defnyddio cyfrifiannell

 defnyddio cyfrifiannell

Trethu yn y Chweched Senedd

Cyhoeddwyd 27/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Pa fath o drethi fydd yng Nghymru yn y dyfodol? A fydd trethi lleol yn cael eu diwygio ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno trethi newydd yn y Chweched Senedd?

Ym mis Ebrill 2018, cafodd y trethi Cymreig cyntaf mewn bron i wyth can mlynedd eu cyflwyno gan ddefnyddio pwerau a oedd newydd eu datganoli.

Efallai y bydd angen wynebu materion arwyddocaol yn y Chweched Senedd. Mae’n aneglur sut y bydd y pandemig yn effeithio ar bolisi treth datganoledig, yn enwedig treth incwm. Gall beirniadaeth o’r dull o ymdrin â threthi lleol a chynigion ar gyfer trethi newydd a ddatblygwyd yn y Bumed Senedd hefyd arwain at newidiadau mawr.

Ac eto, mae polisi treth yn bwnc sensitif, felly gallai gweithredu unrhyw newidiadau fod yn heriol i Lywodraeth nesaf Cymru.

Trethi newydd i Gymru

Yn 2018, fe wnaeth y Dreth Trafodiadau Tir (LTT) a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) ddisodli Treth Dir y Doll Stamp (SDLT) a Threth Tirlenwi (LT) y Deyrnas Unedig, sef y trethi cyntaf sy’n unigryw i Gymru ers y 13eg ganrif.

Yn dilyn hynny, gweithredwyd Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) ym mis Ebrill 2019, sef y ffynhonnell fwyaf o refeniw treth sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

Gwnaeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR), sef y corff sy’n gyfrifol am ragweld refeniw treth Cymru, amcangyfrif y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn dros £2.1 biliwn mewn refeniw WRIT yn 2021-22, tra byddai LTT a LDT yn codi £260 miliwn (cyn estyn y saib LTT) a £34 miliwn yn y drefn honno.

Mae refeniw treth Cymru yn cynrychioli 17% o gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.

Cyfansoddiad Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22

Ffeithlun yn dangos cyfansoddiad cyllideb Cymru 2021-22. Grant bloc Cymru £16.7 biliwn (82.6%), cyfraddau treth incwm Cymru £2.1 biliwn (10.5%), ardrethi annomestig £1.1 biliwn (5.4%) a threth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi gyda’i gilydd £0.3 biliwn (1.5%)

Ffynhonnell: Naratif Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 a Treth ddatganoledig a rhagolygon gwariant Mawrth 2021 yr OBR

Newidiadau WRIT

Ni fu unrhyw newidiadau eto i WRIT gyda Llafur Cymru yn ymrwymo yn 2019 i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm yn ystod y Bumed Senedd.

Fodd bynnag, o ystyried yr heriau economaidd y mae Cymru yn eu hwynebu oherwydd pandemig COVID-19, gallai’r Chweched Senedd weld pwysau i newid cyfraddau WRIT am y tro cyntaf.

Gan ei bod hi mor hawdd teithio dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gallai unrhyw wahaniaeth rhwng cyfraddau treth incwm rhwng y DU a Chymru arwain at drethdalwyr yn symud dros y ffin, gan effeithio ar refeniw WRIT yn y dyfodol.

O ystyried bod bron i 48% o boblogaeth Cymru yn byw o fewn 25 milltir i’r ffin a 4.9 miliwn o fewn pellter tebyg ar ochr Lloegr, gallai hyn fod yn fater arwyddocaol.

Trethi lleol

Y dreth gyngor yw un o’r ysgogiadau ariannol sydd ar gael i lywodraeth leol. Codir tua £1.8 biliwn bob blwyddyn gan 1.4 miliwn o anheddau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio trefn y dreth gyngor mewn sawl ffordd. Er enghraifft, yn y Bumed Senedd cafodd awdurdodau lleol bwerau i godi premiwm o hyd at 100% ar ail gartrefi.

Daeth adolygiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (IFS), a gyhoeddwyd y llynedd, i’r casgliad bod y dreth gyngor wedi dyddio, yn anflaengar ac wedi aflunio, gan awgrymu bod angen ei hadolygu a’i diwygio.

Mae ardrethi annomestig (NDR) – sy’n cael eu galw yn aml yn ‘gyfraddau busnes’ - hefyd yn ffynhonnell refeniw sylweddol, gan gynhyrchu dros £1 biliwn yn flynyddol i lywodraeth leol. Mae’r cronfeydd hynny’n cael eu casglu a’u cyfuno’n genedlaethol cyn cael eu hailddosbarthu ymhlith cyrff llywodraeth leol. Mae ailbrisiadau yn digwydd yn amlach na’r dreth gyngor, gyda’r ailbrisiad diweddaraf yn digwydd yn 2017. Cynlluniwyd y rhestr nesaf yn wreiddiol ar gyfer 2021, ond oherwydd y pandemig ni fydd yn dod i rym tan 2023 er mwyn “adlewyrchu effaith COVID-19 yn well”.

Gwnaed nifer o newidiadau i ardrethi annomestig yn y Bumed Senedd, gan gynnwys gweithredu cynllun Rhyddhad Ardrethi Parhaol i Fusnesau Bach, newid y mesur chwyddiant a ddefnyddir ar gyfer uwchraddio o RPI i CPI ac ymdrechion i fynd i’r afael ag achosion o osgoi.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad sylfaenol o ardrethi busnes (a fydd yn dod i ben yn hydref 2021), a gall unrhyw newidiadau fod â goblygiadau i gyflymder y newid yng Nghymru. Mae’r adolygiad hwnnw’n ystyried y posibilrwydd o ailbrisiadau amlach – bob tair blynedd – sef rhywbeth sydd eisoes ar waith yn yr Alban.

Dulliau amgen ar gyfer trethi lleol

Mae sawl astudiaeth wedi cydnabod bod y dreth gyngor yn anflaengar. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi edrych ar ymarferoldeb disodli’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig gyda threth gwerth tir lleol (LVT). Mae’r system drethiant hon ar waith yn Nenmarc, Seland Newydd a rhai rhannau o Awstralia a’r Unol Daleithiau.

Ardoll ar werth tir yw LVT ac, yn wahanol i’r mwyafrif o drethi eiddo, mae’n dreth ar y tir ei hun gan ddiystyru gwerth unrhyw welliannau a wneir i’r tir hwnnw.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Brifysgol Bangor i gynnal astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol o LVT. Canfu er y gallai godi digon o refeniw i ddisodli’r trethi lleol cyfredol, nid oedd y gofynion data i weithredu LVT yn cael eu bodloni ar hyn o bryd.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid blaenorol, Rebecca Evans, wrth Bwyllgor Cyllid y Bumed Senedd fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu’r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol i ystyried effaith ailbrisio’r dreth gyngor i wneud y system yn llai anflaengar, a Phrifysgol Caerdydd i gynnal ymchwil i weld a ellid seilio’r dreth gyngor ar asesiadau lleol o incwm cartref.

Trethi newydd

Mae Deddf Cymru 2014 yn galluogi Llywodraeth Cymru i geisio cymhwysedd gan ddau Dŷ Senedd y DU ac i Senedd Cymru gyflwyno trethi newydd i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio pwerau ar hyn o bryd ar gyfer treth tir gwag ac yn ymchwilio i dri maes posib arall ar gyfer trethi newydd, sef:

  • Ardoll gofal cymdeithasol;
  • Treth plastig tafladwy;
  • Treth twristiaeth.

Canfu Llywodraeth ddiwethaf Cymru fod y broses “yn un hir a heriol”, a honnodd nad yw’r mecanwaith “yn addas at y diben”. Dywedodd y Gweinidog:

Mae wedi dod i'r amlwg bod diffygion difrifol yn y broses y cytunwyd arni ar gyfer datganoli cymhwysedd trethu. Felly mae'r broses ar hyn o bryd, mae'n anodd dychmygu sefyllfa lle y gallai Llywodraeth Cymru lwyddo i gyflwyno'r achos dros gymhwysedd trethu pellach. Mae angen adolygu a diwygio'r broses ar fyrder.

Amlygwyd hyn yn ddiweddar yn adroddiad terfynol diweddar y Gweinidog ar weithredu pwerau ariannol a ddatganolwyd yn Neddf Cymru 2014. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad ar y meysydd posibl eraill ar gyfer trethi newydd.

Bydd y ffordd y gall Llywodraeth nesaf Cymru ysgogi newidiadau i’r broses hon, a’r math o drethi newydd y gallai eu cyflwyno, yn chwarae rhan sylweddol ym maes polisi treth dros dymor nesaf y Senedd.


Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru