Mae prif ddelwedd yr erthygl yn dangos person hapus yn dathlu gŵyl Holi yn India gyda phowdrau lliw.

Mae prif ddelwedd yr erthygl yn dangos person hapus yn dathlu gŵyl Holi yn India gyda phowdrau lliw.

Cysylltiadau rhwng Cymru ac India

Cyhoeddwyd 30/04/2024   |   Amser darllen munudau

Fel rhan o’i strategaeth ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar bartner rhyngwladol gwahanol bob blwyddyn ers 2021. Y partneriaid hyd yn hyn yw: yr Almaen (2021); Canada (2022); a Ffrainc (2023). Y nod yw dathlu a gwella'r cysylltiadau rhwng Cymru a'r gwledydd hyn trwy raglen gynlluniedig o weithgareddau a digwyddiadau.

2024 yw blwyddyn Cymru yn India.

Cafodd y flwyddyn ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi gan y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford AS, yn Llundain a chan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, ym Mumbai.

Daeth y cyhoeddiad ychydig cyn i'r Prif Weinidog newydd, Vaughan Gething AS, ddod i’r swydd. Yn ei gabinet newydd, mae portffolio’r Prif Weinidog yn cadw’r cyfrifoldeb am gysylltiadau rhyngwladol, gyda masnach ryngwladol yn aros ym mhortffolio’r economi.

Yn dilyn cais gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn y Senedd (“y Pwyllgor”), amlinellodd y cyn-Brif Weinidog y cynlluniau ar gyfer blwyddyn Cymru yn India, gan ddweud bod India yn “[b]artner masnach a diwylliannol pwysig”.

Mae'r erthygl hon yn egluro cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn Cymru yn India 2024. Mae'n edrych ar ymrwymiadau presennol, yr ystadegau masnach diweddaraf, a sut y caiff adnoddau eu trefnu ar gyfer y flwyddyn.

Swyddfeydd tramor

Mae gan Lywodraeth Cymru dair swyddfa yn India, yn Delhi Newydd, Mumbai a Bengaluru.

Mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar weithgareddau ei swyddfeydd tramor. Mae dau adroddiad wedi cael eu cyhoeddi, ar gyfer 2021-22 a 2022-23. Yn y ddau adroddiad, mae gweithgareddau blaenorol yn India yn canolbwyntio ar ymweliadau chwaraeon, gofal iechyd, addysg megis Memoranda Cyd-ddealltwriaeth rhwng sefydliadau academaidd, rhaglenni cyfnewid meddygol rhwng prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Mumbai, a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer masnach a buddsoddi.

Eglurodd y cyn-Brif Weinidog fod gweithgareddau eleni yn canolbwyntio ar y swyddfeydd hyn, a mannau eraill yn India ac yng Nghymru. Mae enghreifftiau yn cynnwys llenyddiaeth India yng Ngŵyl y Gelli, dathliadau Pride Mumbai, cerddoriaeth Indo-Gymreig yn yr Eisteddfod ac ymweliad GIG â Kerala.

Cytundeb newydd i recriwtio gweithwyr iechyd

Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi dod i gytundeb recriwtio gofal iechyd newydd â llywodraeth talaith Kerala yn India.

Mae’n dweud y bydd y cytundeb yn dod â “gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig o India i weithio yn y GIG yng Nghymru”. Bydd 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn dod i Gymru o Kerala yn y flwyddyn nesaf.

Fe wnaeth ymgyrch recriwtio ryngwladol GIG Cymru recriwtio dros 400 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o dramor i weithio yng Nghymru y llynedd. Disgwylir i ragor gael eu recriwtio eleni, gan gynnwys drwy raglen 'recriwtio rhyngwladol moesegol' gwerth £5 miliwn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae recriwtio rhyngwladol, ochr yn ochr â'n buddsoddiad a'n hymrwymiad i staff gofal iechyd o Gymru ei hun, yn un ffordd o lenwi'r bylchau yn y gweithlu gan sicrhau bod llai o ddibyniaeth ar staff asiantaeth.

Ymrwymiadau presennol

Mae cydweithredu ag India hefyd yn nodwedd drwy Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru (2020-2025) mewn meysydd fel masnach, symudedd ieuenctid, addysg ac ymchwil. I gyd-fynd â’r Strategaeth Ryngwladol, mae pum cynllun gweithredu sy’n cynnwys camau gweithredu penodol, megis:

  1. cydweithio ar ddigwyddiadau a mentrau addysgol ar y cyd gyda Chymru Fyd-eang (cynllun gweithredu diplomyddiaeth gyhoeddus a chymell tawel); a
  2. creu rhwydweithiau busnes Cymry ar wasgar mewn marchnadoedd masnachu â blaenoriaeth, gan gynnwys India, erbyn mis Medi 2021 (Cynllun gweithredu ymgysylltu â Chymry ar wasgar).

Yn 2017, cafodd Raj Kumar Aggarwal OBE DL ei benodi’n Gonswl Anrhydeddus cyntaf erioed yng Nghymru gan Uchel Gomisiynydd India.

Masnach rhwng Cymru ac India

Eglurodd y cyn-Brif Weinidog mai un o amcanion allweddol y flwyddyn yw “sicrhau cyfleoedd masnach, buddsoddi a chyflogaeth o ansawdd uchel i Gymru”. Mae Cynllun Gweithredu Allforio‘r Strategaeth Ryngwladol yn nodi India fel marchnad darged â blaenoriaeth.

Gyda Llywodraeth Cymru’n lleihau nifer ei theithiau masnach o 19 i 16 neu 17 yn y flwyddyn gyllideb hon, mae wedi blaenoriaethu taith fasnach i Mumbai a Bangalore ar gyfer mis Mai.

Yn 2023, gwerth y nwyddau a fasnachwyd rhwng Cymru ac India oedd £530.6 miliwn. Roedd hyn yn ostyngiad o 31.4% o’i gymharu â 2022.

Mae allforion i India yn 1.0% o’r nwyddau sy’n cael eu hallforio o Gymru, gwerth £187.4 miliwn. Ymhlith partneriaid masnachu Cymru, mae India yn y 18fed safle ar gyfer allforio nwyddau.

Mae nwyddau a fewnforir i Gymru o India yn 1.6% o fewnforion, gwerth £343.2 miliwn – sy’n rhoi India yn 17eg safle ar gyfer mewnforion ymhlith partneriaid masnachu.

Costau ac adnoddau

Er i gyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer masnach a buddsoddi gael ei lleihau ar gyfer 2024-25, cydnabu'r cyn-Brif Weinidog i’r gyllideb ar gyfer Cymru ac India aros yr un fath oherwydd ei bod eisoes wedi cael ei chynnwys yn y cynlluniau gwariant gwreiddiol.

Esboniodd mai £246,830 yw'r dyraniad cyffredinol yn y gyllideb ar gyfer Cymru yn India 2024.

Mae hyn yn cynnwys £224,500 o'r gyllideb Cysylltiadau Rhyngwladol (£74,500 o 2023-24 a £150,000 o 2024-25) a £22,330 o'r gyllideb Masnach a Buddsoddi ar gyfer y daith fasnach i India a ddisgrifir uchod.

Mae’r cyn-Brif Weinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd swyddog penodedig yng Nghymru yn cefnogi timau yn India a Chymru am gyfnod penodol.

Mae’r Pwyllgor wedi codi pryderon ynghylch diffyg eglurder a gwybodaeth mewn perthynas â’r gyllideb Cysylltiadau Rhyngwladol, gan gynnwys o ran canlyniadau, effaith a gwerth am arian. Mae adroddiad diweddaraf y Pwyllgor, ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo, ar gael i'w darllen.

Datblygiadau eraill

Mae rhaglen Cymru yn India 2024 yn digwydd ar adeg pan nad oes cytundeb masnach rhwng y DU ac India. Yn ôl yr adroddiadau, rhai o’r meini tramgwydd sy’n weddill yw fisas, nawdd cymdeithasol, ceir, mynediad i'r farchnad a dymuniad India i gael ei heithrio o dreth ffin y DU ar garbon, sydd ar y gweill ar gyfer 2027.

Trafododd y pedair llywodraeth y negodiadau yng nghyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach ar 16 Ebrill. Mae cofnodion Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ar Bolisi Masnach hefyd yn dangos bod trafodaethau rheolaidd ynghylch y negodiadau, ac mae’r cyn-Brif Weinidog wedi esbonio y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu busnesau i ddeall beth mae cytundeb yn ei olygu iddyn nhw, pe bai’n digwydd.

Ar yr un pryd, mae etholiad cyffredinol yn mynd rhagddo yn India; disgwylir y canlyniadau ar 4 Mehefin. Ni fydd yr etholiad yn newid llywodraeth Kerala, sef y llywodraeth y mae gan Lywodraeth Cymru Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda hi ar ofal iechyd, fel a drafodwyd uchod. Bydd etholiad cynulliad deddfwriaethol nesaf Kerala ym mis Mai 2026, yr un pryd ag etholiad y Senedd.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru