Erbyn heddiw, mae pob e-bost sy’n cael ei anfon, pob chwiliad ar-lein, neu dudalen sy’n cael ei sgrolio ar y we yn cael eu prosesu mewn canolfannau data: adeiladau ffisegol sy'n gartref i offer cyfrifiadurol sy’n storio, prosesu a rhannu data.
Mae Cymru eisoes yn lleoliad arwyddocaol ar gyfer canolfannau data. Yn 2024, amcangyfrifodd Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) Llywodraeth y DU mai Cymru oedd â’r capasiti uchaf y tu allan i Lundain o ran ei chanolfannau data ym Mhrydain Fawr, gyda chapasiti o 154 megawat (MW) yng Nghymru a 1,048 MW yn Llundain.
Mae diwydiant canolfannau data Cymru yn mynd drwy gyfnod o dwf sylweddol. Mae gan Gymru gynlluniau ar gyfer nifer o ddatblygiadau yn cynnwys dau Barth Twf AI. Menter yw hon gan Lywodraeth y DU i gyflymu datblygiad seilwaith deallusrwydd artiffisial sy’n cynnwys codi canolfannau data, yng ngogledd a de Cymru.
Mae ffigurau ar gyfer datblygiadau sy’n yr arfaeth yn awgrymu twf sylweddol mewn capasiti canolfannau data, cynigir y bydd gan ddau ddatblygiad yng Nghaerdydd gapasiti o 148 MW a 150 MW, capasiti o 200 MW yng Nghasnewydd, tua 600 MW ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 349 MW ar Ynys Môn.
Mae dadansoddiad gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) yn dangos bod defnydd trydan canolfannau data yng Nghymru a de-orllewin Lloegr wedi dyblu rhwng 2020 a 2024.
Mae ein dogfen briffio yn trafod y cyfleoedd economaidd sy'n dod i'r amlwg wrth godi canolfannau data, heriau cynaliadwyedd, y broses gynllunio, ac effeithiau posibl ar gymunedau.
Map o ganolfannau data yng Nghymru

Mae canolfannau data yng Nghymru wedi'u clystyru'n bennaf mewn Parthau Twf AI yn y de a’r gogledd. Mae’r map yn dangos canolfannau data sy’n yr arfaeth a rhai gweithredol wedi’u graddio yn ôl capasiti.
Cyfleoedd economaidd
Gall canolfannau data ddod â buddsoddiad, swyddi adeiladu dros dro, llwybrau gyrfa arbenigol, cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau, a gwell cymorth i waith ymchwil. Mae Adroddiad Economaidd a Chyllidol Cymru 2025 yn awgrymu y bydd canolfannau data yn dod yn gynyddol bwysig i economi Cymru drwy hwyluso gweithrediadau digidol busnesau, gan gynnwys mabwysiadu deallusrwydd artiffisial. Mae Llywodraeth y DU yn disgwyl buddsoddiad o £10 biliwn ym Mharth Twf AI a hyd at £100 biliwn yn gyffredinol i bob Parth Twf AI.
Unwaith y byddant yn weithredol, mae canolfannau data yn awtomataidd iawn ac mae ganddynt weithlu parhaol ar y safle sydd yn llai na’r hyn y gellid ei ddisgwyl o ystyried faint o dir ac adnoddau sydd eu hangen arnynt.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y gallai Parthau Twf AI Cymru greu tua 3,400 o swyddi yng ngogledd Cymru ac o leiaf 5,000 yn ne Cymru, sy'n cynnwys swyddi dros dro a swyddi parhaol. Mae hefyd wedi rhoi £5 miliwn o’r neilltu i gefnogi pob Parth Twf AI ar gyfer helpu busnesau i fabwysiadu’r dechnoleg ac ar gyfer meithrin sgiliau ar lefel leol.
Fodd bynnag, mae adroddiad gan Action to Protect Rural Scotland (APRS) a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026 yn awgrymu nad yw Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y swyddi posibl a grëir o ganolfannau data yn gywir. Mae tystiolaeth o'r Unol Daleithiau yn awgrymu bod canolfannau data yn creu swyddi lleol ond bod hynny’n llai na’r hyn a honnir gan eiriolwyr y diwydiant.
Pwysau ynni, dŵr a seilwaith
Mae maint y datblygiadau arfaethedig yng Nghymru yn codi cwestiynau mawr ynghylch y galw am drydan, y defnydd o ddŵr a chapasiti'r grid.
Yn 2024, amcangyfrifodd DSIT mai 154 megawat (MW) oedd capasiti canolfannau data Cymru. Mae datblygiadau unigol sy’n yr arfaeth yn cynnwys cynigion ar gyfer 148 MW, 150 MW, 200 MW, 349 MW a thua 600 MW, sy’n llawer mwy na chyfartaledd capasiti canolfannau data ‘hyperscale’ sef 20 i 100 MW.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod gan Barth Twf AI De Cymru y potensial i harneisio dros 1 GW erbyn dechrau'r 2030au, sef 13% o gyfanswm capasiti trydan Cymru yn 2024 (7.9 GW).
Bydd angen i ganolfannau data gael eu hystyried yng nghyllidebau carbon Cymru, sy'n gosod cap ar yr allyriadau mwyaf a ganiateir dros gyfnodau o bum mlynedd. Gallent gyfrif am rhwng 0.9% a 3.4% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU rhwng 2025 a 2035, yn bennaf oherwydd y defnydd o ffynonellau trydan anadnewyddadwy.
Mae arbenigwyr yn y diwydiant yn awgrymu codi canolfannau data mewn rhannau o Gymru lle mae llawer o ffynonellau ynni gwynt, dŵr, niwclear a charbon isel eraill ar gael.
Mae Llywodraeth y DU yn nodi amseroedd aros hir ar gyfer cysylltu â’r grid trydan fel y rhwystr mwyaf ar gyfer sefydlu Parthau Twf AI. Ym mis Mai 2026, roedd gan y National Energy Systems Operator (NESO) tua 173 o geisiadau i gysylltu â’r grid ar gyfer canolfannau data newydd sy'n cyfateb i dros 100 GW yn aros i gysylltu â’r grid yn y DU. Mae Ofgem wedi dweud bod gormod o ganolfannau data yn aros i gysylltu â'r grid.
Mae dŵr yn adnodd pwysig arall ar gyfer canolfannau data. Mae canolfannau data yn defnyddio dŵr yn anuniongyrchol, drwy gynhyrchu trydan a gweithgynhyrchu, ac yn uniongyrchol, drwy systemau oeri â hylif. Mae oeri â hylif yn fwy effeithlon nag oeri ag aer oherwydd bod hylifau'n well am amsugno gwres. Defnyddir hylif ar gyfer oeri offer AI sy'n cynnwys sglodion dwysedd uchel sy'n mynd yn boethach nag offer cyfrifiadurol arall.
Wrth i fwy ganolfannau data AI gael eu codi yng Nghymru ac wrth i brosiectau dyfu o ran maint, mae defnydd a graddfa systemau oeri â hylif yn debygol o gynyddu.
Defnydd tir ac effeithiau ar gymunedau lleol
Mae angen mynediad at dir addas a chysylltedd digidol ar ganolfannau data. Maent yn tueddu i fod wedi'u clystyru o amgylch lleoedd sydd â mynediad at seilwaith cysylltedd rhyngrwyd presennol, megis trefi a dinasoedd fel Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Chasnewydd. Mae llawer o safleoedd yng Nghymru wedi cael eu codi ar hen safleoedd diwydiannol lle gall datblygiadau fanteisio ar y tir a’r cysylltiad grid.
Bydd angen i ddatblygiadau hefyd gydbwyso manteision bod yn agos at adnoddau fel dŵr a ffynonellau ynni adnewyddadwy ag effeithiau ar fioamrywiaeth, o ystyried targedau Llywodraeth Cymru i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.
Mae cymunedau lleol yng Nghymru wedi codi pryderon, ac mae parodrwydd cymdeithas i dderbyn canolfannau data yn broblem gynyddol yn fyd-eang. Yn rhyngwladol, mae rhai trigolion wedi beirniadu’r nifer fawr o ganolfannau data sydd heb eu hystyried mewn prosesau cynllunio. Gall canolfannau data hefyd fod yn ffynhonnell o lygredd sŵn, sydd ag effeithiau ar iechyd a’r amgylchedd.
Rhagolygon cynllunio a pholisi
Nid yw polisïau cynllunio Cymru yn sôn yn benodol am ganolfannau data ar hyn o bryd, yn wahanol i fframweithiau cynllunio yn Lloegr a’r Alban. Mae hyn yn golygu nad oes gofyn i awdurdodau cynllunio roi pwys penodol i anghenion canolfannau data wrth lunio polisïau neu benderfynu ar geisiadau.
Wrth i ddatblygiadau ddod yn fwy o ran maint ac o fwy o bwys yn genedlaethol, mae cwestiynau'n codi ynghylch a yw systemau cynllunio a seilwaith presennol yn gallu cydbwyso buddion economaidd â’r effeithiau ar ynni, dŵr, tir, bioamrywiaeth ac ar y gymuned.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet Adam Price AS ei bod yn hanfodol bod Cymru'n elwa o gynnal seilwaith canolfannau data. Bydd y graddau y bydd hyn yn digwydd yn cael effaith ar greu swyddi, ar gymunedau, ar ganolfannau data yn cael eu derbyn yn lleol.
Erthygl gan Jessica Woodgate, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a ddarparwyd i Jessica Woodgate gan PolicyBristol a Chronfa Cymorth Polisi Research England, a alluogodd gwblhau'r Briff Ymchwil hwn.