Mae'r Fforwm Rhyngseneddol wedi cynnal ei bumed cyfarfod, gan ddod â seneddwyr y DU ynghyd i drafod materion trawsbynciol.
Cyfarfu cynrychiolwyr o'r Senedd, Tŷ'r Arglwyddi, Tŷ'r Cyffredin, Cynulliad Gogledd Iwerddon, a Senedd yr Alban ar 29 Chwefror 2024 yn San Steffan i drafod materion megis cysylltiadau rhynglywodraethol a chydsyniad deddfwriaethol. Mae'r erthygl hon yn edrych ar sut y daeth y Fforwm Rhyngseneddol i fod, pryderon cyffredinol a drafodwyd yn ddiweddar, a'r gobaith yw y bydd cynnydd drwy sefydlu Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.
Sut y dylai deddfwrfeydd ryngweithio?
Ym 1999, trafododd Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ'r Cyffredin sut y dylai'r DU a deddfwrfeydd datganoledig gydweithio. Nododd y canlynol:
… witnesses hoped that there would be good working relationships between the Select Committees of this House and Committees of the devolved legislatures.
Parhaodd y drafodaeth wrth i ddatganoli ddatblygu. Yn 2014, argymhellwyd y canlynol yn ail adroddiad Comisiwn Silk:
... dylid gwella’r cydweithio rhwng y seneddau i gryfhau cyd-ddealltwriaeth o waith y Cynulliad Cenedlaethol a dau Dŷ’r Senedd yn San Steffan, yn enwedig o ran cydweithio rhwng pwyllgorau
Fodd bynnag, gellir dadlau yr ystyriwyd bod datblygu strwythurau ar gyfer cysylltiadau rhyngseneddol yn flaenoriaeth isel.
Beth yw'r Fforwm Rhyngseneddol?
Yn dilyn Brexit a throsglwyddo pwerau o'r Undeb Ewropeaidd i San Steffan a'r deddfwrfeydd datganoledig, datblygodd llywodraethau'r DU fentrau rhynglywodraethol newydd, megis strwythurau newydd ar gyfer cyfarfodydd rhwng Gweinidogion, a Fframweithiau Cyffredin i reoli gwahaniaethau polisi.
Cytundebau rhwng y DU a llywodraethau datganoledig ar sut i reoli gwahaniaethau mewn meysydd polisi a arferai gael eu llywodraethu neu eu cydlynu ar lefel yr UE. Mae meysydd polisi sy’n destun Fframweithiau Cyffredin yn cynnwys caffael cyhoeddus, iechyd a lles anifeiliaid, cymorth amaethyddol, cemegion, a diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd.
Mewn ymateb i'r newidiadau hyn, roedd galwadau i ddiwygio cysylltiadau rhyngseneddol, yr oedd rhai academyddion yn ystyried eu bod yn gyffredinol yn gyfyngedig o ran amlder a chwmpas. Argymhellodd Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar yr Undeb Ewropeaidd yn ei adroddiad ar Brexit a datganoli fod y strwythurau ar gyfer deialog a chydweithio rhyngseneddol yn cael eu cryfhau. Cynigiodd y dylid sefydlu cyfarfodydd y deddfwrfeydd ar y cyd i drafod materion mewn perthynas â Brexit i ddechrau.
Ym mis Hydref 2017, sefydlwyd y Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit mewn ymateb i hynny. Cyfarfu'r Fforwm rhwng 2017 a 2019 i drafod materion sy’n ymwneud ag ymadawiad y DU â’r UE.
Collodd y Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit fomentwm yn dilyn yr etholiad cyffredinol yn 2019 a phandemig COVID-19. Fodd bynnag, roedd galwadau’n parhau gan gyrff a phwyllgorau seneddol amrywiol am waith rhyngseneddol gwell.
Yn dilyn trafodaethau rhwng yr Arglwydd McFall o Alcluith, yr Arglwydd Lefarydd, a Llefaryddion a Llywyddion y Senedd, Cynulliad Gogledd Iwerddon, a Senedd yr Alban, ffurfiwyd yr iteriad presennol o’r Fforwm Rhyngseneddol. Cynhaliodd ei gyfarfod cyntaf ym mis Chwefror 2022.
Mae gwefan y Senedd yn nodi bod blaenoriaethau cychwynnol y Fforwm Rhyngseneddol yn cynnwys:
- Cysylltiadau rhynglywodraethol, gan gynnwys cytuno ar adroddiad blynyddol ar y cyd ar fynd i'r afael â heriau cyffredin ynghylch gwaith craffu;
- Rhoi cytundebau rhyngwladol ar waith, gan gynnwys y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, y Cytundeb Ymadael a Phrotocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon;
- Marchnad fewnol y DU gan gynnwys Deddf Marchnad Fewnol y DU a Fframweithiau Cyffredin;
- Effaith y trefniadau cyfansoddiadol newydd ar y broses ddeddfwriaethol, gan gynnwys y defnydd o bwerau eilaidd a’r broses cydsyniad deddfwriaethol.
Nododd adroddiad Cymdeithas Hansard a’r Grŵp Astudio Seneddau fod y Fforwm Rhyngseneddol yn gam cymedrol ond defnyddiol ymlaen tuag at gydweithio rhyngseneddol.
Beth a drafodwyd ym mhumed cyfarfod y Fforwm Rhyngseneddol?
Yn cyfarfod yn Nhŷ'r Arglwyddi, cadeiriwyd y Fforwm gan gadeiryddion y Pwyllgor Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd yn Nhŷ'r Arglwyddi, y Farwnes Drake a'r Arglwydd Rickets. Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Senedd oedd yn cynrychioli’r Senedd. Cyhoeddwyd datganiad ar y cyd yn dilyn y cyfarfod.
Nododd yr Arglwydd McFall o Alcuith mai dyma gyfarfod cyntaf y Fforwm Rhyngseneddol ers sefydlu Gweithrediaeth newydd Gogledd Iwerddon, ac fel y cyfryw, roedd Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cymryd rhan yn y Fforwm Rhyngseneddol am y tro cyntaf.
Ymhlith y materion o ddiddordeb cyffredin a drafodwyd roedd cysylltiadau rhynglywodraethol dan y strwythurau diwygiedig, y broses cydsyniad deddfwriaethol, a Phapur Gorchymyn Llywodraeth y DU, sef Safeguarding the Union.
Nododd y datganiad ar y cyd, yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2023, y trafododd y Fforwm Rhyngseneddol bryderon cyffredin am dryloywder a gwaith craffu ar Fframweithiau Cyffredin. Ysgrifennodd y Fforwm Rhyngseneddol at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a Michael Gove AS, y Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol, yn nodi'r pryderon ar y cyd ac yn awgrymu bod cyfleoedd yn y rhaglen Fframweithiau Cyffredin nad achubwyd arnynt.
Roedd ymateb y Gweinidog yn cynnwys yr ymrwymiad a ganlyn:
…continue to encourage ministerial colleagues to attend the Inter-Parliamentary Forum to discuss devolved matters including Common Frameworks
Yn y cyfarfod diweddaraf, ysgrifennodd y Fforwm Rhyngseneddol eto at y Gweinidog, i bwysleisio y dylai sefydlu Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ei gwneud yn bosibl i fwy o gynnydd gael ei wneud ar Fframweithiau Cyffredin.
Y cyfarfod nesaf
Gan ei bod yn debygol y bydd y Fforwm Rhyngseneddol yn cyfarfod nesaf ym mis Awst 2024, bydd aelodau'n parhau i gadw llygad ar ddatblygiadau sy'n ymwneud â Fframweithiau Cyffredin a gweithredu cysylltiadau rhynglywodraethol.
Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru