Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon – 13/10/2026
Cyhoeddwyd 13/10/2026   |   Amser darllen munud
Cwestiynau’r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi’r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a’u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.
Isod ceir canllaw cyflym i’r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi’i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau ar gael yma.
Gallwch wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 13:30 ar Senedd.tv.
Cwestiwn: Mae Alun Cox AS yn gofyn am asesiad ynghylch a yw trefniadau cludiant ysgol presennol yn diwallu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn Afan Ogwr Rhondda.
Gwybodaeth: Mae ein canllaw i etholwyr, 'Cludiant rhwng y cartref a'r ysgol', a ddiweddarwyd yn ddiweddar, yn cynnwys gwybodaeth am y ddarpariaeth sy’n ofynnol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Cwestiwn: Mae Sarah Rees AS yn gofyn pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi prosiectau ynni cymunedol a sicrhau bod manteision adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cadw yng Nghymru.
Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar gynigion ynghylch cwmni ynni cyhoeddus cyfunol i Gymru, a fydd, meddai, yn “helpu i gadw mwy o werth datblygu ynni yng Nghymru i bobl a chymunedau”.
Cwestiwn: Mae Iain McIntosh AS yn gofyn pa welliannau mesuradwy o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd Llywodraeth Cymru y mae'r Prif Weinidog yn disgwyl eu cyflawni yn ystod y Senedd hon.
Gwybodaeth: Amlinellodd y Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad ei flaenoriaethau mewn datganiad i’r Senedd ym mis Mehefin.
Cwestiwn: Mae Steve Bayliss AS yn gofyn pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatrys yr anghydfod o ran tâl ymwelwyr iechyd a graddio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Gwybodaeth: Y mis diwethaf fe gynhaliodd y Senedd ddadl ar yr anghydfod parhaus. Wrth ymateb i’r ddadl, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal fod Llywodraeth Cymru yn galw ar y pleidiau perthnasol i “ymgysylltu'n adeiladol ac i weithio tuag at ddatrysiad cyn gynted â phosibl”.
Cwestiwn: Mae Safa Elhassan AS yn gofyn pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol yng nghanol trefi a dinasoedd ledled Cymru.
Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Tasglu Canol Trefi. Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn y Senedd ddiwethaf ymchwiliad i adfywio canol trefi yng Nghymru, gan gynnwys y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.
Cwestiwn: Mae Peter Fox AS yn gofyn pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran mynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd.
Gwybodaeth: Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth raglen waith 18 mis i “ddatblygu datrysiadau sy'n seiliedig ar ffyrdd a pheirianneg ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd”.
Cwestiwn: Mae Nigel Williams AS yn gofyn pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cleifion yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n dibynnu ar wasanaethau'r GIG yn Lloegr yn cael triniaeth amserol, y caiff gwybodaeth ei rhannu'n effeithiol, a bod atebolrwydd clir.
Gwybodaeth: Mae erthygl ddiweddar gennym yn egluro sut y mae gofal iechyd trawsffiniol yn gweithredu yn ymarferol, a beth y mae hyn yn ei olygu i gleifion os oes gwahaniaeth polisi rhwng GIG Cymru a GIG Lloegr.
Cwestiwn: Mae Matthew Jones AS yn gofyn pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i wella ac integreiddio cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Fynwy Torfaen.
Gwybodaeth: Yn ei Rhaglen Lywodraethu, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mwy integredig. Gwnaeth erthygl Materion Allweddol gennym ym mis Mehefin edrych ar yr hyn a all fod yn yr arfaeth o ran bysiau, trenau ac integreiddio trafnidiaeth ledled Cymru.
Cwestiwn: Mae Becca Martin AS yn gofyn am asesiad y Prif Weinidog o wasanaethau adfer o gaethiwed.
Cwestiwn: Mae Anthony Slaughter AS yn gofyn pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau i sicrhau bod gan bawb gartref diogel a fforddiadwy.
Gwybodaeth: Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o ymrwymiadau ynghylch tai. Mae erthygl Materion Allweddol gennym yn edrych ar faterion ehangach o ran yr argyfwng tai a digartrefedd.
Cwestiwn: Mae Mike Hedges AS yn gofyn pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud wrth weithredu darpariaethau dichell fwriadol Deddf Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) 2026.
Gwybodaeth: Mae ein hadnoddau ar y ddeddfwriaeth ar gael yma.
Cwestiwn: Mae Marc Jones AS yn gofyn am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu caffael lleol drwy fentrau cydweithedol ac arferion busnes cymunedol eraill.
Gwybodaeth: Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys nod i “gynyddu’r lefel sy’n cael ei gwario ar gaffael nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru tuag at 70%, gan ddefnyddio caffael cyhoeddus yn sbardun i dwf economaidd”.
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru