Casgliad lliwgar o fêps sigaréts electronig wedi'u taflu a chydrannau mewnol wedi'u saethu dros gefndir plastig gwyn.

Casgliad lliwgar o fêps sigaréts electronig wedi'u taflu a chydrannau mewnol wedi'u saethu dros gefndir plastig gwyn.

Chwalu’r mwg: pam mae fêps untro yn cael eu gwahardd

Cyhoeddwyd 08/02/2024   |   Amser darllen munudau

Mae’r defnydd o fêps yn cynyddu, ac mae llywodraethau ledled y DU eisiau gwneud rhywbeth yn ei gylch. Er ei bod yn anghyfreithlon gwerthu fêps i bobl dan 18 oed yn y DU, mae nifer y bobl ifanc sy'n eu defnyddio yn cynyddu, gyda thystiolaeth yn awgrymu mai fêps untro sy’n rhannol ar fai.

Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi cynlluniau i wahardd fêps tafladwy, a chefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU i godi'r oedran ysmygu a chyfyngu ar werthiant fêps. Daw hyn yn dilyn canlyniadau ymgynghoriad pedair gwlad ar greu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â’r defnydd o fêps ymhlith pobl ifanc. Mae'n ymddangos bod y cyhoedd yn gyffredinol o blaid hefyd: roedd 77 y cant o'r bobl a holwyd yng Nghymru o blaid gwaharddiad ar fêps tafladwy i ryw raddau.

Mae'r erthygl hon yn trafod effeithiau fêps tafladwy/untro ar yr amgylchedd, y llif gwastraff, iechyd a phobl ifanc. Mae hefyd yn edrych yn gryno ar risgiau gwaharddiad, sut mae'n cael ei symud yn ei flaen, ac effeithiau Deddf Marchnad Fewnol y DU.

Pobl yn methu gwaredu fêps untro yn gywir

Cafodd bron pum miliwn o fêps untro eu taflu o’r neilltu bob wythnos (wyth yr eiliad) yn y DU yn 2023, sy’n bedair gwaith y nifer yn 2022. Yn gyffredinol, mae gan fêps untro gasin plastig ac amrywiaeth o wahanol rannau. Mae’r erthygl hon gan IEMA (cymdeithas proffesiynolion yr amgylchedd a chynaliadwyedd) yn esbonio:

These will be a mouthpiece, cotton or synthetic fibre which holds around 2ml of e-liquid, often including nicotine, a heating coil, a lithium battery, a sensor to detect airflow to initiate the heating coil, and an LED light to show that the battery is discharging to heat the coil.

Pan gânt eu taflu, bydd fêps yn dod yn gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff ac mae angen eu trin mewn ffordd benodol yn y llif gwastraff. Pan gânt eu gwaredu’n anghywir, mae’r batris lithiwm y tu mewn i fêps yn peri risg i ddiogelwch.

Yn 2023, nododd yr yswiriwr Zurich Municipal gynnydd o 62 y cant mewn tanau lorïau bin a chynnydd o 108 y cant mewn tanau mewn tai a achoswyd gan fêps yn y ddwy flynedd flaenorol. Dangosodd ei waith ymchwil hefyd:

  • mae tri fêp untro yn cael eu gwaredu’n anghywir yn y DU bob eiliad;
  • nid yw tri o bob pedwar defnyddiwr yn ymwybodol o sut i waredu fêps yn gywir; ac
  • nid yw cyfran debyg yn gwybod bod fêps yn cynnwys batris lithiwm.

Dywedodd Cadwch Gymru'n Daclus wrth Bwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd ym mis Medi 2022 ei fod wedi gweld cynnydd mewn fêps untro mewn sbwriel stryd, ac yn fwy diweddar dywedodd fod fêps wedi’u canfod ar 6 y cant o strydoedd mewn rhai ardaloedd. Fel sbwriel, mae’r eitemau hyn yn rhyddhau gwastraff plastig, electronig a chemegol peryglus i'r amgylchedd.

Dywed Material Focus, sef corff anllywodraethol annibynnol sy'n gweithio ar ddefnydd ac ailgylchadwyedd nwyddau trydanol, fod angen i gynhyrchwyr, mewnforwyr, dosbarthwyr a manwerthwyr fêps untro wneud mwy i gyflawni’u cyfrifoldebau cyfreithiol.

Plant a phobl ifanc yn defnyddio fêps untro yn gynyddol

Er bod y defnydd ohonynt yn cael ei ystyried yn llai niweidiol nag ysmygu, ni ellir dweud nad does dim risg ynghlwm wrthynt ac nad yw'r effeithiau hirdymor yn hysbys. Mae ymchwil yn dangos bod plant yn cael eu denu at fêps â blasau ffrwythau a melys, yn ogystal â lliwiau llachar y pecynnau a dyluniad y cynnyrch.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi risgiau fepio i iechyd, yn enwedig i blant a phobl ifanc, ac mae’n adrodd bod dibyniaeth ar nicotin yn effeithio ar iechyd meddwl a llesiant. Dywed Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant fod tystiolaeth gynyddol bod pobl ifanc nad ydynt yn ysmygwyr sy’n defnyddio fêps yn fwy tebygol o ddechrau ysmygu na’r rhai nad ydynt yn defnyddio fêps.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd bod 5 y cant o ddisgyblion ysgolion uwchradd Cymru yn fepio o leiaf unwaith yr wythnos, a dengys (arolwg ciplun o sampl fach) bod tua 9 y cant o ddisgyblion blwyddyn 10 yn fepio bob dydd. Mae hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar fepio i ddisgyblion oed uwchradd.

Dangosodd arolwg yn 2023 gan Action on Smoking and Health (ASH) fod y fêps y mae plant yn eu dewis yn rhai tafladwy yn bennaf, ac mai dyma'r dewis mwyaf cyffredin i 70 y cant o ddefnyddwyr ifanc. Hefyd, dengys yr arolygon bod cyfran y plant a roddodd gynnig ar fepio unwaith neu ddwy wedi cynyddu 50 y cant yn 2023.

Mae ein herthygl o 2022 yn trafod y pryderon ynghylch mynediad plant a phobl ifanc at fêps, a'r cynnydd yn eu defnydd.

A oes unrhyw risgiau o waharddiad?

Er ei bod yn cydnabod yr angen i fynd i’r afael fepio ymhlith plant, mae Cymdeithas Diwydiant Fepio y DU (UKVIA) wedi gwrthod rheoliadau llymach yn flaenorol, gan honni y byddai'n cael effaith negyddol ar bobl sy'n ceisio rhoi'r gorau i ysmygu ac yn meithrin twf marchnad ddu heb ei rheoleiddio, ond fe wnaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr wrthod y ddadl hon oherwydd diffyg tystiolaeth.

Mae ASH Cymru hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod fepio’n boblogaidd ymhlith ysmygwyr sydd eisiau rhoi’r gorau iddi ac mai dyma’r offeryn mwyaf ei ddefnydd i roi'r gorau i ysmygu yn y DU. Fodd bynnag, mae'n croesawu'r mesurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar i fynd i'r afael â fepio ac ysmygu, gan ddweud eu bod yn gam hanfodol ar y llwybr i ddod â’r epidemig ysmygu i ben unwaith ac am byth.

Beth mae gwledydd eraill yn ei wneud?

Ar hyn o bryd, mae dros 30 o wledydd wedi rhoi gwaharddiad ar werthu e-sigaréts fel cynhyrchion i ddefnyddwyr. Ymhlith y gwledydd hynny sy'n caniatáu eu gwerthiant, mae gan nifer ohonynt gyfyngiadau ar eu blas.

Yn ogystal, mae nifer o wledydd Ewropeaidd yn gwahardd fêps untro neu’n ystyried gwneud hynny. Mae Ffrainc wedi pleidleisio yn ddiweddar i wahardd fêps untro, a allai fod mewn grym erbyn mis Medi 2024. Mae Iwerddon wedi ymgynghori ar y pwnc.

Mae'r UE wedi gosod safonau rheoleiddio ar gyfer fêps, gan gynnwys lefelau nicotin a labelu. Mae nifer o wledydd yr UE, gan gynnwys Denmarc, Estonia, y Ffindir a Lithwania, wedi gwahardd defnyddio blasau penodol.

Mae Awstralia wedi gwahardd fêps ac eithrio ar bresgripsiwn, ond wedi cael trafferth gyda mewnlifiad o fêps tafladwy anghyfreithlon. Mae mewnforio nwyddau tafladwy i Awstralia wedi bod yn anghyfreithlon ers 1 Ionawr 2024.

Mae rhai gwledydd – gan gynnwys Cambodia, Gwlad yr Iorddonen, Nepal, Panama, Gwlad Thai a Turkmenistan – wedi mynd ymhellach a gwahardd y defnydd o e-sigaréts yn llwyr.

Beth nesaf?

Bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yn cyflwyno deddfwriaeth i weithredu gwaharddiad ar fêps untro, gan gynnwys cynhyrchion sy'n cynnwys nicotin a chynhyrchion nad ydynt yn cynnwys nicotin. Caiff ei dwyn ymlaen cyn gynted â phosibl, a chyn belled ag y bo modd, caiff camau eu mabwysiadu mewn modd cyson ledled y DU, a hynny er mwyn sicrhau aliniad rheoleiddiol. Bydd Gogledd Iwerddon hefyd yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth yn y dyfodol.

Ochr yn ochr â hyn, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno Bil Tybaco a Fêps, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ar y cyfle cyntaf posibl. Bydd hyn yn cynnwys newid yr oedran gwerthu ar gyfer pob cynnyrch tybaco, a chyflwyno pwerau gwneud rheoliadau a gorfodi.

Mabwysiadu dull cydweithredol ledled y DU

Gallai mabwysiadu dull pedair gwlad liniaru effeithiau posibl Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020. Mae’r Ddeddf hon yn sefydlu egwyddorion mynediad i’r farchnad, gan gynnwys cydnabyddiaeth gilyddol, sy’n hwyluso symudiad rhydd nwyddau a gwasanaethau o fewn y DU. Er enghraifft, os bydd Cymru yn deddfu ar waharddiad ar fêps untro, ond na fydd Lloegr yn gwneud hynny, byddai’r egwyddorion mynediad i’r farchnad yn golygu na fyddai’r gwaharddiad hwn yn gymwys i ddod â fêps i mewn i Gymru o Loegr.

Mae cydweithredu rhwng llywodraethau yn anarferol yn achos materion polisi datganoledig. Felly mewn meysydd, fel iechyd pobl ifanc, lle mae angen ymateb cyflym, a yw Deddf Marchnad Fewnol y DU annog mwy o gydweithredu rhwng llywodraethau i ymateb yn effeithiol i her polisi, ac osgoi effeithiau posibl egwyddorion mynediad i’r farchnad?


Erthygl gan Lorna Scurlock ac Amandine Debus, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Amandine Debus gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil gael ei gwblhau.