Erthyglau Amserol

Erthyglau Ymchwil

Ymchwil y Senedd

Rydym yn cynnig gwasanaeth ymchwil a gwybodaeth yn Senedd Cymru.

Mae Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi gwybodaeth am bynciau amserol a datblygiadau yn Senedd Cymru. Wrth wneud hyn, byddwn yn defnyddio amrywiaeth o fformatau, o erthyglau byr (Erthyglau Ymchwil) a phapurau briffio mwy estynedig (Cyhoeddiadau Ymchwil) i fapiau rhyngweithiol, ac mae’r rhain i gyd yn cyfrannu at drafodaethau agored a gwybodus yng Nghymru.

 

Busnes y Senedd

Byddwn fel arfer yn cyhoeddi erthyglau ymchwil cyn y dadleuon y bydd yr Aelodau’n eu cynnal yn y Siambr (Cyfarfodydd Llawn) i gyfrannu at drafodaethau agored a gwybodus yng Nghymru.

Erthyglau am y Cyfarfod Llawn

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol (Dydd Mercher 15 Mai)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: 2023 (Dydd Mercher 5 Mehefin)

Ymweld pob erthygl ar gyfer busness y Cyfarfod Llawn