Heddiw, mae miloedd o ddysgwyr ledled Cymru wedi cael eu canlyniadau. Rydym yn edrych ar sut mae’r canlyniadau’n cymharu â blynyddoedd blaenorol a'r darlun ledled y DU. Rydym hefyd yn edrych ar yr hyn sy’n dod nesaf i ddysgwyr a'r system addysg ei hun.
Sut olwg sydd ar y canlyniadau eleni?
|
Data dros dro yw’r data ar ganlyniadau 2026 a gyflwynir yn yr erthygl hon. Mae’r data, a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cymwysterau, yn adlewyrchu'r sefyllfa ar adeg cyhoeddi’r canlyniadau ac efallai y cânt eu diwygio yn sgil gwiriadau pellach. Mae'r data'n cwmpasu cofrestriadau ar gyfer cymwysterau gan ddysgwyr o bob oed. Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth ar y diwrnod am ganlyniadau yng Nghymru, a chyhoeddir dadansoddiad manylach yn ddiweddarach yn yr hydref.
Pa fanylion sydd gennym?
Mae data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau yn dangos y canlynol:
- Mathemateg oedd y pwnc Safon Uwch ac UG mwyaf poblogaidd o hyd.
- O ran Safon Uwch, gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y cofrestriadau yng Nghymru ar gyfer mathemateg (+202, +5.3%), iechyd a gofal cymdeithasol (dyfarniad sengl) (+148, +22.7%), a chemeg (+131, +5.6%). Gwelwyd y gostyngiadau mwyaf mewn cyfrifiadureg (-71, -14.5%), daearyddiaeth (-50, -4.7%), a'r gyfraith (-47, -6.6%).
- O ran Safon UG, gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y cofrestriadau yng Nghymru ar gyfer seicoleg (+380, +13.4%), mathemateg (+277, +5.8%), a chymdeithaseg (+260, +16.3%). Gwelwyd y gostyngiadau mwyaf mewn cemeg (-87, -2.5%), iechyd a gofal cymdeithasol (dyfarniad sengl) (-69, -6.8%), a llenyddiaeth Saesneg a iaith a llenyddiaeth Saesneg, a oedd yn gyfartal ar -51 yr un (-3.0% a -5.9% yn y drefn honno).
- Roedd cynnydd o tua 42% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer Safon Uwch Cymraeg iaith gyntaf, o 185 yn 2025 i 262 yn 2026.
- O ran Safon Uwch, roedd bwlch bach yn y gyfradd basio gyffredinol ar gyfer dysgwyr gwrywaidd a dysgwyr benywaidd, gyda 97.0% o ddysgwyr gwrywaidd a 98.2% o ddysgwyr benywaidd yn pasio gyda graddau A* i E. Yn unol â’r duedd y blynyddoedd blaenorol, gwnaeth dysgwyr benywaidd yn well na dysgwyr gwrywaidd ar bob pwynt gradd heblaw A*, lle gwnaeth dysgwyr gwrywaidd 1.8 pwynt canran yn well na dysgwyr benywaidd. Ers 2019, mae dysgwyr gwrywaidd wedi gwneud yn well na dysgwyr benywaidd yn gyffredinol o ran graddau A*. Roedd 2021, pan oedd y graddau’n cael eu pennu gan y ganolfan, yn eithriad.
- O ran Safon UG, gwnaeth dysgwyr benywaidd 2.2 pwynt canran yn well na dysgwyr gwrywaidd o ran graddau A-E a 5.4 pwynt canran o ran graddau A-C. Fodd bynnag, gwnaeth dysgwyr gwrywaidd 0.2 pwynt canran yn well na dysgwyr benywaidd o ran graddau A, sy'n wahanol i’r duedd.
Nid yw’r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi’r darlun cyfan. Bydd data mwy manwl ar wahaniaethau rhwng grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys manylion yn ôl ethnigrwydd, statws ADY ac awdurdod lleol, yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn. Ni chyhoeddir data fel mater o drefn ar ddysgwyr Safon Uwch sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, yn wahanol i ddysgwyr TGAU, lle mae digonedd o wybodaeth am y bylchau o ran cyrhaeddiad.
Sut mae’r canlyniadau eleni yn cymharu â blynyddoedd blaenorol?
Mae’r canlyniadau eleni yn cyd-fynd yn fras â chanlyniadau 2025, 2024, a lefelau 2019, cyn y pandemig.
- Cafodd 97.7% o ddysgwyr Safon Uwch raddau A* i E, 0.2 pwynt canran yn uwch nag yn 2025, 0.3 pwynt canran yn uwch nag yn 2024, a 0.1 pwynt canran yn uwch nag yn 2019.
- Cafodd 90.7% o ddysgwyr UG raddau A i E, 0.2 pwynt canran yn is nag yn 2025, 0.5 pwynt canran yn uwch nag yn 2024, a 0.6 pwynt canran yn uwch nag yn 2019.
- Cafodd 97.4% o ddysgwyr BSC Uwch raddau A* i E, 1.4 pwynt canran yn uwch nag yn 2025. Dyma'r ail haf i'r cymhwyster hwn gael ei ddyfarnu. Roedd y dyfarniadau ar bob pwynt gradd yn uwch nag yn 2025.
Ffigur 1. Canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru rhwng 2018 a 2026 (canran o’r holl raddau a ddyfarnwyd). Pob ymgeisydd.
Ffynhonnell: y Cyd-gyngor Cymwysterau. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu canlyniadau â 2020 (graddau wedi’u dyfarnu gan y ganolfan), 2021 (graddau wedi’u pennu gan y ganolfan), a 2022 a 2023 (blynyddoedd pontio).
Ffigur 2. Canlyniadau UG yng Nghymru rhwng 2018 a 2026 (canran o’r holl raddau a ddyfarnwyd). Pob ymgeisydd.
Ffynhonnell: y Cyd-gyngor Cymwysterau. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu canlyniadau â 2020 (graddau wedi’u dyfarnu gan y ganolfan), 2021 (graddau wedi’u pennu gan y ganolfan), a 2022 a 2023 (blynyddoedd pontio).
Cymharu â blynyddoedd y pandemig
Wrth ddehongli'r data uchod, dylid trin cymariaethau â chanlyniadau rhwng 2020 a 2023 yn ofalus. Roedd cymwysterau a ddyfarnwyd yn ystod y blynyddoedd hyn yn destun trefniadau asesu gwahanol a throsiannol o ganlyniad i bandemig COVID-19. O’r herwydd, nid oes modd cymharu canlyniadau’r blynyddoedd hynny yn uniongyrchol â chanlyniadau a ddyfarnwyd o dan y trefniadau asesu presennol.
Mae'r ffeithlun isod yn crynhoi'r newidiadau i’r trefniadau asesu rhwng 2020 a 2024.
A oes modd cymharu canlyniadau eleni â chanlyniadau Lloegr a Gogledd Iwerddon?
Mae angen bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau, ond mae'r prif ffigurau ar gyfer Safon Uwch ac UG a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau yn ein galluogi i wneud cymariaethau bras rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae'r tabl isod yn dangos y prif ganlyniadau Safon Uwch ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2026, gyda ffigurau 2025 mewn cromfachau. Mae cymwysterau'n cael eu rheoleiddio ar wahân ym mhob un o’r gwledydd ac mae rhai o’r trefniadau asesu’n wahanol. Er enghraifft, mae graddau UG yn cyfrannu at y radd Safon Uwch derfynol yng Nghymru, ond nid felly yn Lloegr. Nid yw'r Alban wedi'i chynnwys gan nad oes modd gwneud cymhariaeth uniongyrchol â’r system gymwysterau yno.
Tabl 1. Canlyniadau Safon Uwch dros dro yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, 2026 (ffigurau 2025 mewn cromfachau). Ffynhonnell: y Cyd-gyngor Cymwysterau.
|
Canlyniadau Safon Uwch |
A* to A (%) |
A* to C (%) |
A* to E (%) |
|
Cymru |
29.6 (29.5) |
77.6 (77.2) |
97.7 (97.5) |
|
Lloegr |
28.3 (28.2) |
78.1 (77.0) |
97.5 (97.7) |
|
Gogledd Iwerddon |
30.7 (30.4) |
86.9 (85.8) |
98.9 (98.7) |
Eleni, am y tro cyntaf, mae’r Cyd-gyngor Cymwysterau wedi cyhoeddi canlyniadau ar ddangosfwrdd rhyngweithiol.
Beth nesaf i ddysgwyr?
Mae diwrnod y canlyniadau yn dal i fod yn garreg filltir bersonol i ddysgwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau am leoedd mewn prifysgolion, prentisiaethau a chyflogaeth.
Mae cymorth ac arweiniad i ddysgwyr ar gael o amryw o ffynonellau:
- Nod Gwarant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pob person ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru yn gallu cael addysg neu hyfforddiant, neu gael gwaith neu ddod yn hunangyflogedig. Cymru'n Gweithio yw’r prif borth ar gyfer cael cymorth.
- Mae gwasanaeth clirio UCAS yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr sy'n gwneud cais ar gyfer addysg uwch nad ydynt wedi cael lle yn eu dewis sefydliad, sydd wedi newid eu cynlluniau, neu sydd wedi cael canlyniadau gwahanol i'r disgwyl.
- Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn rhoi gwybodaeth am y cyllid sydd ar gael i ddysgwyr cymwys sy'n dechrau addysg bellach ac uwch. Rydym ninnau hefyd wedi cyhoeddi amryw o ganllawiau ar gyllid myfyrwyr, sy’n rhoi gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i ddysgwyr o Gymru.
- Mae gan Gyrfa Cymru wybodaeth i bobl ifanc, rhieni neu ofalwyr. Mae sawl ffordd o gysylltu â nhw i drafod opsiynau ar ôl gadael yr ysgol neu’r coleg, gan gynnwys apwyntiadau wyneb yn wyneb neu sgyrsiau ar-lein.
Dylai dysgwyr sy'n meddwl efallai fod camgymeriad wedi’i wneud wrth farcio neu weinyddu eu canlyniadau siarad â'u hysgol neu goleg. Gall ysgolion a cholegau ofyn am adolygiad o’r canlyniadau drwy'r corff dyfarnu lle bo hynny’n briodol.
Beth nesaf i lunwyr polisi?
Un dangosydd yw canlyniadau Safon Uwch ar gyfer sut mae system addysg Cymru yn cefnogi cynnydd dysgwyr, ynghyd â materion fel presenoldeb, ymddygiad a llesiant. Mae llunwyr polisi yn debygol o fonitro cyrchfannau dysgwyr, gan gynnwys symud i addysg bellach neu addysg uwch, prentisiaethau, cyflogaeth a hyfforddiant.
Er bod annog cyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 drwy fentrau fel y Warant Pobl Ifanc wedi bod yn nod hirsefydlog i Lywodraethau Cymru yn y gorffennol, mae’r data'n dangos nad oedd 17% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2025. Yn ôl adolygiad ledled y DU sy’n mynd rhagddo o gyfraddau pobl ifanc sy'n NEET, mae hyn yn her sy’n ymwneud â chenhedlaeth gyfan.
Mae'n debyg y bydd yr hyn sy'n digwydd ar ddiwrnod y canlyniadau hefyd yn llywio dadleuon parhaus ynghylch yr heriau sylweddol o ran polisi addysg a chymwysterau ôl-16 yng Nghymru. Ymhlith yr heriau hynny mae’r pwysau ariannol y mae prifysgolion yn eu hwynebu a benthyciadau myfyrwyr. Bydd canlyniadau eleni yn cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth a ddefnyddir i asesu cyfranogiad, cynnydd a chyrhaeddiad ledled Cymru.
Byddwn yn cyhoeddi erthygl ar ganlyniadau TGAU pan gânt eu cyhoeddi ddydd Iau 20 Awst 2026.
Erthygl gan Dr Nyle Bevan-Clark, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru