r ddau bwyllgor bod diffyg capasiti gofal cymdeithasol, ochr yn ochr â'r angen am gyfathrebu a chydweithrediad gwell rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol, yn cyfrannu at oedi cyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Mae'r oedi hwn yn creu pwysau canlyniadol ledled y system drwy leihau nifer y gwelyau sydd ar gael i gleifion newydd.

Dywed Cydffederasiwn GIG Cymru bod “cynnal a chadw, moderneiddio ac ehangu ystâd y GIG” yn hanfodol i wella llif cleifion. Mae ôl-groniad gwaith cynnal a chadw gwerth £1.4 biliwn yn ystad y GIG yng Nghymru.

Cyflwynodd Llywodraeth flaenorol Cymru bolisïau a chyllid ychwanegol i gefnogi gofal brys a gofal argyfwng, gan gynnwys y rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng. Rhybuddiodd Archwilio Cymru, fodd bynnag, fod rhai gwasanaethau newydd, sy'n ceisio lleihau'r pwysau ar adrannau gofal brys, yn cael eu tanddefnyddio a dywedodd fod angen canolbwyntio ar gynllunio’r system gyfan.

Mae paratoadau bellach ar y gweill ar draws y GIG, llywodraeth leol a gofal cymdeithasol i reoli pwysau'r gaeaf eleni. Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal wrth y Senedd fod Llywodraeth Cymru yn “cymryd camau newydd i wneud yn siŵr bod gwersi’n cael eu dysgu o’r gaeaf diwethaf”. Dywedodd fod “oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys, amseroedd aros hir mewn adrannau brys, [a] pharhad gofal mewn coridorau” yn ganlyniadau gweladwy y straen sydd ar y system gofal iechyd.

Addawodd ddull gweithredu newydd o ran rhagweld a chynllunio ar gyfer pwysau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac y bwriedir ei ymgorffori erbyn 2030. Mae hyn yn cynnwys canfod pwy yw’r bobl sydd mewn perygl o gael eu derbyn i'r ysbyty yn gynharach, a hynny drwy ofal eiddilwch rhagweithiol yn y gymuned. Gofynnwyd i Fyrddau Iechyd Lleol gyflwyno cynlluniau gwella newydd i flaenoriaethu rhyddhau cynnar o ysbytai, mewn partneriaeth â gofal cymunedol.

Goblygiadau’r dull newydd hefyd yw symud oddi wrth ffocws ar y gaeaf yn unig, i gynllunio’n barhaus drwy gydol y flwyddyn. Bydd hafau'n mynd yn fwy poeth, a bydd tywydd poeth yn dod yn fwy aml, ac mae hynny’n rhoi straen newydd ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae tymereddau uchel yn arwain at gyfraddau marwolaeth uwch ac yn gwaethygu symptomau cyflyrau cronig, yn enwedig i fabanod a phlant a phobl hŷn, ac felly yn cynyddu'r galw ar adrannau gofal brys.

Cawn weld yn y blynyddoedd nesaf a all y dull gweithredu newydd hwn leihau gofal mewn coridorau a chyflawni gwelliannau cynaliadwy yn ein hadrannau Gofal Brys yng Nghymru.


Erthygl gan Angharad Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru