Wales landscape

Wales landscape

Beth nesaf? Y materion o bwys ar gyfer y Chweched Senedd

Cyhoeddwyd 11/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Heddiw, rydym yn cyhoeddi casgliad o erthyglau sy’n archwilio rhai o’r materion o bwys y mae Aelodau o’r Senedd yn debygol o fod yn eu trafod yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae’r casgliadBeth nesaf? Y materion o bwys ar gyfer y Chweched Senedd wedi’i baratoi’n benodol ar gyfer Aelodau o’r Senedd, ond mae’n fan cychwyn gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn clywed rhagor am yr heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n wynebu Cymru, yn ogystal â’r heriau o ran materion polisi cyhoeddus.

Mae’r casgliad ar gael fel dogfen unigol heddiw, a byddwn hefyd yn cyhoeddi’r erthyglau fesul un yn ystod yr wythnosau nesaf, ynghyd â’n cyhoeddiadau amserol a diduedd arferol.

Mae’r casgliad yn dechrau drwy edrych ar sefyllfa’r pandemig yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys yr heriau uniongyrchol sy’n wynebu Llywodraeth newydd Cymru, yn ogystal â’r effeithiau yn y tymor hwy. Mae’r erthygl nesaf yn trafod dyfodol Cymru ar ôl Brexit. Awn ymlaen i drafod materion eraill sy’n eang eu heffaith, fel cydraddoldeb, y chwyldro digidol, a’r cyfryngau.

Yn y bennod ar iechyd a gofal cymdeithasol, rydym yn gofyn a allai’r pandemig fod yn gatalydd ar gyfer newid yn y sector gofal cymdeithasol. Mae iechyd meddwl hefyd yn achosi pryderon difrifol a chynyddol, ac mae ein herthygl ar y pwnc hwn yn edrych ar fynediad at wasanaethau a’r angen am ffocws mwy eang a strategol. Wedyn, rydym yn craffu ar y data ynghylch amseroedd aros ysbytai a‘r holl waith gofal iechyd ‘arferol’ sydd wedi cronni oherwydd y pandemig COVID-19.

Mae’r bennod ar yr economi a busnes yn dechrau drwy roi trosolwg o’r opsiynau ar gyfer adferiad economaidd, a hynny gan edrych ar swyddi a chymorth i fusnesau. Mae’r erthygl nesaf yn ymchwilio’n benodol i rai o’r sectorau sydd wedi wynebu’r ergyd fwyaf, sef manwerthu dianghenraid, lletygarwch, hamdden, twristiaeth a diwylliant. Wedyn, awn ymlaen i drafod tlodi ac aelwydydd incwm isel, a pha arfau sydd gan Lywodraeth nesaf Cymru i gefnogi’r bobl y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt fwyaf.

Mae’r bennod ar gymunedau yn dechrau drwy ddadansoddi a yw’n bosibl cyflawni’r amcan anferth o roi terfyn ar ddigartrefedd. Mae’n mynd ymlaen i drafod trafnidiaeth gyhoeddus, gan ystyried yr angen i gefnogi gwasanaethau bws a’r rheilffyrdd i’w helpu i adfer. Mae’r erthygl olaf yn gofyn a yw’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gyraeddadwy.

Yn y bennod ar addysg a sgiliau, dechreuwn drwy astudio effaith y pandemig ar ddysgwyr, a’r opsiynau ar gyfer cynorthwyo ysgolion yn awr ac yn y tymor hwy. Mae’r erthygl nesaf yn edrych ar y berthynas rhwng sgiliau a ffyniant, a’r heriau wrth gysylltu’r ddau. Mae’r drydedd erthygl yn crynhoi’r diwygiadau mawr sydd angen eu gwneud ym maes addysg yn ystod y blynyddoedd nesaf o ran y cwricwlwm ac anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r bennod ar yr amgylchedd yn dechrau drwy ofyn a all Cymru gyrraedd y targed o allyriadau sero-net erbyn 2050, cyn mynd ymlaen i archwilio ansawdd aer, o gofio mai rhai ardaloedd yng Nghymru sydd â’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Awn ymlaen i edrych ar y dirwedd newydd ar gyfer ffermwyr a byd natur ar ôl i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r bennod ar gyllid cyhoeddus yn ymchwilio i’r pwysau sy’n wynebu llywodraeth leol a sut y mae gwasanaethau’n newid. Wedyn, rydym yn edrych ar drethiant, gan ofyn a fydd y pwerau cysylltiedig yn cael eu harfer yn ystod y Chweched Senedd. Mae’r erthygl olaf yn y bennod hon yn crynhoi’r tueddiadau yng nghyllidebau Cymru yn y Senedd flaenorol ac yn fframwaith cyllidol Cymru.

Ym mhennod olaf y casgliad hwn, rydym yn edrych y tu hwnt i’n ffiniau at Gymru fel rhan o’r Deyrnas Unedig ac fel rhan o dirwedd ryngwladol newydd.

Dyma’r materion a fydd, yn ein barn ni, yn flaenoriaeth i’r holl Aelodau wrth iddynt ddechrau ar eu gwaith yn y Chweched Senedd.

Bydd Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi erthyglau amserol a diduedd drwy gydol y Chweched Senedd, ac edrychwn ymlaen at gynorthwyo’r Aelodau a’u staff yn ystod y blynyddoedd nesaf.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru