Dyn yn swatio wrth ymyl rheiddiadur yn gwisgo blanced, het a menig.

Dyn yn swatio wrth ymyl rheiddiadur yn gwisgo blanced, het a menig.

Cost bywyd: sut mae’r cynnydd aruthrol mewn costau byw yn effeithio ar iechyd a llesiant pobl

Cyhoeddwyd 19/01/2023   |   Amser darllen munudau

Mae’r costau byw presennol yn argyfwng iechyd cyhoeddus, a allai fod ar yr un raddfa â phandemig Covid-19, yn ôl adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Canlyniad costau byw uwch yw bod llawer o gartrefi yn torri'n ôl ar hanfodion, ac aelwydydd incwm isel sydd fwyaf mewn perygl. Mae hyn yn arwain at gwymp mewn safonau byw a fydd yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol pobl, ac yn gwaethygu cyflyrau sy’n bodoli eisoes.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar effaith niweidiol y cynnydd mewn costau ynni a bwyd ar iechyd a llesiant pobl, a'r hyn y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill yn dweud y gellir ei wneud i liniaru hyn.

Beth mae pobl yn ei ddweud am y ffordd mae costau byw cynyddol yn effeithio ar eu hiechyd?

Yn ôl ymchwil gan Goleg Brenhinol y Meddygon, mae 60 y cant o bobl yng Nghymru yn teimlo bod costau byw wedi effeithio'n negyddol ar eu hiechyd. Yn adroddiad ‘A snapshot of poverty’ Sefydliad Bevan yn haf 2022, canfu fod llawer o bobl yn debygol o brofi effaith negyddolar eu hiechyd corfforol (30 y cant o bobl) a meddyliol (43 y cant). Efallai y bydd rhai pobl yn gweld bod eu problemau ariannol yn dechrau effeithio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol am y tro cyntaf, a phobl eraill a oedd yn flaenorol yn ymdopi o drwch blewyn bellach yn cael eu gwthio i’r dibyn o bosibl, a gall eu sefyllfa droi’n argyfyngus. Mae’r canlyniadau i’r rhai sydd eisoes yn cael problemau ariannol yn debygol o fod hyd yn oed yn fwy enbydus.

Gall tai oer fod yn angheuol

Mae prisiau ynni cynyddol yn gwthio mwy o bobl yng Nghymru i dlodi tanwydd (wedi'i ddiffinio fel gwario mwy na 10 y cant o incwm y cartref i gadw eu tŷ yn gynnes), ac mae aelwydydd gwledig yn cael eu taro'n arbennig o galed. Mae cynnydd o ran costau ynni yn cael ei waethygu gan y ffaith mai tai yng Nghymru yw rhai o'r tai lleiaf effeithlon o ran ynni yn Ewrop.

Fel y dywedodd Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, mae tai cynnes yn achub bywydau, ac mae tai oer yn gallu lladd. Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ganfod bod 30 y cant o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yng Nghymru yn digwydd o ganlyniad i dai oer, gyda 10 y cant yn gysylltiedig yn uniongyrchol â thlodi tanwydd. Mae marwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yn debygol o gynyddu gan fod llai o bobl yn gallu cynhesu eu cartrefi yn ddigonol. Yn ôl Asthma + Lung UK:

Winter is the deadliest season for people with lung conditions. Cold homes are very dangerous for people with lung conditions because they provide the perfect environment for respiratory infections to thrive.

Mae'r dystiolaeth ddiweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadarnhau bod cartrefi oer (18°C neu is) yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd gwaeth, gan gynnwys pwysedd gwaed uwch (ffactor risg ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd), effeithiau anadlol, perfformiad corfforol is (ffactor risg ar gyfer syrthio ac anafiadau sy'n gysylltiedig â chwymp), a chyflyrau arthritig a rhiwmatig. Mae pobl hŷn, plant a phobl sydd â chyflyrau sylfaenol ac anableddau yn fwy agored i effeithiau iechyd cartrefi oer, ac yn treulio mwy o amser gartref hefyd.

Mae rhai byrddau iechyd yn rhybuddio eu bod yn gweld cynnydd mewn hypothermia ymhlith pobl hŷn, yn ôl y sôn oherwydd tymheredd rhewllyd a phobl yn ofni'r gost o roi eu gwres ymlaen.

Mae tlodi tanwydd yn gallu arwain at ddyled ac mae'n ffactor arall sy'n gallu cael effaith negyddol ar lesiant pobl. Mewn 19 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, dyledion ynni oedd y dyledion mwyaf cyffredin yr oedd pobl angen help gyda nhw. Roedd Cristnogion yn erbyn Tlodi hefyd yn dweud bod mwy o bobl yng Nghymru mewn ôl-ddyledion am eu biliau ynni na rhannau eraill o'r DU. Mae poeni am ddyled yn gysylltiedig â gorbryder, iselder a meddwl am hunanladdiad. Roedd mwy na thraean o’r bobl y gwnaeth Cristnogion yn erbyn Tlodi siarad â hwy wedi ystyried hunanladdiad neu wedi ceisio cyflawni hunanladdiad fel ffordd allan o ddyled. Mae pobl sy’n profi iechyd meddwl gwael yn fwy tebygol o fod â llai o incwm o ganlyniad i hynny, gan arwain at straen ariannol pellach a phroblemau iechyd pellach.

'Baich dwbl diffyg maeth'

Mae costau byw yn golygu bod pobl yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at ddigon o fwyd a bwyd iach - a elwir yn ddiffyg diogeledd bwyd. Bu cynnydd o 69 y cant yn nifer y bobl sy'n profi diffyg diogeledd bwyd yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud y gall diffyg diogeledd bwyd arwain at 'faich dwbl diffyg maeth', lle mae newyn a gordewdra yn cyd-fodoli mewn cymunedau, aelwydydd a hyd yn oed unigolion.

Gall peidio â gallu prynu neu fwyta digon o fwyd gael effeithiau ar iechyd corfforol, gan gynnwys problemau twf mewn plant. Gall bod yn llwglyd arwain at flinder a diffyg canolbwyntio, sy'n gallu effeithio ar allu pobl i gymryd rhan mewn gwaith ac addysg ac effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant.

Canfu'r Sefydliad Bwyd fod bwydydd iachach dair gwaith yn ddrutach fesul calori na bwyd llai iach. Gall pobl sydd â chyllideb is gael eu hysgogi i fwyta'n rhatach ond bwyta bwyd llai maethlon a llai dwys o ran egni, gan arwain at ordewdra. Mae gordewdra yn ffactor risg i lawer o gyflyrau iechyd, gan gynnwys diabetes Math 2, clefydau cardiofasgwlaidd a rhai canserau.

Gall diffyg diogeledd bwyd hefyd ei gwneud yn anodd i bobl reoli eu cyflyrau iechyd mewn ffordd effeithiol. Cododd Kidney Care UK bryderon bod 44 y cant o gleifion yr arennau yn dweud eu bod yn colli prydau, a allai arwain at ddirywiad yn eu cyflwr. Canfu'r Sefydliad Bwyd fod diffyg diogeledd bwyd yn effeithio'n anghymesur ar bobl ag anableddau.

Y rhai y mae costau byw yn effeithio arnynt fwyaf

Mae'r rhai sydd â salwch cronig hefyd yn dweud bod eu hiechyd wedi gwaethygu ers dechrau'r argyfwng. Dywedodd hanner y bobl sydd â chyflyrau ar eu hysgyfaint fod costau byw cynyddol wedi gwaethygu eu cyflwr, gyda nifer ohonynt angen triniaeth frys. Mae un o bob pump o bobl ag asthma yn dweud eu bod nhw wedi cael pyliau asthma sy'n bygwth bywyd o ganlyniad i'r toriadau'n ôl maen nhw wedi gorfod eu gwneud. Dywedodd wyth o bob deg claf arennau fod costau cynyddol yn effeithio'n negyddol ar eu hiechyd corfforol, gydag un o bob deg yn dweud ei fod yn effeithio arnynt bob dydd.

Ar y cyfan mae bywyd yn ddrytach i bobl ag anableddau a rhai cyflyrau iechyd cronig gan eu bod yn aml yn gorfod gwario mwy ar hanfodion fel gwres ac offer achub bywyd arbenigol, er enghraifft peiriannau dialysis cartref. Mae ein herthygl Effaith ‘seismig’ yr argyfwng costau byw ar bobl anabl yn edrych yn fanylach ar hyn.

Beth yw rhai o’r atebion?

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynlluniau cymorth a thaliadau untro i leddfu pwysau costau byw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllaw cymorth costau byw.

Mae nifer o elusennau wedi galw ar lywodraeth y DU i gyflwyno'r cynllun arfaethedig i gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant er mwyn diogelu iechyd pobl fregus. Maen nhw'n dweud bod angen cymorth ariannol wedi’i dargedu i helpu'r rhai â chyflyrau iechyd ac anableddau gyda chostau tanwydd a bwyd, yn ogystal â gwell mynediad i ad-daliadau ar gyfer teithio ac offer.

Mae Cynghrair Iechyd a Llesiant Conffederasiwn GIG Cymru a Choleg Brenhinol y Meddygon wedi galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun traws-lywodraethol i leihau tlodi a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pwysleisio bod angen i sectorau, sefydliadau a chymunedau ledled Cymru weithio gyda’i gilydd i flaenoriaethu’r amryw ffyrdd y gall eu gweithredoedd gefnogi iechyd a llesiant pobl. Mae’n dweud “meaningful positive change can only be achieved by engaging and empowering communities in order to shift the power dynamic that drives inequalities”.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi ei farn bod cyd-destun polisi unigryw Cymru yn darparu amgylchedd sy’n galluogi i gyrff cyhoeddus (ac eraill) weithredu ar y rhesymau sylfaenol dros iechyd a llesiant gwael wrth iddynt ymateb yn uniongyrchol i’r argyfwng costau byw ac wrth edrych ar y tymor hir. Yn benodol, mae’n hyrwyddo dull ‘iechyd ym mhob polisi’, sy’n prif ffrydio ystyried iechyd, llesiant ac ecwiti ym mhob datblygiad polisi.


Erthygl gan Bonnie Evans, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Bonnie Evans gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, a alluogodd i’r Erthygl Ymchwil hon gael ei chwblhau.