Defnyddiwr cadair olwyn yn y gwaith

Defnyddiwr cadair olwyn yn y gwaith

Mynediad i waith i bobl anabl yng Nghymru

Cyhoeddwyd 27/04/2023   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ill dwy wedi ymrwymo i gefnogi mynediad i waith i bobl anabl ac i leihau'r bwlch cyflogaeth anabledd. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gymorth cyflogaeth a nawdd cymdeithasol, tra bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gyflogadwyedd a sgiliau.

Y llynedd, llwyddodd Llywodraeth y DU i gyflawni ei nod i weld un filiwn yn fwy o bobl anabl mewn gwaith , ond mae hynny ond yn adrodd rhan o’r stori. Er bod mwy o bobl anabl mewn gwaith, y gwir amdani yw bod y bwlch rhwng pobl anabl o oedran gweithio a phobl nad ydynt yn anabl o oedran gweithio wedi cynyddu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am gau'r bwlch  rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth sy'n gweithio, ac mae wedi ymrwymo i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru (Mae Erthygl 27 yn cydnabod hawl pobl anabl i weithio ar sail gyfartal ag eraill). Mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn bwriadu ymgorffori'r Confensiwn, ac nid yw Llywodraeth y DU, er gwaethaf y ffaith ei bod wedi cadarnhau'r Confensiwn yn 2009, wedi gwneud unrhyw ymrwymiad i’w ymgorffori yng nghyfraith y DU.

Yn yr erthygl hon, byddwn yn edrych ar y dystiolaeth a’r cynnydd a wnaed o ran cyflawni’r ymrwymiad hwn.

Y bwlch cyflogaeth anabledd

Mae’r grŵp ymgyrchu Disability Rights UK yn dadlau:

Barriers to more disabled people getting employment do not lie with Disabled people ourselves but with society – including inaccessible transport, poor employer attitudes, inadequate flexible working and Access to Work Support and failure to make reasonable adjustments.

Erbyn mis Mai 2022, roedd un filiwn yn fwy o bobl anabl yn y DU mewn gwaith. Fodd bynnag, mae'r data ar gyfer mis Gorffennaf i fis Medi 2022 yn dangos bod y gyfradd cyflogaeth i bobl anabl wedi gostwng ers yr un adeg y llynedd, ac mae’r gyfradd cyflogaeth i bobl nad ydynt yn anabl wedi cynyddu. Mae hyn yn golygu bod y bwlch cyflogaeth anabledd (h.y. y bwlch rhwng pobl anabl o oedran gweithio a phobl nad ydynt yn anabl o oedran gweithio) ar ei uchaf ers 2018.

Roedd y ffigurau wedi dechrau dychwelyd yn ôl i’w lefelau cyn y pandemig, er hynny, y gred yw bod nifer o resymau wedi cyfrannu at hyn, gan gynnwys cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu dynodi’n anabl.

Ar 32.3 pwynt canran, mae’r 'bwlch cyflogaeth anabledd' yng Nghymru yn uwch o'i gymharu â'r Alban (31.6 pwynt canran) a'r DU yn ei chyfanrwydd (29.8 pwynt canran). Yng Nghymru, mae'r bylchau cyflogaeth anabledd mwyaf ym Mlaenau Gwent (46.8 pwynt canran) a Chastell-nedd Port Talbot (44.5 pwynt canran). Mae'r ddau yn ymddangos ar yr 20% uchaf o fylchau cyflogaeth anabledd yn y DU.

Cyfradd cyflogaeth pobl 16-64 oed yn ôl statws anabledd, Cymru (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2014 i'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021)

 

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth – Anabledd a chyflogaeth.

Mae'r bwlch hwn yn fwy ar gyfer pobl anabl heb fawr ddim neu ddim cymwysterau.

Lefel uchaf o gymhwyster pobl 21 i 64 oed yn ôl statws anabledd; DU, Gorffennaf 2020 i Fehefin 2021

 

Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth – Bylchau cyflog crai yn ôl anabledd, SYG.

Ochr yn ochr â'r bwlch cyflogaeth anabledd, mae gweithwyr anabl hefyd yn fwy tebygol o fod yn gweithio'n rhan amser, gyda 41% o weithwyr anabl a 29% o weithwyr nad ydynt yn anabl yn gweithio'n rhan amser.

Cyfran y gweithwyr 16+ oed yn ôl nifer yr oriau a weithiwyd a statws anabledd, Cymru

 

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 - Anabledd ac oriau a weithiwyd, SYG.

Mae rhan amser yn golygu 30 awr neu lai a weithiwyd bob wythnos. Mae amser llawn yn golygu 31 awr neu fwy. Diffinnir anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb

Camau gweithredu Llywodraeth y DU i gefnogi pobl anabl i gael gwaith

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol ar sail anabledd mewn cyflogaeth a recriwtio. Rhaid i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol i gefnogi pobl anabl sy’n gwneud ceisiadau am swyddi a chyflogeion anabl. Gall addasiadau rhesymol gynnwys gwneud newidiadau i'r broses recriwtio, yr amgylchedd gwaith ffisegol, offer neu oriau gwaith cyflogeion.

Ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth hon i ddiogelu hawliau pobl anabl, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu cynllun i gefnogi pobl anabl i gael gwaith. Mae’r mentrau yn cynnwys y cynllun Mynediad at Waith sy'n darparu cymorth i ddiwallu anghenion pobl anabl yn y gweithle, i'w helpu i ddod o hyd i waith neu aros mewn gwaith.

Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu cyflogwyr i greu gweithluoedd mwy hygyrch ac amrywiol trwy hyrwyddo arferion recriwtio cynhwysol.

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Phapur Gwyn ar Iechyd ac Anabledd sy'n anelu at helpu pobl anabl ddi-waith i ailddechrau gweithio ac i barhau i weithio. Fodd bynnag, mae'r grŵp ymgyrchu Disability Rights UK yn pryderu ei fod yn cael gwared ar yr Asesiad Gallu i Weithio sy’n asesu a yw person anabl yn gallu gweithio ac yn amddiffyn y rhai nad ydynt yn gallu gweithio rhag sancsiynau budd-daliadau, gan osod system yn lle hynny sy’n anelu at annog pobl anabl sy’n hawlio budd-daliadau i geisio chwilio am swyddi a gwneud cais amdanynt.

Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi sawl cynllun sydd â’r nod o gynyddu mynediad pobl anabl i waith. Mae Cynllun Cyflogadwyedd 2018 yn nodi ei hymrwymiad i gynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith a gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod gweithleoedd yn amgylcheddau cynhwysol a chefnogol

Yn 2019, sefydlodd y Fframwaith a Chynllun Gweithredu Hawl i Fyw’n Annibynnol rwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i ymgysylltu â chyflogwyr i’w hannog i gyflogi mwy o bobl anabl. Roedd yn ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd i danategu ei pholisïau cyflogaeth a'i dulliau recriwtio, a rhannu'r dull gweithredu fel rhan o symudiad ehangach i ddileu rhwystrau cyflogaeth i bobl anabl.

Mae Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu 2022 i 2026 yn blaenoriaethu gwella mynediad i gyflogaeth, hyfforddiant a chymorth i bobl ag anableddau dysgu. Roedd y cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, yn rhoi ffocws o’r newydd ar wella canlyniadau'r farchnad lafur i bobl anabl.

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd y Fforwm Cydraddoldeb Anabledd yr adroddiad: ‘Drws ar glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl i fynd i’r afael â’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad, sy’n cynnwys cyflogaeth ac incwm. Disgwylir i’r ‘Cynllun Gweithredu Hawliau Pobl Anabl’ gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.

Y camau nesaf

Er gwaethaf y ffocws ar wella canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl, mae'n ymddangos nad oes llawer o ymchwil wedi’i gynnal ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â hyn.

Mae Anabledd Cymru wedi nodi sawl mater sy'n effeithio ar fynediad pobl anabl i waith, gan godi’r mater allweddol o amharodrwydd gan gyflogwyr i weithredu eu haddasiadau rhesymol. Gall mynediad gwael at gymorth cyfreithiol ei gwneud hi'n anodd i bobl anabl elwa ar ddeddfwriaeth sy'n bodoli i amddiffyn eu hawliau (nid oes gan lawer ohonynt yr adnoddau i gefnogi proses tribiwnlys).

Tynnodd adroddiad gan Leonard Cheshire sylw at ddiffyg ymwybyddiaeth ac oedi i gefnogi cynlluniau fel Mynediad at Waith, yn ogystal â gwahaniaethu ac agweddau negyddol tuag at bobl anabl ymhlith rhai cyflogwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar ei chynllun gweithredu hawliau anabledd, a ddylai ei gwneud yn gliriach sut y mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r bwlch cyflogaeth anabledd. Bydd angen i ni aros blwyddyn arall cyn i hynny gael ei gyhoeddi. Am y tro, nid oes llawer o dystiolaeth i ddangos bod cynnydd wedi'i wneud i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn nghyfraith Cymru.

Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid ystyried hawliau pobl anabl wrth ddeddfu yn y Senedd, a byddai’n darparu fframwaith ar gyfer datblygu polisi, sy’n gam y mae sefydliadau anabledd wedi bod yn galw amdano ers amser maith.


Erthygl gan Claire Thomas a Joe Wilkes Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru