Cydweithio parhaus: Chweched cyfarfod y Fforwm Rhyngseneddol

Cyhoeddwyd 04/12/2024   |   Amser darllen munud

Cynhaliodd y Fforwm Rhyngseneddol ei chweched cyfarfod yn ddiweddar ers ei sefydlu yn 2022, gan ddod â seneddwyr o wahanol rannau o’r DU ynghyd i drafod materion trawsbynciol.

Mae'r erthygl Pigion hon yn rhoi gwybodaeth am sefydlu'r Fforwm Rhyngseneddol ac yn crynhoi'r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod diweddar.

I gael rhagor o wybodaeth am y Fforwm Rhyngseneddol, gweler ein herthygl gynharach.

Cefndir y Fforwm Rhyngseneddol

Y chweched cyfarfod

  • Cynhaliwyd y cyfarfod y mis hwn yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon dan gadeiryddiaeth Paula Bradshaw MLA a Matthew O'Toole MLA. Yn dilyn y cyfarfod, rhyddhaodd y Fforwm Rhyngseneddol ddatganiad ar y cyd yn crynhoi yr hyn a drafodwyd. Roedd hyn yn cynnwys:
  • Cytunodd y Fforwm Rhyngseneddol ar dri phwynt:
    • I archwilio sut y gall annog Gweinidogion a swyddogion y DU i ymateb yn gadarnhaol ac yn amserol i geisiadau gan bwyllgorau mewn gweinyddiaethau datganoledig i roi tystiolaeth yn ysbryd dwyochredd;
    • I ysgrifennu at y Swyddfa Weithredol i gael diweddariad ar y safbwynt diweddaraf ar Fframweithiau Cyffredin;
    • I wahodd Pat McFadden AS, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn a’r Gweinidog dros Gysylltiadau Rhynglywodraethol, i gyfarfod nesaf y Fforwm i drafod ei flaenoriaethau ar gyfer y maes gwaith pwysig hwn.
  • Bwriedir cynnal cyfarfod nesaf y Fforwm wedi’i drefnu ar gyfer dechrau 2025.

Erthygl gan Adam Cooke a Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru