COP15: Amser mynd i'r afael â'r argyfwng natur

Cyhoeddwyd 20/05/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'n debyg eich bod chi wedi clywed popeth am COP26, ond beth am COP15?

COP15 yw uwchgynhadledd bioamrywiaeth hirddisgwyliedig y Cenhedloedd Unedig. Dyma ymgais y byd i fynd i'r afael â'r 'argyfwng natur' drwy gytuno ar gamau i wrthdroi'r golled fawr mewn bioamrywiaeth a achosir gan bobl.

Ar ôl dwy flynedd o oedi oherwydd pandemig y coronafeirws, rhagwelir y bydd yr uwchgynhadledd yn cael ei chynnal yn nhrydydd chwarter 2022 yn Kunming, Tsieina.

Mae'r erthygl hon yn trafod sefyllfa bioamrywiaeth a sut y gallai COP15 wneud gwahaniaeth yn fyd-eang ac yng Nghymru.

Rydym ar drothwy’r chweched digwyddiad diflannu torfol

Mae lefelau bioamrywiaeth byd-eang bob amser wedi bod yn newid. Mae gwyddonwyr yn gwahaniaethu chwe diflaniad torfol ers i fywyd ar y Ddaear ddechrau, wedi’u cymysgu â chyfnodau o fioamrywiaeth ffyniannus.

Credir bod pob diflaniad torfol wedi arwain at ddiflaniad o leiaf 75 y cant o'r holl rywogaethau. Mae ffosiliau a ganfuwyd ar arfordiroedd Cymru yn dystiolaeth o rywogaethau a ddiflannodd gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl, a ddisodlwyd gan eraill drwy esblygiad.

Dywed gwyddonwyr ein bod ar drothwy’r chweched digwyddiad diflannu torfol, a'r cyntaf sy’n gysylltiedig â gweithgarwch pobl. Mae ymchwil yn awgrymu bod cyfradd gyfartalog colli rhywogaethau asgwrn cefn dros y ganrif ddiwethaf hyd at 100 gwaith yn uwch  na’r cyfraddau diflannu cyn pobl.

Gan fod bioamrywiaeth yn darparu gwasanaethau ecosystem’, fel peillio ac atal llifogydd, mae ei cholli yn achosi risgiau i ddiogelwch a llesiant pobl.

Mae 17 y cant o'r 3,902 o rywogaethau sy’n cael eu hastudio yng Nghymru dan fygythiad o ddiflannu.

Asesiad o’r risg o rywogaethau’n diflannu yng Nghymru (llinell sylfaen 1970)

Ffynhonnell: Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019

Datganodd y Senedd argyfwng natur

Y llynedd, datganodd y Senedd ‘argyfwng natur’. Cydnabu’r golled sylweddol o fioamrywiaeth a achoswyd gan bobl, a nododd ei disgwyliadau ar gyfer gweithredu i'w hadfer.

Cytunodd y dylid sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i:

  • gyflwyno gofyniad sy’n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol;
  • deddfu i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru.

Mae cynnydd araf yn golygu bod Cymru mewn perygl o fod ar ei hôl hi

Er bod gan Gymru dargedau statudol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, nid oes yr un targed domestig ar hyn o bryd i atal colli bioamrywiaeth a gwrthdroi hynny.

Mae cyrff anllywodraethol amgylcheddol wedi lobïo ar y mater hwn ers blynyddoedd ac mae wedi denu sylw cynyddol  yn ddiweddar yn sgil COP15 a’r targedau bioamrywiaeth rhyngwladol newydd a ragwelir.

O ran datblygiadau yng ngwledydd eraill y DU, mae Deddf yr Amgylchedd 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU osod targedau amgylcheddol drafft (gan gynnwys targedau bioamrywiaeth) yn Lloegr erbyn 31 Hydref 2022. Yn ddiweddar, cynhaliodd DEFRA ymgynghoriad ar y targedau hyn. Yn yr Alban, mae rhaglen bolisi a rennir rhwng y llywodraeth a Gwyrddion yr Alban yn ymrwymo i Fil Amgylchedd Naturiol, a gynlluniwyd ar gyfer blwyddyn tri o Senedd yr Alban. Disgwylir iddi gynnwys targedau i atal dirywiad bioamrywiaeth yr Alban erbyn 2030.

Mae rhanddeiliaid amgylcheddol yng Nghymru yn pryderu am 'fwlch llywodraethu amgylcheddol'. Ar ôl ymadael â’r UE, nid yw system lywodraethu’r UE – sy’n dwyn llywodraethau i gyfrif ar weithredu cyfraith amgylcheddol – yn gymwys yn y DU mwyach.

Er bod gwledydd eraill y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth i lenwi'r bwlch hwn, nid yw Cymru wedi gwneud, ac mae hyn wedi ysgogi rhanddeiliaid i ddweud mai Cymru sydd â'r strwythurau llywodraethu amgylcheddol gwannaf yng ngorllewin Ewrop.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddeddfu i fynd i’r afael â’r materion hyn. Fodd bynnag, mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd yn rhwystredig gan y cynnydd. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil yn ail flwyddyn y Chweched Senedd i sefydlu targedau bioamrywiaeth a chorff llywodraethu amgylcheddol.

Nid yw targedau byd-eang wedi’u cyrraedd.

Y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yw fforwm y Cenhedloedd Unedig ar gyfer cytuno ar gamau gweithredu ar fioamrywiaeth. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i bleidiau ddatblygu strategaethau a chynlluniau gweithredu cenedlaethol i ddiogelu bioamrywiaeth. Y Cynllun Gweithredu Adfer Natur yw strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â nodau’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru.

Yn COP10 (yn Nagoya, Talaith Aichi, Japan), gosododd y Confensiwn ar Fioamrywiaeth Fiolegol Gynllun Strategol ar gyfer Bioamrywiaeth 2011-2020. Cytunodd ar bum nod gydag 20 o 'dargedau Aichi', a chydnabu'r angen i fynd i'r afael â'r ffactorau sylfaenol sy'n rhoi pwysau ar fioamrywiaeth.

Nod COP10 oedd:

  • o leiaf haneru a, lle y bo'n ymarferol, dod â’r gyfradd colli cynefinoedd naturiol yn agos at sero;
  • gwarchod 17 y cant o ardaloedd dŵr daearol a dŵr mewndirol;
  • gwarchod 10 y cant o ardaloedd morol ac arfordirol; ac
  • adfer o leiaf 15 y cant o ardaloedd diraddiedig drwy gadwraeth ac adferiad.

Ddegawd yn ddiweddarach, ar lefel fyd-eang, nid oes yr un o 20 o dargedau Aichi wedi eu cyrraedd yn llawn. Dim ond chwech a gafodd eu cyrraedd yn rhannol.

Beth sydd yn y fantol gyda COP15?

Yr oedd disgwyl i fframwaith nesaf y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol ar gyfer y cyfnod ar ôl 2020 gael ei fabwysiadu yn COP15 yn 2020. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn dilyn sawl achos o oedi, rhagwelir y bydd COP15 yn digwydd ym mis Awst/Medi 2022.

Nododd 2020 ddiwedd 'Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Fioamrywiaeth' a’r gobaith oedd y byddem yn byw mewn cytgord â natur. Rydym yn bell o gyflawni hynny. Mae amgylcheddwyr yn galw ar COP15 i osod nodau uchelgeisiol newydd ar frys i fynd i'r afael â'r argyfwng natur parhaus.

Mae fframwaith drafft wedi'i lunio cyn yr uwchgynhadledd. Ei nod yw diogelu 30 y cant o dir a moroedd erbyn 2030, adfer o leiaf un rhan o bump o ecosystemau dŵr croyw, morol a daearol diraddiedig, a mynd i'r afael â chymorthdaliadau niweidiol i’r amgylchedd gan y Llywodraeth. Mae'n cynnwys targed i leihau maetholion a gollir i'r amgylchedd o leiaf hanner, plaladdwyr o leiaf ddwy ran o dair, a dileu'r gwastraff plastig sy’n cael ei ryddhau. Mae'n awgrymu dull sy'n seiliedig ar hawliau i ddiogelu hawliau pobl frodorol a chymunedau lleol i'w tiroedd a'u dyfroedd.

Mae amgylcheddwyr yn siomedig nad yw uchelgais na brys y fframwaith drafft yn cyfateb i'r hyn sydd ei angen i sicrhau byd sy'n gadarnhaol o ran natur y degawd hwn.

Mae pob un o lywodraethau'r DU wedi ymrwymo i gefnogi'r targed i ddiogelu 30 y cant o'r tir a'r moroedd erbyn 2030. Dywedodd Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn gofyn am "weithredu strategol, rheoleiddiol a deddfwriaethol" ac mae wedi lansio 'dadansoddiad manwl o fioamrywiaeth' i archwilio'r targed.

Ym mis Mawrth, cynhaliwyd rhagor o drafodaethau yng Ngenefa ar y fframwaith byd-eang newydd ar gyfer bioamrywiaeth. Rhoddodd yr RSPB grynodeb o’r canlyniadau, gan ddod i'r casgliad bod bwlch mawr rhwng yr hyn a gyflawnwyd a'r hyn sydd ei angen o hyd ar gyfer y cytundeb terfynol hanfodol yn COP15.

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ymateb o’r blaen i alwadau am dargedau bioamrywiaeth domestig drwy ddatgan uchelgais i adlewyrchu ymrwymiadau rhyngwladol a wnaed yn COP15. Bydd llawer o sylw ar Lywodraeth Cymru yn dilyn yr uwchgynhadledd, gan y disgwylir targedau domestig i fynd i'r afael â'r argyfwng natur brys.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau ar fioamrywiaeth a llywodraethu amgylcheddol.

Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru