Cenedl yn cydweithio: beth yw Cyd-bwyllgorau Corfforedig a beth fyddant yn ei wneud?

Cyhoeddwyd 25/05/2022   |   Amser darllen munudau

Wrth i bethau dawelu yn sgil yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ym mis Mai, bydd y rhai sy’n arwain ein 22 awdurdod lleol yn troi eu sylw at eu mewnflychau. Mae awdurdodau lleol yn wynebu heriau digynsail, gan gynnwys ceisio adfer gwasanaethau lleol ar ôl y pandemig, a rheoli pwysau ar y gweithlu yn ystod yr argyfwng costau byw.

Cafwyd setliad ariannu gwell i lywodraeth leol ar gyfer 2022 -23, gan gynnwys cyllid dros dro hyd at 2024-25, sy’n rhoi rhywfaint o sicrwydd i awdurdodau o ran cynllunio ar gyfer y tymor hwy. Mae dyletswyddau a phwerau newydd yn rhoi momentwm ychwanegol i’r awdurdodau yng nghyd-destun mynd i'r afael â materion ar lefel leol a rhanbarthol. Gallai’r modd y mae cynghorau a’u harweinwyr yn defnyddio’r pwerau hyn ddylanwadu ar feysydd polisi allweddol am flynyddoedd i ddod.

Dyletswyddau newydd i annog mwy o gydweithio

An image from above with smartly dressed people sat around a table with laptops and paper plans discussing and pointing at the plans.Gwnaeth Senedd Cymru basio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ym mis Tachwedd 2021. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y Ddeddf “yn darparu ffyrdd newydd i lywodraeth leol gefnogi a gwasanaethu eu cymunedau” ac i “adfywio democratiaeth leol yng Nghymru.”

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith i gefnogi ac annog mwy o gydweithio rhwng awdurdodau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y fframwaith yn “cefnogi ac yn annog gweithio a chydweithio’n rhanbarthol drwy ddull mwy cydlynus, cyson a syml a reolir yn ddemocrataidd.” Bydd hyn yn cael ei gyflawni, yn bennaf, gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig newydd.

Beth yw Cyd-bwyllgorau Corfforedig?

Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyrff corfforaethol rhanbarthol sydd â phwerau a dyletswyddau sy’n weddol debyg i bwerau a dyletswyddau awdurdodau lleol. Mae ganddynt strwythurau llywodraethu a gweinyddol tebyg hefyd, ond mae ganddynt lefel o ddisgresiwn o ran eu trefniadau cyfansoddiadol a gweithredol.

Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gallu cyflogi staff yn uniongyrchol, dal asedau, a rheoli cyllid yn yr un modd ag y byddai awdurdod lleol yn ei wneud. Yn ôl y gyfraith, mae gofyn iddynt benodi Prif Weithredwr, Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro.

Mae’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cynnwys yr awdurdodau lleol a enwir yn y Rheoliadau sy’n eu sefydlu, ac mae eu haelodau yn cynnwys arweinwyr gweithredol yr awdurdodau lleol sydd o fewn y rhanbarth dan sylw (hynny yw, arweinwyr etholedig y cynghorau). Mae awdurdodau’r parciau cenedlaethol hefyd wedi'u cynnwys mewn achosion lle mae awdurdod o’r fath yn gorwedd o fewn ardal Cyd-bwyllgor Corfforedig, naill ai yn gyfan gwbl neu'n rhannol.

Mae dwy ffordd o sefydlu Cydbwyllgor Corfforedig:

  • gall dau awdurdod lleol neu fwy wneud cais i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig;
  • gall Gweinidogion Cymru roi’r broses hon ar waith.

Ym mis Chwefror 2021, gosododd Gweinidogion Cymru reoliadau a oedd yn sefydlu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig sydd, gyda’i gilydd, yn cwmpasu Cymru yn ei chyfanrwydd:

Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd;

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021 yn cynnwys y cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol canlynol:

Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam

Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth;

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021 yn cynnwys y cynghorau sir canlynol:

Ceredigion a Phowys

Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin;

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021 yn cynnwys y cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol canlynol:

Sir Benfro, Sir Gâr, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot

Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain;

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) 2021 yn cynnwys y cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol canlynol:

Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy, Casnewydd a Chaerdydd.

Beth all y Cyd-bwyllgorau Corfforedig ei wneud?

Mae’r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gyfrifol am waith cynllunio datblygu strategol, gwaith cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol a hyrwyddo llesiant economaidd eu hardaloedd. Gallai Gweinidogion Cymru bennu swyddogaethau ar gyfer y Cyd-bwyllgorau Corfforedig sy’n ymwneud â gwella addysg, ond nid yw hyn wedi'i nodi ar hyn o bryd yn y Rheoliadau.

Cynlluniau Datblygu Strategol

Mae cyfraith cynllunio Cymru yn sefydlu fframwaith fel y gall awdurdodau cynllunio lleol gyflwyno cynlluniau datblygu strategol. Y nod yw ymdrin yn fwy effeithiol â materion trawsffiniol rhanbarthol fel tai a thrafnidiaeth, a darparu dull strategol o gynllunio ar raddfa fwy na’r hyn a welir mewn cynlluniau datblygu lleol unigol.

Mae'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gyfrifol am baratoi'r cynlluniau datblygu strategol. Bydd awdurdodau cynllunio lleol yn parhau i baratoi cynlluniau datblygu lleol, ond bydd y cynlluniau hynny yn fwy penodol eu natur.

Swyddogaethau Trafnidiaeth

Mae’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig hefyd yn gyfrifol am ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol. Bydd y cynlluniau hyn yn disodli cynlluniau trafnidiaeth lleol a baratowyd yn flaenorol gan awdurdodau unigol.

Gwnaeth Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 alluogi’r broses o sefydlu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth. Byddai gan y Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth arfaethedig eu trefniadau llywodraethu a'u cyfansoddiad eu hunain. Yn ogystal, byddai ganddynt bwerau i ddatblygu strategaethau trafnidiaeth rhanbarthol o fewn cyd-destun cenedlaethol ehangach. Diddymodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 y darpariaethau penodol yn Neddf 2006 ar gyfer sefydlu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth, gan ddarparu bod y swyddogaethau hyn yn cael eu hymgorffori yn y Cyd-bwyllgorau Corfforedig newydd.

Y swyddogaeth llesiant economaidd

Mae gan y Cyd-bwyllgorau Corfforedig bŵer i hyrwyddo a gwella llesiant economaidd eu hardaloedd. Gellir arfer y pŵer er budd ardal gyfan y Cyd-bwyllgor Corfforedig dan sylw, neu ran ohoni, neu er budd yr holl bobl, neu unrhyw berson, sy’n preswylio yn yr ardal honno. Rhagwelir y bydd bargeinion twf dinesig neu ranbarthol yn cael eu hymgorffori yng ngwaith y Cyd-bwyllgorau Corfforedig, er bod rhai agweddau ar y sefyllfa hon i’w datrys o hyd.

Mae dull y fargen ddinesig a thwf yn seiliedig ar bob rhanbarth yn nodi ac yn mabwysiadu cynllun hirdymor strategol ar gyfer datblygiad economaidd y rhanbarth. Mae pob bargen yn seiliedig ar raglen 15 neu 20 mlynedd o fuddsoddiad cyfalaf wedi’i chynllunio gan y rhanbarth ac wedi’i chefnogi gan awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a chyllid arall gan y sector cyhoeddus a'r sector preifat.

Pryd y bydd eu gwaith yn dechrau?

Daeth y Rheoliadau sy’n sefydlu’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig i rym ym mis Ebrill 2021. Roedd yn ofynnol i bob Cyd-bwyllgor gytuno ar gyllideb ar gyfer 2022-23, a chymeradwyo ardoll ar bob awdurdod cyfansoddol erbyn 31 Ionawr 2022. Y cyllidebau y cytunir arnynt ar gyfer y flwyddyn i ddod yw'r lleiafswm sydd ei angen ar gyfer cyflawni swyddogaethau cynllunio strategol, ym marn y Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae cyllidebau yn debygol o gynyddu yn y dyfodol. Rhennir cyllidebau’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ddwy gronfa:

  • Cyllideb Cynllunio Strategol ar gyfer gwaith ar gynlluniau datblygu strategol;
  • Cronfa Gyffredinol ar gyfer swyddogaethau trafnidiaeth a llesiant economaidd.

Mae tri o’r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi cytuno i ddefnyddio methodoleg sy’n seiliedig ar boblogaeth i ddyrannu’r ardoll ar draws pob un o’r awdurdodau cyfansoddol. Cytunodd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth, sy’n cynnwys Powys a Cheredigion yn unig, i rannu’r ardoll yn gyfartal rhwng y ddau gyngor yn 2022-23.

Bydd pob Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cytuno ar y swm y bydd disgwyl i’r tri awdurdod parc cenedlaethol yn ardal y Cyd-bwyllgor ei gyfrannu. Yn gyffredinol, dim ond i'r Gyllideb Cynllunio Datblygu Strategol y bydd yr ardoll yn berthnasol.

Ni fydd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn dechrau arfer eu swyddogaethau craidd tan 30 Mehefin 2022 – dyddiad y cytunwyd arno gan y Cyd-bwyllgorau eu hunain.

Yn wreiddiol, roedd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru am integreiddio Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, roedd materion technegol yn ymwneud â gallu'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig i adennill treth ar werth, materion yn ymwneud â chael mynediad at fenthyca drwy'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, a materion yn ymwneud â threth gorfforaeth, yn golygu y bu’n rhaid iddo newid ei ddyddiad dechrau a’i gysoni â dyddiadau’r Cyd-bwyllgorau eraill.

Beth allwn ni ei ddisgwyl yn y dyfodol?

Mae’n rhy gynnar i wybod a fydd creu strwythurau rhanbarthol newydd yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl yn yr ardaloedd hynny. Roedd cryn dipyn o’r gwaith y bydd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ei wneud eisoes yn digwydd, i ryw raddau, ar lefel ranbarthol. Amser a ddengys a fydd ategu’r gwaith hwn â deddfwriaeth yn arwain at fecanwaith mwy cydlynol a chyson ar gyfer cydweithio ledled Cymru.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru