Y Pwyllgor Cysylltiadau Rhyngwladol yn holi’r Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 08/06/2023   |   Amser darllen munudau

Fis diweddaf, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol (“y Pwyllgor) fod ‘cyfnod arbennig o brysur’ ar y gorwel.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd ym maes cysylltiadau rhyngwladol cyn datganiad y Prif Weinidog ar 13 Mehefin. Rydym yn crynhoi strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru a’r perthnasoedd sy’n cael blaenoriaeth â gwledydd a rhanbarthau eraill. Rydym hefyd yn amlinellu rhai dyddiadau pwysig yn arwain at etholiad nesaf y Senedd yn 2026.

Beth sydd ar y gorwel?

Amlinellodd y Prif Weinidog y gweithgareddau sydd ar y gorwel dros y 12 mis nesaf.

Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru

Lansiwyd Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2020.

Dilynwyd hyn gan bum cynllun gweithredu ar bynciau penodol ym mis Tachwedd 2020, sef ymgysylltu â Chymry ar wasgar, perthnasoedd sy’n cael blaenoriaeth, diplomyddiaeth a chymell tawel, Cymru ac Affrica, ac allforio. Mae pob cynllun yn cynnwys camau gweithredu tymor byr ar gyfer 2020-21 a chamau gweithredu tymor canolig ar gyfer 2022-25.

Rhoddodd y Prif Weinidog enghreifftiau o gamau gweithredu o'r cynllun diplomyddiaeth a chymell tawel a fydd yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys:

Perthnasoedd sy’n cael blaenoriaeth

Cyhoeddwyd y Strategaeth Ryngwladol cyn i’r DU adael yr UE ym mis Mawrth 2020.

Mae'r strategaeth yn nodi perthnasoedd sy’n cael blaenoriaeth gyda gwledydd (yr Almaen, Ffrainc, Iwerddon, UDA a Chanada) a rhanbarthau, sydd bob un ac eithrio un (Québec) yn yr UE. Mae gan Lywodraeth Cymru gytundebau dwyochrog gyda'r rhan fwyaf ohonynt.

Mae’r Prif Weinidog yn disgrifio'r UE fel cymydog agosaf a phwysicaf Cymru, ynghyd â'i “phartner masnachu pwysicaf”.

Dywedodd y Prif Weinidog fod y strategaeth yn ymdrin yn ddigonol â chysylltiadau â’r UE a dywedodd wrth y Pwyllgor y caiff y strategaeth ei diweddaru yn 2025 i gwmpasu’r amser sy’n weddill cyn etholiad y Senedd 2026.

Mae’r Pwyllgor eisoes wedi dweud bod absenoldeb strategaethau pwrpasol ar gyfer cysylltiadau’r DU a’r UE ar lefel y DU a Chymru yn cynrychioli heriau wrth lywio’r berthynas rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit, a chyflawni gwaith craffu effeithiol arni.

O ran i ba raddau y mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn cyfrrannu at drafodaethau rhwng y DU a’r UE, dywedodd Gweinidog yr Economi wrth y Pwyllgor Craffu Ewropeaidd ym mis Mawrth fod pethau wedi mynd am yn ôl. Cyfeiriodd at Fframwaith Windsor, nad ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru yn ei gylch.

Cymru ac Iwerddon

Mae gan Gymru ac Iwerddon gyd-ddatganiad a chynllun gweithredu ar y cyd ar waith ar gyfer 2021-25. Dyma’r cyntaf o’i fath ar gyfer perthnasoedd Llywodraeth Cymru sy’n cael blaenoriaeth. Mae’n cwmpasu chwe maes o ran cydweithredu ynghylch:

  • Ymgysylltu ar Lefel Wleidyddol a Swyddogol;
  • Yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd;
  • Masnach a Thwristiaeth;
  • Addysg ac Ymchwil;
  • Diwylliant, Iaith a Threftadaeth; a
  • Chymunedau, Gwasgariad a Chwaraeon.

Mae'r llywodraethau bellach yn trafod cynlluniau i gydweithredu y tu hwnt i 2025.

Hefyd, lansiodd y Pwyllgor ymchwiliad i gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ym mis Rhagfyr 2022. Mae wedi edrych ar y dull hwn o ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol, sut y caiff ei ariannu ac effaith Brexit. Mae sefydliadau, llywodraethau a seneddwyr wedi rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad, a disgwylir iddo gyflwyno’i adroddiad yn y misoedd nesaf.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn adrodd ar gynnydd?

Nid yw Llywodraeth Cymru yn adrodd yn ar ei Strategaeth Ryngwladol mewn un man.

Datganiad y Prif Weinidog ar 13 Mehefin fydd ei ddatganiad penodol cyntaf ar gysylltiadau rhyngwladol ers dechrau’r Chweched Senedd ym mis Mehefin 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio dau adroddiad ar ei rhwydwaith o 21 o swyddfeydd tramor ar gyfer 2021-22 a 2022-23. Cyhoeddwyd cylchoedd gwaith y swyddfeydd ym mis Tachwedd 2020.

Yn ôl Cod y Gweinidogion:

Bydd rhestr yn cael ei chyhoeddi bob blwyddyn o bob un o'r teithiau dramor gan Weinidogion sy'n costio mwy na £500, ynghyd â chyfanswm cost holl ymweliadau'r Gweinidogion dramor.

Dywedodd y Prif Weinidog y cyhoeddir costau ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol ym mis Ebrill. Cafodd y costau diweddaf eu cyhoeddi ar 15 Rhagfyr 2022.

Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, mae’r Prif Weinidog yn mynychu’r Pwyllgor ar gyfer gwaith craffu blynyddol, yn ogystal â gwaith craffu ar y gyllideb adrannol o £8.38 miliwn.

Yn ddiweddar, cytunodd y Pwyllgor i adrodd yn flynyddol ar waith rhyngwladol Llywodraeth Cymru, a disgwylir yr adroddiad cyntaf yn ddiweddarach eleni.

Y tu hwnt i'r 12 mis nesaf

Dywedodd y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn adnewyddu ei strategaeth ryngwladol a'i chynlluniau ar gyfer cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn 2025.

Byddwn hefyd yn gweld datblygiadau pwysig rhwng y DU a’r UE, fel gweithredu cytundebau a chyfarfodydd llywodraethu. Mae yna hefyd ddyddiadau allweddol yn 2025-26 i gadw llygad amdanynt yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, gan gynnwys adolygiadau gwahanol ac ailnegodi rhai meysydd fel pysgodfeydd.

Mae’r rhyfel yn Wcráin hefyd yn parhau i lunio cysylltiadau rhyngwladol drwy gydol y cyfnod hwn.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru