Dau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig yn ystod y dydd o’r ochr draw i Afon Tafwys, a’u hadlewyrchiad yn y dŵr.

Dau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig yn ystod y dydd o’r ochr draw i Afon Tafwys, a’u hadlewyrchiad yn y dŵr.

Seithfed cyfarfod y Fforwm Rhyngseneddol: Pigion

Cyhoeddwyd 20/06/2025

Ar 12 Mehefin 2025, cynhaliodd y Fforwm Rhyngseneddol ei seithfed cyfarfod ers ei sefydlu yn 2022.

Mae'r erthygl Pigion hon yn rhoi gwybodaeth am rôl y Fforwm Rhyngseneddol ac yn crynhoi'r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod diweddar.

I gael rhagor o wybodaeth am y Fforwm Rhyngseneddol, gweler ein herthygl gynharach.

Beth yw'r Fforwm Rhyngseneddol?

Mae’r Fforwm Rhyngseneddol yn cynnal cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn, gan ddwyn seneddwyr o bob cwr o’r DU ynghyd i drafod materion trawsbynciol.

Gwnaeth iteriad presennol y Fforwm Rhyngseneddol gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2022, yn dilyn ymlaen o'r gwaith a sefydlwyd gan y Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit.

Mae blaenoriaethau'r Fforwm yn cynnwys goruchwylio:

Y seithfed cyfarfod

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn gan Dŷ’r Cyffredin ac fe’i cadeiriwyd gan Simon Hoare AS, Cadeirydd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol.

Yn dilyn y cyfarfod, rhyddhaodd y Fforwm Rhyngseneddol ddatganiad ar y cyd yn crynhoi yr hyn a drafodwyd. Roedd hyn yn cynnwys:

Cytunodd y Fforwm Rhyngseneddol i wahodd gweinidogion o’r bedair Llywodraeth i ymddangos gyda'i gilydd yn y Fforwm nesaf.

Trefnwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn yr hydref yn 2025.

Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.