athro yn dysgu mewn dosbarth

athro yn dysgu mewn dosbarth

Rhoi diwygiadau mawr ym maes addysg ar waith

Cyhoeddwyd 24/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/05/2021   |   Amser darllen munudau

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Yn ôl Llywodraeth flaenorol Cymru, nid yw'r cwricwlwm cenedlaethol cyfredol, na’r trefniadau ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol disgyblion, bellach yn addas at y diben. Roedd y materion hyn yn destun darnau pwysig o ddeddfwriaeth yn y Senedd flaenorol. Yn sgil hynny, mae’r broses o roi’r diwygiadau hyn ar waith wrth inni adfer o'r pandemig yn debygol o fod yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth newydd Cymru ym maes addysg.

O ran blaenoriaethau Llywodraeth newydd Cymru, dim ond adfer o’r pandemig fydd efallai’n bwysicach na’r prif flaenoriaethau ym maes addysg. Yn ôl pob tebyg, bydd y blaenoriaethau addysg yn canolbwyntio ar weithredu dwy Ddeddf a basiwyd yn y Senedd flaenorol, sef:

  • Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021; a
  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

Mae'r Ddeddf gyntaf yn newid yr hyn a addysgir i bob plentyn 3 i 16 oed, a’r modd y gwneir hynny. Mae’r ail Ddeddf yn newid sut mae dros un o bob pum dysgwr yn cael ei gefnogi mewn perthynas â'i anawsterau dysgu.

Cwricwlwm i Gymru sy’n seiliedig ar ddibenion

Mae'r cwricwlwm cenedlaethol, a gyflwynwyd yng Nghymru a Lloegr ym 1988, eisoes wedi cael ei addasu o dan y gyfundrefn ddatganoledig. Y newid mwyaf nodedig oedd cyflwyno'r Cyfnod Sylfaen yn 2010, i ddisodli Cyfnod Allweddol 1. Fodd bynnag, mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn nodi man cychwyn cwricwlwm penodol i Gymru. Ac mae hwn yn newid mawr, sy’n cwmpasu nid yn unig yr hyn sy'n cael ei addysgu, ond hefyd sut mae'r cynnwys hwn yn cael ei addysgu.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru, sydd ar gyfer plant 3-16 oed, yn symud i ffwrdd o gwricwlwm cenedlaethol sydd wedi'i ragnodi i raddau helaeth, sef cwricwlwm a ddisgrifiwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru fel system nad yw bellach yn addas at ei diben. Nododd “Dyfodol Llwyddiannus”, sef yr adolygiad a gyhoeddwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn 2015, fod angen newid y system, nid yn unig i gefnogi cenhadaeth Cymru o ran gwella safonau ysgolion, ond hefyd i roi'r hyn sydd ei angen ar bobl ifanc i ymdopi â byd sy’n wahanol iawn i’r byd yn 1988. Dywedodd hefyd fod gormod o ragnodi a manylu yn rhwystro gallu’r cwricwlwm i ymateb i newidiadau cymdeithasol, economaidd a thechnolegol.

Felly, y bwriad yw y bydd y cwricwlwm newydd yw seiliedig ar ddibenion, yn hytrach nag ar gynnwys, ac y bydd mwy o bwyslais ar sgiliau ac addysgu’r hyn sy'n bwysig. Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i lunio eu cwricwlwm eu hunain, a hynny o fewn fframwaith cenedlaethol eang a ddarperir gan y Ddeddf, ynghyd â chodau a chanllawiau cysylltiedig.

Yn unol â’r hyn a ddaeth i’r amlwg yn ystod y broses graffu, bydd yn rhaid i'r sector addysg daro cydbwysedd bregus wrth ddarparu cwricwla ar lefel ysgol sy'n parhau i fod yn ddigon tebyg i’w gilydd, er mwyn sicrhau bod yr holl ddisgyblion ym mhob ysgol yng Nghymru yn cael profiadau cyfartal.

Bydd strwythur y cwricwlwm yn cael ei seilio ar bedwar diben, chwe Maes Dysgu a Phrofiad, a thri sgil trawsgwricwlaidd. Yn ogystal, bydd angen i gwricwla ysgolion fod yn addas, yn eang ac yn gytbwys, gan hwyluso cynnydd priodol ymhlith disgyblion. Bydd Saesneg, Cymraeg, Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn elfennau gorfodol o’r cwricwlwm. Bydd y manylion sy'n weddill yn cael eu nodi mewn codau a chanllawiau statudol.

Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru Gwricwlwm dros dro i Gymru ym mis Ionawr 2020. Wedi i’r Senedd basio’r ddeddfwriaeth ym mis Mawrth 2021, mae disgwyl i Lywodraeth newydd Cymru gymryd camau ffurfiol i gadarnhau’r cwricwlwm hwn fel y cwricwlwm statudol ym mhob ysgol a gynhelir (hynny yw, ysgolion a ariennir yn gyhoeddus). Mae eisoes yn ymgynghori ynghylch fersiynau o nifer o godau a chanllawiau a fydd yn rhoi rhagor o fanylion am y cwricwlwm newydd.

Pryd fydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gweithredu ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr 2021. Yn hytrach na chyflwyno’r holl gwricwlwm ar un dyddiad, roedd yn bwriadu cyflwyno’r system newydd fesul cam.

Ym mis Medi 2022, bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno ar gyfer y blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd a Blwyddyn 7 (sef y flwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd, fel arfer). Yna, bydd yn cael ei gyflwyno i’r grwpiau blwyddyn dilynol wrth i’r disgyblion hynny fynd drwy’r ysgol, hyd nes iddynt gyrraedd Blwyddyn 11 yn 2026/27.

Yn ystod y broses o graffu ar y ddeddfwriaeth, dywedodd y Gweinidog blaenorol nad yw’r amserlen wedi newid yn sgil pandemig COVID-19, ond nododd y byddai’n cael ei hadolygu.

Cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru

Medi 2022

Medi 2023

Medi 2024

Medi 2025

Medi 2026

Y Blynyddoedd Cynnar

Ysgol gynradd

Blwyddyn 7

Y Blynyddoedd Cynnar

Ysgol gynradd

Blwyddyn 7

Blwyddyn 8

Y Blynyddoedd Cynnar

Ysgol gynradd

Blwyddyn 7

Blwyddyn 8

Blwyddyn 9

Y Blynyddoedd Cynnar

Ysgol gynradd

Blwyddyn 7

Blwyddyn 8

Blwyddyn 9

Blwyddyn 10

Y Blynyddoedd Cynnar

Ysgol gynradd

Blwyddyn 7

Blwyddyn 8

Blwyddyn 9

Blwyddyn 10

Blwyddyn 11

 

Ffynhonnell: Cwricwlwm i Gymru: Cynllun Gweithredu

Anghenion Dysgu Ychwanegol: diwygiadau sy'n effeithio ar dros un o bob pum dysgwr

Gwnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru ddisgrifio Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 fel cynnig i “ailwampio’r system yn llwyr”, yn sgil y ffaith nad yw bellach yn addas at ei diben. Mae gwendidau'r system gyfredol wedi cael eu nodi mewn adolygiadau blaenorol yn dyddio'n ôl flynyddoedd lawer. Maent yn cynnwys y ffaith bod teuluoedd yn aml yn gorfod brwydro i sicrhau darpariaeth ar gyfer eu plant, diffyg cydweithio rhwng llywodraeth leol ac iechyd, ac anghysondebau o ran sut mae anghenion gwahanol dysgwyr yn cael eu diwallu.

Ar hyn o bryd, mae tua 100,000 o ddisgyblion (21 y cant) yn cael eu cydnabod fel rhai sydd ag “Anghenion Addysgol Arbennig” (AAA), neu “Anghenion Dysgu Ychwanegol” (ADY), sef y term a ddefnyddir o dan y system newydd. Mae hyn yn golygu:

  • bod y dysgwr yn cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na mwyafrif y dysgwyr eraill sydd o'r un oedran (ac ni ellir ei gynorthwyo drwy ddulliau dysgu gwahaniaethol yn unig); neu
  • fod gan y dysgwr anabledd (at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran; a
  • bod yr anhawster dysgu neu’r anabledd yn galw am Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol.

Ar hyn o bryd, mae anghenion disgyblion AAA yn cael eu diwallu o dan dair lefel o gymorth, yn dibynnu ar ba mor ddifrifol a chymhleth yw’r anghenion hynny. Dim ond ‘Datganiadau AAA’, sy’n cael eu cyhoeddi gan yr awdurdod lleol ac sy'n nodi pa ddarpariaeth sydd ei hangen i ddiwallu anghenion y dysgwr, y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol.

Mae gan Ddeddf 2018 dri phrif nod:

  • darparu un system i blant o'u genedigaeth, gan gynnwys disgyblion mewn ysgolion a myfyrwyr mewn colegau, waeth beth yw lefel yr angen. Bydd pob dysgwr ag ADY yn cael ‘Cynllun Datblygu Unigol’ statudol;
  • sicrhau cydweithio agosach rhwng y GIG a llywodraeth leol, a hynny drwy swyddogion cyswllt dynodedig ym mhob bwrdd iechyd; a
  • darparu system fwy tryloyw er mwyn osgoi achosion o anghytuno a datrys anghydfodau.

Pryd fydd y system ADY newydd yn dechrau?

Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg blaenorol, Kirsty Williams, ym mis Chwefror 2021, fod cynllun i roi’r system ADY newydd ar waith dros gyfnod o dair blynedd, gan ddechrau ym mis Medi 2021. Ym mis Mawrth, pleidleisiodd y Senedd i gymeradwyo'r Cod ADY, sef dogfen a ddisgrifiwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru fel ‘llawlyfr gweithredol’ ar gyfer sut y bydd y system newydd yn gweithio’n ymarferol.

O fis Medi 2021 ymlaen, bydd yr holl ddysgwyr y nodir o’r newydd fod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu gosod o dan y system newydd. Bydd y disgyblion y nodwyd eisoes fod ganddynt anghenion addysgu arbennig yn trosglwyddo i’r system newydd, rhwng 2021 a 2024, gan ddechrau â’r disgyblion sydd ag anghenion isel neu gymedrol. Bydd dysgwyr ag anghenion mwy difrifol neu gymhleth (sydd â datganiadau AAA ar hyn o bryd) yn trosglwyddo i'r system newydd yn ddiweddarach yn ystod y cyfnod o dair blynedd. Bydd yr amseru hwn hefyd yn dibynnu ar ba grŵp blwyddyn y mae’r disgybl yn perthyn iddo.

Erbyn diwedd 2023/24, disgwylir i bob disgybl ADY fod wedi trosglwyddo i'r system newydd.

Gweithredu'r system newydd o gynlluniau datblygu unigol o dan y gyfundrefn ADY

Pwy fydd yn trosglwyddo i'r system ADY newydd o fis Medi 2021?

Yr holl ddysgwyr y nodir o’r newydd fod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol

Y disgyblion yn y blynyddoedd a ganlyn sy’n destun cymorth ar hyn o bryd drwy’r cynllun Gweithredu gan yr Ysgol neu’r cynllun Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy:

  • Blwyddyn Feithrin 1
  • Blwyddyn Feithrin 2
  • Blwyddyn 1
  • Blwyddyn 3
  • Blwyddyn 5
  • Blwyddyn 7
  • Blwyddyn 10

Dysgwyr ag ADY sy'n cael eu cadw’n gaeth yn y system cyfiawnder troseddol

Pwy fydd yn trosglwyddo i'r system ADY newydd o fis Medi 2022 neu’n hwyrach?strong>

Disgyblion mewn grwpiau blwyddyn eraill sy’n destun cymorth drwy’r cynllun Gweithredu gan yr Ysgol neu’r cynllun Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

Dysgwyr â Datganiadau

Dysgwyr ôl-16 ag ADY

 

Ffynhonnell: Datganiad Ysgrifenedig: Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Beth allai atal y diwygiadau rhag cael eu cyflawni'n llwyddiannus?

Drwy gydol y Senedd flaenorol, tynnwyd sylw at ddiffygion a chymhlethdod y drefn o gyllido ysgolion. Mewn ymchwiliad yn 2019, canfu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg nad oedd digon o gyllid yn cyrraedd ysgolion. Yn ei adroddiad olaf yn y Senedd flaenorol, gwnaeth y Pwyllgor gais bod adnoddau’n cael eu dosbarthu i ysgolion mewn modd mwy effeithiol – yn enwedig o ystyried graddfa'r diwygiadau y bydd disgwyl i ysgolion eu cyflawni o hyn ymlaen.

Dyrannodd Llywodraeth flaenorol Cymru swm o £20 miliwn, i'w ddosbarthu dros gyfnod o bedair blynedd, ar gyfer ei Rhaglen trawsnewid system anghenion dysgu ychwanegol’. Dywedodd hefyd y byddai'n ymateb i’r argymhellion a wnaethpwyd yn Adolygiad Sibieta ynghylch cyllid ysgolion. Mae'r argymhellion hyn yn cynnwys cadw'r system ADY newydd dan adolygiad parhaus, a hynny er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei rhoi ar waith yn unol â’r bwriad, yn ogystal â'r angen posibl am gyllid ychwanegol.

Bydd y broses o gymhwyso'r hyblygrwydd newydd hwn er mwyn darparu cwricwla ar lefel ysgol hefyd yn golygu y bydd angen newid diwylliant, a hynny mewn proffesiwn sydd wedi arfer dysgu cwricwlwm cenedlaethol rhagnodedig am dros 30 mlynedd. Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn bwriadu dyrannu £15 miliwn y flwyddyn tan 2025-26 ar gyfer ‘dysgu proffesiynol’, er mwyn galluogi'r gweithlu addysg i roi’r cwricwlwm newydd ar waith. Mae Estyn, yr arolygiaeth ysgolion, hefyd yn ymweld ag ysgolion i'w helpu i baratoi.

O ran COVID-19, mae rhai rhanddeiliaid, fel Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT), o’r farn bod effaith y pandemig yn golygu y dylid gohirio'r cwricwlwm newydd. Mae rhanddeiliaid eraill, fel Estyn, wedi dweud y gallai'r ffordd y mae ysgolion wedi gorfod arloesi yn ystod y pandemig olygu eu bod mewn sefyllfa well i roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith.

Wrth symud i'r Chweched Senedd, bydd cyd-destun COVID-19 a'r rheidrwydd hirsefydlog i godi safonau addysgol yn bwrw cysgod dros Lywodraeth a sector addysg sydd â'r dasg o roi diwygiadau hollbwysig ar waith.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru