Arian newydd

Arian newydd

Beth all Incwm Sylfaenol Cyffredinol ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 17/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/06/2021   |   Amser darllen munudau

O gynigion polisi diweddar Llywodraeth Cymru, mae’r cyhoeddiad y bydd cynllun peilot o Incwm Sylfaenol Cyffredinol (ISC) ymhlith y mwyaf trawiadol.

Yn y ddadl ynghylch ISC mae barn gref ar y ddwy ochr. I’r rhai sydd o blaid mae potensial iddo fod fel fersiwn ein cenhedlaeth o greu’r GIG, ond yn ôl eraill nid dyma’r ateb a fydd yn trechu tlodi.

Mae ein herthygl yn ymdrin â glo mân y ddadl, gan bwyso a mesur dadleuon o blaid ac yn erbyn ISC, beth mae'r setliad datganoli yn ei olygu i gynllun peilot yng Nghymru, a beth yw’r dystiolaeth mewn mannau eraill.

Beth yw Incwm Sylfaenol Cyffredinol, a beth sy'n cael ei gynnig yng Nghymru?

Mae ISC yn disgrifio dull lle mae'r llywodraeth yn rhoi i oedolion daliad diamod safonol a rheolaidd, ni waeth beth fo'u hincwm arall. Mae rhai yn dadlau y dylai ISC fod yn ddigon i fyw arno ar ei ben ei hun; mae eraill yn cefnogi taliadau cynhwysol mwy cyfyngedig, ochr yn ochr â'r systemau nawdd cymdeithasol presennol.

Megis dechrau mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer peilot o Incwm Sylfaenol Cyffredinol, ond ymddengys eu bod yn canolbwyntio ar grŵp bach wedi'i dargedu. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod “dadleuon cryf” dros ganolbwyntio ar bobl sy’n gadael gofal yn y cynllun peilot.

Fodd bynnag, mae nifer o unigolion a sefydliadau sy'n cefnogi cyflwyno ISC wedi nodi dewisiadau amgen posibl . Mae Autonomy a Jonathan Rhys Williams o UBI Lab Cymru wedi galw am beilot daearyddol heb brawf modd dros gyfnod o sawl blwyddyn, a fyddai’n cynnwys tua 5,000 o bobl am gost flynyddol oddeutu £40 miliwn i £50 miliwn. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cefnogi dull tebyg, ac mae hefyd wedi awgrymu peilot wedi'i dargedu at sector y celfyddydau.

Sut y bydd y setliad datganoli yn effeithio ar beilot ISC Cymru?

Nid yw nawdd cymdeithasol wedi'i ddatganoli i Gymru, ac eithrio Budd-dal y Dreth Gyngor a'r Gronfa Cymorth Dewisol. Her allweddol i Lywodraeth Cymru fydd datblygu peilot o fewn y setliad datganoli, ac yn ôl y Prif Weinidog, un o’r rhesymau dros gynnal peilot cyfyngedig yw: “we don’t have all the powers in our own hands to do it on our own”.

Yn 2018 cafodd yr Alban bwerau i ychwanegu at fudd-daliadau sydd wedi’u cadw gan San Steffan, ac i greu budd-daliadau newydd mewn meysydd nad ydynt yn gysylltiedig â materion a gedwir yn ôl. Ers hynny, cafwyd galwadau i adolygu'r system nawdd cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Bumed Senedd.

Mater allweddol arall yw sut y bydd cynllun peilot ISC a'r systemau treth a budd-dal yn effeithio ar ei gilydd. Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (yn ei rôl flaenorol fel y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd) am dreialu ISC:

[…] na fyddai treial felly'n bosibl heb gydweithrediad gweithredol Llywodraeth y DU, a hynny oherwydd y rhyngweithio rhwng incwm sylfaenol cyffredinol a'r system dreth a budd-daliadau.

Er bod gan yr Alban fwy o bwerau nawdd cymdeithasol na Chymru, mae gwaith diweddar a wnaed yno yn taflu goleuni ar y materion hyn. Ymchwiliodd pedwar awdurdod lleol yn yr Alban i ddichonoldeb Incwm Sylfaenol y Dinasyddion (CBI), gan gasglu:

“[T]he required legislative and delivery competencies for a CBI pilot are reserved to the UK Government and, therefore, at present neither the Scottish Government or Local Authorities on their own could introduce a CBI.”

Roedd pryderon hefyd y gallai cynllun peilot arwain at anfantais ariannol uniongyrchol i gyfranogwyr, gan fod posibiliad y gallai’r system nawdd cymdeithasol sydd ohoni gwtogi ar y budd-daliadau a delir i bobl sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot oherwydd cynnydd yn incwm y cartref ac asedau.

Beth yw'r prif ddadleuon o blaid ac yn erbyn ISC?

Mae'r ysgrifennu helaeth ar Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn dangos cefnogaeth a beirniadaeth o amrywiaeth eang o safbwyntiau.

Mae'r UBI Lab Network, Basic Income a’r Gymdeithas Frenhinol er hybu’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach yn galw am ISC, ac mae UBI Lab Cymru wedi galw amdano yng nghyd-destun Cymru. Canfu arolwg a gynhaliwyd ar ran Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol fod bron i 70 y cant yng Nghymru yn cefnogi cynnal cynllun peilot ISC.

Mae eraill wedi mynegi safbwyntiau mwy drwgdybus, gan gynnwys y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, y Sefydliad Materion Economaidd, a Sefydliad Joseph Rowntree.

Mae sawl thema gyson yn codi. Mae cefnogwyr ISC yn dadlau bod incwm sylfaenol:

  • yn rhywbeth y mae gan bob dinesydd hawl iddo, a’i fod yn ddiogelwch rhag tlodi ac yn gwella iechyd a llesiant;
  • yn gallu rhannu incwm cenedlaethol yn decach;
  • yn gallu talu am lafur di-gyflog, megis gofalu;
  • yn rhoi rhyddid i weithwyr ddewis opsiynau eraill, efallai mwy entrepreneuraidd; a’i fod
  • yn syml ac yn haws ei ddeall na systemau cymhleth nawdd cymdeithasol.

Fodd bynnag, mae gwrthwynebwyr yn dadlau bod ISC:

  • yn hynod gostus (nododd y Gweinidog y gallai ISC llawn yng Nghymru gostio £35-40 biliwn);
  • yn ddiwahân, felly mae arian hefyd yn mynd at y rhai nad oes ei angen arnynt;
  • yn cynrychioli newid sylweddol o systemau nawdd cymdeithasol presennol; ac
  • yn gallu bod yn gymhelliant i bobl chwilio am gyflogaeth.

Beth yw dewisiadau posibl yn lle ISC?

Mae rhai sefydliadau fel y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol yn cefnogi‘r system Credyd Cynhwysol gyfredol dros ISC, ond mae eraill wedi galw am i wahanol ddulliau gael eu cyflwyno yn hytrach nag ISC. O dan y setliad datganoli, byddai rhai o’r rhain yn haws eu cyflawni na’i gilydd.

Mae Dr Victoria Winckler o Sefydliad Bevan wedi awgrymu y gellid diwygio'r system nawdd cymdeithasol gyfredol, ac y gellid gwneud newidiadau ar unwaith i 'fudd-daliadau Cymreig a weithredir gan Lywodraeth Cymru, megis cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a phrydau ysgol am ddim.

Mae'r Athro Ian Gough o blaid cyflwyno Gwasanaethau Sylfaenol Cyffredinol (UBS), sy'n argymell darpariaeth fwy cyffredinol o wasanaethau cyhoeddus fel gofal, trafnidiaeth a thai.

Mae’r Sefydliad Economeg Newydd wedi galw am i Incwm Byw gael ei gyflwyno i bawb, tra bod adroddiad gan Gymdeithas Fabian ar gyfer y TUC yn argymell y dylid datblygu budd-daliadau cyffredinol amgen fel ffordd well o gwrdd â’r heriau sy’n deillio o newidiadau i fyd gwaith.

Beth y gallwn ei ddysgu o brofiadau rhyngwladol o ISC?

Mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol wedi cael ei dreialu mewn sawl lle, ond ni threialwyd model ISC llawn.

Cenia

Cynhaliwyd yr astudiaeth fwyaf a hwyaf o ISC yng Nghenia. Dechreuodd yn 2016 ac mae'n cynnwys 20,000 o bobl wedi'u rhannu'n dri grŵp: grŵp tymor byr (dwy flynedd), grŵp tymor hir (12 mlynedd), a grŵp cyfandaliad.

Ym mis Mawrth 2021 adroddodd yr astudiaeth fod diogelwch bwyd yn well i dderbynwyr ISC a’u bod yn llai tebygol o fod wedi wynebu newyn. Fodd bynnag, canfu hefyd nad oedd ISC yng Nghenia yn effeithiol o ran amddiffyn derbynwyr rhag cyni economaidd yn gyfan gwbl.

Y Ffindir

Cynhaliwyd Arbrawf Incwm Sylfaenol yn y Ffindir rhwng 2017-2018. Talwyd €560 y mis i 2,000 o bobl ddi-waith 25-58 oed. Canfu'r arbrawf bod yr effeithiau ar gyflogaeth yn fach, ond bod y derbynwyr yn fwy bodlon ar eu bywydau ac yn wynebu llai o straen meddyliol, a bod ganddynt ganfyddiad mwy cadarnhaol o’u lles economaidd.

Unol Daleithiau America

Ym mis Chwefror 2019 cychwynnodd astudiaeth ddwy flynedd yn Stockton, Califfornia. Yn ôl adroddiad ar ganfyddiadau o’r flwyddyn gyntaf mae derbynwyr yr incwm gwarantedig yn iachach, yn dangos llai o iselder a phryder a gwell lles, ac yn gallu dod o hyd i gyflogaeth amser llawn.

Beth nesaf?

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ynghylch peilot ISC y byddai angen iddo gael ei gynllunio’n ofalus, “to make sure that it is genuinely adding income for the group of people we are able to work with”. Wrth i ragor o fanylion am gynlluniau Llywodraeth Cymru ddod i law, byddwn yn dychwelyd at y pwnc hwn i weld sut mae'n cymharu â’r uchelgais hon.


Erthygl gan Gareth Thomas, Lucy Morgan a Paul Worthington, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru