Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU yn dod i’r casgliad bod systemau gofal iechyd ledled y DU wedi “ymdopi, ond dim ond o drwch blewyn”. Yn ôl ei adroddiad Modiwl 3 ar effaith pandemig Covid-19 ar systemau gofal iechyd y DU roedd prinder hirsefydlog o ran staff, gwelyau a seilwaith yn golygu nad oedd gan wasanaethau’r GIG lawer o gapasiti i ymdopi â'r pandemig. Dywed yr adroddiad mai’r rheswm pennaf y parhaodd y gwasanaethau i weithredu oedd oherwydd ymdrechion eithriadol gweithwyr gofal iechyd, yn aml ar draul personol sylweddol. Mae’r erthygl hon yn trafod prif ganfyddiadau’r adroddiad, yr hyn mae’n ei olygu i Gymru a sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb.
Nid yw ewyllys da proffesiynol yn gynllun argyfwng
Mae'r adroddiad yn agor drwy ddod i’r casgliad bod y DU wedi mynd i mewn i bandemig Covid-19 heb baratoi’n ddigonol, gyda’i systemau gofal iechyd mewn cyflwr enbyd, gyda phrinder difrifol yn y gweithlu, ysbytai a oedd yn heneiddio, nifer isel o welyau mewn ysbytai a chyfraddau uchel o welyau eisoes yn cael eu defnyddio. Mae’r Farwnes Hallett, Cadeirydd yr Ymchwiliad, yn disgrifio’r GIG fel un oedd ar ymyl y dibyn a dywedodd mai dim ond diolch i ymdrechion eithriadol gweithwyr gofal iechyd a’r holl staff a oedd yn eu cefnogi y llwyddodd i ymdopi. Mae’r adroddiad yn gwneud deg argymhelliad, ac mae’r prif ganfyddiadau ac awgrymiadau ar gyfer gwella wedi'u crynhoi isod:
Roedd y canllawiau'n araf wrth ganfod bod yr haint yn cael ei drosglwyddo drwy’r aer ac yn canolbwyntio’n rhy gul ar weithdrefnau rhestredig. Mae Argymhelliad 1 yn galw am gorff amlddisgyblaethol parod i lunio canllawiau clir sy'n ystyried pob llwybr trosglwyddo tebygol, ac i Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff cyfatebol asesu risg gan ddefnyddio’r feirws, yr amgylchedd, y lleoliad a’r weithdrefn.
Fe wnaeth profion cyfyngedig, Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) anaddas, haint a gafwyd yn yr ysbyty a chyfyngiadau ymweld achosi niwed. Mae Argymhelliad 2 yn gofyn am gael canllawiau yn y dyfodol ar gyfyngiadau ymweld; mae'r adroddiad yn dweud mewn man arall y dylai Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon roi hawl gyfreithiol i gleifion gael pobl i ymweld â nhw, sy'n cyfateb i’r hawl yn Lloegr. Mae Argymhelliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i systemau wirio'n gyflym bod gan staff fasgiau amddiffynnol sy’n ffitio’n iawn..
Roedd cofnodion anghyflawn yn golygu bod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed wedi cael eu nodi yn hwyr neu'n anghywir, tra bod trefniadau gwarchod wedi achosi ynysu a rhwystrau i ofal. Mae Argymhelliad 4 yn galw am well trefniadau rhannu cofnodion a data, ochr yn ochr â chynlluniau ar gyfer cymorth ymarferol, gofal iechyd ac iechyd meddwl.
Nid oedd gwasanaethau gofal brys ac ambiwlans bob amser yn gallu bodloni’r galw, gan greu oedi a risgiau i gleifion. Mae Argymhelliad 5 yn ei gofyn am gynlluniau wedi’u profi sy'n cwmpasu trin galwadau, staffio ambiwlansys, trosglwyddo cleifion i ysbytai a llif cleifion.
Nid oedd cael gwelyau ychwanegol ac ysbytai dros dro yn darparu capasiti yr oedd modd ei ddefnyddio heb staff hyfforddedig, offer, ocsigen a chymorth. Mae Argymhelliad 6 yn galw am gynlluniau ychwanegol sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd sy'n cynyddu'r capasiti staffio ac offer wrth gynnal gofal hanfodol nad yw'n rhan o’r pandemig.
Cafodd gofal critigol ei ehangu ond roedd bron â chael ei orlethu, gyda chymarebau staffio dan straen a dim mesur cyffredin o bwysau. Mae Argymhelliad 7 yn galw am adrodd cyson a chyhoeddi fframwaith ar gyfer penderfyniadau os bydd y galw’n fwy na’r adnoddau gofal critigol sydd ar gael.
Roedd data marwolaethau, gan gynnwys ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, yn anghyflawn, ac nid oedd rhai cleifion a theuluoedd wedi'u cynnwys yn iawn mewn penderfyniadau diwedd oes. Mae Argymhellion 8 a 9 yn galw am ddata dibynadwy ar farwolaethau staff a dull safonol, wedi'i ddogfennu'n glir, o gynllunio gofal ymlaen llaw.
Nid oedd pobl bob amser yn credu pobl â Covid Hir, nid oeddent yn cael diagnosis prydlon nac yn gallu cael gofal cyson. Roedd y gwasanaethau a’r cymorth yn amrywio. Mae’r adroddiad yn galw am fynediad amserol a pharhaus at asesiadau, cyngor arbenigol a thriniaeth, wedi’u hategu gan ddata gwell ac ymchwil barhaus.
Roedd lleihau gofal arferol wedi creu capasiti ar gyfer Covid-19 ond achosodd oedi o ran diagnosis, arosiadau hirach a niwed y gellid fod wedi’i osgoi. Dylai cynlluniau ar gyfer y dyfodol amddiffyn gwasanaethau hanfodol, defnyddio data capasiti amser real a dechrau adfer yn gynnar er mwyn atal ôl-groniadau parhaol.
Pennod 9 — Gofal iechyd ar gyfer cyflyrau nad ydynt yn Covid-19
Roedd staff yn gyfrifol am gadw gwasanaethau i redeg ond roeddent yn wynebu haint, gorflinder a thrawma, yn aml heb ddiogelwch na chefnogaeth ddigonol. Mae Argymhelliad 10 yn galw am gefnogaeth hirdymor wedi'i hariannu ar gyfer lles a gwydnwch cryfach yn y gweithlu fel nad yw cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn dibynnu ar aberth personol.
Beth mae'r adroddiad yn ei ddweud am Gymru?
Nid yw'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod Cymru wedi perfformio'n gyson yn well neu’n waeth na'r gwledydd eraill. Mae ei dystiolaeth sy'n benodol i Gymru yn dangos newidiadau cyflym i wasanaethau, ond hefyd gwendidau parhaus o ran capasiti, staffio, data a seilwaith. Mae hyn yn cynnwys:
Rheoli heintiau, ymweld a gwarchod
Mabwysiadodd Cymru lawlyfr rheoli heintiau cyfunol yn 2018, ond rhannodd y methiant ehangach i nodi bod yr haint yn cael ei drosglwyddo drwy’r aer yn ddigon cyflym. Dechreuwyd y gwaith o brofi pawb oedd yn cyrraedd yr ysbyty fel achos brys ym mis Gorffennaf 2020, er bod staff yn dal i nodi problemau gyda PPE ac roedd achosion o heintiau a gafwyd yn yr ysbyty yn parhau i fod yn ddifrifol. Roedd rheolau ymweld hefyd yn araf i nodi partneriaid geni fel partneriaid mewn gofal. Fe wnaeth gwarchod amlygu gwendidau o ran data. Roedd nodi pobl a oedd â’r risg uchaf yn gofyn am edrych ar 11 set ddata, ac roedd oedi wrth anfon llythyrau ac aeth 13,000 o 91,000 i gyfeiriadau anghywir. Serch hynny, fe wnaeth fforymau gyda chyrff gwirfoddol a chyhoeddus helpu swyddogion i glywed yn uniongyrchol gan gymunedau oedd yn cael eu gwarchod.
Gofal brys a chapasiti ysbytai
Fe wnaeth galwadau 111 y GIG yng Nghymru fwy na threblu ym mis Mawrth 2020. Fe wnaeth swyddogion trin galwadau ychwanegol a chyngor ar-lein helpu, ond roedd yr oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys i ysbytai yn ddifrifol. Arhosodd mwy na 32,000 o gleifion am dros awr mewn ambiwlansys rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021. Ehangodd Cymru gapasiti ysbytai gyda pheiriannau anadlu ac ysbytai maes hefyd, er nid oedd ffigurau cynnar yn gwahaniaethu rhwng gwelyau ffisegol a'r rhai oedd â staff a chyfarpar.
Gofal critigol, marwolaethau a phenderfyniadau diwedd oes
Clywodd yr Ymchwiliad fod cleifion yr oedd angen y lefel uchaf o ofal arnynt wedi cael hynny, er bod rhai unedau yn Ne Cymru wedi wynebu pwysau difrifol. Roedd hysbysiadau marwolaeth yn parhau i fod yn hwyr ac yn anghyflawn, roedd diffyg ffigurau wedi'u gwirio gan Lywodraeth Cymru ar farwolaethau staff y GIG, a chanfu'r Ymchwiliad wendidau mewn penderfyniadau adfywio a'u hadolygiad.
Covid Hir, gofal cymorth ehangach a’r gweithlu
Darparodd Cymru ofal Covid Hir yn bennaf drwy wasanaethau sylfaenol a chymunedol. Mae'r Ymchwiliad yn cydnabod y nod o ran gofal yn agosach at adref ond rhybuddiodd y gallai nifer o atgyfeiriadau olygu bod cymorth yn dameidiog. Roedd diffyg data canolog yng Nghymru hefyd ar weithwyr gofal iechyd yr effeithiwyd arnynt. Fe wnaeth Cymru ddiogelu staff mamolaeth, ehangu ymgynghoriadau dros fideo a diogelu rhai capasiti dethol. Fodd bynnag, cwtogwyd ar lawdriniaeth ar y galon arferol, dirywiodd targedau canser ac roedd gofal o bell wedi creu rhwystrau i rai cleifion.
Beth sydd ar goll o safbwynt Cymru?
Mae dull pedair gwlad yr adroddiad yn cefnogi cymhariaeth ond mae'n darparu manylion cyfyngedig ar atebolrwydd yng Nghymru. Nid yw'n archwilio'n systematig y gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd nac yn archwilio'n llawn effeithiau ysbytai hŷn Cymru, daearyddiaeth wledig, gofal trawsffiniol a mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb?
Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o’r deg argymhelliad. Mae'n cyfeirio at waith ar ganllawiau rheoli heintiau, profion ffitio masgiau, canllawiau ymweld, cofnodion digidol, capasiti brys, gwasanaethau Covid Hir a chymorth i'r gweithlu. Mae rhai mesurau’n gofyn am gydweithrediad ledled y DU, tra bod eraill yn dibynnu’n bennaf ar gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru. Dylai’r dangosfwrdd gweithredu, sydd i fod i gael ei ddiweddaru ddwywaith y flwyddyn, helpu i ddangos cynnydd o ran cyflawni.
Beth mae teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn ei ddweud?
Mae grwpiau teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth wedi croesawu’r ffocws ar barodrwydd ac atebolrwydd ond maent yn dadlau bod yn rhaid i'r argymhellion arwain at newid gweladwy. Mae Covid-19 Bereaved Families for Justice UK wedi tynnu sylw at bwysau ar y GIG, methiannau yn arferion GIG 111 a DNACPR (penderfynu a chofnodi na ddylid ceisio gwneud CPR os yw calon neu anadlu person yn stopio), oedi wrth nodi bod yr haint yn cael ei drosglwyddo drwy’r aer ac amddiffyn staff yn annigonol. Mae Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn dadlau nad yw'r strwythur pedair gwlad yn archwilio penderfyniadau ac atebolrwydd yng Nghymru yn ddigon manwl, yn enwedig ar brofion, PPE, heintiau a gafwyd yn yr ysbyty a chadw cofnodion.
O wersi i wydnwch parhaol
Mae canfyddiadau’r adroddiad yn ein hatgoffa na all gwasanaethau'r GIG, gan gynnwys y rhai yn GIG Cymru, ddibynnu'n ddiogel ar staff yn gwneud aberthau personol eithriadol i wneud yn iawn am brinder hirsefydlog mewn capasiti, amddiffyn a chynllunio. Mae’r adroddiad yn adlewyrchu profiadau teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth, pobl sy'n byw gyda salwch parhaol, cleifion y bu oedi yn eu gofal a staff a oedd yn gweithio dan bwysau eithriadol. Y dasg nawr yw troi’r argymhellion yn welliant parhaol. Bydd angen i weinidogion osod blaenoriaethau clir, darparu cyllid cynaliadwy a nodi pwy sy'n gyfrifol am gyflawni. Yna gall y Senedd graffu ar p’un a yw camau gweithredu yn cryfhau gwydnwch ac yn gwella gofal ac amddiffyniad i gleifion a staff.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru