Arwydd terfyn cyflymder 20mya wedi'i leoli ar stryd breswyl yng Nghaerdydd

Arwydd terfyn cyflymder 20mya wedi'i leoli ar stryd breswyl yng Nghaerdydd

Paratoi ar gyfer terfynau cyflymder o 20mya

Cyhoeddwyd 27/06/2023   |   Amser darllen munudau

Ym mis Medi eleni, bydd y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru yn lleihau o 30mya i 20mya. Dyma’r cynllun cenedlaethol cyntaf o’i fath yn y DU.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y bydd hyn yn chwarae “rhan annatod” wrth gyrraedd targedau newid moddol a nodir yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae’n dweud y bydd yn gwneud cymunedau'n fwy diogel ac yn helpu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ar yr un pryd.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd, a'r ymateb i'r newid wrth i Gymru baratoi ar gyfer ei weithredu.

I ba ffyrdd y bydd y gofyniad newydd yn berthnasol?

30mya yw'r terfyn cyflymder safonol ar gyfer y rhan fwyaf o'n strydoedd trefol a phreswyl, a elwir yn ‘ffyrdd cyfyngedig'. Diffinnir y rhain fel ffyrdd â goleuadau stryd bob 200 llath.

O 17 Medi 2023 bydd y terfyn diofyn hwn yn newid i 20mya ar ôl i’r Senedd basio’r Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 (y Gorchymyn).

Er y bydd y terfyn diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yn newid, gall awdurdodau priffyrdd (awdurdodau lleol ar gyfer ffyrdd lleol a Gweinidogion Cymru ar gyfer cefnffyrdd / traffyrdd) ) ddefnyddio Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (TROs) i godi’r terfyn lle bo’n briodol. Gelwir y rhain yn eithriadau.

Mae gwaith i osod eithriadau i'r gofyniad newydd eisoes ar y gweill. Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau priffyrdd ystyried sut mae ffyrdd yn cael eu defnyddio gan gerddwyr a beicwyr, ac a yw cerddwyr a beicwyr yn cymysgu â thraffig wrth ystyried eithriadau.

Mae Map rhyngweithiol ar gael sy'n dangos ble mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig drafft yn cael eu paratoi i eithrio ffyrdd.

Pa effaith mae cyfyngiadau 20mya yn ei chael?

Yn 2018, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Dr Adrian Davies wneud adolygiad o’r dystiolaeth y gall lleihau terfynau cyflymder trefol leihau gwrthdrawiadau. Roedd yr adolygiad yn dod i’r casgliad bod tystiolaeth “gymedrol i gryf” bod nifer yr anafusion yn lleihau o ganlyniad i derfynau 20mya, er bod tystiolaeth am faterion fel gwella ansawdd aer yn wan.

Canfu Tasglu 2019 Llywodraeth Cymru ar y mater “dystiolaeth lethol” bod cyflymderau is yn arwain at lai o wrthdrawiadau, a gwrthdrawiadau llai difrifol. Awgrymodd y tasglu hefyd:

… disgwylir i ostyngiadau yn y canfyddiad o berygl ffyrdd arwain at fwy o gerdded a beicio a fydd yn gwella iechyd y cyhoedd ac yn disodli rhai teithiau byr mewn car… Mae mwy o gerdded a beicio hefyd yn debygol o arwain at fwy o gydlyniant cymdeithasol sy’n dod â buddiannau cymdeithasol ac iechyd pellach.

I’r gwrthwyneb, yn 2018 canfu ymchwil ar effeithiolrwydd terfynau 20mya gan Lywodraeth y DU:

…there is insufficient evidence to conclude that there has been a significant change in collisions and casualties following the introduction of 20mph limits in residential areas…

Noda gwaith Ymchwil gan Brifysgol Queen’s y gwahaniaeth rhwng parthau 20mya, ble mae camau arafu traffig ar waith, a chyfyngiadau 20mya sy’n cael eu gorfodi gan arwyddion yn unig – fel sy’n cael ei gyflwyno ledled Cymru. Canfu, er bod tystiolaeth glir bod cyflwyno parthau 20mya yn lleihau amlder a difrifoldeb gwrthdrawiadau ac anafiadau, mae diffyg tystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd cyflwyno terfynau 20mya.

Yn 2022, comisiynwyd gwaith ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a oedd yn amcangyfrif y gallai'r terfyn diofyn newydd o 20mya arbed mwy na 100 o fywydau dros ddegawd.

Treialu'r dull gweithredu

Mae cynlluniau peilot wedi'u cynnal mewn wyth cymuned ledled Cymru i dreialu terfynau diofyn o 20mya yn y cyfnod cyn cyflwyno'r cynllun yn genedlaethol. Cyhoeddwyd yr adroddiad monitro cyntaf ar effaith y terfynau ym mis Mawrth.

Mae’r adroddiad yn cydnabod bod data’n gyfyngedig ac mae’r casgliadau y daethpwyd iddynt o’r treialon yn “betrus”, ond mae cyflymderau cyffredinol wedi lleihau yn yr ardaloedd hyn. Hefyd bu rhagor o deithio llesol i ysgolion o fewn yr ardaloedd treialu, o gymharu ag eraill a gafodd eu monitro. Disgrifir yr effaith ar amseroedd teithio fel “cynnydd ymylol”, ac ni nodwyd dim effaith sylweddol ar ansawdd aer.

O ran un ardal beilot benodol, sef Bwcle yn Sir y Fflint – dywedodd y Dirprwy Weinidog yn ddiweddar wrth y cyfryngau nad oedd y dull a ddefnyddiwyd “yn gweithio”. Amlinellodd, ym Mwcle:

…the decision was made not to have any of what we call ‘exceptions.’ So, the 20mph speed limit was applied to the whole area, rather than only some parts… that approach didn’t work.

It’s been a useful learning experience, and that’s the point of the pilot…it didn’t work, we got it wrong, and we are going to change.

Mae'r Memorandwm Esboniadol ar y Gorchymyn yn nodi y bydd gwaith monitro yn yr ardaloedd peilot yn parhau ar ôl ei gyflwyno’n genedlaethol, ac y bydd ardaloedd ychwanegol yn cael eu hychwanegu ac y bydd adrodd blynyddol ar yr effaith.

A yw'r polisi wedi'i gefnogi?

Mae’n deg dweud nad yw’r polisi’n cael ei gefnogi’n gyffredinol. Tra bod y newid wedi cael ei groesawu gan sefydliadau fel Sustrans a Living Streets, cymysg fu ymateb y cyhoedd. Yr wythnos hon bydd dadl yn y Senedd ar ddeiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i atal gweithredu cyfyngiadau 20mya a gafodd dros 21,000 o lofnodion.

Mor bell yn ôl â mis Tachwedd 2020, cynhaliodd Llywodraeth Cymru arolwg cenedlaethol a ganfu fod cefnogaeth gref i'r cynlluniau (81 y cant), yn enwedig ymhlith rhieni. Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol hefyd yn 2021 er, ar yr achlysur hwn, roedd 53 y cant o’r ymatebwyr yn gwrthwynebu’r polisi. Roedd rhai o'r rhesymau a roddwyd yn cynnwys amseroedd teithio hirach, a rhagor o dagfeyd.

Mae’r posibilrwydd o amseroedd teithio hwy yn destun pryder i’r diwydiant bysiau, sydd hefyd wedi bod yn wynebu pwysau ariannu enfawr – er bod ofnau ynghylch toriadau i wasanaethau cyfanwerthu wedi cael eu lleddfu rhywfaint yn sgil y cyhoeddiad am gyllid ychwanegol. Mae'r adroddiad monitro cyntaf ar yr ardaloedd peilot yn dangos mai cymysg fu'r effaith ar amseroedd teithiau bws.

Tynnodd llythyr at y Prif Weinidog gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar fater ariannu bysiau hefyd sylw at swm y newidiadau polisi trafnidiaeth y mae angen i awdurdodau lleol weithredu arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno terfyn cyflymder 20mya ac effaith yr adolygiad o ffyrdd, a disgrifiwyd y sefyllfa fel “storm berffaith”.

Mae cwestiynau hefyd wedi codi ynghylch effaith economaidd y newid. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn awgrymu:

…mae'r brif anfantais economaidd yn ymwneud ag amseroedd teithio hirach o ganlyniad i’r cyflymder cyfartalog is i gerbydau: …gallai hyn arwain at anfantais economaidd sylweddol, gydag amcangyfrif canolog o £6.5 biliwn … dros 30 mlynedd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “The idea that being a minute later to get to school harms the economy, I just don't believe it, so I think the figures are discredited”.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn amcangyfrif mai cyfanswm cost ariannol uniongyrchol gweithredu’r newid yw £32.5 miliwn. Mae eto i’w brofi a yw hyn yn talu costau llawn y trawsnewid. Yn ystod gwaith craffu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at y gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n amcangyfrif:

…byddai terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya ar ffyrdd preswyl yng Nghymru yn arbed tua £100 miliwn yn y flwyddyn gyntaf yn unig.

Ym mhle y gallwch gael rhagor o wybodaeth?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o Gwestiynau Cyffredin ar ei gwefan, ble gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion wrth i fis Medi, sef yr amser cyflwyno’n genedlaethol, agosàu.


Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru