Mae cryn ddiddordeb – a pheth ansicrwydd o hyd – wedi bod ynghylch yr amgylchiadau lle mae cleifion yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr am driniaeth y GIG. Mae hyn wedi’i ddwysáu gan bwysau diddiwedd ar amseroedd aros a dadleuon ehangach am gydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Er bod ffocws y sylw gwleidyddol yn trafod a allai gweithio ar draws ffiniau helpu i reoli pwysau ar gapasiti’r GIG, mae’r fframwaith sylfaenol sy’n llywodraethu gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn parhau’n ddigyfnewid ar y cyfan.
Mae’r erthygl hon yn esbonio sut y mae gofal iechyd trawsffiniol yn gweithredu yn ymarferol, a beth y mae hyn yn ei olygu i gleifion os oes gwahaniaeth polisi rhwng GIG Cymru a GIG Lloegr.
Pam mae cleifion yn croesi'r ffin am ofal iechyd?
Mae cleifion yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr am sawl rheswm:
Mae diffyg darpariaeth yn ardal y claf yn ffactor allweddol. Nid oes gan rai ardaloedd, yn enwedig ardaloedd gwledig fel Powys, y sylfaen boblogaeth angenrheidiol i gefnogi ysbytai mawr neu ganolfannau arbenigol. Efallai y bydd angen i gleifion o’r ardaloedd hyn deithio ymhellach – gan gynnwys dros y ffin – i gael triniaeth. I lawer o gleifion mewn ardaloedd ar y ffin, gall fod yn llawer mwy cyfleus cael mynediad at wasanaethau yn y wlad gyfagos. Er enghraifft, mae llawer o drigolion Powys yn cael gofal ysbyty mewn dinasoedd yn Lloegr fel Amwythig neu Gaer.
Yn 2024-25, derbyniwyd tua 64,000 o drigolion Cymru i ysbytai yn Lloegr. Yn ystod yr un cyfnod, cafodd 9,600 o drigolion Lloegr ofal mewn ysbyty yng Nghymru.
Mewn gofal sylfaenol, gall cleifion sy'n byw mewn ardaloedd ar y ffin ddewis cofrestru â meddyg teulu mor agos at eu cartrefi â phosibl, hyd yn oed os nad yw hynny yn y wlad y maent yn byw ynddi.
Ym mis Ebrill 2024, roedd 13,200 o drigolion Cymru wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr, ac roedd tua 21,000 o drigolion Lloegr wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru.
Beth mae gan gleifion hawl iddo?
Mae'r hawliau a'r safonau y gall cleifion eu disgwyl yn amrywio yn dibynnu ar eu statws preswylio, lleoliad eu meddyg teulu a lle maent yn cael triniaeth.
Dewis cleifion mewn atgyfeiriadau ysbyty
Yn Lloegr, mae gan gleifion yr hawl i ddewis i ba ysbyty y bydd eu meddyg teulu yn eu hanfon. Mae hyn hefyd yn berthnasol i drigolion Cymru sydd yn byw mewn ardaloedd ar y ffin ac sydd wedi'u cofrestru â meddyg teulu yn Lloegr. Mae'r hawl gyfreithiol hon yn caniatáu i gleifion ddewis unrhyw ysbyty yn Lloegr sy'n cynnig triniaeth addas sy'n cyrraedd safonau ac o fewn costau'r GIG.
Nid yw'r GIG yng Nghymru yn gweithredu system o roi'r dewis i gleifion, ond mae'n ceisio darparu gwasanaethau yn agos at gartref y claf pan fo hynny'n bosibl. O dan brotocol blaenorol, byddai trigolion o Loegr sydd â meddyg teulu yng Nghymru yn cael eu hatgyfeirio'n awtomatig am driniaeth yng Nghymru. Erbyn hyn, caiff trigolion o Loegr sydd â meddyg teulu yng Nghymru ddewis cael eu hatgyfeirio i system Cymru neu i system Lloegr.
Egwyddorion trawsffiniol
Yn y Datganiad o werthoedd ac egwyddorion yn 2018 amlinellwyd safonau clir ar gyfer gofal trawsffiniol, ac mae wedi parhau i fod yn fframwaith ar gyfer y trefniadau presennol. Nod y datganiad oedd mynd i'r afael â phryderon nad oedd hawliau cleifion o Loegr yn cael eu cynnal o dan Gyfansoddiad GIG Lloegr, fel dewis y claf o ysbyty, a’r hawl i gael triniaeth o fewn amseroedd aros targed GIG Lloegr. Mae’r sefyllfa yn parhau o hyd i drigolion Cymru sydd â meddyg teulu yng Nghymru: nid oes ganddynt hawl statudol i ddewis i ba ysbyty y cânt eu hatgyfeirio iddo.
Mae'r tablau isod yn rhoi crynodeb o'r hyn y gall cleifion mewn ardaloedd ar y ffin ei ddisgwyl fel arfer o ran y safonau ar gyfer cael gafael ar ofal iechyd arbenigol a gofal iechyd nad yw’n arbenigol yn dibynnu ar ble y maent yn byw, lleoliad eu meddyg teulu a'u darparwr gofal iechyd. (Mae ‘safonau’ yn cynnwys trothwyon ar gyfer triniaeth a meini prawf atgyfeirio eraill a bennir gan y bwrdd iechyd lleol neu'r bwrdd gofal integredig.)
|
Preswylfa |
Lleoliad meddyg teulu |
Darparwr yn Lloegr i fodloni |
Darparwr yng Nghymru i fodloni |
|
Cymru |
Cymru |
Safonau GIG Cymru |
Safonau GIG Cymru |
|
Cymru |
Lloegr |
Cyfansoddiad GIG Lloegr |
Safonau GIG Cymru |
|
Lloegr |
Lloegr |
Cyfansoddiad GIG Lloegr |
Safonau GIG Cymru |
|
Lloegr |
Cymru |
Cyfansoddiad GIG Lloegr |
Safonau GIG Cymru |
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae adroddiadau yn y cyfryngau wedi nodi y byddai cleifion o Gymru sy’n cael eu trin mewn ysbytai yn Lloegr yn ddarostyngedig i safonau amseroedd aros yng Nghymru. Er y tybiwyd yn eang mai newid polisi oedd hwn, roedd yn hytrach yn adlewyrchu camau i sicrhau bod rheolau ar gomisiynu trawsffiniol yn cael eu cymhwyso a’u cyfathrebu’n gliriach, gyda chyfrifoldeb dros drefnu a thalu am ofal – a’r safonau amseroedd aros sy’n berthnasol – yn cyd-fynd â phreswylfa person a lleoliad ei feddyg teulu yn hytrach na lle y cafodd ei drin.
Presgripsiynau am ddim
Mae gan bob claf sydd wedi'i gofrestru â meddyg teulu yng Nghymru yr hawl i gael presgripsiynau am ddim, gan gynnwys cleifion o Loegr sydd â'u meddyg teulu yng Nghymru. Fodd bynnag, dim ond mewn fferyllfeydd yng Nghymru y caiff presgripsiynau eu rhoi yn rhad ac am ddim. Codir tâl ar gleifion sy'n casglu eu presgripsiynau y tu allan i Gymru ar y cyfraddau sy'n gymwys yn y wlad honno.
Mae cleifion o Gymru sydd â meddyg teulu yn Lloegr hefyd yn gymwys i gael presgripsiynau am ddim, ond byddai angen iddynt wneud cais am 'gerdyn hawlio' gan eu Bwrdd Iechyd.
Os caiff cleifion o Gymru eu trin mewn ysbytai neu gan wasanaethau y tu allan i oriau yn Lloegr, ac os codir tâl arnynt am bresgripsiynau yn ôl cyfradd Lloegr, gallant hawlio ad-daliad.
Pwy sy'n talu? Deall trefniadau ariannu
Mae byrddau iechyd yng Nghymru a byrddau gofal integredig yn Lloegr yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau brys ac argyfwng ar gyfer unrhyw un sy'n bresennol yn eu hardal ddaearyddol, ni waeth ble y mae'r claf yn byw neu ble y mae wedi'i gofrestru â meddyg teulu.
Ni throsglwyddir cyllid rhwng Cymru a Lloegr ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a ddarperir dros y ffin, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu, deintyddiaeth a gwasanaethau offthalmig. Bydd unrhyw gostau yn cael eu talu lle y maent yn codi, drwy drefniant dwyochrog sy'n taro rhyw fath o gydbwysedd bras.
O ran cleifion sydd wedi’u cofrestru â meddyg teulu dros y ffin, nod y datganiad o werthoedd ac egwyddorion yw na fydd bwrdd iechyd yng Nghymru neu fwrdd gofal integredig yn Lloegr yn wynebu unrhyw ddiffyg ariannol o ganlyniad i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i drigolion y wlad arall.
Mae Llywodraeth Cymru yn cael taliad blynyddol gan yr Adran Iechyd er mwyn cydnabod y costau gofal eilaidd ychwanegol a ysgwyddir gan y GIG yng Nghymru oherwydd y swm net o gleifion o Loegr sy'n defnyddio gofal sylfaenol yng Nghymru (h.y. nifer y trigolion yn Lloegr sy’n byw wrth y ffin sydd wedi’u cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru). Ffigur y setliad blynyddol yw tua £6 miliwn.
Ar gyfer cleifion yng Nghymru (gyda meddyg teulu yng Nghymru) sy’n cael triniaeth yn Lloegr, mae comisiynwyr Cymru (byrddau iechyd lleol a Chyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru) yn talu darparwyr yn Lloegr, naill ai o dan drefniadau cytundebol neu drefniadau nad ydynt yn gytundebol, yn unol â phrisiau Cynllun Talu'r GIG.
Pan fo cleifion o Loegr sydd â meddyg teulu yn Lloegr yn cael gwasanaethau gofal eilaidd/trydyddol yng Nghymru, mae'r darparwr yng Nghymru a'r comisiynydd yn Lloegr yn cytuno'n lleol ar daliad am y driniaeth. Nid yw GIG Cymru yn defnyddio tariff safonol. Dylai'r swm a delir adlewyrchu faint a gostiodd y gweithgaredd i'r darparwr yng Nghymru.
Nid yw gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn rhywbeth newydd, ond yn hytrach yn agwedd allweddol ar sicrhau bod cleifion yn y ddwy wlad yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Er bod gwahaniaethau mewn polisïau a chyllid yn creu cymhlethdod, mae'r trefniadau hyn yn rhoi hyblygrwydd i gymunedau gwledig a chymunedau ar y ffin. Wrth i restrau aros a hawliau cleifion barhau i fod dan y chwyddwydr, mae gofal iechyd trawsffiniol yn debygol o barhau i fod yn faes o ddiddordeb ar gyfer Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Mae Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i drefniadau gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr.
Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru