Esblygiad y gwaith o gynllunio addysg Gymraeg – Pwyllgor yn galw am ddull gweithredu cenedlaethol cryfach a mwy cyson

Cyhoeddwyd 03/07/2023   |   Amser darllen munudau

Mae angen cryfhau’r fframwaith sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu darpariaeth addysg Gymraeg, ynghyd â chamau cadarn i fonitro cynnydd awdurdodau lleol yn y maes hwn. Dyma un o ganfyddiadau allweddol Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd yn yr adroddiad ar ei ymchwiliad i’r fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

Daeth ymchwiliad y Pwyllgor, a oedd yn cynnwys dau aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, i’r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu fframwaith cenedlaethol a fydd yn darparu un dull gweithredu cyson o gynllunio addysg Gymraeg ledled Cymru. Bydd hyn yn cefnogi'r uchelgais ehangach o gyrraedd targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Angen cryfhau a mireinio'r fframwaith ymhellach

Cafodd y fframwaith presennol ei sefydlu dros ddegawd yn ôl, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n ofynnol i awdurdodau lleol lunio Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) ar gyfer eu hardaloedd bob tair blynedd. Mae CSCA awdurdod lleol penodol yn nodi ei uchelgais a'i raglen ar gyfer datblygu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a gwella safonau addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Roedd lefel a maint yr uchelgais hwnnw yn destun pryder i’r Pwyllgor, gydag amrywiaeth sylweddol yn safon ac ansawdd pob CSCA. Clywodd y Pwyllgor fod rhai awdurdodau yn canolbwyntio llawer gormod ar yr hyn yr oeddent yn gobeithio ei gyflawni, yn hytrach na'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd, gyda pheth beirniadaeth wedi'i hanelu at arweinyddiaeth awdurdodau lleol mewn rhannau o Gymru. Nododd y Pwyllgor fod angen annog a chefnogi derbyniad diwylliannol manteision datblygu darpariaeth addysg Gymraeg yn lleol.

Er bod y Pwyllgor wedi cydnabod bod gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud i'r fframwaith dros y blynyddoedd, nodwyd yn y dystiolaeth fod yna wendidau. Ar hyn o bryd, mae’r gwaith o lunio CSCA yn canolbwyntio ar y cynnig cyfrwng Cymraeg, gyda'r posibilrwydd y bydd yn cael ei drin fel mater ar wahân i bolisïau addysg ehangach yr awdurdod. Dywedodd rhanddeiliaid fel Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wrth y Pwyllgor fod yn rhaid i’r Gymraeg fod “yn ganolog i gynlluniau ein hawdurdodau lleol ni, ac nid yn rhyw fath o bolt-on ar yr ochr.”

Ni fydd targedau Cymraeg 2050 yn cael eu cyflawni drwy ddatblygu darpariaeth yn y sector cyfrwng Cymraeg yn unig. Targed Llywodraeth Cymru yw bod 70 y cant o ddysgwyr yn gallu siarad Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol erbyn 2050. Ar hyn o bryd, mae tua 16 y cant o blant yn cael eu haddysg yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, tra bod tua 73 y cant yn cael eu haddysg gyfan drwy gyfrwng y Saesneg. Felly, mae gan y sector cyfrwng Saesneg gyfraniad mawr i’w wneud tuag at gyrraedd y targed. Yn ôl strategaeth Cymraeg 2050, i gyrraedd miliwn o siaradwyr:

mae angen i ni weddnewid sut rydym yn addysgu Cymraeg i ddysgwyr yr ysgolion hynny, er mwyn i o leiaf hanner y dysgwyr hynny allu dweud erbyn 2050 eu bod yn gallu siarad Cymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol.

Fel cefndir pellach, rhoddodd canlyniadau’r cyfrifiad o ran y Gymraeg lawer i lunwyr polisi gnoi cil arno. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu efallai nad yw’r data yn dangos y darlun llawn o ran gallu yn y Gymraeg.

Datblygiadau diweddar i gefnogi twf darpariaeth addysg Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio'r fframwaith yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gyda'r nod o unioni diffygion amrywiol. Mae’r camau a gymerwyd yn cynnwys symud i system gynllunio ragweithiol o hyrwyddo darpariaeth yn y Gymraeg, yn hytrach na dibynnu ar asesiad o angen lleol sy’n seiliedig ar alw. Hefyd, symudodd Llywodraeth Cymru at gylch 10 mlynedd o lunio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, gan geisio lleihau’r baich cynllunio ar awdurdodau ac i “annog gwell cynllunio strategol” ac aliniad â chyllid Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ceisio cynyddu capasiti a gwella sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu addysg drwy ei chynllun gweithlu Cymraeg mewn addysg. Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi bod llwyddiant y fframwaith CSCA yn y dyfodol yn dibynnu ar “sicrhau bod gweithlu cymwys ar gael yn rhwydd.” Mae cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes addysg i gaffael y sgiliau i addysgu’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg yn elfen allweddol o ddatblygu sgiliau Cymraeg dysgwyr yn y sector cyfrwng Saesneg.

Ynghyd â datblygu'r gweithlu, datblygiad diweddar arall yw cyhoeddi canllawiau newydd ynghylch categorïau ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nod y canllawiau hyn yw ei gwneud yn gliriach i rieni a gofalwyr beth i'w ddisgwyl gan ddarpariaeth ysgol o ran y Gymraeg. Maent hefyd yn ceisio annog ysgolion i symud ar hyd 'continwwm iaith', a hynny gan sicrhau bod ysgolion yn cynyddu ac yn datblygu eu darpariaeth yn y Gymraeg. Y gobaith yw y bydd rhagor o ysgolion yn troi’n ddwyieithog neu'n ysgolion cyfrwng Cymraeg dros amser.

Addysg Gymraeg: Papur Gwyn

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn gynharach eleni ar gynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg. Cynigir y byddai’r Bil yn sicrhau bod y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged statudol, ac yn diwygio’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn datblygu eu darpariaeth o ran y Gymraeg yn lleol.

Yn ganolog i’r cynigion y mae gofyniad ar Weinidogion Cymru i lunio Cynllun Cenedlaethol statudol ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg. Byddai’r Cynllun Cenedlaethol yn gosod targedau penodol a nod strategol ar gyfer pob awdurdod lleol o ran canran y dysgwyr a addysgir (yn llawn neu’n rhannol) drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried demograffeg ieithyddol cymunedau yn ogystal â ffactorau economaidd-gymdeithasol o fewn pob awdurdod wrth osod y targedau hyn.

O fewn y system newydd hon, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio Cynlluniau Gweithredu Cymraeg mewn Addysg, a fydd yn cymryd lle’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Bydd yr awdurdodau lleol yn canolbwyntio ar y camau y bydd angen iddynt eu cymryd i gyrraedd y targedau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gosod. Bydd y cynlluniau newydd yn parhau’n gynlluniau 10 mlynedd, gyda chynigion i'w hadolygu ar ôl pum mlynedd. Roedd tystiolaeth a glywyd yn ystod yr ymchwiliad yn argymell yn gryf y dylid monitro’n agosach ac adolygu cynnydd yn erbyn cynlluniau awdurdodau lleol. Bydd hyn yn dod yn fwyfwy pwysig dros amser i olrhain cynnydd a nodi methiannau.

Roedd y Pwyllgor wedi argymell y dylid datblygu fframwaith cenedlaethol i “sicrhau dull cenedlaethol cyson o gynllunio a darparu addysg Gymraeg”. Mae’r Pwyllgor hefyd yn awyddus i weld darpariaethau yn y ddeddfwriaeth arfaethedig a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i “ymyrryd a chymryd camau” os yw awdurdodau lleol wedi methu â chyrraedd eu targedau. Mae’r fframwaith presennol, yn ôl y Pwyllgor, yn arwain at fod Gweinidogion Cymru “braidd yn ddi-rym” yn hyn o beth.

Felly, beth sydd nesaf?

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r Pwyllgor ar 3 Gorffennaf 2023, gan dderbyn 12 o’r 18 argymhelliad a wnaed ganddo yn llawn, dau mewn egwyddor a dau yn rhannol. Gwrthododd ddau o argymhellion y Pwyllgor.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ddydd Mercher 5 Gorffennaf 2023. Gellir dilyn y trafodion yn fyw ar Senedd.tv a chaiff trawsgrifiad ei gyhoeddi yn fuan wedyn. Y tu hwnt i hyn, mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd Bil Addysg Gymraeg yn cael ei gyflwyno fel rhan o broses ddeddfwriaethol y Senedd yn ystod y flwyddyn nesaf.

Yn ei Phapur Gwyn, mae Llywodraeth Cymru yn disgrifio’r Bil fel “rhaglen newid sylweddol”, sydd â’r potensial i “weddnewid deilliannau ieithyddol dysgwyr yn ein hysgolion”. Amser a ddengys sut y bydd hyn yn effeithio ar hynt Cymraeg 2050 ac a all helpu i wrthdroi’r dirywiad ymddangosiadol yn y gallu i ddefnyddio’r Gymraeg a nodir yng nghanlyniadau'r cyfrifiad.


Erthygl gan Osian Bowyer a Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru