Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Rhun ap Iorwerth AS, y Prif Weinidog, yn annerch y Cyfarfod Llawn yn y Siambr

Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon – 06/10/2026

Cyhoeddwyd 06/10/2026   |   Amser darllen munud

Cwestiynau’r Prif Weinidog yw cyfle wythnosol y Senedd i’r Aelodau holi’r Prif Weinidog am faterion o fewn ei gyfrifoldebau. Caiff y rhan fwyaf o gwestiynau eu cyflwyno o leiaf dri diwrnod gwaith ymlaen llaw a’u dewis drwy falot. Gall arweinwyr y gwrthbleidiau hefyd ofyn cwestiynau heb rybudd.

Isod ceir canllaw cyflym i’r cwestiynau sydd wedi’u cynllunio i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, gyda lincs i wybodaeth berthnasol rydym wedi’i chyhoeddi, a gwybodaeth gefndirol ddefnyddiol arall lle mae ar gael. Mae rhestr lawn o’r cwestiynau ar gael yma.

Gallwch wylio’r Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn fyw am 13:30 ar Senedd.tv.


Cwestiwn: Andrew Griffin AS sy’n gofyn am asesiad o ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru.

Gwybodaeth: Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ei Bapur Gwyn ar Brawfesur Gwledig a Chynaliadwyedd Amgylcheddol, sy'n cynnwys cynigion y mae'n gobeithio allai “olygu mynediad haws at wasanaethau cyhoeddus gwell i bobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru”.


Cwestiwn: David Mills AS sy’n gofyn sut mae swyddfeydd rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn darparu gwerth am arian i drethdalwyr Cymru.

Gwybodaeth: Fe wnaeth pwyllgor cyfrifol yn y Senedd flaenorol nodi'r dyraniadau cyllideb perthnasol yn fanwl yn ei adroddiad ar gyllideb ddrafft 2026-27.


Cwestiwn: Kiera Marshall AS sy’n gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei chynnig gofal plant yn hyblyg ac yn diwallu anghenion rhieni.

Gwybodaeth: Mae ein herthygl yn bwrw golwg ar drafodaethau ynghylch gofal plant am ddim yng Nghymru.


Cwestiwn: Llŷr Powell AS sy’n gofyn am asesiad o effaith chwaraeon proffesiynol ar economi Cymru.

Gwybodaeth: Yn sgil degawd o doriadau ariannol gan lywodraethau Cymru ac awdurdodau lleol, mae lefelau cyllid cyhoeddus ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru yn is, fesul y pen o’r boblogaeth, nag ydynt yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Trafodwyd hyn yn ein herthygl y llynedd.


Cwestiwn: Laura Anne Jones AS sy’n gofyn am wella mynediad amserol at ofal y GIG.

Gwybodaeth: Rydym yn cyhoeddi erthyglau rheolaidd am wasanaethau iechyd a gofal. Yn gynharach eleni, fe wnaethom ni egluro beth mae amseroedd aros y GIG yn ei fesur, a beth maen nhw’n ei golli.


Cwestiwn: Cai Parry-Jones AS sy’n gofyn am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yn nhymor y Senedd hon.

Gwybodaeth: Mae ein herthygl hon yn rhoi cipolwg ar gydraddoldeb a thlodi yng Nghymru ac yn tynnu sylw at ymyriadau polisi a gafodd eu cymryd neu eu cynnig i fynd i’r afael â’r materion hyn.


Cwestiwn: Sera Evans AS sy’n gofyn am gefnogi capasiti presgripsiynu cymdeithasol yn Afan Ogwr Rhondda.

Gwybodaeth: Yn 2024, nododd Llywodraeth flaenorol Cymru fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol.


Cwestiwn: Lyn Ackerman AS sy’n gofyn am asesiad ynghylch a yw'r fframwaith teithio presennol i ddysgwyr yn darparu mynediad teg at addysg ledled Cymru.

Gwybodaeth: Y llynedd, trafododd ein herthygl beth sy'n digwydd o ran teithio gan ddysgwyr yng Nghymru.


Cwestiwn: Beca Brown MS sy’n gofyn am gamau i gefnogi goroeswyr camdriniaeth yn ystod plentyndod sy'n profi trawma pellach wrth geisio cael mynediad at gofnodion gwaith cymdeithasol, iechyd neu'r heddlu hanesyddol.


Cwestiwn: John Davies AS sy’n gofyn am gamau i gynyddu lefelau caffael lleol.

Gwybodaeth: Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys nod i “gynyddu’r lefel sy’n cael ei gwario ar gaffael nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru tuag at 70%, gan ddefnyddio caffael cyhoeddus yn sbardun i dwf economaidd”.


Cwestiwn: Nigel Williams AS sy’n gofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymchwiliad llawn yng Nghymru ar gangiau grŵmio?

Gwybodaeth: Fe wnaeth yr Ymchwiliad Annibynnol Statudol i Gangiau Grŵmio gyhoeddi’r wythnos diwethaf y bydd yn cynnal ymchwiliad yng Nghymru.


Cwestiwn: Nick Carter AS sy’n gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru.

Gwybodaeth: Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gyflawni Strategaeth Ddigidol newydd.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru