Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon – 07/07/2026

Cyhoeddwyd 07/07/2026   |   Amser darllen munudau

Cwestiynau’r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi’r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a’u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

Isod mae canllaw cyflym i’r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi’i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau i’w gweld yma.

Gallwch wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 1:30pm ar Senedd.tv.

Cwestiwn: Mae Carrie Harper AS yn holi am y gefnogaeth i gais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant.

Gwybodaeth: Rhaglen ar gyfer y DU gyfan yw Dinas Diwylliant y DU sy’n gwahodd lleoedd ledled y DU i nodi eu gweledigaeth ar gyfer adfywio dan arweiniad diwylliant. Ceir rhagor o wybodaeth am gais Wrecsam yma.


Cwestiwn: Mae Tom Montgomery AS yn holi am sicrhau bod cynghorau lleol yn cael eu hariannu’n ddigonol.

Gwybodaeth: Mae ein herthygl ddiweddar yn archwilio cynaliadwyedd llywodraeth leol.


Cwestiwn: Mae Cai Parry-Jones AS yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu asiantaeth ddatblygu yng Nghymru.

Gwybodaeth: Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo yn ei maniffesto i sefydlu “Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd i Gymru, sy’n cael ei harwain gan fusnesau a’i rhedeg hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru”. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad am yr Asiantaeth y prynhawn yma (7 Gorffennaf). Gallwch wylio hyn yn fyw ar Senedd.tv.


Cwestiwn: Mae Jayne Bryant AS yn holi am drefniadau gofal iechyd trawsffiniol gyda darparwyr gwasanaethau iechyd yn Lloegr.

Gwybodaeth: Mae ein herthygl ddiweddar yn esbonio sut y mae gofal iechyd trawsffiniol yn gweithredu yn ymarferol, a beth y mae hyn yn ei olygu i gleifion os oes gwahaniaeth polisi rhwng GIG Cymru a GIG Lloegr.


Cwestiwn: Mae Gwyn Williams AS yn gofyn am ddiweddariad ar gynllunio’r gweithlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.


Cwestiwn: Mae Safa Elhassan AS yn holi am y camau i fynd i’r afael â’r prinder yn y gweithlu mewn gwasanaethau canser ledled Cymru.


Cwestiwn: Mae Paul Rock AS yn gofyn pryd y bydd graddedigion nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghaerdydd Ffynnon Taf yn cael cynnig gwaith yn y GIG.


Cwestiwn: Mae Huw Thomas AS yn gofyn am flaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer lles anifeiliaid.

Gwybodaeth: Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru gynllun lles anifeiliaid ar gyfer 2021 i 2026. Y llynedd, cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o’r cynllun.

Yn ddiweddar, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun newydd iechyd a lles anifeiliaid.


Cwestiwn: Mae Janet Finch-Saunders AS yn gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros am ambiwlans.

Gwybodaeth: Roedd ein herthygl y llynedd yn ystyried perfformiad gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru.


Cwestiwn: Mae Lindsay Whittle AS yn holi am wella gwasanaethau rheilffyrdd ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni.

Gwybodaeth: Mae ein herthygl ddiweddar yn gofyn a all Cymru integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys rheilffyrdd, o’r diwedd.


Cwestiwn: Mae Shav Taj AS yn holi am ddyfarniad cyflog teg, wedi’i ariannu’n llawn, i weithwyr llywodraeth leol.

Gwybodaeth: Mae ein herthygl ddiweddar yn ystyried y pwysau sy’n wynebu llywodraeth leol, gan gynnwys heriau’r gweithlu.


Cwestiwn: Mae Vikki Howells AS yn holi am wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ym Mhontypridd Cynon Merthyr.

Gwybodaeth: Mae ein herthygl ddiweddar yn ystyried integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru