Diwygio etholiadol yng Nghymru: Y tu hwnt i bleidleisiau yn 16 oed

Cyhoeddwyd 25/10/2022   |   Amser darllen munudau

Mae etholiadau, sut rydym yn pleidleisio a sut mae pleidleisiau'n cael eu cyfrif, yn rhan sylfaenol o'n system ddemocrataidd.

Mae'r broses bresennol o ddiwygio etholiadol yng Nghymru yn dyddio'n ôl i Ddeddf Cymru 2017. Roedd y Ddeddf yn ddatganoli cyfrifoldeb dros etholiadau llywodraeth leol Cymru ac etholiadau'r Senedd i'r Senedd.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar ddiwygiadau etholiadol yn etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol Cymru. Mae hefyd yn edrych ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio yn y dyfodol.

Caiff cynigion ar gyfer cynyddu maint y Senedd i 96 aelod sylw ar wahân yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd a’r rhestr termau sy’n cydfynd â hi.

Pa ddiwygiadau sydd wedi’u cyflwyno?

Roedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ymestyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol i bobl ifanc 16 ac 17 oed ac i ddinasyddion tramor sy'n byw’n gyfreithlon yng Nghymru.

Fel rhan o Ddeddf 2021, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru hefyd yn gallu disodli'r system etholiadol bresennol ‘cyntaf-i’r-felin’ gyda system etholiadol gyfrannol system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) ar gyfer eu hetholiadau lleol. Fe allai newidiadau fod ar waith ar gyfer etholiadau lleol ym mis Mai 2027. Ond nid oes unrhyw gynghorau wedi cyhoeddi y byddan nhw'n newid i’r system STV, gyda Chyngor Caerdydd wedi gwrthod cynigion ym mis Gorffennaf i wneud hynny.

Cynlluniau peilot pleidleisio ymlaen llaw

Cafodd cyfres o gynlluniau peilot etholiadol eu cynnal yng Nghymru mewn etholiadau lleol ym mis Mai 2022. Cyflwynodd y cynlluniau peilot hyn orsafoedd pleidleisio ymlaen llaw mewn pedair ardal leol. Roedd y math newydd yma o orsafoedd pleidleisio yn caniatáu pleidleisio'n gynnar ar ddiwrnodau gwahanol, cyn y diwrnod pleidleisio safonol, sef dydd Iau.

Wrth werthuso’r cynlluniau peilot, daeth y Comisiwn Etholiadol i’r casgliad na wnaeth y pleidleisio cynnar hwnnw roi hwb sylweddol i'r nifer a bleidleisiodd. Roedd canran yr etholwyr a ddewisodd fwrw eu pleidlais yn gynnar yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. Mewn awdurdodau a oedd ag un orsaf bleidleisio ymlaen llaw, roedd hyn yn amrywio rhwng 0.2% a 0.3%. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle’r agorodd nifer o orsafoedd pleidleisio yn gynnar, fe wnaeth 1.5% o bleidleiswyr fwrw eu pleidlais yn gynnar.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw, er nad oedd y cynlluniau peilot wedi cynyddu'r nifer a bleidleisiodd yn sylweddol, eu bod wedi dangos bod modd darparu ffyrdd "hyblyg a mwy cyfleus" o bleidleisio'n ddiogel a chyda hyder pleidleiswyr.

Llywodraeth Cymru’n lansio Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol

Mae’r Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol yn nodi cynigion ar gyfer gweledigaeth hir dymor Llywodraeth Cymru o ran diwygio etholiadol.

Cydgrynhoi cyfraith etholiadol

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd unrhyw reolau a gaiff eu hail-wneud ar gyfer etholiadau, yn ogystal â deddfwriaeth newydd, yn "yn ddwyieithog, wedi’i cydgrynhoi, ac yn defnyddio terminoleg ddeddfwriaethol mwy clir a diweddar". Mae hyn yn adlewyrchu rhaglen ehangach o wella hygyrchedd cyfraith Cymru, gan ddechrau drwy gyflwyno Bil Cydgrynhoi cyntaf y Senedd ym mis Gorffennaf 2022.

Ar hyn o bryd mae rheolau ar gyfer etholiadau'r Senedd i'w gweld yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, a gaiff ei adolygu a'i ddiwygio cyn etholiadau'r Senedd. Yn y Papur Gwyn, mae Llywodraeth Cymru yn nodi cynlluniau i wneud 'Gorchymyn Ymddygiad' newydd cyn etholiadau'r Senedd yn 2026. Bydd y Gorchymyn newydd yn hygyrch ac yn ddwyieithog, tra'n parhau i gwmpasu rheolau hanfodol sydd wedi'u cynnwys yng Ngorchymyn 2007.

Yr agwedd arall ar gydgrynhoi a gaiff ei chwmpasu yn y Papur Gwyn yw ailddatgan yr etholfraint. Yn ogystal â’r ddadl bod y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r etholfraint yn "ddi-drefn" ac angen ei chydgrynhoi, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych ar hawliau pleidleisio dinasyddion yr UE ar ôl Brexit. Un opsiwn sydd wedi’i gynnwys yn y Papur Gwyn fyddai rhoi'r un hawliau awtomatig i ddinasyddion yr UE yng Nghymru ag a roddir i ddinasyddion tramor sy'n byw’n gyfreithlon yng Nghymru.

Cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig a phleidleisio ymhlith myfyrwyr

Mae'r system bresennol o gofrestru pleidleiswyr yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gysylltu â phob aelwyd yn flynyddol. Mae'r Papur Gwyn yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i wneud cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar gyfer etholiadau datganoledig yn orfodol i bob Swyddog Cofrestru Etholiadol. Byddai hyn yn caniatáu i’r Swyddogion Cofrestru Etholiadol ychwanegu unrhyw un at y gofrestr gan ddefnyddio data a gedwir gan yr awdurdod lleol. Fel rhan o'r diwygio hwn, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cael gwared ar gofrestrau agored ar gyfer etholiadau datganoledig.

Cofrestr Agored yw darn o'r gofrestr etholiadol lawn y gellir ei phrynu gan unrhyw berson, cwmni neu sefydliad. Gallwch optio allan o'r gofrestr agored, ac ni fydd yn effeithio ar eich gallu i bleidleisio.

Fel rhan o'i gwaith ar gofrestru awtomatig, bydd Llywodraeth Cymru’n targedu’r boblogaeth myfyrwyr, sydd yn hanesyddol wedi bod â chyfraddau is o ran cofrestru. Mae'r cynigion yn cynnwys targedu myfyrwyr yn ystod eu hwythnos gofrestru yn y coleg trwy gytundeb rhannu data rhwng y brifysgol berthnasol a'r awdurdod lleol.

Mae Plaid Geidwadol Cymru wedi beirniadu'r cynigion, gan ddadlau eu bod yn ddiangen ac yn cyflwyno mwy o gymhlethdod. Roedd Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, yn croesawu'r cynigion, gan ddadlau hefyd, pe na bai llythyrau cofrestru yn cael eu hanfon mwyach o dan system awtomataidd, byddai angen dull newydd o gyfathrebu i atgoffa pobl i bleidleisio. Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y Cyfansoddiad a Chyfiawnder, fod ei Blaid yn croesawu unrhyw ymgais i'w gwneud yn haws i bobl bleidleisio.

Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig

Cafodd cronfa sy'n cefnogi ymgeiswyr anabl ei lansio ym mis Chwefror 2021, sy’n darparu cymorth ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021, ac etholiadau lleol Cymru ym mis Mai 2022. Caiff y gronfa ei darparu gan Anabledd Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Papur Gwyn yn cynnig cyflwyno deddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru i gynnal y Gronfa.

Y cwricwlwm newydd i Gymru

Wrth siarad mewn dadl Cyfarfod Llawn ar addysg wleidyddol mewn ysgolion ym mis Gorffennaf, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad y byddai unrhyw ddeddfwriaeth diwygio etholiadol yn agor ffyrdd newydd o annog cyfranogiad pobl ifanc yn system etholiadol Cymru.

Fel rhan o hyn, mae'r Papur Gwyn yn tynnu sylw at y Cwricwlwm newydd i Gymru, a ddechreuodd gael ei gyflwyno mewn ysgolion ym mis Medi 2022. Mae'r cwricwlwm yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i blant a phobl ifanc gael eu haddysgu am systemau llywodraeth a democratiaeth, a sut mae'r rhain yn effeithio ar fywydau pobl.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn gofyn am farn tan 10 Ionawr 2023 drwy naill ai ffurflen ar-lein, e-bost neu'r post. Yna, bydd Llywodraeth Cymru’n dadansoddi ymatebion, ac yn nodi ei chamau nesaf. Efallai y bydd angen deddfwriaeth ar gyfer rhai cynigion, os cânt eu bwrw ymlaen.


Erthygl gan Philip Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru