Tomenni glo nas defnyddir: pwy sy'n gweithredu, pwy sy'n talu a beth sy'n dod nesaf?

Cyhoeddwyd 11/09/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/09/2026

Mae tomenni mwyngloddiau a chwareli yn atgof ffisegol o orffennol diwydiannol Cymru. Gall y tomenni hyn fygwth bywydau a llesiant, fel y gwelwyd yn ystod y tirlithriadau yn Tylorstown yn 2020 ac yng Nghwmtyleri yn 2024.

Flwyddyn yn ôl, daeth Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 yn gyfraith gwlad, gan ail-lunio'r drefn reoli ar gyfer tommeni o’r fath. I nodi blwyddyn gyntaf y Ddeddf, mae'r erthygl hon yn gofyn beth sydd wedi newid a beth sydd i ddod. Mae'n trafod yr Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir newydd, cost diogelu tomenni, y risgiau a achosir gan newid hinsawdd a chyfleoedd posibl sy’n cyd-fynd â’r broses adfer.

Cefndir

Mae bron i 2,600 o domenni glo sy’n destun trefniadau monitro yng Nghymru, wedi'u lleoli’n bennaf yng Nghymoedd y De. Aseswyd bod gan 368 o domenni y "potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd". Hefyd, mae’n bosibl bod mwy na 20,000 o domenni eraill nad ydynt yn domenni glo ledled Cymru, y mae llawer ohonynt yn gysylltiedig â mwyngloddio metalau a mwynau. Gall y rhain effeithio ar lesiant cymunedol hefyd.

Cyfanswm nifer y tomenni glo (chwith) a'r tomenni risg uchaf (dde) yn ôl awdurdod lleol

Dau fap yn dangos dosbarthiad tomenni glo yng Nghymru yn ôl awdurdod lleol. Mae'r map cyntaf yn dangos cyfanswm y tomenni glo yn ôl awdurdod lleol, sy’n dangos bod y rhan fwyaf o'r tomenni wedi’u lleoli yn ne Cymru. Mae'r ail fap yn dangos nifer y tomenni risg uchel, y mae’r mwyafrif helaeth ohonynt wedi’u lleoli yng Nghymoedd de Cymru.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata Llywodraeth Cymru

Mae tri chwarter o'r holl domenni glo nas defnyddir, a 93% o domenni risg uchel (categori C a D), wedi’u lleoli yn y Cymoedd. Mae eu topograffeg serth a'u dwysedd poblogaeth yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd tomenni'n methu ac yn cynyddu’r potensial y bydd tomenni’n achosi niwed.

Daeth peryglon tomenni glo i’r amlwg yn y modd mwyaf trasig yn nhrychineb Aberfan ym 1966, pan gafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd ar ôl i domen lo gwympo ar Ysgol Gynradd Pantglas a thai cyfagos. Wedi hynny, cyflwynodd Llywodraeth y DU Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli 1969 i wella diogelwch tomenni. Fodd bynnag daeth adroddiad yn 2022, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, i’r casgliad nad oedd y ddeddfwriaeth ar y pryd “yn delio’n effeithlon gyda’r rheolaeth o domennydd glo anweithredol”.

Mae Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 ('Deddf 2025') yn cyflwyno cyfundrefn newydd ar gyfer rheoli tomenni. Ar hyn o bryd, caiff tomenni eu harchwilio, eu monitro a’u cynnal gan awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Ers 2020, mae Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio y DU wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi, categoreiddio ac archwilio tomenni nas defnyddir. Bydd Deddf 2025 yn creu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir newydd i Gymru ('yr Awdurdod') i oruchwylio a safoni'r gwaith hwn.

Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir i'w sefydlu yn 2027

Bydd yr Awdurdod yn cael ei sefydlu’n ffurfiol ym mis Ebrill 2027. Ei rôl fydd amddiffyn lles dynol rhag tomenni ansefydlog.

Bydd yr Awdurdod yn ysgwyddo rhai swyddogaethau ym maes diogelwch tomenni a oedd yn flaenorol o dan reolaeth sefydliadau eraill, a bydd ei ddyletswyddau'n cwmpasu’r meysydd a ganlyn:

  • llunio a chynnal cofrestr o domenni nas defnyddir;
  • monitro sefydlogrwydd tomenni;
  • cynnal a chyhoeddi asesiad rhagarweiniol o bob tomen nas defnyddir yng Nghymru; a
  • chreu cynlluniau rheoli ar gyfer y tomenni sy’n peri’r risg uchaf.

Bydd gan yr Awdurdod hefyd bwerau i orfodi tirfeddianwyr i sefydlogi tomenni ac i ymyrryd yn uniongyrchol yn ôl yr angen. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar hawliau perchnogion tir yn y broses hon. Mae’r Llywodraeth hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar y canllawiau y bydd yn eu darparu i'r Awdurdod.

Penododd Llywodraeth flaenorol Cymru Gadeirydd  a Phrif Swyddog Gweithredol cyntaf yr Awdurdod. Bydd pencadlys yr Awdurdod wedi’i leoli ym Merthyr Tudful, a bydd yn cyflogi hyd at 77 o staff.

Pwy sy'n talu i sefydlogi tomenni?

Roedd maniffesto Plaid Cymru yn 2026 yn cynnwys ymrwymiad i gyflwyno rhaglen adfer genedlaethol ar gyfer tomenni nas defnyddir, gan fynnu bod y rhaglen hon yn cael ei hariannu “yn briodol ac yn llawn” gan Lywodraeth y DU.

Yn 2021, amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru mai cost adfer tomenni glo fyddai “o leiaf £600 miliwn” dros y degawd a hanner nesaf. Fodd bynnag, ym mis Chwefror 2026, disgrifiodd y Dirprwy Brif Weinidog ar y pryd y ffigur o £600 miliwn fel a ganlyn:

…an initial estimate from some organisations, but it wasn't based on real hard grounded out data of exactly what schemes needed to be done, and it certainly doesn't reflect the work that's been done on the prioritisation even up until as we speak now.

Mae cyfrifoldeb dros ddiogelu'r amgylchedd wedi’i ddatganoli i Gymru, ond cafodd y mwyafrif helaeth o byllau glo eu cau cyn dyfodiad datganoli. Felly, mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU gyfrannu at y gost o adfer tomenni. Ym mis Mehefin 2026, dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth AS:

Mae'r diwydiant mwyngloddio, wrth gwrs, yn rhagflaenu datganoli, felly rydym ni'n amlwg o'r farn mai Llywodraeth y DU ddylai ysgwyddo'r bil hwnnw, a byddwn yn gwneud y ddadl dros hynny.

Gwnaeth Llywodraeth y DU gyfraniad o £25 miliwn o gyllid ar gyfer adfer tomenni glo yng Nghymru yn 2025-26, ac mae wedi ymrwymo i ddarparu cyllid ychwanegol sy'n cyfateb i £39.3 miliwn y flwyddyn rhwng 2026 a 2029.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy’r grant Diogelwch Tomenni Glo rhwng 2020 a 2027.

Cyllid a neilltuwyd i adfer tomenni glo yng Nghymru yn ôl sefydliad, 2020 i 2029

Siart bar sy'n dangos sut mae cyllid ar gyfer adfer tommeni nas defnyddir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio wedi newid dros amser. Mae cyfanswm y cyllid wedi cynyddu, i ddechrau oherwydd cyllid gan Lywodraeth Cymru ac yna oherwydd cyfraniadau gan Lywodraeth y DU o 2025 ymlaen.

*Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyllido gwaith adfer tomenni yn 2027-28 a 2028-29. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw benderfyniadau cyllidebol sy'n gysylltiedig â'r blynyddoedd hyn eto.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata Llywodraeth Cymru

Ym mis Ionawr 2026, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru gynllun grant aml-flwyddyn i sicrhau diogelwch tomenni glo, a fydd yn dyrannu £81.6 miliwn i Cyfoeth Naturiol Cymru a deg awdurdod lleol rhwng 2026 a 2029. Dywedodd y bydd hyn yn galluogi cyflawni “cynlluniau mwy cymhleth” nad oedd modd eu cyflawni mewn un flwyddyn ariannol.

Cyfleoedd newydd o’r hen domenni

Mae adfer safleoedd tomenni nas defnyddir yn costio arian, ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd economaidd yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, yn ogystal â photensial i greu mannau hamdden a gwella bioamrywiaeth.

Bydd 60 o swyddi newydd yn cael eu creu drwy sefydlu'r Awdurdod. Roedd y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â Deddf 2025 yn nodi tri phrif fantais economaidd sy’n deillio o'r gyfundrefn reoli newydd:

  • creu swyddi ychwanegol ym maes adfer tomenni;
  • atal costau yn y dyfodol o ganlyniad i domenni’n llithro; a
  • chreu gwerth drwy wella lles.

Mae rhai safleoedd glofaol wedi’u trawsnewid yn sylweddol ers cau. Bellach, mae Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon yn atyniad treftadaeth mawr. Ym Mharc Penallta yn Ystrad Mynach, mae cynefinoedd bioamrywiol bellach yn gorchuddio hen domenni glo. Mae'r safle hefyd yn cynnwys 'Sultan y Merlyn Pwll Glo', sef cerflun cloddwaith cyhoeddus 200m o hyd sydd wedi'i gerfio o domen lo nas defnyddir.

'Sultan y Merlyn Pwll Glo' ym Mharc Penallta, Ystrad Mynach.

Llun o'r awyr yn dangos cerflun cloddwaith mawr o geffyl yn carlamu.

Yn ogystal â thomenni, gall mwyngloddiau nas defnyddir eu hunain gynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu cynaliadwy – drwy rwydweithiau gwres dŵr mwynglawdd a thechnoleg bachu methan mewn mwyngloddiau.

Mae newid hinsawdd yn cynyddu’r risgiau

Mae newid hinsawdd yn gwneud gaeafau Cymru yn wlypach, gyda stormydd yn digwydd yn amlach a’r stormydd hyn yn fwy dwys, gan gynyddu'r tebygolrwydd y bydd tomenni’n llithro. Mewn asesiad diweddar, nododd y Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol fod tomenni nas defnyddir yn peri risg frys o ganlyniad i newid hinsawdd sy’n ein hwynebu heddiw, a nododd mai de Cymru yw’r ardal sy’n wynebu’r risg uchaf yn y DU. Yn yr hinsawdd gynhesach a ddisgwylir yn y DU erbyn 2050, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn nodi:

Increased rainfall and storms will increase the potential for mining tip landslides and the number of sites which require adaptation.

Cynigiodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd y dylid cyflwyno targed ledled y DU ar gyfer asesu ac addasu'r tomenni mwyaf peryglus erbyn 2035, yn seiliedig ar y dull gweithredu a ddilynwyd yng Nghymru.

Bydd yr Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir newydd yn gyfrifol am reoli'r risgiau hyn yn y dyfodol. Ar un adeg, roedd y diwydiant glo yn ganolog i hunaniaeth genedlaethol Cymru a'i datblygiad fel cenedl ddiwydiannol. Fodd bynnag, erbyn hyn, mae'r sylw'n troi at sut all Cymru ymdrin â'r risgiau, a'r cyfleoedd, a ddaw o waddol y diwydiant hwn.


Erthygl gan Dr Matthew Sutton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru