e-sigaréts

e-sigaréts

Y defnydd o e-sigaréts ymhlith plant a phobl ifanc: mwg heb dân?

Cyhoeddwyd 06/12/2022   |   Amser darllen munudau

Mae e-sigaréts yn ddyfeisiau a bwerir gan fatri sy'n caniatáu i nicotin gael ei fewnanadlu drwy anwedd yn hytrach na mwg.

Er bod e-sigaréts yn aml yn cael eu defnyddio fel ffordd o helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, mae’r defnydd ohonynt wedi cynyddu ymhlith plant a phobl ifanc. Mae’r fersiwn ddiweddaraf o e-sigaréts, sef 'podiau' tafladwy, yn profi'n arbennig o boblogaidd. Dywedodd Deborah Arnott, prif weithredwr Action on Smoking and Health (ASH):

The disposable vapes that have surged in popularity over the last year are brightly coloured, pocket-size products with sweet flavours and sweet names. They are widely available for under a fiver – no wonder they’re attractive to children.

Mae'r defnydd o e-sigaréts gan blant a phobl ifanc wedi codi pryderon gan fod tystiolaeth am y risgiau i iechyd yn parhau i ddod i'r amlwg. Mae pryderon hefyd wedi’u codi am effaith amgylcheddol e-sigaréts tafladwy, gydag amcangyfrif bod 1.3 miliwn ohonynt yn cael eu taflu bob wythnos.

Bydd yr erthygl hon yn edrych ar ba mor gyffredin yw e-sigaréts, i ba raddau y maent ar gael a pha mor ddeniadol ydynt i blant a phobl ifanc, a’r canlyniadau posibl.

Pa mor boblogaidd yw’r defnydd o e-sigaréts ymhlith plant a phobl ifanc?

Yn ôl Arolwg Lles Myfyrwyr 2019/20 ymhlith pobl ifanc 11 i 16 oed yng Nghymru, roedd 22 y cant ohonynt wedi rhoi cynnig ar e-sigarét , ac roedd 3 ohonynt yn eu defnyddio o leiaf unwaith yr wythnos. Canfu the Mix, sef gwasanaeth cymorth i bobl ifanc, fod 45 y cant o bobl 16 i 25 oed yng Nghymru wedi defnyddio e-sigarét yn y 12 mis diwethaf.

Fe wnaeth ASH nodi cynnydd o fwy na 6 gwaith yn fwy yn y defnydd o e-sigaréts untro ymhlith pobl ifanc 11 i 17 oed rhwng 2021 a 2022. Canfu astudiaeth arall gynnydd yn y defnydd o e-sigaréts untro ymhlith pobl 18 oed sy'n defnyddio e-sigaréts, a hynny o lai nag 1 y cant yn 2021 i 55 y cant yn 2022. Ymhlith oedolion sy’n defnyddio e-sigaréts, gwelwyd cynnydd yn y defnydd o rai tafladwy, a hynny o 2 y cant i 10 y cant.

Sut mae plant a phobl ifanc yn cael gafael ar e-sigaréts?

Ers 1 Hydref 2015, bu’n anghyfreithlon gwerthu e-sigaréts i unrhyw un o dan 18 oed yng Nghymru. Fodd bynnag, yn ôl ASH, siopau yw prif ffynhonnell e-sigaréts ar gyfer pobl ifanc 11 i 17 oed. Dywedodd Safonau Masnach Cymru fod pobl dan oed wedi llwyddo i brynu e-sigaréts mewn 15 y cant o ymdrechion i’w prynu. Fe wnaeth 7 allan o 20 o siopau yng Nghaerdydd werthu e-sigaréts i bobl dan oed mewn ymchwiliad gan BBC Cymru. Canfu ASH hynny hefyd fod 1 o bob 10 plentyn yn prynu e-sigaréts ar-lein. Mae bwlch yn y ddeddfwriaeth yn caniatáu rhoi samplau am ddim o e-sigaréts i bobl o unrhyw oedran.

A yw plant a phobl ifanc yn cael eu targedu?

Mae'r Rheoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016 a Chodau Hysbysebu y DU yn gosod cyfyngiadau ar sut a ble y ceir hysbysebu e-sigaréts. Mae’r rheoliadau’n glir na ddylai marchnata e-sigaréts apelio at bobl o dan 18 oed. Ceir gwaharddiad ar hysbysebu e-sigaréts ar y teledu a’r radio, ac mewn papurau newydd a chylchgronau, ond, yn wahanol i sigaréts, mae modd eu hysbysebu ar hysbysfyrddau, posteri ac yn y man gwerthu.

Canfu Cancer Research UK fod pobl ifanc sydd erioed wedi ysmygu neu ddefnyddio e-sigaréts yn sylwi ar farchnata e-sigaréts yn fwy nag oedolion sy’n ysmygu, ac roedd marchnata e-sigaréts yn apelio at fwy na thraean o bobl ifanc.

Fe wnaeth Cancer Research UK fynegi pryderon hefyd fod plant a phobl ifanc yn dod i gysylltiad â hysbysebion e-sigaréts ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n faes nad yw'n cael ei reoleiddio cystal. Dywedodd yr Independent British Vape Trade Association mai TikTok yw “y troseddwr gwaethaf” o ran gorfodi polisïau i atal hyrwyddo e-sigaréts i blant. Canfu ASH hefyd mai TikTok yw’r platfform mwyaf cyffredin lle mae plant wedi gweld e-sigaréts yn cael eu hyrwyddo ar-lein, ac yna Instagram a Snapchat.

Pa mor niweidiol yw defnyddio e-sigaréts?

Yn lle llosgi tybaco, mae e-sigaréts yn gweithio trwy gynhesu hylif sy'n cynnwys nicotin. Mae hyn yn golygu nad yw'r elfennau mwyaf niweidiol o fwg tybaco, sef tar a charbon monocsid, yn cael eu cynhyrchu.

Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos, yn y tymor byr a chanolig, fod e-sigaréts yn achosi cyfran fach o’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â sigaréts tybaco. Fodd bynnag, nid yw defnyddio e-sigaréts yn gwbl rhydd o risg, yn enwedig i’r rheini sydd erioed wedi ysmygu, a gallant gael effeithiau negyddol ar y galon a'r ysgyfaint. Mae'n rhy gynnar i ddweud beth yw effeithiau y defnydd hirdymor o e-sigaréts ar iechyd.

Un pryder posibl arall ynghylch e-sigaréts yw dibyniaeth ar nicotin, ond credir bod y risg yn is nag ar gyfer ysmygu. Mae'r risg o ddibyniaeth ar nicotin yn amrywio rhwng cynhyrchion e-sigarét, gydag 'phodiau' tafladwy yn caniatáu lefelau arbennig o uchel o nicotin i'w mewnanadlu ac felly mwy o risg. Mae plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o ddatblygu dibyniaeth ar nicotin nag oedolion, a gall nicotin effeithio ar ddatblygiad eu hymennydd.

Ydy defnyddio e-sigaréts yn arwain at ysmygu?

Nid yw'n glir a yw'r defnydd o e-sigaréts ymhlith plant a phobl ifanc yn arwain at ysmygu tybaco. Fe wnaeth 15 y cant o blant 10 i 11 oed yng Nghymru a oedd wedi rhoi cynnig ar e-sigarét ddweud y gallent ddechrau ysmygu neu y byddant yn dechrau ysmygu, o'i gymharu â 2 y cant o'r rhai nad oeddent erioed wedi defnyddio e-sigaréts. Fodd bynnag, o’r bobl ifanc 11 i 16 oed yng Nghymru a oedd wedi rhoi cynnig ar e-sigaréts a sigaréts, roedd 83 y cant wedi rhoi cynnig ar sigaréts yn gyntaf. Canfu astudiaeth yn Lloegr nad yw’r defnydd o e-sigaréts yn gysylltiedig yn gyffredinol â'r nifer sy’n dechrau ysmygu.

Sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb?

Yn 2015, methodd Llywodraeth Cymru ag ennill digon o gefnogaeth i wahardd y defnydd o e-sigaréts mewn mannau caeedig a chyhoeddus o dan Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) (y ddeddfwriaeth a basiwyd heb y gwaharddiad yn 2017). Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud mai’r methiant hwn yw un o’r pethau y mae’n ei ddifaru fwyaf yn ei yrfa wleidyddol, ac yn ddiweddar dywedodd:

We are going back to see if we could rescue from what we lost, because the evidence of young people being drawn into nicotine addiction by e-cigarettes is really frightening

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw i Gymru fod yn ddi-fwg (llai na 5 y cant o oedolion yn ysmygu) erbyn 2030. Roedd y strategaeth ddi-fwg, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2022, yn cynnwys y nod a ganlyn:

cynyddu’r gyfran o blant yn eu harddegau a phobl ifanc sy’n aros yn ddi-fwg trwy leihau’r nifer a fydd yn dechrau smygu, a hefyd annog plant yn eu harddegau a phobl ifanc i beidio â dechrau smygu e-sigaréts neu gynhyrchion eraill sy’n cynnwys nicotin.

Yn y Cynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco, dywedodd Llywodraeth Cymru fod angen mwy o waith i ddeall sut mae e-sigaréts yn dylanwadu ar nifer y plant a phobl ifanc sy’n dechrau ysmygu.

Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

Mae adroddiadau am y cynnydd yn y defnydd o e-sigaréts gan blant yn peri cryn bryder. Byddwn hefyd yn edrych ar beth arall y gellir ei wneud i atal plant a phobl ifanc rhag eu defnyddio.

Mae ASH yn credu bod angen mwy o gyllid i orfodi’r gyfraith yn erbyn gwerthu i bobl ifanc dan oed, ac y dylid cymryd camau i fynd i’r afael â phecynnu sy’n ddeniadol i blant a hyrwyddo drwy’r cyfryngau cymdeithasol.


Erthygl gan Bonnie Evans, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Bonnie Evans gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, a alluogodd i’r Erthygl Ymchwil hon gael ei chwblhau.