Sut mae costau tanwydd cynyddol yn achosi tlodi tanwydd yng nghartrefi Cymru

Cyhoeddwyd 08/09/2022   |   Amser darllen munudau

Mae prisiau nwy cyfanwerthu wedi cynyddu bedair gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn ôl y rheolydd ynni Ofgem. Mae llawer o aelwydydd yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd i gadw eu cartrefi’n gynnes, a chydag ansicrwydd parhaus o ran y farchnad ynni byd-eang bydd prisiau’n codi eto cyn y gaeaf. Ers 1 Ebrill, mae rhywfaint o’r gost hon wedi’i throsglwyddo i ddefnyddwyr drwy’r cynnydd o 54 y cant hyn yn hyn yn y terfyn uchaf (y ‘cap’) ar brisiau ynni ar gyfer biliau tanwydd cartrefi. Ar 4 Awst, cyhoeddodd y byddai’r terfyn yn cael ei adolygu bob tri mis, yn hytrach na bob chwe mis fel ar hyn o bryd, sy’n golygu bod prisiau’n debygol o godi eto ym mis Ionawr, yn ogystal â’r cynnydd ym mis Hydref.

Mae yna bryder y bydd codiadau mewn prisiau ynni yn arwain at gynnydd sylweddol mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhagweld y gallai hyd at 45 y cant o aelwydydd Cymru (614,000 o aelwydydd) fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y codiad yn y terfyn uchaf o ran prisiau ynni ym mis Ebrill, o gymharu â 14 y cant o aelwydydd (196,000 o aelwydydd) ym mis Hydref 2021.

Beth yw'r terfyn uchaf ar brisiau ynni domestig?

Fel rheoleiddiwr ynni'r DU, mae Ofgem yn sicrhau bod cwmnïau ynni yn codi pris teg yn seiliedig ar wir gost cyflenwi trydan a nwy. Gwna hyn drwy osod pris terfyn uchaf ar dariff diofyn cyflenwyr ynni. Ar hyn o bryd mae'r terfyn yn cael ei adolygu ddwywaith y flwyddyn, a chaiff unrhyw newidiadau eu gweithredu ym mis Ebrill a mis Hydref bob blwyddyn. Mae'r terfyn uchaf hefyd yn helpu i sicrhau bod digon o gyflenwyr ynni yn parhau'n hyfyw i fodloni'r galw. Mae adroddiadau'n nodi bod o leiaf 30 o gyflenwyr ynni wedi mynd i'r wal yn y 12 mis hyd at Ionawr 2022.

Beth yw tlodi tanwydd?

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae aelwyd yn byw mewn tlodi tanwydd os nad yw’n gallu cadw’r cartref yn gynnes am gost resymol. Yng Nghymru, mesurir y bydd aelwyd mewn tlodi tanwydd os oes angen gwario mwy na 10 y cant o’i hincwm er mwyn sicrhau bod yr aelwyd yn cael ei chynhesu yn addas. Os oes rhaid i'r cartref wario 20 y cant o'i incwm ar ynni, yna ystyrir ei fod mewn tlodi tanwydd difrifol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun tlodi tanwydd newydd y llynedd, oedd â’r nod, erbyn 2035:

  • nad oes unrhyw aelwyd yn wynebu tlodi tanwydd difrifol neu barhaus cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol;
  • nad oes mwy na 5 y cant o aelwydydd yn profi tlodi tanwydd ar unrhyw un adeg cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol; a
  • bydd nifer yr holl aelwydydd sydd "mewn perygl" o wynebu tlodi tanwydd wedi mwy na haneru yn seiliedig ar amcangyfrif 2018.

Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud?

Un dull o leihau effaith costau ynni cynyddol yw gwneud cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni. Ers 2011, mae'r Rhaglen Cartrefi Clyd wedi bod yn fecanwaith allweddol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hyn, gan gefnogi aelwydydd sy’n eiddo preifat neu'n cael eu rhentu sy’n profi tlodi tanwydd, neu mewn perygl o hynny. Gall ei llinell gynghori, sef Nyth, hefyd gefnogi fforddiadwyedd cartrefi drwy roi cyngor ar arbed ynni, newid tariff, rheoli arian neu ar hawl i fudd-daliadau, er enghraifft.

Erbyn diwedd mis Mawrth 2021, roedd buddsoddiad o bron £400 miliwn wedi’i ddarparu drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd i wella effeithlonrwydd ynni mwy na 67,000 o gartrefi yng Nghymru. Parhaodd ei chynllun ar sail ardal, sef Arbed, hyd at fis Tachwedd 2021 a bydd ei chynllun ar sail anghenion, sef Nyth, yn parhau hyd at 2023. Disgwylir i raglen i’w disodli ddilyn, wrth aros am ganlyniad ymgynghoriad cyhoeddus.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd becyn o gamau gwerth £330 miliwn i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn costau byw yn ddiweddar, gan gynnwys taliad costau byw untro o £150 i aelwydydd cymwys ym mandiau treth gyngor A i D, neu bobl sy’n cael cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Bydd Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, a oedd yn cynnig taliadau o £200 i gartrefi cymwys, ar gael eto y gaeaf nesaf.

Beth mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud?

Mae mesurau Llywodraeth y DU yn cynnwys y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes a'r rhaglen Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni a ddarperir drwy gyflenwyr ynni. Ym mis Mai fe gyhoeddodd gamau pellach gan gynnwys pecyn cymorth newydd gwerth £15 biliwn y mae’n dweud sy’n dod â chyfanswm y cymorth costau byw yn y DU gyfan i £37 biliwn eleni:

  • Cymorth o 'o leiaf' £1,200 eleni i 'bron pob un'' o’r wyth miliwn o aelwydydd mwyaf agored i niwed ledled y DU, gan gynnwys taliad costau byw untro newydd o £650;
  • Taliadau ychwanegol o £300 i bensiynwyr a £150 i bobl sy'n cael budd-daliadau anabledd; a
  • Chymorth cyffredinol yn cynyddu i £400, wrth i ddisgownt mis Hydref ar filiau ynni gael ei ddyblu a’r gofyniad i’w ad-dalu dros bum mlynedd gael ei ddileu.

Dywedir y bydd Ardoll Elw Ynni dros dro newydd ar gwmnïau olew a nwy yn codi tua £5 biliwn dros y flwyddyn nesaf i helpu gyda chostau byw, a bydd lwfans buddsoddi newydd i annog cwmnïau i fuddsoddi mewn echdynnu olew a nwy yn y DU.

Beth a ganfu’r Pwyllgor?

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol adroddiad ar ei ymchwiliad i Dlodi Tanwydd a Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru ar 18 Mai. Gwnaeth yr adroddiad 23 o argymhellion, ac atebodd Llywodraeth Cymru y rhain ar 7 Gorffennaf. Derbyniodd 21 o’r 23 o argymhellion, gyda’r ddau yn cael eu “derbyn mewn egwyddor”.

Roedd yr adroddiad yn dod i’r casgliad nad oedd graddfa, maint a diben y Rhaglen Cartrefi Clyd yn cyfateb i lefel yr angen yn ein cymunedau. At hynny, roedd ei hamcanion craidd i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yn cael eu tanseilio’n ddifrifol gan agweddau ar ddyluniad y Rhaglen a’r ffordd y cafodd ei darparu. Mae’r adroddiad yn awgrymu y bydd angen mynd i’r afael â’r rhain er mwyn sicrhau ein bod yn trosglwyddo i garbon sero net sy’n deg, yn effeithiol ac yn gyfiawn. Yn benodol, mae’n argymell targedu aelwydydd “a adawyd ar ôl” yn y sector rhentu preifat, a’r eiddo hŷn, nad ydynt yn rhan o’r grid, mewn ardaloedd gwledig sy’n “anoddach eu trin” .

Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth a oedd yn cyfeirio at wrthdaro o ran symud cartrefi i dechnoleg carbon isel heb roi baich ariannol ar y cartrefi a all ei fforddio leiaf. O dan gynlluniau presennol Llywodraeth Cymru, daeth gosod boeleri nwy newydd yn ymyriad rhagosodedig fel y ffordd fwyaf cost-effeithiol o sicrhau bod biliau ynni cartref yn rhatach yn y tymor byr. Ar y llaw arall, ychydig iawn o fuddsoddiad a wnaethpwyd i gartrefi i sicrhau y cânt eu diogelu ar gyfer y dyfodol, fel ynni adnewyddadwy, inswleiddio ac atal drafftiau. Ond yng ngoleuni costau ynni cynyddol, dadleuodd rhanddeiliaid fel y New Economics Foundation fod yr amser ar gyfer datrysiadau rhad wedi'u pweru gan nwy yn dod i ben.

Ymgysylltodd y Pwyllgor hefyd â defnyddwyr, gan gynnwys y rheini a oedd wedi elwa ar gynlluniau Nyth ac Arbed. Roedd y cyfranogwyr yn ymwybodol iawn o’u costau ynni, ac yn ofni y gallai cynnydd pellach mewn prisiau ynni olygu bod yn rhaid iddynt ddewis rhwng gwresogi eu cartrefi a rhoi bwyd ar y bwrdd.

Beth sydd nesaf?

Disgwylir rhagor o wybodaeth am raglen i olynu’r Rhaglen Cartrefi Clyd yn ddiweddarach eleni, fel y nododd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei llythyr diweddar at Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd.

Bydd y Senedd yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y Rhaglen Tlodi Tanwydd a Chartrefi Clyd ar 14 Medi 2022. Gallwch wylio'r ddadl ar Senedd.tv.


Erthygl gan Rhiannon Hardiman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru