Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi wyth o ddeddfau newydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod

Cyhoeddwyd 04/07/2023   |   Amser darllen munudau

Mae’r Prif Weinidog wedi nodi Agenda deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, gydag wyth Bil newydd i'w cyflwyno.

Mae’n ymddangos y bydd trydedd flwyddyn y Chweched Senedd yn un brysur gyda chyhoeddi deddfwriaeth ar drafnidiaeth, gofal cymdeithasol, Diwygio’r Senedd ac addysg Gymraeg, ymhlith llawer mwy.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar y cynigion hyn yn fanylach, ac ymateb y gwrthbleidiau i’r datganiad.

Pa ddeddfwriaeth fydd yn cael ei chyflwyno erbyn yr adeg hon y flwyddyn nesaf?

Gwasanaethau bysiau

Bydd y Bil hwn yn diwygio’r ffordd y caiff gwasanaethau bysiau eu rheoleiddio, drwy gyflwyno gwasanaethau bysiau masnachfraint Cymru gyfan. Dywedodd y Prif Weinidog y bydd “yn gwneud budd y cyhoedd yn brawf allweddol o'r ffordd y darperir gwasanaethau bysiau” yn y dyfodol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar ddiwygiadau bysiau yn 2022, a allai fod yn sail i’r Bil sydd ar ddod. Mae’r erthygl hon gan Ymchwil y Senedd yn edrych ar y cynigion yn fanylach.

Dyma’r eildro mewn ychydig dros dair blynedd i ddeddfwriaeth gael ei chynnig ar reoleiddio gwasanaethau bysiau. Cyflwynwyd Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn gynnar yn 2020, ond syrthiodd o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Diogelwch tomenni nas defnyddir

Cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai trefn o’i math cyntaf yn y byd yn cael ei chyflwyno i reoli’r tomennydd glo segur a’r rheini heb lo, fel y rheini o chwareli llechi a chloddio am fetel sy’n waddol treftadaeth ddiwydiannol Cymru.

Bydd y rheini sy’n dilyn busnes y Senedd yn agos yn cofio bod Bil i reoli diogelwch tomennydd glo hefyd wedi’i gynnwys yn natganiad rhaglen ddeddfwriaethol y llynedd.

Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i adroddiad gan Gomisiwn y Gyfraith ar opsiynau ar gyfer deddfwriaeth newydd ar reoleiddio tomenni segur, ac fe gyhoeddodd Bapur Gwyn yn amlinellu cynigion ar gyfer trefn newydd.

Diwygiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Nododd y Prif Weinidog nifer o ddiwygiadau i’r modd y bydd y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithredu yn y dyfodol. Cyhoeddodd y bydd Bil yn cael ei gyflwyno i gyflawni ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu i gyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus, ac i gefnogi’r broses o ddileu elw preifat o ofalu am blant sy'n derbyn gofal. Gweler ein papur briffio ystadegol i gael rhagor o wybodaeth am blant sy'n derbyn gofal.

At hynny, bydd y Bil yn gwneud diwygiadau i “helpu wrth reoleiddio a chynorthwyo gweithrediad effeithiol y gweithlu gofal cymdeithasol”.

Addysg Cyfrwng Cymraeg

Nod y Bil hwn yw cryfhau gallu’r system addysg i gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar Bapur Gwyn yn gynharach eleni. Roedd y canlynol ymhlith y cynigion:

  • Adlewyrchu'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn y gyfraith;
  • diwygio’r modd y mae awdurdodau lleol yn cynllunio darpariaeth Gymraeg mewn ysgolion, yn enwedig mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg; a hefyd
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru greu Cynllun Cenedlaethol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg.
Diwygio’r Senedd

Rhan fawr o raglen ddeddfwriaethol eleni fydd dau Fil sy’n canolbwyntio ar ddiwygio’r Senedd.

Bydd y ddeddfwriaeth yn adeiladu ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol ym mis Mai 2022. Mae’r erthygl hon gan Ymchwil y Senedd yn edrych ar argymhellion y Pwyllgor yn fanylach.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog fod cynlluniau i gyflwyno cwotâu ar sail rhywedd ar gyfer ymgeiswyr i’w hethol i’r Senedd yn cael eu dwyn ymlaen mewn Bil ar wahân. Mewn ymateb i gwestiwn gan Andrew RT Davies, dywedodd y Prif Weinidog fod y dull hwn yn cael ei fabwysiadu “i sicrhau y gall y prif Fil fod yno a'i weithredu yn llwyddiannus ar gyfer etholiad 2026”. Tra’n nodi ei hyder ynghylch y “cwmpas cyfreithiol yma yng Nghymru i ddeddfu yn y maes hwn”, cydnabu’r Prif Weinidog ei fod “yn faes lle gallai safbwyntiau eraill fod yn bosibl”.

Diwygio Gweinyddiaeth Etholiadol

Yn ogystal â cheisio diwygio’r Senedd, bydd Bil hefyd i edrych ar ddiwygiadau ehangach i weinyddiaeth etholiadol. Dywedodd y Prif Weinidog y byddai'r Bil hwn yn gwneud y canlynol:

  • Sefydlu Bwrdd Rheoli Etholiadol;
  • cymryd camau i sicrhau bod pob pleidleisiwr cymwys ar y gofrestr etholiadol; a
  • diwygio'r prosesau ar gyfer cynnal adolygiadau cymunedol ac etholiadol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar ystod eang o ddiwygiadau etholiadol, sydd hefyd yn cynnwys cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, ym mis Hydref 2022. Mae’r erthygl hon gan Ymchwil y Senedd yn edrych ar y cynigion hynny’n fanylach.

Cyllid Llywodraeth Leol

Bydd y Bil terfynol a gyhoeddwyd yn y Datganiad Deddfwriaethol yn ceisio diwygio'r dreth cyngor a systemau ardrethi annomestig (busnes), fel eu bod wedi’u halinio â newidiadau yn amodau’r farchnad ac yn fwy ymatebol i’r pwysau a wynebir gan bobl a sefydliadau.

Yn ogystal ag edrych ar fandiau treth gyngor ac ailbrisio, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’r Bil yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gymryd “dull mwy effeithlon” o ymdrin â’r ffyrdd y mae eithriadau, gostyngiadau a diystyriadau wedi datblygu, a’r modd y maent yn rhyngweithio â’i gilydd.

Roedd diwygio system y dreth gyngor yn un o'r ymrwymiadau a wnaed yn y Cytundeb Cydweithrediad a arwyddwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn 2021.

Edrych Tua’r Dyfodol

Yn ogystal â chyhoeddi’r Biliau ar gyfer y flwyddyn i ddod, nododd y Prif Weinidog hefyd feysydd eraill y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio deddfu ynddynt cyn diwedd tymor y Senedd hon yn 2026:

Sut ymatebodd arweinwyr y gwrthbleidiau?

Tynnodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, sylw at feysydd yn y rhaglen ddeddfwriaethol lle bydd “tir cyffredin” rhwng ei grŵp ef a Llywodraeth Cymru, megis ar fysiau a gofal i blant sy’n derbyn gofal. Anogodd Mr Davies y Prif Weinidog i sicrhau bod datblygu polisi a chyllid yn rhedeg ochr yn ochr â deddfwriaeth fel ei fod “yn gallu cyflawni er mwyn pobl mewn gwirionedd”, yn hytrach na dim ond “gweld deddfwriaeth yn gorwedd ar y llyfr statud”.

Canolbwyntiodd arweinydd newydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, lawer o’i ymateb ar gynigion i ddiwygio’r Senedd, gan ddisgrifio cyflwyno Bil Diwygio’r Senedd fel bod “yn foment nodedig yn hanes gwleidyddol Cymru”. Nododd yn arbennig yr angen i ddiwygio’r system bleidleisio a mesurau i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y Senedd.

Gwnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, groesawu cynigion i ddiddymu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal a gofynnodd am ragor o fanylion am gynlluniau i fynd i'r afael â digartrefedd yn y dyfodol. Ailbwysleisiodd ei chefnogaeth i Ddiwygio'r Senedd ond galwodd am fabwysiadu system etholiadol y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn y Bil.

Sut mae cynnydd yn cael ei fonitro?

Wrth inni agosáu at fod hanner ffordd drwy’r Chweched Senedd, bydd yr Aelodau’n cael cyfle i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni deddfwriaeth a’i rhaglen lywodraethu yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf (11 Gorffennaf). Bydd yn ddadl ar ail adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 4 Gorffennaf.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru