Pwysau ariannol costau byw

Pwysau ariannol costau byw

Costau byw - cymorth a gwybodaeth

Cyhoeddwyd 05/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/10/2022   |   Amser darllen munudau

Mae llawer o aelwydydd, busnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ar hyd a lled Cymru yn wynebu problemau sylweddol oherwydd costau cynyddol.

Bydd Ymchwil y Senedd yn ateb cwestiynau’r Aelodau a’u staff drwy’r broses ymholiadau arferol, ond rydym hefyd wedi casglu rhai lincs ynghyd sy’n rhoi gwybodaeth ddibynadwy i helpu pobl Cymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru dudalen we sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ganddi am gostau byw a thudalen sydd wedi'i neilltuo i gynllun cymorth tanwydd Cymru. Bydd awdurdodau lleol hefyd yn darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i helpu gyda chostau byw cynyddol.

Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Advicelink Cymru ac mae wedi’i gynllunio i helpu’r rhai sy’n ansicr ynghylch y budd-daliadau y gallant eu hawlio ac ynghylch hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Mae gan Lywodraeth y DU dudalen we sy’n cynnwys yr holl gymorth y mae’n ei gynnig gyda chostau byw, ac mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn cynhyrchu erthyglau’n rheolaidd ar gostau byw cynyddol.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd. Os oes gwybodaeth ar goll neu os hoffech inni gynnwys rhywbeth arall, cysylltwch ag Ymchwil y Senedd.

Gallwch neidio i bob adran isod:

Cymorth i aelwydydd

Llywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru un dudalen we sy’n rhoi cyngor a chymorth gyda chostau byw. Dyma’r prif fathau o gymorth sydd ar gael i aelwydydd: 

  • Cronfa Cymorth Dewisol i helpu pobl sy’n wynebu caledi ariannol eithriadol drwy ddarparu grantiau ar gyfer pethau hanfodol fel bwyd, diod, trydan a dillad. Mae cymorth hefyd ar gael drwy’r gronfa hon ar gyfer aelwydydd oddi ar y grid tan ddiwedd mis Mawrth 2023. Mae’n rhoi un taliad o hyd at £250 i dalu am olew neu dri thaliad o hyd at £70 ar gyfer Nwy  Petrolewm Hylifedig i aelwydydd sy’n profi caledi ariannol eithafol.
  • Cynllun Talebau Tanwydd ar gyfer aelwydydd sy'n talu ymlaen llaw am eu tanwydd, gan gynnwys eiddo nad ydynt ar y grid nwy ac yn dibynnu ar olew, glo neu nwy hylif. I fod yn gymwys, bydd aelwydydd yn cael eu cyfeirio at y cynllun gan un o rwydwaith o bartneriaid atgyfeirio. Rhaid iddynt fod mewn argyfwng ariannol dwys ac mewn perygl uniongyrchol o hunan-ddatgysylltu, neu eisoes wedi hunanddatgysylltu, neu'n gwneud dewisiadau a allai achosi niwed sylweddol er mwyn sicrhau bod ganddynt arian i dalu am ynni.
  • Cynllun cymorth tanwydd Cymru 2022-2023. Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 gan eu cyngor lleol i’w helpu i dalu biiau ynni. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad tanwydd gaeaf y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig. Agorodd y cynllun ar 26 Medi a gellir gwneud ceisiadau i awdurdodau lleol drwy eu gwefan. Sylwch fod yn rhaid i ymgeiswyr hefyd fod yn gyfrifol am dalu'r biliau ynni ar gyfer yr eiddo.
  • Mae elfen ddewisol y cynllun Cymorth Costau Byw yn gweithredu mewn nifer o awdurdodau lleol, er bod y prif gynllun wedi cau ar gyfer ceisiadau ar 30 Medi. Edrychwch ar wefan eich cyngor i weld pa gymorth sydd ar gael yn eich ardal.
  • Cynllun Disgownt a Gostyngiad Treth Gyngor.
  • Help i sicrhau bod pobl yn manteisio ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

Llywodraeth y DU

Mae gan Lywodraeth y DU un dudalen sy'n cynnwys lincs i’r holl gymorth y mae’n ei gynnig gyda chostau byw a thaflen wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i dalu biliau ynni. Dyma’r prif fathau o gymorth sydd ar gael i aelwydydd:

  • Taliad Costau Byw sy’n golygu y gallai unigolion sy’n cael credydau treth a budd-daliadau penodol hawlio taliad o £650. Caiff hwn ei dalu fesul dau gyfandaliad o £326 a £324.
  • 'Gwarant Pris Ynni' sy'n golygu, o 1 Hydref, mai £2,500, ar gyfartaledd, fydd bil ynni blynyddol cartref cyffredin yn y DU hyd at fis Mawrth 2023. Mae’r taliad yn awtomatig a bydd yn cael ei roi i bob aelwyd. O fis Ebrill 2023, bydd cymorth pellach wedi’i dargedu ar waith, yn dilyn adolygiad gan Drysorlys EF.
  • Mae'r Cynllun Cymorth Biliau Ynni yn rhoi gostyngiad o £400 i aelwydydd cymwys i’w helpu gyda’u biliau ynni dros y gaeaf 2022 - 2023. Nid oes angen ei ad-dalu.Mae’r gostyngiad yn awtomatig. Bydd taliad cyfatebol hefyd ar gael i gartrefi nad ydynt ar y grid. Nid yw’r manylion am y modd y caiff hyn ei dalu, a phryd, wedi’u cadarnhau eto.
  • Taliad Tanwydd Gaeaf i’r rhai a anwyd ar 25 Medi 1956 neu cyn hynny. Mae'n bosibl y cânt rhwng £250 a £600 yn awtomatig i’w helpu i dalu eu biliau ynni. Bydd y taliad yn cynnwys Taliad Costau Byw i Bensiynwyr. Fel arfer, gwneir y taliadau ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.
  • Taliad Costau Byw i bobl ag anabledd, sef £150, i’r rhai sy’n cael budd-daliadau penodol.
  • Benthyciadau Cyllidebu i bobl sy’n cael budd-daliadau penodol am o leiaf chwe mis. Rhaid ei wario ar eitemau fel dodrefn, nwyddau gwyn a chostau sy’n gysylltiedig â symud tŷ.

Cymorth ychwanegol

Yn ogystal â chymorth gyda chostau byw, mae amrywiaeth o fudd-daliadau a chymorth ariannol eraill ar gael. I weld a allwch chi eu hawlio:

Cymorth i fusnesau
Plant, pobl ifanc ac addysg

O dan 16 oed

Dros 16 oed

Ynni a dŵr

O dan reolau’r rheoleiddiwr Ofgem, rhaid i gyflenwyr ynni weithio gyda chwsmeriaid i gytuno ar gynllun talu fforddiadwy os ydynt yn poeni am dalu biliau ynni.

Mae cyflenwyr ynni yn argymell bod cwsmeriaid yn cysylltu â nhw os ydynt yn poeni am eu gallu i dalu biliau ynni. Maent yn gallu cynnig gwahanol fathau o gymorth gan gynnwys grantiau, cyngor ynghylch gwneud yn fawr o’ch incwm, a darparu offer sy’n defnyddio ynni’n effeithlon.

Gallwch ddarllen ein herthygl ar gostau tanwydd a thlodi tanwydd.

Cyflenwyr ynni

Mae Cyngor ar Bopeth wedi cyhoeddi manylion grantiau sydd ar gael gan gyflenwyr ynni i gwsmeriaid sydd mewn dyled – fel arfer ar gyfer eu cwsmeriaid eu hunain er bod gan Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain weithiau’n cynnig grantiau i gwsmeriaid cyflenwyr ynni eraill.

Cyngor ynghylch Ynni

  • Ofgem, Cael help os na allwch fforddio eich biliau ynni
  • Mae Cymru Gynnes yn cynnig cyngor am ddim, yn helpu pobl i ddod o hyd i gymorth a grantiau, er mwyn sicrhau bod gan bobl drwy Gymru gartrefi cynnes a diogel
  • Mae Cyngor Ynni Syml yn darparu cyngor diduedd ac annibynnol i’ch helpu i leihau’ch biliau ynni, gwneud eich cartref yn gynhesach, cynllunio i wella’ch cartref a gwneud eich cartref yn wyrddach.
  • Mae gan National Energy Action wasanaeth cynghori WASH sy’n rhoi cyngor i bobl ynghylch biliau ynni a chadw'n gynnes ac yn ddiogel yn eu cartrefi.

Arbed ynni

Dŵr

Cydraddoldeb a grwpiau sy’n agored i niwed

Gallwch ddarllen ein herthyglau ar effaith y cynnydd mewn costau byw ar ofalwyr di-dâl a gweithwyr gofal cartref a phobl anabl.

Gofalwyr a phobl hŷn

Pobl anabl

Lleiafrifoedd ethnig a chymunedau mudol

Banciau bwyd a thalebau
Iechyd a gofal cymdeithasol

Iechyd meddwl

Mae ein taflen wybodaeth etholaeth yn cynnwys gwybodaeth i helpu Aelodau o’r Senedd a'u staff i ymateb i bryderon etholwyr ynghylch iechyd meddwl, ac i gyfeirio pobl at ffynonellau cymorth perthnasol.

Tai

Gall tenantiaid tai cymdeithasol gysylltu â'r awdurdod lleol neu’r cymdeithasau tai y maent yn rhentu ganddynt i ofyn am gymorth a chefnogaeth. Dylai unrhyw un sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref gysylltu â'u hawdurdod lleol.

Ffynonellau cyngor

Cyngor ynghylch dyledion, cynilion a benthyciadau

Sgamiau a hawliau defnyddwyr

Teithio a thrafnidiaeth

Gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus

Tocynnau teithio rhatach

Tocynnau aml-weithredwr / aml-daith

  • Plusbus: wrth brynu hwn gyda thocyn trên, gellir teithio faint fynnwch chi ar fws neu dram o amgylch trefi a dinasoedd Prydain sy'n cael eu gwasanaethu gan drenau.
  • Tocynnau Ranger a Rover: cewch deithio faint fynnwch chi am ddiwrnod ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru a rhai gwasanaethau bws ar rannau o’u rhwydwaith.
  • Network Rider De-ddwyrain Cymru: Tocyn dydd neu wythnos sy’n ddilys ar wasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan nifer o weithredwyr drwy ardal De-ddwyrain Cymru.
  • 1Bws: gellir prynu hwn ar eich taith gyntaf a bydd yn ddilys am y diwrnod cyfan ar bron pob gwasanaeth bws lleol sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam).

Teithio llesol

Gyrru

Y sector gwirfoddol

Erthygl gan Claire Thomas a Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru