Y gost gynyddol o wneud busnes: Beth yw’r materion a pha gymorth sydd ar gael?

Cyhoeddwyd 30/01/2023   |   Amser darllen munudau

Gyda nifer y cwmnïau sy’n mynd yn fethdalwyr ar ei uchaf ers 2009, mae mwy o bryderon wedi bod ynghylch y gost gynyddol o wneud busnes dros y misoedd diwethaf. Mae cwmnïau’n cyfeirio at gynnydd mewn costau ynni, prinder llafur, a phroblemau parhaus yn y gadwyn gyflenwi.

Mae ein herthygl yn egluro beth yw’r sefyllfa bresennol, yn nodi pa gymorth sydd ar gael, ac yn edrych ar ba gymorth ychwanegol y gallai fod ei angen.

Sut mae pwysau costau byw yn effeithio ar fusnesau?

Fel cartrefi, mae busnesau wedi profi costau ynni cynyddol dros y misoedd diwethaf. Cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi’r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni (mwy am hyn yn ddiweddarach yn yr erthygl), nid oedd cap ar brisiau ynni annomestig yn yr un modd ag sydd wedi bod i aelwydydd ers 2019. Dywedodd sefydliadau busnes wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd fod rhai busnesau bach wedi gweld cynnydd blynyddol o 250% mewn biliau nwy cyfartalog dros y flwyddyn ddiwethaf, a bod pryderon penodol ynghylch diwydiannau dwys o ran ynni.

Yn ogystal â phrisiau ynni cynyddol, mae llawer o gyflogwyr wedi wynebu prinder llafur, gan gynnwys busnesau lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth a’r sector gofal cymdeithasol. Soniodd gweithwyr wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am gyflog isel yn y sectorau hyn, diffyg sicrwydd swyddi a theimlo nad oes ganddynt lais ar faterion yn ymwneud â’r gweithle. Dywedodd cyflogwyr eu bod yn wynebu problem recriwtio enbyd a’u bod yn cynyddu cyflog ac yn newid amodau gwaith mewn ymateb i hyn.

Mae materion parhaus gyda chadwyni cyflenwi hefyd wedi creu heriau i fusnesau, gyda chostau tanwydd cynyddol yn arwain at gynnydd mewn costau dosbarthu a lleihau argaeledd cyflenwadau. Mae’r materion hyn wedi effeithio’n arbennig ar fusnesau gwledig.

Effeithir yn benodol ar sectorau a gafodd eu taro galetaf gan y pandemig fel twristiaeth, lletygarwch a rhai busnesau manwerthu yn sgil costau cynyddol o wneud busnes, gan eu bod yn llai abl i amsugno costau ychwanegol a dyled, ac yn dibynnu ar wariant nad yw’n hanfodol. Cafodd rhai gweithgynhyrchwyr eu disgrifio gan Gonffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru fel rhai sy’n cael eu prisio allan o farchnadoedd y maent wedi bod ynddynt ers degawdau oherwydd costau cynyddol a materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi.

Beth ydym ni’n ei wybod am y Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni?

Bydd Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni Llywodraeth y DU yn cefnogi cwsmeriaid ynni annomestig fel busnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus am chwe mis, gan ddarparu cymorth tebyg i’r cap ar brisiau ynni i gartrefi. Bydd yn helpu sefydliadau sydd:

  • ar gontractau pris sefydlog presennol y cytunwyd arnynt ar neu ar ôl 1 Ebrill 2022;
  • yn llofnodi contractau pris sefydlog newydd;
  • allan o gontract;
  • ar gontract tybiedig neu dariff amrywiol; neu
  • ar bryniant hyblyg neu gontractau tebyg

Ni fydd sefydliadau sydd ar gontract pris sefydlog a lofnodwyd cyn 1 Ebrill 2022 yn gymwys i gael cymorth, oherwydd yn ôl Llywodraeth y DU ni fyddant yn gorfod wynebu’r cynnydd diweddar mewn prisiau cyfanwerthu. Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach a Make UK yn pryderu y gallai hyn gael effaith negyddol ar fusnesau a lofnododd gontractau pris sefydlog ar ôl i brisiau ddechrau codi, ond cyn mis Ebrill 2022.

Bydd y cynllun yn gosod pris a gefnogir gan y llywodraeth o £211 yr awr megawat am drydan a £75 yr awr megawat am nwy, sydd, yn ôl Llywodraeth y DU, yn llai na hanner y prisiau cyfanwerthu a ragwelir y gaeaf hwn. Bydd lefel y cymorth ar gyfer pob sefydliad yn amrywio yn dibynnu ar y math o gontract ynni sydd ganddynt a dyddiad y contract hwnnw. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi rhai enghreifftiau darluniadol o sut y bydd hyn yn effeithio ar filiau ynni sefydliadau dros y chwe mis nesaf. Bydd y cymorth yn cael ei ddarparu’n awtomatig i sefydliadau cymwys gan gyflenwyr ynni sy’n gwneud cais am ostyngiadau i'w biliau ynni.

Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd yn adolygu’r cynllun o fewn tri mis i’w gyflwyno er mwyn llywio penderfyniadau ar gymorth yn y dyfodol, a fydd yn cael ei dargedu at y cwsmeriaid annomestig mwyaf bregus.

Pa gymorth arall sydd ar gael i fusnesau?

Os yw busnesau’n cael trafferth talu eu biliau ynni, mae Ofgem yn cynghori iddynt gysylltu â’u cyflenwr cyn gynted â phosibl. Gall busnesau gytuno ar gynlluniau talu, a gallant ofyn am adolygiad o daliadau ac ad-daliadau dyled; seibiannau neu ostyngiadau talu; mwy o amser i dalu; neu fynediad i gronfeydd caledi.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu’r cymorth canlynol i helpu busnesau gyda chostau cynyddol, ac i wella eu heffeithlonrwydd ynni:

  • 50% o ryddhad ardrethi busnes ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn 2022-23, hyd at uchafswm o £110,000 ar draws pob safle busnes. Bydd hyn yn codi i ryddhad o 75 y cant yn 2023-24, eto hyd at uchafswm o £110,000 ar draws pob safle.
  • Mae'r lluosydd ardrethi busnes y mae pob busnes yn ei dalu hefyd wedi cael ei rewi ar gyfer 2023-24. Cyfrifir biliau ardrethi busnes drwy luosi gwerth ardrethol eiddo â’r lluosydd, sef nifer y ceiniogau yn y bunt y mae’n ofynnol i fusnesau eu talu mewn ardrethi busnes, cyn tynnu unrhyw ryddhad y mae’r busnes yn gymwys i’w gael. Mae’r lluosydd fel arfer yn cynyddu yn ôl lefel chwyddiant ym mhob blwyddyn ariannol, ond ni fydd yn cynyddu yn 2023-24;
  • Cynghorwyr effeithlonrwydd adnoddau Busnes Cymru i helpu busnesau i leihau eu defnydd o ynni, dŵr a gwastraff. Gall busnesau gysylltu â nhw ar 03000 6 03000 neu drwy eu ffurflen gyswllt ar-lein; ac
  • Mae Banc Datblygu Cymru wrthi’n datblygu cynllun ar gyfer cefnogi busnesau i ariannu datgarboneiddio, a gellir defnyddio ei gronfeydd ehangach i gefnogi datgarboneiddio.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol i helpu busnesau gyda chostau ynni, ac i ddod yn fwy effeithlon o ran ynni:

  • cymorth i ddiwydiannau dwys o ran ynni gyda’u costau trydan, drwy amrywiaeth o gynlluniau sy’n darparu iawndal neu eithriad rhag costau anuniongyrchol rhai o bolisïau Llywodraeth y DU;
  • tudalen we siop un stop lle gall busnesau gael gwybodaeth am gyllid i’w helpu i ddod yn wyrddach; a
  • Cynllun Uwchraddio Boeleri ar gyfer busnesau bach a chartrefi, sy’n darparu gostyngiadau ar osod boeleri biomas, pympiau gwres ffynhonnell aer a phympiau gwres o’r ddaear.

Beth fydd natur y cymorth y tu hwnt i fis Mawrth 2023?

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni, a fydd yn disodli’r Cynllun Rhyddhad Biliau Ynni, ac a fydd yn weithredol rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024. Bydd y cynllun hwn yn cefnogi busnesau, sefydliadau yn y sector gwirfoddol a sefydliadau yn y sector cyhoeddus:

  • sydd ar gontractau pris sefydlog presennol y cytunwyd arnynt ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022;
  • sy’n llofnodi contractau pris sefydlog newydd;
  • sydd ar dariffau tybiedig/allan o gontract neu dariffau amrywiol safonol;
  • sydd ar bryniant hyblyg neu gontractau tebyg.

Yn awr, bydd defnyddwyr annomestig cymwys yn cael gostyngiadau fesul uned ar eu biliau ynni, hyd at uchafswm penodol. Caiff y gostyngiad ei gyfrifo fel y gwahaniaeth rhwng y pris cyfanwerthol sy'n gysylltiedig â chontract ynni a'r trothwy pris. Caiff y gostyngiad ei gyflwyno’n raddol, pan fydd pris cyfanwerthol y contract yn uwch na’r pris gwaelodol, hyd nes bod cyfanswm y gostyngiad fesul awr megawat yn cyrraedd uchafswm y gostyngiad a ganiateir ar gyfer y tanwydd hwnnw.

Parthed y rhan fwyaf o ddefnyddwyr ynni annomestig ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon, mae uchafsymiau y gostyngiadau a ganiateir wedi’u pennu fel a ganlyn:

  • trydan – £19.61 yr awr megawat (MWh), gyda throthwy pris o £302 yr awr megawat
  • nwy – £6.97 yr awr megawat, gyda throthwy pris o £107 yr awr megawat

Bydd rhagor o gymorth yn cael ei ddarparu i ddiwydiannau dwys o ran ynni. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys y gostyngiadau a ganlyn (ar gyfer 70 y cant o gyfeintiau ynni) a throthwyon pris ar gyfer busnesau cymwys:

  • trydan – £89 yr awr megawat (MWh), gyda throthwy pris o £185 yr awr megawat
  • nwy – £40 yr awr megawat, gyda throthwy pris o £99 yr awr megawat

Bydd yn ofynnol i fusnesau yn y diwydiannau hyn wneud cais am gymorth ychwanegol, a bydd rhagor o fanylion am sut i wneud hyn yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU.

Mae’r cynllun yn darparu llawer llai o gymorth na’r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd, ac mae’r ymateb i’r cynllun hwn wedi bod yn gymysg. Dywedodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain ei bod yn afrealistig meddwl y gallai’r cynllun aros yn fforddiadwy yn ei ffurf bresennol, ac y byddai’r cynllun newydd yn parhau i ddarparu rhyddhad i lawer o fusnesau, yn enwedig mewn sectorau dwys o ran ynni. Fodd bynnag, dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach fod y cynllun yn siom enfawr i fusnesau bach, gan nodi y byddai’r cymorth a ddarperir yn ansylweddol i lawer o gwmnïau.

Gyda nifer yn darogan y bydd y DU yn dioddef dirwasgiad drwy gydol 2023, mae’n debygol y bydd busnesau’n wynebu cyfnod heriol. Bydd yn rhaid aros i weld pa mor effeithiol y bydd y gefnogaeth sydd ar gael y tu hwnt i fis Mawrth o ran helpu’r busnesau hynny i oroesi'r storm.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru