Effaith “seismig” yr argyfwng costau byw ar bobl anabl

Cyhoeddwyd 12/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/10/2022   |   Amser darllen munudau

Mae’r esgid fach yn gwasgu i lawer o bobl yn sgil yr argyfwng costau byw, ond mae elusennau anabledd yn dweud mai pobl anabl sy’n cael eu taro galetaf gan y cynnydd mawr mewn costau byw ac ynni.

Gall unigolion ar incwm isel iawn wynebu costau ychwanegol na ellir eu hosgoi bob dydd dim ond er mwyn rheoli eu cyflwr. Bydd y cyllidebau hyn o dan straen seismig dros y misoedd nesaf. – Leonard Cheshire

Pam mae hyn yn taro pobl anabl galetaf?

Rhagwelir y bydd chwyddiant yn codi i oddeutu 11 y cant eleni, ac mae'n cael ei adrodd yn eang fod prisiau bwyd, ynni a thanwydd yn parhau i godi ar y gyfradd gyflymaf ers 40 mlynedd.

Mae bywyd yn fwy drud i bobl anabl a'u teuluoedd. Mae'n rhaid iddynt wario mwy ar nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel gwresogi, yswiriant, offer arbenigol, cludiant hygyrch, bwyd arbenigol a therapïau. 

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd costau byw cynyddol yn effeithio’n anghymesur ar bobl anabl gan eu bod yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith ac o gael incwm isel.

Mae llawer o bobl anabl yn dibynnu ar dacsis neu gerbydau wedi'u haddasu ar gyfer cludiant, ac maent yn aml yn wynebu costau uwch ar gyfer nwy a thrydan. Mae angen gwresogi ychwanegol ar lawer ohonynt i gadw eu tymheredd yn sefydlog, a rhaid iddynt ddefnyddio mwy o drydan i bweru a gwefru eitemau hanfodol o dechnoleg gynorthwyol. Mae angen ynni ychwanegol i bweru offer hanfodol fel teclynnau codi, gwelyau, offer anadlu, cadeiriau pŵer a monitorau. Dywed Scope:

Nid oes gan bobl sy'n dibynnu ar ddefnydd uchel o ynni i'w cadw'n fyw unrhyw ddewis arall – os ydych chi'n defnyddio peiriant anadlu neu os oes gennych chi offer meddygol hanfodol, nid oes dewis ond talu'r costau uwch hyn.

Beth am blant a phobl ifanc?

Mewn tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, dywedodd Barnardo's Cymru fod plant a phobl ifanc anabl yn aml mewn addysg arbenigol, lleoliadau seibiant, a grwpiau hamdden, sy'n golygu bod yn rhaid i deuluoedd deithio ymhellach. Mae apwyntiadau meddygol amlach hefyd yn cyfrannu at fwy o ddefnydd o danwydd.

Eglurodd yr elusen fod plant a phobl ifanc anabl hefyd yn treulio mwy o amser gartref oherwydd salwch neu ymddygiad heriol. Mae hyn yn cynyddu'r defnydd o drydan a gwresogi yn y cartref. Mae gan lawer o blant a phobl ifanc anabl, yn enwedig y rhai ag awtistiaeth, ddeiet anhyblyg, felly mae'n anodd cynnig opsiynau rhatach iddynt.

Beth mae hyn yn ei olygu o ran y rhifau?

Mae gwaith ymchwil Scope yn 2019, Disability Price Tag, yn dangos, cyn yr argyfwng costau byw, fod pobl anabl yn wynebu costau ychwanegol o £583 y mis ar gyfartaledd. Mae hefyd yn dangos:

  • ar gyfartaledd, roedd costau ychwanegol person anabl yn cyfateb i bron i hanner ei incwm (heb gynnwys costau tai); ac
  • roedd un o bob pump o bobl anabl (a bron i un o bob pedwar teulu â phlant anabl) yn wynebu costau ychwanegol o fwy na £1,000 y mis.

Mae'r sefyllfa'n sicr o fod yn fwy difriol erbyn hyn.

Mae gwaith ymchwil ym mis Ebrill 2022 gan Leonard Cheshire yn datgelu bod gan oddeutu 600,000 o bobl anabl yn y DU £10 neu lai yr wythnos i dalu am fwyd a hanfodion eraill. Canfuwyd bod tua un o bob pedwar o bobl anabl o oedran gweithio yn cael trafferth talu am hanfodion fel bwyd a gwresogi. Dywed yr elusen, gyda’r cynnydd mawr mewn costau bwyd, ynni a thanwydd eleni, y gallai’r effaith ar bobl anabl fod yn “drychinebus.

Fe wnaeth yr elusen Sense gynnal pôl gyda phobl anabl a theuluoedd sy’n gofalu am berson anabl ym mis Mehefin 2022.. Canfuwyd bod mwy na hanner (54 y cant) y rhai a holwyd yn dweud eu bod mewn dyled, gyda mwy na thraean (38 y cant) yn osgoi bwyta prydau i arbed arian. Dywedodd 74 y cant na fyddant yn gallu ymdopi os bydd prisiau'n parhau i godi, a dywedodd 68 y cant fod y straen yn effeithio ar eu hiechyd meddwl.

Beth sy'n cael ei wneud i helpu?

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ill dwy wedi cyflwyno mesurau cymorth costau byw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllaw cymorth gyda’r pwysau costau byw.

O ran cymorth wedi’i dargedu, mae Llywodraeth y DU yn cydnabod y gall pobl anabl wynebu ystod eang o gostau ychwanegol. Mae'n darparu taliad o £150 costau byw i bobl anabl (o fis Medi) i bobl sy'n derbyn budd-daliadau anabledd fel Lwfans Byw i'r Anabl, Taliad Annibyniaeth Bersonol neu Lwfans Gweini.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud, i nifer o bobl sy’n derbyn budd-dal anabledd sy’n cael budd-daliadau prawf modd, y bydd y bydd y £150 hwn yn ychwanegol at y taliad o £650 sydd ar gael i rai pobl ar incwm is. Ond mae Leonard Cheshire yn nodi  nad oes gan bobl anabl ar fudd-daliadau heb brawf modd, fel Taliad Annibyniaeth Bersonol a Lwfans Byw i'r Anabl, yr hawl i gael y £650, ac y byddant yn cael y taliad o £150 yn unig. Dywed yr elusen:

Prin y bydd hyn yn cael unrhyw eefaith ar gostau cynyddol bwyd ac ynni – heb sôn am y costau ychwanegol a ddaw yn sgil bod ag anabledd yn y lle cyntaf.

Mae newidiadau a fwriedir i gynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU yn golygu na fydd rhai pobl sy’n cael Lwfans Byw i’r Anabl, Taliad Annibyniaeth Bersonol a Lwfans Gweini AA bellach yn gallu hawlio’r taliad o £150 i helpu tuag at gostau ynni. Oherwydd na fwriedir gwneud y newidiadau tan ddiwedd y flwyddyn, mae elusennau anabledd yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r penderfyniad hwn.

Beth yn fwy y mae modd ei wneud?

Cafodd Grŵp Ymgyrchu Tlodi Anabledd newydd y DU ei sefydlu ym mis Ebrill 2022 ac mae wedi amlygu tri maes i weithredu yn eu cylch ar unwaith:

  • Cynnydd brys ym mhob budd-dal yn unol â chwyddiant;
  • Cymorth wedi'i dargedu ar gyfer costau ynni pobl anabl; a
  • Chodi tâl tecach am ofal cymdeithasol.

Mae consensws ymhlith elusennau anabledd bod yn rhaid o leiaf cael cynnydd cyffredinol brys mewn budd-daliadau, ynghyd â chymorth pellach wedi'i dargedu i ystyried costau byw ychwanegol pobl anabl.

Mae Scope yn nodi fod Taliad Annibynniaeth Bersonol, y prif fudd-dal anabledd sydd i fod i ystyried costau ychwanegol, wedi cynyddu 3.1 y cant yn unig, yn seiliedig ar gyfraddau chwyddiant o fis Medi y llynedd.

Disgwylir i fudd-daliadau gynyddu ym mis Ebrill 2023 i gyd-fynd â chyfradd chwyddiant mis Medi eleni. Mae elusennau gan gynnwys Cyngor ar Bopeth am weld hyn yn cael ei ddwyn ymlaen i helpu pobl sy'n cael trafferth gyda chostau byw, yn enwedig biliau ynni.

Mae Trysorlys y DU yn dweud bod cyfyngiadau technegol o ran gwneud taliadau cynharach. Ond ymatebodd y Resolution Foundation, os byddant yn dechrau arni nawr, bydd modd eu cwblhau cyn y cynnydd nesaf ym mhrisiau ynni ym mis Hydref.

Mae Leonard Cheshire yn dweud bod diffyg gofal cymdeithasol digonol hefyd yn gwaethygu'r anawsterau ariannol y mae pobl anabl yn eu hwynebu, gan gynnwys cyfyngu ar eu gallu i weithio. Byddai mynediad gwell at ofal cymdeithasol yn hybu incwm. Roedd chwarter (24 y cant) y bobl anabl a holwyd yn dweud nad oeddent wedi gallu gweithio oherwydd cymorth gofal cymdeithasol annigonol. 

Wrth i gostau byw barhau i gynyddu, mae pryderon dybryd ynghylch sut y bydd pobl anabl yn ymdopi oni bai bod camau pellach yn cael eu cymryd i'w cefnogi.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru