Pwysau ariannol costau byw

Pwysau ariannol costau byw

Costau byw - cymorth a gwybodaeth

Cyhoeddwyd 05/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae llawer o aelwydydd, busnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ar hyd a lled Cymru yn wynebu problemau sylweddol oherwydd costau cynyddol.

Bydd Ymchwil y Senedd yn ateb cwestiynau’r Aelodau a’u staff drwy’r broses ymholiadau arferol, ond rydym hefyd wedi casglu rhai lincs ynghyd sy’n rhoi gwybodaeth ddibynadwy i helpu pobl Cymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru dudalen we sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ganddi am gostau byw a thudalen sydd wedi'i neilltuo i gynllun cymorth tanwydd Cymru. Bydd awdurdodau lleol hefyd yn darparu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i helpu gyda chostau byw cynyddol.

Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Advicelink Cymru ac mae wedi’i gynllunio i helpu’r rhai sy’n ansicr ynghylch y budd-daliadau y gallant eu hawlio ac ynghylch hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Mae gan Lywodraeth y DU dudalen we sy’n cynnwys yr holl gymorth y mae’n ei gynnig gyda chostau byw, ac mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn cynhyrchu erthyglau’n rheolaidd ar gostau byw cynyddol.

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd. Os oes gwybodaeth ar goll neu os hoffech inni gynnwys rhywbeth arall, cysylltwch ag Ymchwil y Senedd.

Gallwch neidio i bob adran isod:

Cymorth i aelwydydd

Llywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru un dudalen we sy’n rhoi cyngor a chymorth gyda chostau byw. Dyma’r prif fathau o gymorth sydd ar gael i aelwydydd: 

Llywodraeth y DU

Mae gan Lywodraeth y DU un dudalen sy'n cynnwys lincs i’r holl gymorth y mae’n ei gynnig gyda chostau byw a thaflen wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i dalu biliau ynni. Dyma’r prif fathau o gymorth sydd ar gael i aelwydydd:

  • Taliad Costau Byw sy’n golygu y gallai unigolion sy’n cael credydau treth a budd-daliadau penodol hawlio taliad o £900. Caiff hwn ei dalu ar ffurf tri chyfandaliad yn 2023-24 o £301 (gwanwyn 2023), £300 (hydref 2023) a £299 (gwanwyn 2024). Os nad ydych wedi cael Taliad Costau Byw 2022 yr oeddech yn gymwys i'w gael, gallwch hysbysu Lywodraeth y DU.
  • Ym mis Gorffennaf 2023, bydd y Cap ar Brisiau Ynni yn cael ei gyflwyno ac, o ganlyniad, £2,074 fydd bil ynni blynyddol aelwyd cyffredin yn y DU. Bydd yn gymwys tan ddiwedd mis Medi 2023 gan ei fod yn cael ei addasu bob chwarter. Bydd y Warant Pris Ynni yn parhau  tan ddiweidd ms Mawrth 2024, ond gan y bydd prisiau’n gostwng o fis Gorffennaf ymlaen, bydd yn cael ei chadw wrth gefn oni bai bod bil  ynni aelwyd cyffredin yn codi wedi hynny i dros £3,000.
  • Taliad Tanwydd Gaeaf i’r rhai a anwyd ar 25 Medi 1956 neu cyn hynny a all gael rhwng £250 a £600 yn awtomatig i’w helpu i dalu eu biliau ynni. Bydd y taliad yn cynnwys Taliad Costau Byw i Bensiynwyr rhwng £150 a £300 yng ngaeaf 2023 i 2024.
  • Mae’r rhai sy’n cael budd-daliadau cymwys yn cael taliad Costau Byw i’r Anabl gwerth £150 ar hyn o bryd.
  • Benthyciadau Cyllidebu i bobl sy’n cael budd-daliadau penodol am o leiaf chwe mis. Rhaid ei wario ar eitemau fel dodrefn, nwyddau gwyn a chostau sy’n gysylltiedig â symud tŷ.

Cymorth ychwanegol

Yn ogystal â chymorth gyda chostau byw, mae amrywiaeth o fudd-daliadau a chymorth ariannol eraill ar gael. I weld a allwch chi eu hawlio:

Plant, pobl ifanc ac addysg

O dan 16 oed

Dros 16 oed

Ynni a dŵr

O dan reolau’r rheoleiddiwr Ofgem, rhaid i gyflenwyr ynni weithio gyda chwsmeriaid i gytuno ar gynllun talu fforddiadwy os ydynt yn poeni am dalu biliau ynni.

Mae cyflenwyr ynni yn argymell bod cwsmeriaid yn cysylltu â nhw os ydynt yn poeni am eu gallu i dalu biliau ynni. Maent yn gallu cynnig gwahanol fathau o gymorth gan gynnwys grantiau, cyngor ynghylch gwneud yn fawr o’ch incwm, a darparu offer sy’n defnyddio ynni’n effeithlon.

Gallwch ddarllen ein herthyglau ar brisiau ynni ac ar gostau tanwydd a thlodi tanwydd.

Cyflenwyr ynni

Mae Cyngor ar Bopeth wedi cyhoeddi manylion grantiau sydd ar gael gan gyflenwyr ynni i gwsmeriaid sydd mewn dyled – fel arfer ar gyfer eu cwsmeriaid eu hunain er bod gan Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain weithiau’n cynnig grantiau i gwsmeriaid cyflenwyr ynni eraill.

Cyngor ynghylch Ynni

  • Ofgem, Cael help os na allwch fforddio eich biliau ynni
  • Mae Cymru Gynnes yn cynnig cyngor am ddim, yn helpu pobl i ddod o hyd i gymorth a grantiau, er mwyn sicrhau bod gan bobl drwy Gymru gartrefi cynnes a diogel
  • Mae Cyngor Ynni Syml yn darparu cyngor diduedd ac annibynnol i’ch helpu i leihau’ch biliau ynni, gwneud eich cartref yn gynhesach, cynllunio i wella’ch cartref a gwneud eich cartref yn wyrddach.
  • Mae gan National Energy Action wasanaeth cynghori WASH sy’n rhoi cyngor i bobl ynghylch biliau ynni a chadw'n gynnes ac yn ddiogel yn eu cartrefi.
  • Gofal a Thrwsio Cymru, Gwasanaeth 70+ Cymru

Arbed ynni

Dŵr

Cydraddoldeb a grwpiau sy’n agored i niwed

Gallwch ddarllen ein herthyglau ar effaith y cynnydd mewn costau byw ar aelwydydd incwm isel, gofalwyr di-dâl a gweithwyr gofal cartref a phobl anabl.

Gofalwyr a phobl hŷn

Pobl anabl

Lleiafrifoedd ethnig a chymunedau mudol

Banciau bwyd a thalebau
Iechyd a gofal cymdeithasol

Iechyd meddwl

Mae ein taflen wybodaeth etholaeth yn cynnwys gwybodaeth i helpu Aelodau o’r Senedd a'u staff i ymateb i bryderon etholwyr ynghylch iechyd meddwl, ac i gyfeirio pobl at ffynonellau cymorth perthnasol.

Tai

Gall tenantiaid tai cymdeithasol gysylltu â'r awdurdod lleol neu’r cymdeithasau tai y maent yn rhentu ganddynt i ofyn am gymorth a chefnogaeth. Dylai unrhyw un sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref gysylltu â'u hawdurdod lleol.

Dylai aelwydydd sy’n poeni am dalu eu morgeisi siarad â’u rhoddwr benthyciadau cyn gynted â phosibl. Mae cynlluniau cymorth a ffynonellau cyngor ar gael hefyd:

Ffynonellau cyngor

Cyngor ynghylch dyledion, cynilion a benthyciadau

Sgamiau a hawliau defnyddwyr

Teithio a thrafnidiaeth

Gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus

Tocynnau teithio rhatach

Tocynnau aml-weithredwr / aml-daith

  • Plusbus: wrth brynu hwn gyda thocyn trên, gellir teithio faint fynnwch chi ar fws neu dram o amgylch trefi a dinasoedd Prydain sy'n cael eu gwasanaethu gan drenau.
  • Tocynnau Ranger a Rover: cewch deithio faint fynnwch chi am ddiwrnod ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru a rhai gwasanaethau bws ar rannau o’u rhwydwaith.
  • Network Rider De-ddwyrain Cymru: Tocyn dydd neu wythnos sy’n ddilys ar wasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan nifer o weithredwyr drwy ardal De-ddwyrain Cymru.
  • 1Bws: gellir prynu hwn ar eich taith gyntaf a bydd yn ddilys am y diwrnod cyfan ar bron pob gwasanaeth bws lleol sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam).

Teithio llesol

Gyrru

Y sector gwirfoddol

Erthygl gan Claire Thomas a Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru