Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru: Pa gynnydd a wnaed hyd yma?

Cyhoeddwyd 13/04/2023   |   Amser darllen munudau

Pan gyhoeddodd y Prif Weinidog bum Bil newydd fel rhan o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf y llynedd, dywedodd eu bod yn “rhan hanfodol o'n rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a radical a fydd yn helpu i lunio Cymru'r dyfodol”.

Fodd bynnag, wrth inni agosáu at ddechrau tymor yr haf, faint o gynnydd sydd wedi’i wneud ar gael y Biliau hynny drwy’r Senedd ac ar y llyfr statud?

Nid Biliau’r Senedd yw’r unig ffordd y mae deddfwriaeth sylfaenol yn cael ei gwneud ar gyfer Cymru. Bydd yr erthygl hon yn edrych hefyd ar y defnydd cynyddol o Filiau Senedd y DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig.

Pa gynnydd a wnaed hyd yma?

Plastigau untro

Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) oedd y Bil cyntaf i gael ei gyflwyno o’r rhaglen ddeddfwriaethol. Cyflwynwyd y Bil ar 20 Medi 2022 a daeth ei daith drwy’r Senedd i ben ar 6 Rhagfyr.

Cafodd y gwaith o graffu ar y Bil ei gyflymu ar gais Llywodraeth Cymru at ddibenion cefnogi ei her gyfreithiol i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 a sicrhau bod y cynhyrchion plastig untro yn y Bil yn cael eu gwahardd cyn gynted â phosibl.

Cafodd y defnydd o'r broses gyflym ei feirniadu gan dri o bwyllgorau’r Senedd ac roedd anghytuno rhwng Llywodraeth Cymru a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y modd y bydd y Bil yn rhyngweithio â Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020. Mae’r erthygl hon gan Ymchwil y Senedd yn edrych ar hyn yn fanylach.

Nid yw’r Bil wedi cael Cydsyniad Brenhinol, hyd yn hyn. Gwnaeth y Prif Weinidog ysgrifennu at y Llywydd ar 22 Mawrth 2023 i egluro y byddai’n gohirio’r Bil rhag i ddod i rym. Gan y gallai’r Bil arwain at rwystr i fasnach, mae Sefydliad Masnach y Byd yn gofyn am gyfnod o chwe mis rhwng pasio’r ddeddfwriaeth a’r ddeddfwriaeth yn dod i rym. Am y rheswm hwn, ni fydd y Bil yn dod yn gyfraith tan ddechrau mis Mehefin 2023.

Aer glân

Mae cynigion ar gyfer Bil Aer Glân wedi bod yn cael eu datblygu ers tro, gyda Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Papur Gwyn yn nodi cynigion deddfwriaethol ym mis Ionawr 2021.

Ar 20 Mawrth 2023, cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Yn ogystal â gosod targedau a sefydlu dyletswyddau ynghylch aer glân, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth seinwedd genedlaethol i fynd i’r afael â llygredd sŵn.

Gwnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith gynnal ei sesiwn dystiolaeth gyntaf ar Gyfnod 1 ar 29 Mawrth 2023 gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd. Mae’r Pwyllgor yn cynllunio sesiynau pellach drwy gydol mis Mai a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad i’r Senedd yw 14 Gorffennaf 2023.

Amaethyddiaeth

Mae Bil Amaethyddiaeth (Cymru) – a gyflwynwyd ar 26 Medi 2022 – yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cymorth amaethyddol yn seiliedig ar ‘Reoli Tir yn Gynaliadwy’ ac sy'n caniatáu pontio o system gymorth Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE. Mae’r Bil yn cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru ddisodli’r rheini sydd i ddod i ben yn Neddf Amaethyddiaeth 2020 y DU ac mae'n cynnwys darpariaethau ar brosesau datrys anghydfod, trwyddedau torri coed ac yn gwahardd defnyddio maglau a thrapiau glud.

Mae’r Bil ar hyn o bryd wrth Gyfnod 3 yn y broses ddeddfwriaethol, lle gall Aelodau gynnig gwelliannau i’r Senedd gyfan bleidleisio arnynt. Nid yw dyddiad dadl Cyfnod 3 wedi’i gyhoeddi eto ond mae’n debygol o ddigwydd dros yr wythnosau nesaf.

Diogelwch Tomenni Glo

Mae hwn yn un o ddau Fil a gyhoeddwyd yn y rhaglen ddeddfwriaethol nad ydynt eto wedi’u cyflwyno i’r Senedd. Mae tomenni glo – pentyrrau o ddeunydd gwastraff a dynnwyd o'r ddaear wrth gloddio am lo – yn waddol o orffennol diwydiannol Cymru. Mae'r rhan fwyaf o byllau glo Cymru bellach yn segur ond maent yn peri peryglon, gan gynnwys tirlithriadau, llifogydd, llygredd a hylosgi digymell.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Gomisiwn y Gyfraith ystyried opsiynau ar gyfer diwygio’r system reoleiddio ar gyfer tomenni glo. Cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ei adroddiad ym mis Mawrth 2022 ac ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 22 Mawrth 2023.

Yn yr ymateb hwn, mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd yn datgan ei bwriad i gyflwyno Bil “yn ystod tymor y Senedd hon”.

Cydsynio Seilwaith

Mae’r Bil arall o’r Rhaglen Ddeddfwriaethol nad yw wedi’i gyflwyno eto yn ymwneud â Chydsynio Seilwaith.

Gwnaeth Deddf Cymru 2017 ddatganoli pwerau pellach i Lywodraeth Cymru i roi cydsyniad i brosiectau seilwaith mawr ar y tir ac ar y môr. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar broses gydsynio newydd yn 2018. disgwylir i’r cynigion hyn yn llywio Bil i symleiddio’r broses o gytuno ar brosiectau seilwaith mawr a byddant yn cyflwyno gofyniad unigol ar gyfer cydsyniad i lunio a gweithredu prosiect.

Ym mis Hydref 2022, cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil erbyn diwedd blwyddyn y Senedd hon – yn nhymor yr haf.

Biliau eraill a ystyriwyd eleni

Yn ogystal â’r Biliau a grybwyllwyd yn y datganiad deddfwriaethol, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) ar 13 Chwefror 2023. Mae’r Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu trefn gaffael newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru.

At hynny, mae’r Senedd edi bod yn ystyried Biliau a ddygwyd ymlaen o’r flwyddyn flaenorol, gan gynnwys Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Mae Bil Bwyd (Cymru), a Bil Aelod a gyflwynwyd gan Peter Fox AS, yng Nghyfnod 1 yn y Senedd.

Defnyddio Biliau’r DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig

Yn ogystal â Biliau Cymru, mae deddfwriaeth y DU – sy’n cael eu pasio gan Senedd y DU – yn cael ei defnyddio, weithiau, i gyflwyno cyfreithiau i Gymru mewn meysydd datganoledig. Gwneir hyn drwy ofyn am gydsyniad y Senedd mewn proses a elwir yn Confensiwn Sewel.

Mae un o bwyllgorau’r Senedd, sef y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi codi pryderon am y nifer cynyddol o Filiau’r DU sy’n cael eu defnyddio i wneud deddfau mewn meysydd polisi datganoledig.

Ers i’r Prif Weinidog gyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2022, mae memoranda cydsyniad deddfwriaethol wedi’u gosod ar gyfer 15 o Filiau’r DU. Mae hyn yn dwyn cyfanswm y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a’r Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol a osodwyd yn y Chweched Senedd i 79, yn ymwneud â 34 o Filiau’r DU. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o'i gymharu â'r Bumed Senedd.

Cewch ddarllen rhagor am ddefnydd cynyddol Llywodraeth Cymru o Filiau’r DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.

Edrych tua'r dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n ddiweddar ar gynigion ar gyfer nifer o Filiau newydd y gellid eu cyflwyno cyn bo hir:

Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol nesaf yn debygol o gael ei chyhoeddi gan y Prif Weinidog cyn toriad yr haf a gallai gynnwys rhai o’r Biliau hyn. At hynny, dylai'r rhaglen hon gynnwys deddfwriaeth ar gyfer gweithredu’r broses Diwygio'r Senedd a gallai gynnwys cynigion i ddiwygio Tribiwnlysoedd Cymru.


Erthygl gan Josh Hayman & Phil Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru