TBC

TBC

Canllawiau i etholwyr

Cyhoeddwyd 20/07/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/07/2026   |   Amser darllen munudau

Mae ein canllawiau i etholwyr yn ymdrin ag ystod o feysydd polisi allweddol. Maent yn nodi sut y gall y meysydd polisi weithio'n ymarferol yn helpu i ateb cwestiynau cyffredin etholwyr, ac yn dangos y ffordd at gyngor a chymorth ariannol.

Adeiladau cymunedol, mannau addoli a grwpiau ffydd.

Mae'r canllaw cyllid hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth ariannol sydd ar gael i sefydliadau a grwpiau at ddibenion adeiladu, datblygu, a chynnal a chadw adeiladau cymunedol a mannau addoli. Mae'r canllaw hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth ariannol sydd ar gael i grwpiau ffydd.

Adeiladau cymunedol, mannau addoli a grwpiau ffydd: Canllaw i etholwyr

Busnesau bach

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth posibl sydd ar gael i fusnesau bach newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli.

Cyhoeddiad newydd: Busnesau bach – canllaw i etholwyr

Cymorth i’r Celfyddydau

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gymorth ariannol sy’n ymwneud â’r celfyddydau.

Cyhoeddiad newydd: Cymorth i’r Celfyddydau - canllaw i etholwyr

Cludiant rhwng y cartref a'r ysgol

Mae'r papur hwn yn crynhoi'r sefyllfa gyfreithiol gyfredol o ran dyletswyddau awdurdodau lleol i ddarparu cludiant ysgol am ddim i ddisgyblion. Mae hefyd yn ceisio ateb rhai cwestiynau cyffredin sy’n ymwneud â chludiant i ddysgwyr.

Cyhoeddiad newydd: Cludiant rhwng y cartref a'r ysgol – canllaw i etholwyr

Cynigion trefniadaeth ysgolion

Mae'r papur hwn yn crynhoi'r broses y mae awdurdodau lleol a chyrff perthnasol eraill yn ei dilyn er mwyn ad-drefnu darpariaeth ysgolion, er enghraifft pan fyddant yn dymuno cau neu uno ysgolion.

Cyhoeddiad newydd: Cynigion trefniadaeth ysgolion – canllaw i etholwyr

Derbyniadau i Ysgolion

Mae’r briff hwn yn rhoi ychydig o wybodaeth gefndirol am y broses derbyn i ysgolion ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ac yn ateb rhai cwestiynau cyffredin.

Derbyniadau i Ysgolion - canllaw i etholwyr

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae’r papur briffio hwn yn rhoi trosolwg o’r system ar gyfer diwallu ‘Anghenion Dysgu Ychwanegol’ (ADY) dysgwyr rhwng 0 a 25 mlwydd oed yng Nghymru.

Anghenion Dysgu Ychwanegol - canllaw i etholwyr

Gwasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru

Mae’r papur briffo hwn yn rhoi gwybodaeth a data am wasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru

Mae’r papur briffo hwn yn rhoi gwybodaeth a data am wasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru

Cyngor Cyfreithiol

Mae'r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau o gyngor cyfreithiol sydd ar gael i etholwyr sy'n ceisio cymorth neu gefnogaeth gydag amrywiaeth o faterion cyfreithiol.

Cyhoeddiad newydd: Cyngor Cyfreithiol – canllaw i etholwyr

Cymorth i bobl anabl

Mae'r Canllaw Etholaethol hwn yn cyfeirio at ffynonellau cymorth i bobl anabl. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gymorth cyflogaeth, cyngor ariannol a ffynonellau eraill o gyngor a chymorth.

Cymorth i bobl anabl: Canllaw i etholwyr

Cymhorthion ac addasiadau yn y cartref

Mae’r canllaw hwn i etholwyr yn rhoi trosolwg o’r cymorth sydd ar gael i bobl yng Nghymru y mae angen addasiadau yn y cartref arnynt neu offer i’w helpu i fyw’n annibynnol.

Cymhorthion ac addasiadau yn y cartref: Canllaw i etholwyr

Talu am wasanaethau gofal a chymorth (gofal cymdeithasol i oedolion)

Mae’r canllaw hwn ar gyfer etholwyr yn mynd â chi drwy'r broses ar gyfer penderfynu pryd y dylai pobl dalu am wasanaethau gofal cymdeithasol a faint y dylent ei dalu. Mae hefyd yn cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth a chefnogaeth a allai fod yn ddefnyddiol.

Talu am wasanaethau gofal a chymorth (gofal cymdeithasol i oedolion): Canllaw i etholwyr

Cael mynediad at wasanaethau gofal a chymorth (gofal cymdeithasol i oedolion)

Bydd y canllaw hwn yn eich tywys drwy'r broses gychwynnol, a bydd hefyd yn amlinellu eich hawliau chi a chyfrifoldebau awdurdodau lleol. Yn ogystal, bydd yn cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth a chefnogaeth a allai fod yn ddefnyddio.

Cael mynediad at wasanaethau gofal a chymorth (gofal cymdeithasol i oedolion): Canllaw i etholwyr

Gwneud cwyn am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru

Mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o sut i wneud cwyn am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae hefyd yn cyfeirio at ffynonellau defnyddiol eraill o wybodaeth a chymorth.

Gwneud cwyn am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru: Canllaw i etholwyr

Cymorth iechyd meddwl

Bwriad yr erthygl hon yw cynnig help llaw i Aelodau o’r Senedd a'u staff i ymateb i bryderon etholwyr ynghylch iechyd meddwl, a chyfeirio pobl at ffynonellau cymorth perthnasol.

Cymorth iechyd meddwl – taflen wybodaeth etholaeth

Prosiectau amgylcheddol a chyllid: Canllaw i Etholwyr

Mae'r canllaw hwn yn cyfeirio at gefnogaeth a gwybodaeth i etholwyr sydd â diddordeb mewn prosiectau amgylcheddol. Mae'n rhestru ffynonellau cymorth ariannol sy'n ymwneud â newid hinsawdd, ynni, dŵr, datblygu gwledig a gweithredu ar natur yng Nghymru.

Prosiectau amgylcheddol a chyllid: Canllaw i Etholwyr

Digartrefedd, troi allan ac adfeddu: Canllaw i Etholwyr

Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am hawliau tai sylfaenol yng Nghymru a ble i droi i gael cymorth. Mae’n cyfeirio at ffynonellau cymorth sydd ar gael i etholwyr sy’n wynebu digartrefedd, cael eu troi allan o dai rhent, neu’n wynebu adfeddu cartref â morgais.

Homelessness, eviction and repossession: A guide for constituents

Gwaith atgyweirio ac amodau mewn cartrefi rhent: Canllaw i etholwyr

Mae'r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth i etholwyr sy'n ceisio ymdopi ag amodau gwael neu broblemau o ran diffyg gwaith atgyweirio mewn cartrefi rhent preifat neu gymdeithasol.

Gwaith atgyweirio ac amodau mewn cartrefi rhent: Canllaw i etholwyr

Cymorth i aelwydydd â biliau ynni a thlodi tanwydd: Canllaw i etholwyr

Mae’r canllaw hwn yn cyfeirio at ffynonellau cymorth i aelwydydd sy’n wynebu heriau o ran biliau ynni a/neu dlodi tanwydd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am grantiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a chymorth ehangach; cymorth a ddarperir gan gyflenwyr ynni a dŵr; cynlluniau effeithlonrwydd ynni; a ffynonellau eraill o gyngor a chymorth.

Cymorth i aelwydydd â biliau ynni a thlodi tanwydd: Canllaw i etholwyr

Cefnogaeth wrth ymateb i achosion o gam-drin domestig: Canllaw i etholwyr

Nod y daflen ffeithiau hon yw cynorthwyo Aelodau o’r Senedd a’u staff i ymateb i bryderon etholwyr ynghylch cam-drin domestig a chyfeirio pobl at ffynonellau perthnasol o gymorth yng Nghymru. Caiff y wybodaeth hon ei darparu i gefnogi gwaith achos ac atgyfeirio yn yr etholaeth. Nid y bwriad yw dibynnu arni fel cyngor cyfreithiol na chyngor proffesiynol.

Cefnogaeth wrth ymateb i achosion o gam-drin domestig: Canllaw i etholwyr

Cymorth ariannol i fyfyrwyr israddedig mewn addysg uwch 2026/27: Canllaw i etholwyr

Mae'r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n bwriadu astudio cwrs addysg uwch israddedig amser llawn neu ran-amser yn 2026/27. Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.

Gall cymorth ariannol myfyrwyr helpu gyda ffioedd dysgu a chostau byw. 

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn asesu eich cymhwysedd am gyllid, ac mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gwneud taliadau ar ffurf grantiau neu fenthyciadau i chi (ar gyfer costau byw) neu i’ch darparwr (ar gyfer ffioedd dysgu).

Mae’r rheolau ynghylch cymorth ariannol myfyrwyr yn gymhleth, ac mae llawer o eithriadau ac amgylchiadau arbennig. Byddwch yn gweld bod yr ymadrodd ‘fel arfer’ yn cael ei ddefnyddio’n aml yn y canllaw hwn. Y rheswm am hyn yw mai canllaw cyffredinol yw’r ddogfen hon, ac nid yw’n cwmpasu pob posibilrwydd o ran amgylchiadau neu hawliau.

Efallai na fyddwch yn gymwys i gael pob math o gymorth yn y canllaw hwn, neu’r uchafsymiau a ddangosir, gan ddibynnu ar amgylchiadau eich aelwyd a’ch man astudio.

Mae gan Ymchwil y Senedd ganllaw ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr ôl-raddedig ac i fyfyrwyr mewn addysg bellach.

Ymwadiad: Mae pobl yn holi Ymchwil y Senedd yn rheolaidd ynghylch cyllid myfyrwyr ac mae’r canllaw hwn yn nodi gwybodaeth am rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin. Ni fwriedir iddo fod yn ganllaw cynhwysfawr a dylech bob amser ofyn am gyngor gan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu weithiwr proffesiynol cymwysedig sydd wedi’i deilwra i’ch sefyllfa unigol.

Ni all Ymchwil y Senedd roi cyngor ar achosion nac amgylchiadau unigol. I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cymorth ariannol i fyfyrwyr israddedig mewn addysg uwch 2026/27: Canllaw i etholwyr

Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig mewn addysg uwch 2026/27: Canllaw i etholwyr

Bwriad y canllaw hwn yw helpu dysgwyr ôl-raddedig i ddeall pa gymorth ariannol a allai fod ar gael i’w helpu i astudio cwrs addysg uwch.

Yn wahanol i gymorth ariannol israddedig, pan fo’r cymorth yn cael ei rannu rhwng help gyda’ch ffioedd dysgu a help gyda’ch costau byw, fel myfyriwr cwrs Meistr neu Ddoethuriaeth byddwch yn cael un swm o arian a chi sy’n dewis sut i’w ddefnyddio.

Mae’r rheolau ynghylch cymorth ariannol myfyrwyr yn gymhleth iawn, ac mae llawer o eithriadau ac amgylchiadau arbennig. Byddwch yn gweld bod ‘fel arfer’ yn cael ei ddefnyddio’n aml yn y canllaw hwn. Y rheswm am hyn yw bod y ddogfen hon i fod yn ganllaw cyffredinol ac nid yw’n cwmpasu pob amgylchiad neu hawl.

Mae cymorth ariannol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n astudio cwrs Meistr neu Ddoethuriaeth. Mae’r cymorth hwn ar gael ar gyfer cyrsiau amser llawn a rhan-amser.

Mae gan Ymchwil y Senedd ganllaw ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr israddedig ac i fyfyrwyr mewn addysg bellach.

Ymwadiad: Mae pobl yn holi Ymchwil y Senedd yn rheolaidd ynghylch cyllid myfyrwyr ac mae’r canllaw hwn yn nodi gwybodaeth am rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin. Ni fwriedir iddo fod yn ganllaw cynhwysfawr a dylech bob amser ofyn am gyngor gan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu weithiwr proffesiynol cymwysedig sydd wedi’i deilwra i’ch sefyllfa unigol.

Ni all Ymchwil y Senedd roi cyngor ar achosion nac amgylchiadau unigol. I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth, cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr Cymru.

Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig mewn addysg uwch 2026/27: Canllaw i etholwyr

Cymorth ariannol i fyfyrwyr mewn Addysg Bellach: Canllaw i etholwyr

Mae gwahanol fathau o gymorth ariannol y gallai myfyrwyr fod yn gymwys i'w cael ar gyrsiau Addysg Bellach amser llawn neu ran-amser yng Nghymru. Mae addysg bellach yn aml ar gyfer y rhai 16-18 oed, er y gall oedolion astudio hefyd; fel arfer caiff ei gyflwyno trwy golegau lleol a chweched dosbarth ysgolion.

Canllaw cyffredinol i'r hyn sydd ar gael yw'r erthygl hon ac nid yw'n cwmpasu sefyllfa pawb.Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan bob chweched dosbarth neu goleg unigol, a chan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cymorth ariannol i fyfyrwyr mewn Addysg Bellach: Canllaw i etholwyr


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru