Baneri Cymru a'r UE

Baneri Cymru a'r UE

‘Llwybr mwy cadarnhaol’ ar gyfer cysylltiadau rhwng y DU a’r UE?

Cyhoeddwyd 03/11/2023   |   Amser darllen munudau

Mae cysylltiadau seneddol yn rhan allweddol o'r cytundeb masnach rhwng y DU a’r UE. Mae’r cytundeb yn sefydlu fforwm newydd i seneddwyr o’r DU a’r UE gyfarfod ddwywaith y flwyddyn i drafod y cynnydd a wnaed ar y cytundeb a chyflwr y berthynas. Mae’n cael ei adnabod fel y Cynulliad Partneriaeth Seneddol.

Mae gan y Cynulliad Partneriaeth Seneddol bwerau pwysig ar gyfer gwneud argymhellion am gytundebau rhwng y DU a’r UE i’r Cyngor Partneriaeth, lle mae’r Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth y DU yn goruchwylio’r berthynas.

Cododd cynrychiolwyr y Senedd nifer o faterion pwysig yn nhrydydd cyfarfod y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ym mis Gorffennaf 2023. Materion fel cyfranogiad y DU mewn Horizon, rhwystrau masnachol, symudedd ieuenctid a diwylliannol a gweithredu Fframwaith Windsor.

Wrth siarad yn y cyfarfod, dywedodd Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd Šefčovič fod Fframwaith Windsor wedi rhoi cysylltiadau rhwng y DU a’r UE ar lwybr mwy cadarnhaol. Croesawodd Ysgrifennydd Tramor y DU, James Cleverly, y gyd-ymddiriedaeth, hyder a dealltwriaeth sydd wedi tyfu rhwng y ddwy ochr.

Cytunodd y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ar argymhelliad ar y cyd ar ymdrech gyffredin yr UE-DU i gefnogi Wcráin a chydweithrediad effeithiol ar sancsiynau.

Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur ar gyfer gwaith ar gysylltiadau’r DU a’r UE yn y Senedd ac mae’n edrych fel y bydd hyn yn parhau hyd at 2024.

Materion pwysig i Gymru a drafodwyd yn y Cynulliad Partneriaeth Seneddol

Cynrychiolwyd y Senedd yn y cyfarfod gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies AS a Luke Fletcher AS, o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Darllenwch fwy am y canlyniadau allweddol a’r trafodaethau isod.

Cydweithio ar faterion ynni a hinsawdd

Canfyddiad allweddol y grŵp trafod ar yr hinsawdd ac ynni oedd bod 'potensial enfawr' ar gyfer cydweithredu rhwng y DU a'r UE ar sicrwydd ynni a chyflawni sero net. Tynnodd Aelodau o’r Senedd sylw at bwysigrwydd cydweithredu ym Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy a rhyng-gysylltwyr. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cydweithredu ar fecanweithiau addasu ffiniau carbon a masnachu allyriadau ar gyfer busnesau a’r uchelgais sero net.

Symudedd, galluogi pobl ifanc ac artistiaid i symud, ac ymgysylltu â dinasyddion

Mae gwella symudedd a chyfleoedd i artistiaid, pobl ifanc a dinasyddion yn parhau i fod yn ffocws allweddol i waith y Cynulliad Partneriaeth Seneddol. Mae’r materion hyn o ddiddordeb arbennig i Aelodau o’r Senedd a Chymru. Mae llai o gyfleoedd ar gyfer cyfnewid ieuenctid, diwylliannol a dinesig yn parhau i fod yn destun bryder allweddol. Tynnodd Aelodau o’r Senedd sylw at raglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Taith Llywodraeth Cymru yng Nghymru, gan gefnogi galwadau ar i’r UE a’r DU drafod cytundeb cynhwysfawr i ganiatáu i artistiaid deithio a gweithio yn y DU a'r UE.

Gweithredu Fframwaith Windsor

Croesawyd cytundeb Fframwaith Windsor fel cam pwysig yn y berthynas rhwng y DU a’r UE. Dywedodd y Comisiwn Ewropeaidd ei bod yn allweddol gweithredu'r Fframwaith yn llawn ac yn gyflym. Bydd gweithredu'r Fframwaith yn codi materion penodol i Gymru a'i phorthladdoedd. Tynnodd Aelodau o’r Senedd sylw at hyn.

Gwaith y Senedd ar gysylltiadau rhwng y DU a’r UE

Mae gwaith ar gysylltiadau rhwng y DU a’r UE yn parhau i fod yn faes ffocws allweddol ar gyfer gwaith sawl un o bwyllgorau’r Senedd. Mae'r adrannau isod yn rhoi diweddariad ar y gwaith hwn.

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sy’n gyfrifol am ystyried y broses o roi cytundebau rhwng y DU a’r UE ar waith, eu gweithrediad, a chydymffurfiaeth â hwy.

Gwaith diweddaraf

Mae'r Pwyllgor yn cwblhau ei ymchwiliad i Lywodraethiant y DU a’r UE. Bydd yr ymchwiliad yn gwneud argymhellion ar rôl llywodraethau, seneddau a chymdeithas sifil ddatganoledig mewn cysylltiadau rhwng y DU a’r UE. Mae wedi cyhoeddi canfyddiadau allweddol ei chenhadaeth canfod ffeithiau i'r UE. Mae’r Pwyllgor yn parhau i edrych ar oblygiadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir a’r rheoliadau sy’n gweithredu Fframwaith Windsor.

Mae'r Pwyllgor Diwylliant a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gyfrifol am edrych ar gysylltiadau rhyngwladol a Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru.

Gwaith diweddaraf

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ym mis Hydref. Mae’r adroddiad yn gwneud 17 o argymhellion gan gynnwys rhai ar faterion fel Horizon, hyrwyddo gwaith rhwng Cymru ac Iwerddon ac ymgysylltu â sefydliadau Cymru yn y gwaith hwnnw.

Mae'r Pwyllgor wedi lansio ymchwiliad i ddiwylliant a'r berthynas newydd â'r UE. Bydd yn edrych ar effaith y berthynas newydd ar artistiaid a gweithwyr creadigol sy'n teithio ac yn gweithio ar draws ffiniau.

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gyfrifol am fasnach, gan gynnwys y cytundebau rhwng y DU a’r UE ac effaith cysylltiadau masnachu newydd ar fusnesau a phorthladdoedd Cymru.

Gwaith diweddaraf

Mae'r Pwyllgor wedi bod yn edrych ar Fframwaith Windsor a model gweithredu ffiniau masnach newydd y DU. Cynhaliodd sesiwn gydag arbenigwyr masnach a logisteg a Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ar 11 Hydref. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn ystod y misoedd nesaf.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gyfrifol am hawliau dinasyddion Ewropeaidd o dan y Cytundeb Ymadael a chytundebau gwahanu eraill rhwng y DU a gwladwriaethau nad ydynt yn rhan o’r UE. Mae’n cyflwyno adroddiad i’r Senedd bob chwarter mewn perthynas â Chynllun Preswylio Sefydlog yr UE.

Chwe pheth i'w gwylio dros y misoedd nesaf

Bydd y misoedd nesaf yn gyfnod prysur arall o ran cysylltiadau rhwng y DU a’r UE ac ymgysylltiad y Senedd â’r materion hyn. Ymhlith y pethau i'w gwylio mae:

  1. cyfarfod Fforwm Cymdeithas Sifil y DU-UE yn Llundain ar 7 Tachwedd;
  2. cyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU-UE yn Llundain ar 4-5 Rhagfyr;
  3. bydd pwyllgorau’r Senedd yn cyhoeddi adroddiadau sylweddol ar Lywodraethiant y DU a’r UE, y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, a’r berthynas rhwng y DU a’r UE cyn diwedd y flwyddyn;
  4. mae trafodaethau ynghylch adfer trefniadau rhannu pŵer yng Ngogledd Iwerddon yn parhau, a gobeithir y bydd cynnydd yn y misoedd nesaf, ochr yn ochr â gwaith parhaus i weithredu Fframwaith Windsor;
  5. bydd model ffiniau masnach newydd y DU yn cael ei gyflwyno’n raddol o fis Ionawr 2024 a fydd yn gymwys ar gyfer yr holl fewnforion, gan gynnwys mewnforion o’r UE am y tro cyntaf ers Brexit; a
  6. disgwylir y bydd rheolau a gofynion newydd ar fasnach rhwng y DU a’r UE y cytunwyd arnynt fel rhan o’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn dod i rym ym mis Ionawr 2024.

Bydd pwyllgorau’r Senedd ac Aelodau sy’n gyfrifol am waith ynghylch y DU a’r UE yn parhau i fonitro datblygiadau a sicrhau bod lleisiau o Gymru yn cael eu clywed yn y dadleuon hyn.


Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru