Gofal cymdeithasol: system sydd ar fin torri?

Cyhoeddwyd 17/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/05/2021   |   Amser darllen munudau

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y sector gofal cymdeithasol, ond mae hefyd wedi dangos pa mor fregus yw’r system. A fydd COVID-19 yn gatalydd ar gyfer newid?

Taflwyd goleuni ar y pwysau aruthrol sy’n wynebu’r sector gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig.

Mae cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad newydd ar gyfer staff gofal cymdeithasol, ond mae’r anghydraddoldeb o ran sut maen nhw’n cael eu trin o’u cymharu â staff y GIG yn fwy amlwg fyth. Amlygwyd hefyd yr angen am well cefnogaeth i’r nifer gynyddol o bobl sy’n ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Mae'n cael ei dderbyn yn gyffredinol ei bod yn hen bryd diwygio gofal cymdeithasol yn sylfaenol. Cafwyd nifer o bapurau ac adroddiadau gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ddiwygio, ond mae’r mater wedi cael ei roi o’r neilltu dro ar ôl tro.

Y gweithlu gofal cymdeithasol

Mae gwaith gofal yn cael ei ystyried yn gyffredinol fel proffesiwn â chyflog isel, statws isel, gyda chyfleoedd cyfyngedig i bobl gamu ymlaen yn eu gyrfa. Mae'r sector yn dioddef o brinder staff, trosiant staff uchel ac anawsterau mawr wrth recriwtio. Mae gofal cymdeithasol yn colli staff yn gyson i sectorau fel manwerthu, sy'n cynnig gwell tâl ac amodau.

Mae 56% o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ennill llai na'r cyflog byw gwirioneddol (£9.50 yr awr). Mae cyflogau’n debyg yng Nghymru a Lloegr, ond tipyn yn uwch yn yr Alban.

Mae gweithwyr gofal preswyl yng Nghymru wedi wynebu degawd heb welliant cymharol yn eu cyflog, ac mae eu cyflog canolrifol wedi aros yn is na'r cyflog byw gwirioneddol am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwnnw. Mae cyflogau gofal preswyl hefyd yn llawer is na chyfartaledd y diwydiant gwasanaeth.

Dosbarthiad tâl gros yr awr ar draws sectorau yng Nghymru; 2020

Graff yn dangos cyflog gros yr awr yn ôl canradd enillion i bobl sy'n gweithio ym mhob diwydiant gwasanaeth, gofal preswyl a gweithgareddau iechyd dynol yng Nghymru yn 2020. Mae pobl sy'n gweithio mewn gweithgareddau iechyd dynol a'r holl ddiwydiannau gwasanaeth yn ennill mwy na'r rheini sy'n gweithio mewn gweithgareddau gofal preswyl. Mae tua 40% o bobl sy'n gweithio mewn gweithgareddau gofal preswyl yn ennill llai na £10 yr awr.

Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 2020, Tabl 5.5a. Mae’r pwynt data ar gyfer 90fed canradd y gweithwyr gofal preswyl wedi cael ei hepgor gan yr ystyrir bod yr amcangyfrif yn annibynadwy.

Yn ystod y pandemig wynebodd y gweithlu gofal cymdeithasol drawma a risg bersonol sylweddol, gyda gweithwyr yng Nghymru a Lloegr ddwywaith yn fwy tebygol o farw gyda COVID-19, o'u cymharu â'r boblogaeth oedran gweithio gyffredinol.

Ym mis Mawrth, galwodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd, ynghyd â rhanddeiliaid, am i weithwyr gofal cymdeithasol gael parch cydradd â staff y GIG; o ran cyflog, amodau gwaith a chydnabyddiaeth.

Daeth y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol (partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, cyflogwyr ac undebau) i’r casgliad yn ddiweddarach y mis hwnnw mai’r isafswm tâl y dylai gweithwyr gofal cymdeithasol ei gael yw’r cyflog byw gwirioneddol. Mae'n ystyried mai’r newid hwn yw’r flaenoriaeth bwysicaf i wella amodau gwaith.

Rôl gofalwyr di-dâl

Mae mwyafrif y gofal yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl (teulu neu ffrindiau fel arfer) yn hytrach na gwasanaethau a gomisiynir. Hyd yn oed cyn y pandemig, amcangyfrifwyd bod 96% o'r holl ofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl.

Amcangyfrifir mai cost gofal a ddarperir gan ofalwyr di-dâl (hynny yw, prynu'r gofal hwn am bris y farchnad) yw £8 biliwn – fwy neu lai yr un swm â chyllideb flynyddol GIG Cymru.

Mae gofalwyr wedi ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau gofalu yn ystod y pandemig a dywedir eu bod nhw bellach wedi’u gwthio i’r eithaf, a’u bod wedi blino'n lân oherwydd cyfnodau hir o ofalu heb egwyl na chefnogaeth. Mae gwasanaethau cymorth fel gofal seibiant, a oedd eisoes yn brin, wedi lleihau neu stopio'n gyfan gwbl. Mae llawer o ofalwyr hefyd yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, ac mae rhanddeiliaid eisiau gweld mwy o gymorth ariannol ar gael.

Rhaid i unrhyw gynlluniau ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol gydnabod rôl ganolog gofalwyr di-dâl, ac nid yw hynny’n gynaliadwy heb well mynediad at gymorth. Fel y dywedodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd:

Mae gofalwyr yn rhoi cymaint i'r bobl y maent yn gofalu amdanynt a hebddynt, byddai ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu llethu ac ni fyddant yn gallu gweithredu. Rhaid iddynt gael eu cefnogi, eu cydnabod a’u gwobrwyo i’w galluogi i barhau i ofalu cyhyd ag y dymunant wneud hynny.

Y berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol

Ar ddechrau’r pandemig, awgrymwyd mai ôl-ystyriaeth oedd gofal cymdeithasol. O gymharu â’r GIG, bu oedi mawr cyn i weithwyr gofal gael cyfarpar diogelu personol hanfodol a mynediad at brofion.

Mae cleifion sy'n cael eu rhyddhau o ysbytai i leoliadau gofal (weithiau ym mherfeddion y nos) heb ganlyniad prawf COVID-19 negyddol yn parhau i fod yn destun pryder ymhlith rhanddeiliaid. Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru yn dweud bod hyn wedi arwain at ddiffyg ymddiriedaeth sylweddol rhwng cartrefi gofal ac ysbytai. Cododd elusennau gofalwyr bryderon hefyd ynghylch arferion gwael wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty, gan fod y rhain yn rhoi pwysau ar ofalwyr di-dâl.

Mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well wedi bod yn uchelgais wleidyddol ers amser maith ond ni welwyd cynnydd gwirioneddol eto. Yn 2014, sefydlodd Llywodraeth flaenorol Cymru Gronfa Gofal Integredig, gyda'r nod o gyflawni hyn. Fodd bynnag, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi bod yn feirniadol o effaith gyffredinol y gronfa.

Pwysau ar wasanaethau

Mae’r pandemig wedi gwaethygu sefyllfa ariannol llawer o ddarparwyr gofal sydd eisoes yn fregus. Taflwyd rhagor o amheuaeth ynghylch hyfywedd tymor hir y model gwasanaeth presennol, yn enwedig yn y farchnad gofal preswyl.

Mae gofal preswyl yn dameidiog dros ben. Mae yna dros 1,000 o gartrefi gofal ar wahân, y mwyafrif helaeth ohonynt yn fusnesau bach, annibynnol, sy'n darparu’r rhan fwyaf o leoedd cartrefi gofal oedolion.

Nifer y lleoedd mewn cartrefi gofal i oedolion, yn ôl awdurdod lleol a math o ddarparwr; Mawrth 2021

Graff yn dangos nifer y lleoedd mewn cartrefi gofal a ddarperir i oedolion gan awdurdodau lleol a'r sector annibynnol. Nid oes gan Gaerdydd, Powys na Thorfaen leoedd mewn cartrefi gofal awdurdod lleol i oedolion ac maent yn ddibynnol ar y sector annibynnol. Caerdydd sydd â'r nifer fwyaf o leoedd gofal i oedolion - sef 2,240 - wedyn Sir Gaerfyrddin gyda 2,110 ac Abertawe gyda 2,020. Merthyr Tudful sydd â'r nifer lleiaf o leoedd - sef 400 - wedyn Blaenau Gwent gyda 530 a Cheredigion gyda 530. Mae’r data llawn ar gael drwy'r linc lawrlwytho data.

Ffynhonnell: Arolygiaeth Gofal Cymru, Mawrth 2021, data y gofynnwyd amdanynt gan y defnyddiwr. Data wedi'i dalgrynnu i'r 10 agosaf. Mae'r data llawn ar gael trwy'r linc lawrlwytho data.

Derbynnir yn gyffredinol bod y system ofal yn cael ei thanariannu, ac nid yw'n ymddangos bod lefelau ffioedd awdurdodau lleol wedi cadw i fyny â'r costau cynyddol. Mae hunan-gyllidwyr i bob pwrpas yn talu am y costau, ac ar gyfartaledd yn talu tua 25% yn fwy mewn ffioedd cartrefi gofal nag awdurdodau lleol.

Mae angen i gartrefi gofal fod yn weddol lawn er mwyn bod yn hyfyw ond mae llawer ohonynt wedi gweld nifer eu preswylwyr yn gostwng yn ystod y pandemig, sydd wedi achosi straen ariannol sylweddol.

Mae cartrefi gofal hefyd wedi cael trafferth gyda phrinder staff difrifol oherwydd salwch a staff yn hunanynysu. Ym mis Rhagfyr 2020, cyrhaeddodd nifer o gartrefi gofal lefel gritigol o ran absenoldeb staff, ac roeddent yn agos iawn at gau eu drysau. Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau, roedd preswylwyr yn agos at gael eu symud i'r ysbyty oherwydd lefelau staffio.

Mae darparwyr gofal cartref yn parhau i deimlo gofynion a phwysau cynyddol, yn enwedig gyda COVID hir a chleifion sydd wedi aros am amser hir yn yr ysbyty. O edrych at y dyfodol, bydd COVID hir yn parhau i fod yn bwysau newydd ar wasanaethau, gan y bydd wedi ychwanegu grŵp arall o ddefnyddwyr gwasanaethau efallai (heb COVID) nad oedd angen gofal cymdeithasol arnynt.

Y galw yn y dyfodol

Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio, ac mae pobl yn byw yn hirach gydag anghenion gofal cymhleth a dementia. Heb os, bydd hyn yn parhau i roi mwy o bwysau ar wasanaethau gofal. Rhagwelir y bydd nifer yr oedolion hŷn sy'n byw gyda dementia difrifol yn dyblu erbyn 2040.

Hyd yn oed cyn y pandemig, amcangyfrifodd y Sefydliad Iechyd y byddai angen i gyllideb gofal cymdeithasol Cymru gyrraedd £2.3 biliwn erbyn 2030/31 i gyd-fynd â'r galw.

Fe wnaeth Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol, gydnabod na fydd gwasanaethau Cymru sydd eisoes dan bwysau yn bodloni'r galw yn y dyfodol oni chymerir camau. Dywedodd y gallai gwariant ar wasanaethau cymdeithasol fod hyd at £400 miliwn yn uwch yn 2022-23, dim ond er mwyn cynnal y lefel gyfredol o wasanaethau.

Daeth Llywodraeth flaenorol Cymru i’r casgliad nad oedd diwygio radical i wella gofal cymdeithasol yn debygol yn y dyfodol agos, o ystyried yr hinsawdd economaidd heriol a achoswyd gan y pandemig.

Dywedodd y Gweinidog ar y pryd y gellid, yn y tymor byr, weithredu mesurau sy’n “gweithio tuag at gyflwyno cyflog byw gwirioneddol i'r gweithlu”, a hynny “cyn gynted ag y bo hynny'n fforddiadwy”.

Fel y mae Ymddiriedolaeth Nuffield yn nodi, mae COVID-19 wedi gwthio'r galw am ddiwygio yn uwch ar yr agenda:

Never has social care been so prominent in public and political discussions. There is a groundswell of support for reform that presents a rare opportunity to achieve tangible change.

A fydd Llywodraeth nesaf Cymru yn trosi hyn yn gamau i wella gofal cymdeithasol?


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru