Newid hinsawdd: y llwybr at allyriadau sero

Cyhoeddwyd 18/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/05/2021   |   Amser darllen munudau

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Gyda tharged o allyriadau sero net erbyn 2050 bellach yn gyfraith, a oes gan Gymru yr ymrwymiad, y ddeddfwriaeth a'r polisi ar waith i gyflawni hyn?

Yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd. Ar y pryd, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd:

Rydyn ni'n gobeithio y gall y datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw helpu i sbarduno ton o weithredu yma ac yn rhyngwladol. Gan ein cymunedau, busnesau a sefydliadau'n hunain a seneddau a llywodraethau ledled y byd.

Ond beth mae'r datganiad wedi'i olygu o gan graddfa a chyflymder y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i'r afael â newid hinsawdd? A yw allyriadau wedi lleihau ar draws pob sector? A sut ddylai newidiadau diweddar i'n deddfwriaeth newid hinsawdd gael eu troi’n gamau gweithredu os ydym am gyrraedd ein targedau uchelgeisiol?

awyr las gyda chymylau gwyn

Y cyd-destun byd-eang

Ddiwedd 2015, cynhaliwyd unfed Gynhadledd ar hugain y Partïon i Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP21) ym Mharis. Galwyd y cyfarfod yn gyfle tyngedfennol i sicrhau cytundeb rhyngwladol ar ffyrdd o fynd i'r afael â newid hinsawdd. Nod ‘Cytundeb Paris, fel y gelwir y cytundeb nodedig a ddeilliodd o’r gynhadledd, oedd cyfyngu cynhesu byd-eang i lai na 20C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol, ac yn ddelfrydol, ei gadw o dan 1.50C.

Yn 2019, cyn pandemig y coronafeirws, nid oedd disgwyl i'r allyriadau byd-eang amcangyfrifedig ar gyfer 2030 gyrraedd nod Cytundeb Paris. Yn lle hynny, roedd disgwyl i allyriadau gyrraedd oddeutu 30C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol. Mae’r uchelgais hinsawdd fyd-eang wedi cynyddu ers hynny, gydag economïau mawr fel Tsieina, Japan a De Korea yn datgan amcanion sero net, a disgwyl i weinyddiaeth newydd UDA ailymuno â Chytundeb Paris.

Er nad yw Cymru, na gwledydd eraill y DU, wedi llofnodi Cytundeb Paris, mae'r DU ei hunan wedi gwneud hynny. Fel cyfrannwr sylweddol at allyriadau'r DU – yn enwedig yn y sectorau diwydiant ac amaeth – mae cyfraniad Cymru yn hanfodol i arweinyddiaeth y DU ym maes yr hinsawdd ac o ran gweithredu ar y llwyfan byd-eang.

Bydd y DU yn cynnal trafodaethau hinsawdd nesaf y Cenhedloedd Unedig – chweched Cynhadledd ar hugain y Partïon (COP26) – yn Glasgow ym mis Tachwedd 2021. Bydd COP26, a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Tachwedd 2020, yn foment allweddol yn yr ymdrechion i godi’r uchelgais hinsawdd fyd-eang. Disgwylir i wledydd ailgyflwyno eu Cyfraniadau a Benderfynir yn Genedlaethol (NDCs) ar gyfer lleihau allyriadau hyd at 2030.

Fframwaith gweithredu

Roedd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn dynodi newid sylweddol yn agwedd Cymru o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd. Gan symud o'r targed blynyddol (anstatudol) o 3 y cant o'r naill flwyddyn i'r llall, fe wnaeth y Ddeddf osod dyletswyddau newydd ar Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod llai o nwyon tŷ gwydr yn cael eu hallyrru. Fe wnaeth hefyd gyflwyno ddull o gyllidebu carbon i fesur cynnydd tuag at leihau allyriadau.

Gosododd y Ddeddf darged ar gyfer gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn 2050 a dyletswydd i osod targedau dros dro ar gyfer 2020, 2030 a 2040. Yn dilyn cyngor gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU (CCC) ym mis Ebrill a mis Rhagfyr 2017, cafodd y targedau allyriadau dros dro a'r ddwy gyllideb garbon gyntaf eu gosod mewn rheoliadau ym mis Rhagfyr 2018.

Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ffyniant i bawb: Cymru carbon isel. Roedd y cynllun cyflawni carbon isel hwn yn nodi sut yr oedd Cymru’n bwriadu mynd ati i gyflawni'r gyllideb garbon gyntaf (2016-2020) a tharged interim 2020 drwy 100 o bolisïau a chynigion ar draws portffolios y Gweinidogion.

Yn 2019, fe wnaeth CCC gynghori Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei tharged ar gyfer 2050 a lleihau allyriadau 95 y cant erbyn y dyddiad hwnnw. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn y cyngor hwn, a datganodd ei huchelgais i gyflawni’r targed sero net erbyn 2050. Roedd y cyngor diwygiedig gan CCC ym mis Rhagfyr 2020 yn argymell y dylai Cymru osod y targed mwy uchelgeisiol o sero net erbyn 2050 a mynd ar ei drywydd.

Mae sero net yn golygu y byddai cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr yn hafal neu'n llai na'r allyriadau sy'n cael eu tynnu o'r amgylchedd. Mae modd cyflawni hyn drwy gyfuniad o leihau allyriadau a dal allyriadau.

Ym mis Chwefror 2021, gosododd Llywodraeth Cymru bedair set arall o reoliadau er mwyn:

  • newid targed allyriadau 2050 i sero net;
  • cynyddu targed 2030 i 63 y cant (o 45 y cant) a tharged 2040 i 89 y cant (o 67 y cant), a;
  • gosod y drydedd gyllideb garbon (2026-2030).

Y cynnydd hyd yn hyn

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru wedi gostwng 31 y cant ers 1990. Mae'r data mwyaf diweddar yn dangos bod allyriadau Cymru wedi gostwng 8 y cant yn 2018, a’u bod wedi gostwng bron 20 y cant rhwng 2016 a 2018. Fel y mae pethau, mae'n edrych fel bod Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged allyriadau 2020, sef gostyngiad o 27 y cant yn erbyn llinell sylfaen 1990, os nad oedd allyriadau’n cynyddu yn 2019 a 2020. Ni fydd hyn yn cael ei gadarnhau nes bydd y data ar gael yn ddiweddarach eleni,

Nid yw'r gostyngiad yng nghyfanswm yr allyriadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfartal ar draws pob sector. Mae rhan helaethaf y gostyngiadau yn deillio o’r sector pŵer, a oedd yn gyfrifol am 85 y cant o gyfanswm y gostyngiadau allyriadau rhwng 2016 a 2018. Mae allyriadau o'r sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu (-9 y cant) a chyflenwi tanwydd (-7 y cant) hefyd wedi gostwng, ond gostyngodd allyriadau ym mhob sector arall 1 y cant yn unig ar gyfartaledd. Yn benodol, cyfrannodd arafu a chau pwerdy glo Aberddawan at 55 y cant o gyfanswm y cwymp mewn allyriadau rhwng 2016 a 2020.

Ni newidiodd allyriadau amaethyddiaeth a defnydd tir, newid defnydd tir a choedwigaeth rhwng 2016 a 2018, a dim ond 13 y cant fu’r gostyngiad ers 1990. Mae allyriadau o dda byw yn cyfrif am 54 y cant o allyriadau amaethyddol. Fe wnaeth Cymru ostwng ei tharged plannu coed o 5,000 hectar y flwyddyn i 4,000 hectar y flwyddyn. Mae coed yn chwarae rhan hanfodol o ran dal allyriadau o'r atmosffer. Mae’n siomedig mai dim ond 80 hectar o goed a gafodd eu plannu yng Nghymru yn 2019. Mae’r gwaith o blannu Coedwig Genedlaethol wedi cychwyn o ddifrif eleni, ac roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn gobeithio y byddai dull newydd ar gyfer rheoli tir yn gynaliadwy yn helpu i fynd i'r afael ag allyriadau o'r sector amaethyddol.

Trafnidiaeth ar yr arwyneb yw’r drydedd ffynhonnell allyriadau fwyaf yng Nghymru. Rhwng 2016 a 2018, bu gostyngiad o 2 y cant yn yr allyriadau o drafnidiaeth ar yr arwyneb, ond yn 2018, roedd yr allyriadau yn dal i fod 3 y cant yn uwch na’r llinell sylfaen. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth drafnidiaeth newydd, yn canolbwyntio ar deithio llesol a chefnogi'r newid i gerbydau trydan. Amser a ddengys a fydd hyn yn arwain at newid o’n hallyriadau ystyfnig o uchel a ddaw o drafnidiaeth.

Mae’r allyriadau a ddaw o adeiladau hefyd wedi cynyddu ers 2014. Mae cyfradd gosod capasiti ynni adnewyddadwy newydd wedi gostwng bob blwyddyn ers 2015. Ac roedd cynnydd o 29 y cant mewn allyriadau hedfan rhwng 2016 a 2018. Ond mae ambell lygedyn o obaith. Mae allyriadau'r sector gwastraff yn parhau i leihau, a nod cyflwyno strategaeth economi gylchol newydd yw manteisio ar gynnydd Cymru hyd yma, a'i safle fel y drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu.

Ydyn ni'n gwneud digon?

Er y bu rhai gostyngiadau mewn allyriadau yn y blynyddoedd diwethaf, ac ymrwymiad o'r newydd gan Lywodraeth flaenorol Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd, mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Disgwylir i'r ail gynllun cyflawni carbon isel gael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2021, a bydd yn nodi polisïau a chynigion i gyflawni’r ail gyllideb garbon. Fe wnaeth CCC argymell y dylai'r cynllun fynd ymhellach, gan nodi gweledigaeth hirdymor i gyflawni'r nod sero net.

Bydd gan Aelodau’r Chweched Senedd rôl ganolog o ran craffu ar y cynllun a dwyn Llywodraeth newydd Cymru i gyfrif o ran y cynnydd. Mae CCC wedi amcangyfrif mai costau cyrraedd y targedau yw £3 biliwn ychwanegol y flwyddyn erbyn 2030 i Gymru – felly bydd craffu ar wariant Llywodraeth Cymru ar yr agenda datgarboneiddio, ac a yw'n cyflawni’r uchelgais, hefyd yn allweddol.

Mae CCC yn nodi bod bylchau yn parhau – yn enwedig y diffyg dangosyddion sylfaenol i fesur cynnydd, a diffyg strategaeth gydlynol ar draws yr economi i leihau allyriadau erbyn 2050. Mae'n rhybuddio nad yw Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyrraedd targed lleihau allyriadau o 80 y cant erbyn 2050, heb sôn am sero net. Bydd cynllun cyflawni carbon isel nesaf Llywodraeth Cymru yn hanfodol ar gyfer asesu pa mor ddifrifol yw Cymru ynglŷn â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru