Mae nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) wedi bod yn bwnc pwysig ar yr agenda wleidyddol dros y misoedd diwethaf. Mae pob rhif yn cynrychioli bywyd a dyfodol person ifanc.
Mae pobl ifanc yn wynebu amrywiaeth o rwystrau cymhleth a chydgysylltiedig i gael mynediad at addysg a’r gweithle. Cyn y ddadl y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher ar bobl ifanc a chyflogaeth, mae'r erthygl hon yn trafod yr heriau hyn, y cymorth sydd ar gael gan lywodraethau i fynd i'r afael â nhw, a'r newidiadau sydd eu hangen i wella canlyniadau i bobl ifanc.
Pobl ifanc a’r farchnad lafur yng Nghymru
Mae tri phrif ffynhonnnell data wedi’u cyhoeddi ar bobl ifanc sy’n NEET. Y datganiad ystadegol cyntaf (SFR), yr arolwg poblogaeth blynyddol (APS), a hynt disgyblion ar ôl gadael yr ysgol. Yn ôl Llywodraeth Cymru, yr SFR yw’r “ffynhonnell ystadegol ddiffiniadol” ar gyfer amcangyfrifon o bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant; a chaiff ei gyhoeddi’n flynyddol. Mae’r APS yn amcangyfrif blynyddol treigl sy’n cael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn. Mae Gyrfa Cymru yn cynnal arolwg blynyddol o bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol ym mis Hydref; defnyddir y data hwn i gyfrifo cyfran y bobl ifanc sy'n NEET. Ni ddylid cymharu'r gwahanol ffynonellau data.
Mae ystadegau'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn amcangyfrif bod cyfran y bobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru oedd yn NEET yn 17% yn y flwyddyn a ddaeth i ben fis Rhagfyr 2025; sef cynnydd o 5.5 pwynt canran dros y flwyddyn flaenorol. Mae mwy o ansicrwydd ynghylch amcangyfrifon o'r APS.
Mae'r graff isod yn dangos data'r Datganiad Ystadegol Cyntaf (SFR) ar gyfran y bobl ifanc oedd yn NEET a ph’un a oeddent yn ddi-waith (wrthi’n chwilio am waith ac ar gael i ddechrau gweithio) neu'n economaidd anweithgar (ddim yn chwilio am waith a ddim ar gael i ddechrau gweithio).
Gan ddefnyddio’r mesur SFR, yn 2024, roedd cyfran y bobl ifanc 16-24 oed oedd yn NEET yn 13.7%, sef 47,100 o bobl ifanc. O'r rhai oedd yn NEET, roedd 14,300 yn ddi-waith ac roedd 32,800 yn economaidd anweithgar. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae pobl ifanc yng Nghymru sy'n NEET wedi bod yn llawer mwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar na phobl ddi-waith.

Ffynhonnell: StatsCymru, Amcangyfrif o unigolion 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth yn ôl gweithgarwch economaidd a grwpiau oedran
Gall bod yn NEET, yn enwedig am amser hir, gael effeithiau niweidiol parhaol ar berson ifanc. Yn ôl ymchwil diweddar gan academyddion yng Ngholeg Prifysgol Llundain mae person canol oed sydd a oedd yn barhaus allan o gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant fel person ifanc:
- Chwe gwaith yn fwy tebygol o fod allan o waith na rhywun nad oedd erioed allan o gyflogaeth, addysg na hyfforddiant fel person ifanc; a
- Thair gwaith yn fwy tebygol o fod mewn iechyd gwael na rhywun nad oedd erioed allan o gyflogaeth, addysg na hyfforddiant fel person ifanc.
Mae'r heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yng Nghymru yn debyg i'r rhai ledled y DU. Mae’r adroddiad interim i Lywodraeth y DU ar bobl ifanc a gwaith gan Alan Milburn (adolygiad Milburn) yn tynnu sylw at y ffaith bod pobl ifanc ledled y DU sy'n NEET yn cael eu datgysylltu o'r farchnad lafur, ac nad ydyn nhw'n chwilio am waith.
Y newid mawr a nodwyd yn adolygiad Milburn yw'r cynnydd sylweddol dros y degawd diwethaf yng nghyfran y bobl sy'n NEET oherwydd cyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio. Dros yr un cyfnod, mae canran y bobl ifanc yn y DU sy'n NEET wedi mynd o fod tua'r cyfartaledd Ewropeaidd i fod yn uwch na holl Aelod-wladwriaethau'r UE ac eithrio Rwmania.
Mae Adolygiad Milburn hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai grwpiau o bobl ifanc yn arbennig o debygol o fod yn NEET – y rhai sy'n gadael gofal, gofalwyr, mamau ifanc, a throseddwyr ifanc. Mae'n dweud bod gwasanaethau’n methu’r grwpiau hyn yn ystod cyfnodau pontio gan y gwasanaethau sydd i fod i'w cefnogi i mewn i'r farchnad lafur.
Y cymorth sydd ar gael i helpu pobl ifanc i mewn i waith
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i bobl ifanc sy’n NEET. Mae Llywodraeth y DU yn darparu cymorth drwy ganolfannau gwaith, ac mae hefyd wedi datblygu amrywiaeth o fentrau sy'n gweithredu yng Nghymru:
- Mae’r Grant Swyddi Pobl Ifanc yn cynnig grant o £3,000 i gyflogwyr i gyflogi person ifanc cymwys rhwng 18 a 24 oed am 16 wythnos neu fwy.
- Mae’r gwasanaeth Cysylltu â’r Gwaith yn cefnogi pobl anabl, yn ogystal â'r rhai sydd â rhwystrau iechyd neu rwystrau cymhleth nad ydynt yn gysylltiedig ag iechyd i weithio.
- Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ariannu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu Cynllun Anweithgarwch Economaidd, sy'n gweithredu ym Mlaenau Gwent, Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot.
- Bydd Gwarant Swyddi Llywodraeth y DU yn ariannu swyddi â thâl am chwe mis yn llawn i bobl 18-24 oed sydd wedi bod ar Gredyd Cynhwysol ac yn chwilio am waith ers 18 mis. Mae Cam 1 y warant ar waith yn ne-ddwyrain a de-orllewin Cymru, a bydd y warant yn cael ei chyflwyno'n llawn ledled Prydain Fawr yn ddiweddarach eleni.
Lansiodd Llywodraeth flaenorol Cymru y Warant i Bobl Ifanc (YPG) i ddarparu cymorth i bawb rhwng 16 a 24 oed, sy’n byw yng Nghymru, i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu i ddod yn hunangyflogedig. Ei nod yw atal pobl ifanc rhag dod yn NEET. Mae’r Warant yn cwmpasu nifer o becynnau cymorth, gan gynnwys:
- Twf Swyddi Cymru+, sydd â’r nod o helpu pobl ifanc 16-19 oed i gael sgiliau, y cymwysterau a’r profiad i gael swydd neu hyfforddiant pellach;
- ReAct+, cyllid ar gyfer pobl dros 20 oed sydd wedi colli eu swydd yn ddiweddar neu sydd mewn perygl o golli eu swydd;
- Cymunedau am Waith a mwy, sy’n darparu cymorth cyflogaeth arbenigol i bobl ifanc sy'n NEET ac sydd â rhwystr cymhleth i gyflogaeth neu'r rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer rhaglenni eraill.
Ym mis Chwefror, y dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol ar y pryd, er ei fod yn teimlo bod y Warant i Bobl Ifanc wedi bod yn llwyddiannus, cafodd ei sefydlu yn ystod pandemig COVID, pan oedd disgwyl i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio mwy ar ddiweithdra ymhlith pobl ifanc nag anweithgarwch economaidd. Y llynedd, canfu gwerthusiad o'r Warant i Bobl Ifanc fod angen strategaethau newydd i gyrraedd ac ymgysylltu â phobl ifanc sydd “wedi ymddieithrio'n fwyfwy o EET ac oddi wrth wasanaethau cymorth”.
Ymateb i’r her
Dywedodd y Prif Weinidog fis diwethaf fod “fe ddylem ni i gyd fod yn bryderus iawn am y gyfradd uchel a welwn ni o NEETs”. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnull uwchgynhadledd sgiliau yn y dyfodol i ddatblygu strategaeth sgiliau “un nad yw'n derbyn NEETs fel rhan anochel o'r dirwedd”. Dywedodd y Prif Weinidog hefyd fod Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth drwy fuddsoddi mewn prentisiaethau ac archwilio ehangu prentisiaethau iau.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n dod o’r Ganolfan Byd Gwaith i Gymru. Mae wedi dechrau'r broses hon drwy drosglwyddo cyllid i Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynlluniau peilot ‘Trailblazer’ Anweithgarwch Economaidd.
Bydd cyllid pellach yn cael ei drosglwyddo ar gyfer dylunio a darparu Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd. Cynlluniwyd y Rhaglen gan Lywodraeth flaenorol Cymru i ddisodli'r cymorth presennol o fis Mawrth 2027, ac mae’r broses gaffael yn parhau i fynd rhagddi. Y ffocws cychwynnol fydd ar bobl ifanc 16-24 oed sy'n NEET.
Mae adolygiad Milburn yn rhybuddio ein bod mewn perygl o gael cenhedlaeth goll, gyda’r contract cymdeithasol y mae pob cenhedlaeth yn gallu ei wneud yn well na’r un olaf yn cael ei dorri. Bydd y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymateb i hyn yn hollbwysig wrth lunio cyfleoedd a dyfodol pobl ifanc.
Erthygl gan Gareth Thomas a Lucy Yarham, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru